Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.

Advertising

WELSH COLLEGE GRANTS.

YMDDIDDAN Y TRI CHERDDOR.

News
Cite
Share

law ddoeth a gofalus y Parch. Roger Edwards, oedd ei hunan yn arweinydd per ond gwrthod- wyd lie iddynt yng nghasgliad diwcddarach y Methodistiaid Calfinaidd (1869). 77. LI.-Ic, ond a wyddoch chwi fod gan Ieuan Gwyllt law fawr yn narpariaeth casgliad 1869, ac mai efe yn bennaf a wrthodai fabwys- iadu y newidiadau prinion hynny, er fod craill ar bwyllgor y llyfr yn barod i'w derbyn.. A. M.—Gwn y dywedid hynny, ac y cadarn- heir yr haeriad gan y Rhagymadrodd i'r llyfr, lie y mae ti ardclull llenyddol mor amlwg a dim i'r neb a ddarllennodd yn ofalus ei Raglith adnabyddus a galluog i'w Lyfr Tonau Cyn- nulleidfaol." LL. LZ.-Pa gyssondeb oedd mewn newid alawon, a chondemnio y cyfryw newid ar emynnau ? A. M.—Hynny a adawaf i chwi eich dau geisio ei benderfynnu ryw dro etto. A da yw gennyf gael troi at fatter arall, sef cyflwr presennol caniadaeth. A dybygwch chwi ein bod ni y Cymry yn parhau i fyned rhagom yn hyn i'r graddau ag y gellid disgwyl oddiwrth uwch manteision a chynnydd mewn gwybodaeLh a gallu cerddorol ? H. LI.-Nid wyf ft yn sicr, i ddechreu, a oes rhyw lawer o'r cynnydd y cyfeiriwch atto, er yr holl fanteision ychwanegol. Mae'n wir fod yn y gymmydogaeth hon fwy a gwell darllenwyr t, ZD nag oedd yma ddeugain mlynedd yn ol, etto 0 ychydig sydd a wyddant fwy nag am elfennau ccrddoriaeth yn Uanfadryn. 'Dwn i ddim yn iawn beth i'w ddweyd am y canu fel y mae o gyda ni, mae o'n amrywio gymmaint. Tuag adeg Cymmanfa Ganu, pan. fydd John a'r cantorion wrthi o ddifrif, anhawdd fyddai dymuno ei well; ond unwaith yr aiff hi drosodd, syrthio yn raddol wneiff o drachefn i gyflwr isel a llwydaidd, fel o'r braidd nas gallech feddwl mai cynnulleidfa arall, hollol wahanol, sydd gennym. Y gwirionedd yw nas gall John, er cystled arweinydd ydyw, ddim cadw i fyny ragoriaeth gysson a pharhaus heb iddo yntau lafurio gyda'r canu bob amser fel eu gilydd. Yn lie hynny, am un ran o'r flwyddyn y canu cynnulleidfaol yw ei bobpeth, a'r rhan arall ym- daflu yn hollol a wna gyda'r canu corawl ar gyfer rhyw gystadleuaeth-neu gilydd. Y mae'r ysfa gystadlu a'r rehearsals diddiwedd yn ein capeli wedi myned yn bla, a thybiaf eu bod yn achos adfeiliad yn ein canu cynnulleidfaol. Buan y rhodder terfyn arnynt, a braidd na ddymunwn weled diwedd hefyd ar y Cymmanfa- oedd Cerddorol. II. J.—Pe gwneid i ffordd a'r Gymmanfa Ganu, ni a gollem ar unwaith y symmudiad cryfaf a welsom erioed yn Nghymru at ddiwygio ein caniadaeth. I-I: LL—Oni phrofais i mai drwg a dirywiad y mae hi a'r canu corawl yn eu hachosi yma. ? Pe'r ymroddet ti o ddifrif o'r naill ben i'r flwyddyn i'r Hall i'n clysgu ni fel cynnulleidfa, pa angen fyddai am Gymmanfa Ganu, a galw am a thalu i ddynion eraill o bell i ddyfod attom i'n harwain ? Fel y mae pethau, ti ac arweinwyr eraill y dosbarth sydd yn gwneyd y prif waith am fisoedd, ac yna daw y gwr cyflog- edig attom ar y terfyn, yn ddigon chwyddedig ei olwg a'i ddull, i gyhwfan ei ffon uwch ein pennau o'r pulpud, ac i'n difiasu a rhyw sylwad- au eiddil ag y clywsom eu cyffelyb ganwaith o'r blaen, neu, mewn geiriau eraill, i fedi ffrwyth yr holl lafur, ac i dderbyn yr anrhydedd—dr tâl! Credu yr wyf fi y ceid mwy o lewyrch ar fawl cyhoeddus pe gadewid i bob cynnulleidfa drefnu ei matterion cerddorol ei hun. II: ]--Hyn a wn i, mai i'r sefydliad hwn yn gymmaint a dim yr ydys i briodoli yr hyn a addefir yn gyffredin, sef rhagoriaeth ein caniad- aeth eglwysig ar eiddo Lloegr. A. M.—Haeriacl ag y byddai yn anhawdd iawn ei brofi ydyw dweyd ein bod yn rhagori ar y Saeson yn hyn, a pheth newydd i mi ydyw clywed fod hynny yn cael ei addef yn gyffredin. Ni cheicl yr un cerddor Seisnig a'i haddefai, a chredaf na cheid ychwaith yr un cerddor Cymr'eig diragfarn, a gafodd y cyfleusderau angenrheidiol i'w cymharu, a wnai yr haeriad. z;1 Mi a glywais fy hunan cyn hyn ambell Gymro safnrwth, mor anwybodus am reolau ac egwydd- orion cerddoriaeth ag ydwyf finnau amgyfrinion y gelf o seryddiaeth, yn honni pethau o'r natur yma, ond ni wyddwn o'r blaen fod dynion meddylgar fel chwi a goleddent yn ddifrifol yr un syniadau. J. I-f f.—Siarad yr wyf fi oddiar fy mhrofiad fy hun hefyd. A. M.—Ofnaf mai bychan yw maint eich profiad o ganu Seisnig. r. J-f I-Ai meddwl yr ydych chwi ynte mai'r Saeson sydd yn rhagori ? A. M.—-Dyddorol iawn yw'r pwnc o gym- hariaeth rhwng caniadaeth y ddwy genedl, a awgrymmir gan eich cwestiwn. Ond y mae fy amser i ar ben heno: cawn gyfle etto i'w drafod. (J'w barhau.)