Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CYMRU GYFAN—CYMRU UNOL.
News
Cite
Share
CYMRU GYFAN—CYMRU UNOL. Dyrnunwn alw sylw ein darllenwyr at yr hysbysiad a welir mewn colofn arall ynghylch y darlun godidog o'r Aelodau Seneddol Cymreig sydd wedi ei barotoi gan y Welsh Engraving Syndicate. Dyma fel yr ysgrifenodd y bardd Job am dano Carneddi, Bethesda, Mai i8fed, 1906. ANWYL SVR,-Dylai eich darlun ardderchog o'r Aelodau Seneddol Cymreig-er coffhdu buddugoliaeth <! Cymru Unol" yn etholiad 1906-gacl lie amlwg ar furiau cartre' pob Cymro drwy'r byd. Bydd edrych arno ar y mur yn debyg o droi yn ysbrydoliaeth rymus i'r genhedlaeth sy'n codi, ac i'r rhai a ddelo ar ei hoi. Campus Y mae'r gwaith yn glod gwirioneddol i'r Welsh Engraving Syndicate; ac y mae n synn gennyf sut ymedrwch ei werthu am bris mor iselathri a chwech. Prynner ef wrth y miloedd. Vr eiddoch yn wladgar, JOHN T. JOB.
Pobl. a Phethau yng Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl. a Phethau yng Nghymru. HYD ddiwedd Mehefin yr oedd Mr. D. Davies* A.S., wedi roddi i'r Methodistiaid i ystyried el gynnyg ef ac aelodau eraill ei deulu iddynt o Westy y Cambria yn Aberystwyth i gario ymlaen goleg unedig ynddo. Ond y mae yn awr, ar gais Cymdeithasfa y Gogledd wedi estyn yr amser hyd ddiwedd mis Awst. Ym- ddengys fod mwy o addfedrwydd yn y De i dderbyn y cynyg nag sydd yn y Gogledd. METHODD Mr. Issard Davies a pherswadio Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i roddi dydd gwyl i blant yr ysgolion ar Ddydd yr Ymher- odraeth (Empire Day). Nid diffyg teyrngarwch i'r Brenin, na diffyg dydclordeb yn helynt y Deyrnas a'i Threfecligaethau a barodd i'r pwyllgor wrthod y cynygiad, meddir, ond teim- lad cryf yn erbyn y defnydd a wneir o'r dydd i feithrin ysbryd rhyfel a mawrhau gweithred- oedd gorthrech y cledd a'r fagnel. AFLER iawn yw rhai o ynadon sir Ddinbych yn y modd y cyflwynant achos y tafarndai y mynnant eu difodi i sylw Pwyllgor Trwyddedol y Sir. Yr oedd ynadon Abergele wedi cyflwyno achos dwy dafarn, ond ni welsant yn dda ym- ddangos gerbron y Pwyllgor gydag unrhyw dystiolaeth. Y canlyniad fu i'r trwyddedau gael eu hadnewyddu. SIBRYDIR fod tebygrwydd y gosodir anrhyd- edd ar un neu ddau o'r aelodau Seneddol Cymreig yn fuan. Daw yn adeg gyda hyn i wneud pendefigion newydd, ac un o'r rhai a enwir i fyned i Dy yr Arglwyddi yw Syr George Newnes, yr aelod dros Abertawe. Mae sibrwd lied gyffredin hefyd y bydd swydd y Cyfreithiwr Cyffredinol yn wag cyn hir, ac mai Mr. S. T. Evans yw y tebycaf o bawb i gael ei benodi iddi. HYSBYSIR yn awr nad oes dim gwir yn y chwedl a daenwyd yr wythnos ddiweddaf fod Mr. William Jones, A.S., i gael ei benodi yn Arolygydd o dan Ddeddf y Tlodion yn lie Mr. Bircham yr hwn fydd yn ymneillduo ganol yr haf. Dywed yr aelod anrhydeddus nad yw y swydd wedi ei chynnyg iddo ef, ac nad yw yntau ychwaith wedi gofyn am dani. MAE dau o weinidogion blaenaf yr Annibyn- wyr wrthi yn parotoi i ychwanegu ystorfa Cymru o lyfrau duwinyddol, sef y Prifathraw Dr. Probert, a Dr. Owen Evans. Cyfrol ar Waith yr Ysbryd" sydd gan y blaenaf, a chyfrol ar Yr Arglwydd Iesu a'i Gyfeillion sydd gan yr ail. Mae'r ddau erbyn hyn yn hen awdwyr profedig. PETH pur anghyffredin yng Nghymru yw gofyn punt yr un am docynau darlith, a llwyddo i berswadio pobl i'w prynu hefyd. Ond gwnaed hynny yn Sir Aberteifi yr wyth- nos ddiweddaf. Yr Archdderwydd Dyfed