Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. J.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. J. D. Rees, Bwrdeisdrefi Unedig Maldwyn. UN o'r brwydrau caletaf a ymladdwyd yng Nghymru yn yr etholiad diweddafydoedd y frwydr ym Mwrdeisdrefi Unedig Mald- wyn, ac ni ennillwyd yr un fuddugoliaeth a barodd fwy o syndod pleserus i'r naill blaid a syndod poenus i'r blaid arall na'r fuddugoliaeth a gafwyd yno. Cynwysa y Bwrdeisdrefi hyn Drefaldwyn, y Trallwm, Drefnewydd, Llanidloes, a Machynlleth. Yr unig un o'r trefi hyn y gellir ei galw yn Gymreig yw yr olaf a enwyd. Mae Trefaldwyn yn gwbl Seisnig, a gwan yw yr elfen Gymreig yn y Drefnewydd a'r Trallwm, a cheir yn Llanidloes y fath gymysgedd fel nas medr ddwedyd pa un ai Seisnig neu Gymreig ydyw. Ac eto Llanidloes yw y dref fwyaf gwerinol o'r oil. Yr oedd yn werinol mewn dyddiau pan oedd gwerinoliaeth yn beryglus, a chafodd y Siartiaid Cymreig lawer o gefnogaeth yno. Lleoedd digon anhawdd i werinoliaeth anadlu yn rhydd ynddynt yw y rhelyw o'r bwr- deisdrefi hyn. Mae dylanwad teulu London- derry yn fawr ym Machynlleth, a dylanwad teulu Powis yn llawn cyn gryfed yn y Trallwm, a gwaith anhawdd yw diystyru dymuniadau hen deuluoedd pendefigaidd parchus a chymwynas- gar fel y rhai hyn. Mae y Drefnewydd yn fwy rhydd oddiwrth ddylanwad pendefigaidd, ond y mae grym masnach yn y dref honno yn llaw Y Diweddar Aelod. Ei dad ef a lwyddodd i ennill sedd Bwrdeisdrefi Maldwyn i'r Ceidwadwyr am y tro cyntaf ers llawer blwyddyn. Yr oedd hynny yn 1885. Hyd y pryd hwnnw rhywun o dylwyth Hanbury- Tracy a arferai ddal y sedd yn enw y Rhydd- frydwyr, a bron nad ystyrid hi yn dreftadaeth iddynt. Nid oedd y mwyafrif arferol yn fawr, oblegid ni bu rhif yr etholwyr unrhyw amser yn Hawer dros dair mil. Er hynny, syndod mawr i RYddfrydwyr Cymru fu llwyddiant Syr Pryce- Jones yn 1885. Y flwyddyn ddilynol, fodd bynnag, adfeddianodd Mr. Hanbury-Tracy y sedd, ond collodd hi drachefn yn 1892. Pan Ymneillduodd Syr Pryce, dilynwyd ef gan ei fab, y Milwriad Pryce-Jones, ac hyd eleni ofer fu pob ymgais o eiddo y Rhyddfrydwyr i fynd a'r sedd oddiarno. Yr oedd ei boblogrwydd yn fawr, yn enwedig yn y trefi lliosocaf yn yr ethol- aeth. Yn ychwanegol at y ffaith o'i fod yn cyflogi nifer fawr o weithwyr ac yn feistr rhagorol, y mae y Milwriad yn ddyn rhyfeddol o hynaws a chymwynasgar, yn Gymro aiddgar, ac yn cymeryd rhan flaenllaw yn yr holl waith a berthyn i'r sir. Yr Aelod Presenol. Ond er ei holl boblogrwydd cafodd y Milwriad Pryce-Jones ei hun mewn lleiafrif yn yr etholiad yn Ionawr diweddaf. Gorchfygwyd ef gan Mr. J. D. Rees, yr hwn a ddewisasid yn ymgeisydd Rhyddfrydol ryw ddwy flynedd yn flaenorol, ac a weithiasai yn egniol i sicrhau ffafr ac ymddiried- aeth y bwrdeisdrefwyr. Ganwyd Mr. Rees ar y iofed 0 Ragfyr, 1854. Ei dad oedd y