Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. S.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. S. T. Evans, K.C., Canolbarth Morganwg. BETH yw y rheswm, tybed, fod cymaint o JL) gyfreithwyr a bargyfreithwyr yn cael eu hanfon i Dy y Cyffredin ? Ai yr un yw y cymhwysder angenrheidioi i wneud cyfraith ag i'w hesbonio ar ol ei gwneyd ? Ai awyddus yw gwyr y gyfraith am fynd yno fel y gallont lunio a geirio deddfau yn y fath fodd nas dichon neb eu deall ond hwy eu hunain ? Sut bynnag y cyfrifir am dani, y ffaith yw mai o blith cyfreith- wyr y ceir toraeth ein Seneddwyr galluocaf; a h" y a anfonir i'w cynrychioli gan bob dosbarth, o ffermwyr Mon hyd at lowyr Morganwg. Y Bargyfreithiwr Llwyddianus. Un o wyr y gyfraith yw Mr. S. T. Evans, K.C., ac un o'r rhai mwyaf galluog a medrus yn eu plith hefyd. Fel y rhan fwyaf o'r dynion sydd wedi cyrhaedd enwogrwydd yn yr alwedigaeth, hanna Mr. Evans o'r werin. Ganwyd ef yn y Skiwen o bump i ddeg-a-deugain mlynedd yn ol. Cafodd fanteision addysg y pentref yn yr hwn y magwyd ef a'r dref gerllaw, a danfon- Wyd ef i'w berffeithio i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth. Bu yntau, fel yr aelod dros Fon, yn gydefrydydd a'r diweddar Tom Ellis yn y Coleg hwnnw. Yn bur ieuanc pasiodd ei arholiadau cyfreithiol yn llwyddianus, ac ym- sefydlodd yng Nghastellnedd, lie yr ennillodd practice mawr yn fuan. Ond yn 1890 pender- fynodd newid y swyddfa a'r llys lleol am y bar a'r uchel-Iys, ac er fod newid felly yn anturiaeth go bwysig, daeth yn amlwg yn bur fuan fod q S. T." wedi adnabod ei allu ac adnabod y cylch cyfaddas iddo. Ymunodd a Chylchdaith Deheudir Cymru, a thrwy ei fod yn adnabyddus eisoes fel siaradwr medrus a hyawdl, daeth galw niawr am ei wasanaeth yn fuan. Mae ers blynyddoedd yn cael rhan helaeth iawn o hufen y gylchdaith. Gwnaed ef yn K.C. cyn ei fod Pnn yn ddeng mlwydd oed o fargyfreithiwr, a ywedid yr adeg honno na chymerasai unrhyw argyfreithiwr sidan cyn ieuanged ag ef. n Yn Aelod Seneddol. Ond fel Seneddwr y mae a fynom ni ag ef yn ennaf yn awr, ac yr oedd yn y Senedd cyn ei i'r bar. Hyd y flwyddyn 1885 dau aelod a eddai sir Forganwg ar wahan i'w bwrdeisdrefi, ond y flwyddyn honno ychwanegwyd eu nifer i Un o'r ddau hen aelod oedd Mr. C. R. • Talbot, o Fargam, Whig o ran ei olygiadau w'eidyddol, ac un o'r gwyr cyfoethocaf ym J-hrydain. Pan wnaed y rhaniad ar y sir, .ewisodd ef sefyll dros y Rhanbarth Ganol, fel gelwir. Rhanbarth gweithfaol ydyw gan mwyaf, glowyr ¥w lhaws yr ethohvyr. Ni ddaeth neb i'r maes 1 Wrthwynebu Mr. Talbot yn 1885 nac yn 1886, fP*n y bu ef farw yn 1890, dewisodd Rhydd- Y wyr y rhanbarth y cyfreithiwr ieuanc o %vvStf d >rn ymgeisydd. Teimlai y Ceidwad- yr °d Rhyddfrydiaeth mor gryf yn yr ethol- aeth, a'r ymgeisydd Rhyddfrydol mor boblogaidd, t, fel y gadawsant iddo gnel Ei Ethol yn Ddiwrthwynebiad. Yn 1892 daeth gwrthwynebydd i'r maes, ond yr oedd mwyafrif S. T." dros bedair mil. Un- waith ar ol hynny yr afionyddwyd arno, a chwyddodd ei fwyafrif amryw gannoedd. Bu peth son fod Plaid Llafur yn bwriadu dwyn ymgeisydd allan i'w erbyn yn yr etholiad diweddaf, ond barnasant yn ddoethineb i beidio, ac nid yw yn debyg y lhvyddir i'w ddiseddu yn fuan beth bynnag. Mae ei gydymdeimlad a'r gweithwyr yn ddwfn a chryf, a'i adnabyddiaeth o lowyr Morganwg