Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yng ,Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. SIBRYDIR yn bur gyffredinol y dyddiau hyn fod Mr. William Jones, A.S., yn debyg o gael ei bennodi i swydd lied bwysig dan y Llyw- odraeth sydd yn dod yn wag ymhen ychydig fisoedd. Os gwirir y sibrydion bydd yn angenrheidiol cael aelod arall dros Arfon, gan na chaiff Seneddwr ddal y swydd y cyfeirir ati. NID yw Dr. Griffith John yn dod drosodd i'r wlad hon eto fel y cyhoeddwyd ychydig wyth- nosau yn ol. Derbyniodd y Parch. Hopkyn Rees lythyr oddiwrtho yr wythnos ddiweddaf yn yr hwn y dywedai ei fod am fyned at ei fab sydd yn byw yn New York am ychydig amser i geisio adferiad, ac yna dychwelyd i China i orphen ei gyfieithiad o'r Beibl ac i farw. Nis gall, medd ef, feddwl am farw yn unman ond yn China. MAE cryn ddadleu o hyd yn y papurau ynghylch y doethineb o symud colegau y Bala a Threfecca i Aberystwyth. Gwnaeth un o'r ysgrifenwyr ymhlaid symud ymosodiad ] led chwerw yr wythnos ddiweddaf ar iachusrwydd y Bala, yn enwedig iachusrwydd y tai yn y rhai y lletya y myfyrwyr. Ond y mae wedi tynu nyth cacwn yn ei ben drwy hynny. PLEIDLEISIODD cynnifer ag un-ar ddeg-ar- hugain o'r aelodau Seneddol Cymreig yn y rhaniad ar ail-ddarlleniad y Mesur Addysg, a phob un o honynt o'i blaid, wrth gwrs. Yr unig aelodau absenol oeddynt Mr. Howell ldris sydd eto yn analluog oherwydd effeithiau y ddamwain dost a gyfarfu ag ef yn wythnos y Pasg, a Syr George Newnes sydd ar fordaith er mwyn adgyfnerthiad. Bu rhai o Warcheidwaid Caernarfon yn ceisio perswadio y Bwrdd i ofyn i'r awdurdodau yn Llundain ganiatau i'r aelodau gael eu treuliau teithio i gyfarfodydd a phwyllgorau. Ond barn- odd y mwyafrif mai gwell i bob Gwarcheidwad dalu ei gostau teithio yn ogystal a thalu am ei fwyd ei hun. Dyna dynged bron bawb sydd yn gwasanaethu y cyhoedd, oddigerth ei fod yn wleidyddwr. A dichon mai felly y mae hi oreu. DYWEDIR fod pump o gorau yn parotoi at y brif gystadleuaeth gorawl yn yr Eisteddfod Gen- edlaethol nesaf, wyth at yr ail gystadleuaeth, tri at gystadleuaeth corau merched, ac wyth at gys- tadleuaeth corau meibion. Mae amryw o gorau goreu Cymru a Lloegr ymhlith y rhai hyn. MAE Senedd Prifysgol Cymru wedi cymerad- wyoy personau a ganlyn i'r Llys fel personau

- ----Am Gymry Llundain.