MR. J. D. REES, A.S. diweddar Mr. Lodwick William Rees. Derbyn- iodd y rhan fwyaf o'i addysg foreuol yng Ngholeg Cheltenham, a chyn ei fod yn un-ar-hugain oed aeth allan i'r India yn swyddog dan y Llywod- raeth, lie y bu am chwe blynedd-ar-hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw ennillodd iddo ei hun radd dda fel swyddog o ddealltwriaeth a medr uwchraddol, a rhoed iddo rai o'r goruchwylion pwysicaf ynglyn a llywodraethiad y wlad fawr honno i'w cyflawni. Penodwyd ef yn ysgrifenydd preifat i dri o Raglawiaid Madras-Syr M. Grant Duff, Arglwydd Conemara, ac Arglwydd Wenlock. Bu yn Is-ysgrifenydd Cyngor Madras. Rhoed iddo ran fiaenllaw yn y trefniadau ynglyn ag ymweliad y Due 0 Clarence a'r India yn 1889-90. Am bum mlynedd, o 1895 hyd 1900, bu yn aelod o Gyngor Llywodraethwyr Cyffredinol India. Cyfrifir ef yn ysgolhaig Dwyreiniol campus, a galluogodd ei wybodaeth o'r ieithoedd a arferir yn y parth hwnnw o'r byd ef i wneud gwasanaeth pwysig ar lawer adeg fel cyfieithydd swyddogol. Mae hefyd yn awdwramryw lyfrau, megis "Tours in India," Duke of Clarence in India," The Mahomed- ans," &c. Yn 1890 priododd gyda Mary, trydedd ferch y Cadfridog yr Anrhyd. Syr James Donner, chwaer Arglwydd Donner, fel y mae drwy briodas ym meddu cysylltiadau pendefig- aidd. Mae ganddo balas yn Llundain, a phalas arall ychydig allan oddiyno, gerllaw Harrow. Er nad yw yr aelod dros Fwrdeisdrefi Maldwyn wedi bod yn Nhy y Cyffredin ond ychydig fisoedd, mae yn gwbl eglur yn barod mai Nid Aelod Distaw a fydd yno. Mae yn un o'r rhai mwyaf siaradus o'r holl aelodau newyddion, hwyrach mai ei berygl yw siarad yn rhy fynych ac ar bynciau nad yw eto yn eu deall yn drwyadl. Dyna brofedigaech seneddwyr fyddont wedi treulio tymhor hir yn y Trefedigaethau a rhannau pell y deyrnas yn wastad. Nid ydynt yn medru sylweddoli fod y safbwynt cartrefol dipyn yn wahanol i safbwynt tramor, ac y mae eu hir gynefindra a gorchymyn israddolion yn eu gwneud yn dueddol i anghofio fod eraill gartref yn gwbl gydradd a hwythau. Ac er ei bod eto yn rhy fuan i ffurfio barn am gymhwysder Mr. J. D. Rees i gynrychioli etholaeth Gymreigj mae wedi cymeryd safle ar un neu ddau o bynciau sy'n peri i rai amheu a yw mewn cyd- gord a dyheuadau cryfaf y genedl. Ar bwnc y Dadgysylltiad a Masnach Rydd mae yn berffaith iach yn y ffydd Ryddfrydol. Ond nid yw ei genedlaetholdeb mor sicr. Mae yn Ymherodraethwr Cadarn beth bynag, fel ei gydaelod dros y sir, ac amheua llawer a yw yn ddichonadwy i genedl- aetholdeb ac Ymherodraetholdeb gydbreswylio yn yr un anianawd. Ar bwnc Addysg y mae i raddau pell yn barod i gydredeg a'r gweddill o'r Aelodau Cymreig, ac feallai y bydd yn ddigon Cymreig ei ysbryd i bleidio y Cyngor a fwriedir dan y Mesur newydd. Ond y mae yn hen bryd i Gymru i ofalu pa fath ddynion a ddewisir i'w chynrychioli yn y Senedd.