a'u hadnabyddiaeth hwythau MR. S. T. EVANS, K.C., A.S. ohono yntau mor drwyadl, ac yn arbenig mae swyn mor orchfygol yn ei areithyddiaeth, fel mai dyn dewr fydd bwnnwa ddaw i'r maes yn erbyn "S. T." gan nad dan ba faner y bydd yn sefyll. Y mae yn dra awgrymiadol fod Llywydd Bwrdd Masnach ac S. T." wedi cychwyn eu gyrfa yn Nhy y Cyffredin bron ar yr un pryd, a'u bod i'll dau wedi dod i sylw yn gynnar. Yr oedd y nail! a'r Hall yn llawn o'r ysbryd gwerinol cenedlaethol Cymreig, ac ymwybydd- iaeth gref ynddynt y dylent ddefnyddio pob cyfle a roddid iddynt i wasanaethu Cymru. Cawsant gyfle arbenig ynglyn a 9 1 n Mesur y Degwm cyn pen hir wedi eu hethol, ac ni buont yn ol o wneud defnydd ohono. Yr oedd Air. Gladstone yn awyddus i'r Mesur fynd drwodd a gwnaeth ei oreu i be: swadio y ddau Gymro ieuainc, a adewid eu hunain bron i ymladd, i beidio bod yn gyndyn i wrthwynebu a rhwystro. Ond nid dau wr i gymeryd eu dychrynu gan hyd yn oed anghymeradwyaeth arweinydd eu plaid oedd y ddau wladgarwr. Profasant i Gymru y medrent ymladd drosti, profasant i Dy y Cyffredin eu bod yn feddianol ar hyawdledd a medr nad oedd wedi cael profiad yn ami o'i gyffelyb, a dechreuodd y Sais siarad yn barchus am athrylith Gwalia. Cofia llawer am ddigwyddiad arall yn hanes cynnar yr aelod dios Ganolbarth Morganwg a barodd son mawr am dano, ac a dynnodd arno wg a digter rhywrai. Mewn ciniaw cyhoeddus yn Llundain, peidiodd a chodi i anrhydeddu y lhvncdestyn brenhinol. Yr oedd hyn ychydig o flaen etholiad 1892, a bygythid y troid ef o'i sedd am amharchu y pjnadur a'i theulu. Ond ni feddyliai gweithwyr Cwmafon a Maesteg a glanau'r Ogwy ddim llai o'u cynrychiolydd oherwydd ei ysbryd gwerinol, yn hytrach llawen- haent am ei fod yn ddigon gonest a phenderfynol i gario allan ci argyhoeddiadau hyd yn nod ymysg mawrion y tir. A chware teg i Dy y Cyffredin hefyd, nid yw yn hir yn maddeu i aelod a ddengys ysbryd annibynol, yn enwedig os bydd grym synwyr a thalent yn cydfyned a hynny. Safle yn y Ty. Cwyn amlaf Ty y Cyffredin yn erbyn llawer o'i aelodau yw eu bod yn siarad yn J hy fynych, ond y gwyn a glywid ynghylch S. T." hyd yn ddiweddar beth bynnag ydoedi ei fod yn rhy ddistaw. Rhoddodd brawf eg'ur beth allai wneud mewn dadl,. ac yna ymgiliodd i fesur. Ond deuai ymlaen yn awr ac eilwaith, a pha bryd bynnag y safai i fynu gwae y gwrth- wynebydd. Yn ystod y pum mlynedd diweddaf y mae wedi cymeryd rhan liawer amlycach yng ngwaith y Ty nag a wnaethai yn ystod y pump neu'r saith mlynedd blaenorol. Cafodd Mr. Chamberlain ynddo wrthwynebydd diofn, a rhoes i'r gwr hwnnw fwy nag un drinfa y cofia ef ac y cofia eraill yn hir am danynt. Mae craffder ei welediad, uniongyrchedd ei arddull, gloewder ei resymeg, a min ei frawddegau yn ei wneud yn un o'r dadleuwyr (debaters) medrusaf yn y Ty. Nid yw eto ond megis ar drothwy enwogrwydd ac anrhydedd. Gallasai fod eisoes yn Gadeirydd Pwyllgorau y Ty pe yn dewis, ond gwell ganddo aros am swydd fo'n fwy cydnaws a'i anianawd. Siaredir yn lied uchel fod dyrchafiad yn ei aros yn y dyfodol agos, ond pa un ai i Fainc y Trysorlys neu i'r Fainc Farnol amser a ddengys. Byddai yn addurn i'r naill neu y Hall. Ond pa ddyrchafiad bynnag a ddaw i'w ran, ceidw Cymru yr orsedd ynghalon S. T." o hyd, a bydd per seiniau iaith ei fam ar ei dafoi hyd y diwecld.