Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Dr COOKSEY tc SON, Inexpensive & Modern Funerals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL STREET J-elephone Nos. 30 and 6oi, KING'S CROSS.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Am Gymry Llundain. CYFARFODYDD.—Dyma dymor y cyfarfodydd pregethu blynyddol, ac yn ystod y Sul yfory ceir odfaon arbenig yn Barrett's Grove, Gothic Hall, ac East Ham. EI.FED.—'Roedd Elfed yn abl i ail-gydio yn ei waith ddydd Sul diweddaf, a daeth cynulliadau mawrion i'w groesawu yn ol ar ol ei afiechyd. TOM JONES v CRYTHOR. Mae'r Cymro ieuanc hwn, sydd yn awr yn yr Hampstead Conservatoire yn cael addysg, wedi cael addewid am gynorthwy arianol i'w gadw yno gan Gyngor Sir Morganwg. Da yw gweled ein cynghorau cyhoeddus yn d'od yn noddwyr i'n gwyr ieuanc talentog. Y TORTHAU GWLEIDYDDOL.—Sonir fod un neu ddaudn Seneddwyr ar fin cael dyrchafiad i swyddi bras dan y Llywodraeth. Mae argoelion y caiff Mr. Sam Moss ei godi i fainc farnol y Cwrt bach, a Mr. Sam Evans i urddas Cyfreithiwr Cyffredinol. Gwyr glew yw'r cyfreithwyr am y seigiau gwleidyddol yma. COLLI CYFLE.—Mae Rhyddfrydwyr Cymru yn ogystal a Chymry Llundain wedi colli cyfle arbenig i wneud arddangosiad cenedlaethol. Yr oeddem yn gobeithio y buasid yn gwneyd rhyw fath o gyfarfod i ddathlu dychweliad y 34 aelod Rhyddfrydig, ond mae'n amlwg fod ein man arweinwyr yn methu cytuno ar gynllun boddhaol. CYFARFODYDD MAI-—Mae'r cyfarfodydd Mai eleni yn llawer mwy bywiog nag arferol. Ceir gwell cynulliadau ynddynt, ac mae'r trafodaethau ar y gwahanol faterion yn cael mwy o sylw gan y gwrandawyr. Priodolir hyn i raddau helaeth i ysbryd y Diwygiad, er fod ambell i wleidyddwr cul yn credu mai dylanwad y cweryla Seneddol ydyw. CYFFRO'R ESGOBION.-Mae'r Esgobion drwy'r deyrnas yn dilyn Esgob Llundain yn eu con- demniad Ilwyr o'r Mesur Addysg presenol. Paham y rhaid codi'r fath gynhwrf nis gwyddom, oherwydd y mae holl ysgolion Llundain ar hyd y blynyddau wedi cytuno ar gynllun cymhedrol o Addysg Feiblaidd, ac yn sicr y gellid cael gan y wlad oil i gytuno hefyd pe'r arferid ychydig amynedd a phwyll. Y DDADL.—-Bu Ty'r Senedd yn hynod o fywiog drwy'r wythnos hon yn dadleu'r Mesur Addysg. Yr oedd pob plaid a chredo yn cael ei chynrychioli yn lied gyflawn yn y lobbies drwy'r wythnos, a chymaint oedd y tyrru am seddau yn yr orielau fel yr oedd yn rhaid aros oriau cyn cael mynediad helaeth i mewn. RHEOLAU NEWYDD.—Gan fod cymaint o alw am docynau i fyned i Dy'r Cyffredin y mae'n rhaid i'r aelodau bellach gymeryd eu tro i sicr- hau'r cyfryw. Ar un adeg yr oedd yn hawdd cael tccyn oddiwrth aelod, ond erbyn heddyw cymaint yw'r gofyn fel y mae'n rhaid aros dydd- iau cyn cael un, ac ar ol ei sicrhau nid oes unrhyw bendantrwydd y gellir cael lie yn yr orielau. ADFERIAD.-Bydd cyfeillion lliosog y fonedd- Jges, Mrs. Jones, Lawn Villa, Brixton, yn falch
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