oedd y darlithydd, a digon tebyg fod llawer yn falch o'r cyfle i weled olynydd Hwfa Mon er uched y pris. Teg yw dwedyd hefyd mai darlith elusenol oedd y ddarlith. CAIFF Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol orchwyl caled i ddewis olynydd i Mr. Bircham fel Arolygydd dan Gyfraith y Tlodion. Dywedir fod llu mawr yn ymgeisio am y swydd, a'i bod yn debyg ar hyn o bryd mai rhwng y rhai can- lynol y bydd y dorch yn y diwedd :—Mr. William Griffith, Archwiliwr Swyddogol Gogledd Cymru Mr. R. O. Roberts, Ysgrifenydd Tref Caernarfon j Mr. R. Harding Roberts, Ysgrifen- ydd Bwrdd Gwarcheidwaid Treffynon; Dr. Walter LI. Davies, Cwrtmawr; a Dr. D. J. Williams, Caerdydd. TVWYDD oer anghyffredin a gaed yng Nghymru ar hyd yr wythnos ddiweddaf. Rhyfedd oedd gweled y mynyddoedd a'r bryniau yn gwisgo eu cobanod gwynion yng nghanol mis Mai. Dywedir mai anghofio gwneud hynny wyliau'r Nadolig a wnaethant. Tybiodd un teithiwr a gysgasai yn y tren ac a zn ddeffrodd yn Arfon bore Gwener ei fod wedi mynd i Switzerland mewn camgymeriad. DYWED Mr. Evan R. Davies, ysgrifenydd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, mai y rhieni ym Mhenryn Lleyn yw y rhai mwyaf esgeulus o bawb am anfon eu plant i'r ysgol. Mae yr ab- senolion yno yn fwy o bump cant nag mewn unrhyw ddosbarth arall. PARHAU i ffraeo a wria aelodau Cyngor Trefol Aberystwyth o hyd. Gadawodd y Maer y gadair yn y cyfarfod diweddaf drachefn obiegid nad ufuddheai rhai o honvnt i'w awdurdod. Daw cadair wag Aberystwyth yn fwy enwog yn fuan na chadair wag yr Eisteddfod Genedlaethol, yn unig gyda'r gwahaniaeth mai gormod ac nid rhy fach o iaith hedegog a blodeuog sydd ynglyn a hi. JVL<\E'R bardd Bethel newydd derfynu wyth- mlynedd-ar-hugain o gysylltiad gweinidogaethol ag Eglwys Fedyddiedig Bethel, Caerdydd. Cynhaliwyd yno gyfarfod i ddathlu yr amgylch- iad, ac nid oedd pall ar y geiriau caredig a lefarwyd. Mae Bethel mor llwyddianus fel ,\ve ni gweinidog ag yw fel cywyddwr. DYMA fel y cwynodd un bardd oblegid dellni. mympwyol Cyngor Dinas Bangor yn mynnu bedyddio dwy heol newydd yn Ffordd" Deiniol a Ffordd Gwynedd :— Bu arw wanu'r bur heniaith Ym Mangor, llofruddio'r iaith Wnai y Cyngor rhonc, angall, Hyfion ddysgedigion dall Darnio'i byw gystrawen ber, O wirfodd ei chamarfer, A thrin ei heirdd lythrcnnau Wrth goel ac athrawiaeth gau Yr iaith sionc dan greithiau sydd Ar waliau yr heolydd. MAE Mrs. Ellis J. Griffith wedi dychwelyd o Lausanne lie y bu o dan driniaeth lawfeddygol. Da genym fedru hysbysu fod y driniaeth wedi profi yn llwyddianus hollol, ac y bydd y fonedd- iges boblogaidd cyn iached ag erioed yn fuan. Blin fydd gan laweroedd ddeall fod Mr. Emlyn Evans, y cerddor adnabyddus, wedi ei oddiweddyd gan afiechyd, a'i fod mewn vstad sydd yn achosi cryn bryder i'w berthynasau a'i gyfeillion. Nid oedd yn dda er's peth amser, a phan yn aros yn nhy Mr. Harry Evans, ym Merthyr, nos Wener ar ei ffordd i eisteddfod a gynhelid yn Resolven dranoeth, cymerwyd ef mor wael fel y bu raid galw meddyg ato gyda brys. Y newydd diweddaraf am dano yw ei fod yn hytrach yn well, ond yn parhau mewn ystad o wendid mawr. MAE y Parch. D. D. Williams, Croesoswallt, wedi derbyn y gwahoddiad a anfonwyd iddo gan Eglwys Moss Side, Manceinion, i fyned yno i'w bugeilio fel olynydd i'r diweddar Barch. Dr. William James. Deng mlynedd yn ol y daeth Mr. Williams i Groesoswallt, a bydd colled fawr yno ar ei ol. MEWN llawer os nad yr oil o'n hemyn-lyfrau ceir "An." yn gysylltiedig a'r emyn adnabyddus Bydd myrdd o ryfeddodau." Ysgrifena Llew Caron atom i ddweyd fod ganddo dystiolaeth sicr mai un D. G. Jones, o Lanaethwy, sir Gaerfyrddin, yr hwn a fu farw 1879, yw yr awdwr. Mae mab i D. G. Jones yn fyw yn awr yng Nghilfynydd, ac yn dweyd yn bendant mai ei dad yw awdwr yr emyn.
