Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH c YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. IGan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.l PENOD XXII. Y Llofft Fach" yn gorphen 'stori Meredydd Pywel. Chwi welwch erbyn hyn taw anghenraid a osodwyd arnaf i gwmpasu cymaint i wneud hanes gwas Cyrnol Pan yn gyfan a gorphen- edig. Nid oeddwn wedi breuddwydio y buasai cynifer o lwybrau yn taro allan o'r brif-ffordd. Yr wyf yn ol ar y brif-ffordd eto, ac nid wyf y'meddwl y bydd yn rhaid i mi ei gadael eto nes ei theithio i'r pen. Cyn dechreu ar y filldir olaf, goddefwch i mi ddweyd taw Meredydd ei hun ddiferodd yr hanes i gyd i Dinah o dro i dro, wedi iddo gael ei adael wrtho'i hun, heb neb yn gwmni iddo o'i hen gydnabod. Yr oedd wedi d'od yn ffrind mawr a Dinah; a mynych y cyrchai i Tanllofft i chwedleua, ac i adrodd ei helyntion ar hyd y byd. Nid oedd Dinah yn rhoi fawr coel ar forwynion y palas pan redent ati ag ambell i glee: er nad oedd hyny i'w ddiystyru ar y pryd. Ond pan gafodd yr hanes yn gryno gan Meredydd wed'yn, gosodai gymaint o werth arno nes ei adrodd bob gair y'nghlyw'r Lloffl Fach. A 'doedd dim posib' cael cymei- adwyaeth well na hyny. Wel, yr oedd Meredydd Pywel wedi newid ei fyd yn y palas ar ol marw Jeff. Ni ddaeth neb i wybod pwy oedd y trempyn salw a ddaeth i'r pentre' isa' i gymeryd ei naid i fyd trag'wyddol, nac o ba le y daeth. Ond ni chafodd ei gladdu ar gost y plwy'. Y cwbl wyddai'r wlad oedd fod gwas Cyrnol Pari yn talu ar ei ol yn fyw ac yn farw, a chyfrifent hyny i'w garedigrwydd hysbys. Ond ni wyddai rieb y tu allan i gylch y feistres a'r gwas taw Mrs. Pari oedd yn gyfrifol am y costau. Yr oedd hyd yn nod y Cyrnol dan ei ddwylo am y peth. Gofynodd i Meredydd dranoeth yr angladd O'et ti 'nabod y tramp ces 'i claddu yn 'r Eclwis ddo'?" O'wn, syr," ebai yntau 'ro'wn I 'nabod 'i deulu o yn 'r America—teulu parchus iawn a 'rodd y poor fellow wedi ca'l dygiad i fyny reit dda. Ond trodd i yfed, a thrampio'r byd y mae wedi bod drwy 'i fywyd bron. Allswn I ddim llai na'i gladdu o'n deidi er mwyn 'i gyfeillion." Mae o'n credit mawr iti," ebe'r hen wr bonheddig; a brysiodd Meredydd o'i wydd rhag iddo olIwng y gath allan o'r cwd. Baich trwm arno hefyd oedd gorfod rhagrithio y'ngwyneb ei feistr. Oblegid y mae rhag- rith bob amser yn drymach baich na gon- estrwydd. Pe buasai Mrs. Pari wedi peidio gwneud eel o'r ffaith taw widw ydoedd pan ddaeth i gymeryd meddiant o'r 'stad, ac i fyw i'r palas-neu pe buasai wedi gwneud hyny'n hysbys i'r Cyrnol pan ddaeth i ymorol am ei llaw buasai wedi arbed Ilawer o drafferth iddi ei hun. Ac i Meredydd hefyd. Yr ydych wedi arogli'r llygoden er's meityn, mi wn. Fe gariodd y feistres a'r gwas y pwn ar shar, a chafodd y Cyrnol ei ryddid i swagro ar hyd y lie fel cynt. Ond yr oedd pawb wedi sylwi ar y cyfnewidiad oedd ynddi hi, yn y ty ac allan o'r ty. Yr oedd y balchder mawr wedi diflanu. Ni cherddai yn awr a'i phen yn yr awyr, ond cadwai ei llygaid fynycha' o gwmpas ei thraed. Daeth i gydnabod bodolaeth pobl eraill, a dechreuodd y tlodion fendithio swn ei thraed. Nid oedd mor ddiam- ynedd wrth ei morwynion, er fod un neu ddwy o honynt yn ei themtio'n ddisens a theimlai'r hen Gyrnol fod tipyn o'r haul yn ei gyraedd yntau hefyd. Ond 'doedd neb yn teimlo mwy oddiwrth y cyfnewidiad na Meredydd Pywel; a 'doedd neb yn gwybod sut i gadw ei le yn well na Meredydd hefyd. Ni adawodd i'w feistres gael y lie lleia' i gredu fod ganddo hawl ar ei natur