i glywed ei bod yn gwella o'i anhwyldeb diw- eddar. Eiddunwn iddi iechyd da eto am amryw flynyddoedd. RADNOR STREET.- Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn, Sul, a nos Lun diweddaf. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. W. Davies, Llandeilo; D. Adams, B.A., Lerpwl; a T. Mardy Rees, Buckley. Cafwyd pregethau grymus, a chyn- ulliadau llawnion. PRIODAS.Dydd Llun, Ebrill 16eg, yn Eglwys Holl Saint, Clapton, unwyd mewn glan briodas Mr. Evan Edwards, Lancaster Street, a Miss Letitia Jones, York Road. Y gwas priodas oedd Mr. John Edwards, a morwynion y briodasferch oeddent Miss Maggie Jones, Homerton; Miss Jane Jones, York Road; Miss Annie Lloyd, Homerton; a Miss Annie Lewis, Grays. Eis- teddodd y cwmni i fwynhau y wledd briodasol yn nhy Miss Jones, Chatsworth Road, Homer- ton. Tystiai yr anthegion lliosog a drudfawr fod Mr. a Mrs. Edwards yn barchus iawn gan eu cyfeillion. Dymunir iddynt gysur a llwyddiant. LLWYDDIANT. — Y mae yn llawen genym gofnodi llwyddiant ein cydwladwr, Mr O. T. Williams, Wandsworth Common, gynt o Griccieth. Llwyddodd i basio ei arholiad ter- fynol fel bar-gyfreithiwr, ac y mae erbyn hyn wedi ei alw i'r Bar." Mae Mr. Williams ers rhai blynyddoedd yng ngwasanaeth Cynghor Sir Llundain, yn yr adran gyfreithiol. Drwg genym fod ei iechyd ar hyn o bryd heb fod yn yr ystad oreu, ond deallwn ei fod yn graddol wella o'r afiechyd trwm a'i goddiweddodd ryw fis yn ol. Mae iddo liaws mawr o gyfeillion yn Llundain ac yng Nghymru sy'n Uawenhau yn ei lwyddiant, ac yn eidduno iddo ddyfodol disglaer. CLAPHAM JUNCTION.—Unwaith eto yr ydym wedi cyrhaedd pen tymhor ynglyn ag Eglwys M.C. Beauchamp Road. Yn ystod misoedd y gauaf a aeth heibio yr ydym wedi ceisio croniclo pob peth a allai fod o ddyddordeb a gymerodd Ie yma ynglyn a'r capel, y Gymdeithas Ddiwyll- iadol, a phethau eraill, ond dyma ni wedi dyfod i ddiwedd y tymhor am eleni. Fel y gwyddis yr oedd cyngherdd mawreddog a chystadleuaeth ar unrhyw unawd yma nos Fercher, Mai 2il, pryd y cafwyd gwledd o gan gan amryw o'n prif gantorion yn y Brifddinas. Cafwyd ganddynt ddetholiad ardderchog o ganeuon, ac ymhlith y cantorion oedd Miss Katie Jenkins, Mr. David Evans, a Mr. Gwilym Richards. Yn anffodus nis gallodd Mrs. Ellis Jones Griffith, oherwydd anhwyldeb, ddyfod i'n swyno gyda'i llais. Yr oedd Miss Emily Baird yn gampus ar y crwth, a chyfeiliwyd gan Mr. Gwilym Rolands gyda medr. Y CLOC.—Ond prif atdyniad y cyngherdd oedd cystadleuaeth am y cloc (rhoddedig gan Mri. Kendal a Dent) a'r bathodyn arian. Daeth cymaint ag ugain o enwau i fewn, a dewiswyd pedwar i ymddangos ar y llwyfan. Ar ol cystad- leuaeth galed dyfarnwyd Miss Jennie Hughes, Camberwell, yn oreu a Mr. E. T. Evans, Little Alie Street, yn ail. Mr. Sackville Evans oedd y beirniad, yr hwn a roddodd foddhad i bawb gyda'i feirniadaeth, a gwobrwywyd y buddugwyr gan Mrs. Sackville Evans. Yr oedd y cyngherdd o dan nawdd yr Anrhydeddus D. Lloyd-George, A.S., a Mr. J. Herbert Lewis, A.S., ac yn absen- oldeb Mr. M. L. Vaughan Davies, A.S., trwy afiechyd, cymerwyd y gadair gan Mr. James Evans, Streatham. Yr ysgrifenyddion oeddynt Mr. B. M. Lewis, Marney Road, a Mr. David Jones (Llew Caron), ac nid oes ond eisieu cof- nodi eu henwau i ddangos y fath weithwyr ydynt ar achlysur fel yr uchod. Er fod y tywydd yn wlyb daeth cynulliad da iawn ynghyd.—L. ST. BENET.