Advertising
Advertising
Cite
Share
D, COOKSEY SON, Inexpensive & Modern Funerals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, KING'S CROSS.
UNIVERSITY OF WALES.
News
Cite
Share
Davies, M.P., Dr. R. D. Roberts, Professor Phillips, Miss E. P. Hughes, and Alderman Martin. Dr. Sanday, Dr. Davison, the Rev. R. J. Rees, Principal Bebbs, and the Rev. T. J. Wheldon were appointed members of the Theological Board. Sir Marchant Williams, Principal. Roberts, and Principal Reichel were appointed members of the Drafting Committee of the scheme for the establishment of a National Education Council of Wales. The Eyton Williams Bequest. The University having formally accepted the bequest of the late Mr. J. Eyton Williams with a view to testing the legality of the bequests, and tie trustees having commenced legal pro- ceedings, the Court authorised the briefing of counsel in defence of their action. Honorary Degrees. A discussion occurred in private upon the subject of the conferment of degrees honoris causa. Our correspondent learnt that there was no question whatever of the propriety of the Senate recommending the Court to confer honorary degrees upon the three gentlemen named in their report, but there were suggestions that the list might have been more generous in the number of honours recommended. No other names were, however, mentioned, and the Court unanimously decided to confer honoris causa upon Dr. Fairbairn the degree of Doctor of Divinity on the ground of his eminence as a theologian and his great services to the University in organising the studies in its faculty of theology upon Sir Lewis Morris the degree of Doctor in Litteris on the ground of his distinction as a man of letters; and upon the Rev. H. Elvet Lewis the degree of Master of Arts on the ground of the high merit of his poetical writings in the Welsh language and his services to Welsh literary criticism. The ceremony of conferring the degrees will take place at Aberystwyth in November. On the Court resuming its open session, Sir T. Marchant Williams gave notice that at the next ZD meeting he would move that nominations for honorary degrees shall be made by a joint committee consisting of four representatives of the Senate, four representatives of the Standing Executive Committee who shall not be mem- bers of Senate, and four members of the Guild of Graduates, who shall not be members of the Senate or of the standing Executive Committee that in the event of the adoption of this motion steps shall be taken to effect the necessary changes in the charter. Medical Faculty. The Court passed the statutory resolutions recommended by a committee for the establish- ment under a proposed supplemental charter of a faculty of medicine at the University. A minimum curriculum of five years was fixed. In the evening, the members of the Court were entertained at the Bala Theological College by Principal Ellis Edwards, the professors, arid the students. An address to the students was given by Sir Isambard Owen.