dda, na neb arall i gredu fod ganddo ef law yn yr altrad" oedd wedi d'od drosti hi. Ac am y Cyrnol, yr oedd ef a'r gwas yn fwy o ffrindiau nag erioed. Dyna fel y bu am yn agos i flwyddyn arall. A chyn i'r flwyddyn hono dd'od i ben, yr oedd y Diwygiad wedi d'od i'r wlad. Cyrchai Meredydd yma yn gyson iawn y dyddiau hyny, ac yr oedd yn amlwg ei fod o dan deimladau dwysion mewn ambell i oedfa. Yr oedd yn fab i rieni crefyddol yn un o'r siroedd ucha', ac yr oedd wedi cael ei ddwyn i fyny yn swn y weddi deuluaidd a'r Ysgol Sul. Ac er na bu erioed yn aelod eglwysig, bu'r awyrgylch foreuol yn help i'w gadw yn weddol agos i'w le yn yr hen fyd a'r byd newydd. Synai llawer o'r bobl hyn sut na buasai wedi bwrw ei goelbren yn ein plith er's misoedd; a rho'ent y. rheswm i lawr yn deidi wrth ddrws y palas, ac wrth draed y feistres. Hwyrach nad oeddynt neppell o'u lie yr amser hwnw; ond yr oedd pethau wedi newid erbyn hyn. Nid am fod Mrs. Pari yn llai o Eglwyswraig, ond yr oedd yn fwy o Gristion ac yr oedd yn barotach i ganiatau yr un faint o ryddid i eraill ag a ddymunai iddi ei hunan, yn enwedig mewn materion nad oedd neb ond Duw a'r dyn ei hun yn dod i fewn iddynt. Ac yr oedd Meredydd bellach yn barod i gymeryd ei le gyda'r fintai. Yr ydych yn cofio y'mha gwrdd y concrwyd ef. Sam a'i deulu oedd y cyntaf i syrendro'r noson hono, ond yr oedd gwas y Cyrnol yn dyn wrth eu sodlau. Yr wyf y'meddwl taw gwel'd Sam yn plygu dorodd y ddadl i Meredydd; oblegid yr oedd yn adwaen Sam yn dda, ac wedi cael ami i 'sgarmes ag ef y'nghoed y Bronyn, ar dir y palas, pan yr oedd yn bryd i bobl barchus fod yn eu gwlau. Gwyddai y rhaid fod Sam wedi derbyn rhywbeth gwahanol i arfer cyn y buasai yn gwneud drych felly o hono ei hun o flaen pawb. Gofynodd yntau am yr un peth, a chyda'i fod yn gofyn, fe'i cafodd, ac i lawr ag e' ar ei liniau yn ymyl y ffwrwm nesa'. Derbyniwyd Sam a'i deulu a gwas y Cyrnol yr ail Gymundeb ar ol y syrendro yn y Llofft Fach; ond pasiwyd i wr y Ddoldir gael ei le'r Cymundeb cyntaf. Os d'wedais hyny o'r blaen, peidiwch meindio nid yw ond prawf arall fy mod y'myn'd i ben yn gyflym. Pan aeth Meredydd Pywel adre'r nos Sul y cafodd ei dderbyn, y cyntaf a gwrddodd oedd ei feistr wrth glwyd y pare. Yr oedd yr hen gono wedi clywed rhyw siarad am yr hyn oedd i fod, ac yr oedd wedi bod yn aros am dano nes ei fod agos a haner sythu ei hunan. Yr wyf yn cofio ei bod yn noson oer, rewog, fel nad oedd yn rhyfedd yn y byd ei fod yn cael gwaith i gadw'i hun yn gynes. Heblaw nad oedd I ganddo yr un got fawr. Ond pan ddaeth Meredydd i'r golwg, anghofiodd ei dywydd am y tro ac meddai wrtho "Be' fuon nhw 'neud iti yn y cwrdd ene heno ? Dim, Syr, ond fy nerbyn yn aelod, fi a Sam Wmffras," ebai yntau. Wel, jobyn da i Sam, a mi caiff c'ningod fi lonydd 'nawr. Ond ti dim 'run peth a Sam-ti dyn reit dda, byth meddwi, byth rhegi-dim isie i ti fyn'd i berthyn i cwrdd." Ac yr oedd Cyrnol Pari o ddifri'; ni fu yn fwy o ddifri' erioed. Codai dagrau i lygaid Meredydd wrth glywed ei hen feistr caredig yn siarad mor barchus am dano. Bu am enyd y'methu gwneud dim ond llyncu ei boeryn. A chyn iddo allu 'sgriwio ei enau i'w ateb, ebai'r Cyrnol wed'yn Ti dim cystal i fi 'nawrar ol myn'd i berthyn i cwrdd. Pan ma' dynion drwg fel Sam Wmffras y'myn'd i berthyn i cwrdd, nhw troi ma's yn dynion da; ond pan ma' dynion da fel ti myn'd i berthyn i cwrdd, nhw dim cystal wed'yn. Nhw myn'd yn slei a dim deud y gwir." "0 meistr anwyl ebe'r gwas "peidiwch d'weyd fel yna. Mi fydda' I 'run peth i ch'i o hyd, a mi ddylwn fod yn well i ch'i ac i bawb, a fine'n dilyn IESU GRIST. Mae gen I ormod o barch i ch'i i fod byth yn anffyddlon i ch'i; a mae'n siwr gen I fod gen I ormod o gariad at IESU GRIST i 'neud dim a fydde yn 'i ddigio fo. 