—Cynhaliwyd y Festri flynyddo mewn cysylltiad a'r eglwys uchod nos Lun, Ebrill 23ain. Llywyddwyd gan y Ficer (Parch. J. Crowle Ellis). Cafwyd adroddiad cyflawn a chywir o dderbyniadau a thaliadau yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Da genym fod swm syl- weddol mewn llaw ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Talwyd diolchgarwch unfrydol i'r holl swyddog- ion am eu cymhorth a'u gwasanaeth yn y gwahanol swyddau yr oeddynt. Ail-etholwyd Mr. W. T. Hopkins yn Warden y Ficer, a Mr. Emlyn Evans yn Warden y bobl am y flwyddyn ddyfodol, ag aelodau eraill o'r gynulleidfa i wahanol swyddau. Ar derfyn y Festri, pasiwyd yn unfrydol y ddau benderfyniad a ganlyn :—(i) "I longyfarch ein Ficer, y Parch. J. Crowle Ellis, ar y wedd lewyrchus a gweithgar sydd ar yr eglwys, am y llwyddiant eithriadol, a'r heddwch dymunol sydd wedi ac yn ffynu yn mysg yr aelodau (2) I ddatgan ein gwerth- fawrogiad o goethder a phurdeb yr Efengyl a bregethir, ynghyd a'i weithgarwch, mewn amser ac allan o amser, ar ran yr eglwys yn mhob gwedd, yr hyn, i raddau helaeth, sydd yn cyfrif am y llwyddiant a'r heddwch sydd yn teyrnasu."—EDMYGYDD. CHARING CROSS ROAD.-Cyfarfod llwyddianus iawn gafwyd yn y lie uchod, o dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol, nos Fercher, Mai 2il. Dechreuwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parch. Peter Hughes-Griffith. Cadeiriwyd gan Mrs. Griffith Davies, Menai Bridge, a gwnaeth ei gwaith yn gampus. Cadwodd y cwrdd mewn digon o hwyl ar ei hyd. Cafwyd anerchiadau bywiog iawn gan Mrs. Dr. Jones, Harlech Mrs. Davies, Treborth; Miss Jones, Caer- fyrddin Mrs. Herbert Lewis, a Miss Pritchard o Birmingham. Yn ystod yr hwyr caed caneuon gan Miss M. Morris a Mr. J. Davies. FALMOUTH ROAD.-Nos Fawrth, Mai iaf, cynhaliwyd Cyfarfod Dirwestol yn y capel uchod, dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd. Cymerwyd rhan gan y personau canlynol:— Llywydd, y Parch. T. Stephens, Camberwell Green. Cawsom anerchiad dyddorol a Chym- reigaidd iawn, a chymeryd i ystyriaeth ei fod yn gweinidogaethu gyda'r Saeson ers cymaint o amser. Yr oedd mewn llawn hwyliau a than Cymreig dros yr achos teilwng hwn. Yn nesaf cafwyd anerchiad byr a chynwysfawr gan Miss Jones o Penygroes, ar Lie a dylanwad y fam i fagu a meithrin egwyddorion dirwestol yn y plant ac ar yr aelwyd gartref." Can gan Mr. J. Davies, Dockhead, "Llythyr fy Mam," yn deimladwy iawn. Gair byr a phwrpasol iawn gan y Parch. S. E. Prydderch, i'r cyfeiriad hwnw, sef, "LIe a dylanwad y merched yn gyffredinol gyda'r achos dirwestol, yn enwedig yn yr eglwys." Araeth gan Mrs. Dr. Jones, Harlech, sef, Dylanwad y ddiod feddwol ar y cyfansoddiad, a'i berthynas ag iechyd y corph," zn yn hynod feistrolgar a phwrpasol iawn yr oedd yn amlwg iawn oddiwrth lawer o sylwadau ei bod yn deall meddygiaeth yn dda; ond nid yn unig yr oedd am wella y corph, ond am wella y meddwl a'r enaid. Can, "Y Bugler," Ted Claridge. Cyfarfod hwylus a dyddorol iawn.- E.E.O. JEWIN NEWYDD.'—Bu y cyfeillion yn Jewin yn cynhal eu cyfarfod olaf mewn cysylltiad a'u Cymdeithas Ddiwylliadol nos lau diweddaf. Ag ystyried fod cyfarfodydd tra phwysig yn cymeryd lie mewn lleoedd eraill yn ein plith fel Cymry, bu yr anturiaeth yn dra llwyddianus yn mhob ystyr. Cystadleuol oedd y ffurf gymerodd y cyfarfod, ac fel y nodweddir y Cymro pan fydd cystadlu ger bron, brwdfrydedd oedd un o nodweddion y cynulliad, yn enwedig felly ar y prif gystadleuaethau. Cafodd y pwyllgor gan Mr. Daniel Williams a. Mr. David Edwards (Clapham Junction), i lywyddu y cyfarfod, y naill fel cadeirydd a'r llall fel arweinydd, a gwasanaethwyd fel beirniaid gan Llewelyn ar yr adroddiadau a'r farddoniaeth, Mr. David Richards, A.R.C.O., ar y gerddoriaeth, Parch. Francis Knoyle, B.A., ar y traethawd, a Mrs. J. T. Job ar y gwniadwaith, a chafwyd boddhad