'Rown I'n meddwi mod I'n 'i garu o e's blynydde, ond 'nawr yr ydw I'n ddigon o ddyn i'w arddel o. 'Rydw I wedi rhoi'r cwbl i fyny iddo fo, a mi fyddwch chithe, Syr, ar y'ch enill 0 hyny." Reit-iw-ar ebai; a throdd ar ei sawdl yn sydyn tua'r ty. Cerddodd Meredydd ar ei ol, ac ni dd'wedodd un o honynt air wrth y hall nes cyraedd y ffrynt. Cyn myn'd i mewn, trodd y Cyrnol lweth at ei was, cydiodd yn ei law, gwasgodd hi'n dyn, tra 'roedd ei ddanedd yn rhincian yn erbyn eu gilydd, ac aeth i'r ty ar gymaint a hyny. Mae'r hen wr yn rhedeg i lawr," ebai Meredydd wrtho'i hun; ac aeth yntau heibio'r talcen. Bore dranoeth, yr oedd y Cyrnol yn wael iawn-yn rhy wael i godi. Rhedai'r morwynion i fyny ac i lawr—gyrwyd y crwt oedd yn arfer bod yn y 'stablau ar gefn Vicsen i 'mofyn y doctor—ceisiai Mrs. Pari leddfu'r boen oedd yn ei ben a phapyr llwyd a finigar-a dyma'r doctor yno yn ei gerbyd cyn i chwi feddwl fod Vicsen wedi troi'r gornel. Yr oedd ■Meredydd Pywel ac yntau yn cyraedd y ffrynt yr un pryd. Dyna'r awgrym cyntaf gafodd Meredydd fod dim allan o Ie. Arosodd yn y fan hono nes y daeth y doctor allan drachefn. Sut mae pethau'n edrych ?-" gofynodd iddo. Drwg, drwg," ebai hwnw. Mae'r Cyrnol i mewn am bwl go siarp, a digwydd y daw o drwyddi. Mae o wedi tori'n arw'n ddiweddar, a 'dydi hyny'n un help iddo i ddal 'i ddolur." Northman oedd y doctor. Be' 'di ddolur o ? "Brown teitus," oedd yr atebiad. (Dyna dd'wedodd Dinah hefyd.) "A 'does gen I ddim tryst na chaiff o dwymyn y 'menydd. Mae 'i ben o fel pobty." Gyda hyny, dyma Ruth, un o'r merched, yn d'od allan, ac yn edrych yn wyllt am rywun. Wel," ebai'r doctor yn bryderus, ydi o'n waeth ? Dwn I ddim," ebe'r groten, ond mae o'n gofyn am Mr. Pywel." Nid oedd y merched, na neb o gwi-iipis y palas, yn edrych ar Meredydd fel un o honynt hwy. Yn enwedig y naw mis diwedda'. "A ma' meistres wedi f'anfon I i chwilio am danoch ch'i, ac i ofyn os ewch i fyny." O'r gore', mi ddof ar y'ch ol 'nawr," ebe yntau. Gan droi at y doctor Gwell i ch'i aros am ychydig funudau," meddai. I fyny ag e' ar ol Ruth a phan ddisgynodd ei lygad ar y Cyrnol, gwelodd fod ei hoedl ef, druan, ar ben. Safodd yn syn yn ymyl y drws, a'i drem wedi ei hoelio wrth y gwely. Yr oedd Mrs. Pari ar ei gliniau wrth yr erchwyn bellaf oddiwrtho, ei gwyneb yn gladdedig yn y dillad, a'i dwylo'n cofleidio un o ddwylo blewog y teithiwr oedd ar fin croesi'r fferi. Yr oedd ei anadl yn fyr ac yn boenus felly 'roedd anadl Meredydd. Yn fuan, dyma gri graciog o'r gwely Pywel! "Dyma fi, meistr "-ac ar ei liniau yr aeth Meredydd wrth yr erchwyn nesaf ato, a chydiodd yn y llaw arall a'i ddwylo ei hun. Heb ofyn i neb, dechreuodd weddio-a pharodd i weddio, dros ba cy'd, nis gwyddai; ond oerni'r llaw a ddaliai yn ei ddwylo ddaeth ag e' ato ei hun. Erbyn iddo edrych, gwelai fod y Cyrnol wedi croesi tra bu e'n siarad a'r badwr; ac wrth y wen oedd yn aros, credai eu bod yn deall eu gilydd. Y'mhen amser cyfaddas, newidiodd Mrs. Pan ei henw am y trydydd tro; a bu fyw am flynyddau fel Mrs. Pywel. Mae'r ddau wedi dilyn y lleill er's cetyn; ond hi, o'r ddau, aeth gynta'. Yn nyddiau ei weddwdod y d'wedodd Meredydd y 'stori wrth Dinah, ac fe'i d'wedodd ragor na siwrne. (I'w barhau.)