Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

..^>~»Y LLOFFT F A C H.

News
Cite
Share

^>~»Y LLOFFT F A C H. ..I [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XXI. Y LI offi Fach yn daI i son am Was Cyrnol Pari. Pe tarawsai Meredydd Pywel hi yn ei gwyneb a'i ddwrn, nid wyf yn meddwl y buasai ei feistres yn teimlo cymaint o boen ag y gwnaeth pan y dywedodd wrthi'r newydd yn niwedd y benod o'r blaen. Aeth can wyned a'r galchen-yr oedd ei gwefusau wedi myn'd yn dyn am ei danedd—rhythai ar Meredydd fel un a fai colled arni, ac ofnai ef ar y funud wel'd ei llygaid yn syrthio allan o'i phen. Yna, gollyngodd ochen- aid drom, a daeth i'w lliw a'i lie dipyn yn well. Ceisiodd fwrw diarth wedi hyny, ond yr oedd ei hagwedd wedi ei bradychu. A dyma yr helynt i gyd. Nid oedd blynyddau maith oddiar pan y daethai Mrs. Pari i'w 'stad, a llai na hyny oddiar y priodasai a'r Cyrnol. Ni freuddwyd- iodd ei hun erioed y buasai mor ffodus, oblegid yr oedd yna tua haner dwsin o fywydau i gyfrif a hwynt, y rhai a safent rhyngddi hi a'r olyniaeth uniongyrchol. Perthyn i'r teulu ieuengaf oedd hi, ac unig ferch ei thad a'i mam. Morwyn oedd ei mam, heb ddim ganddi'n gynysgaeth ond ei gwyneb; ac wrth ei phriodi, ni chollodd ei thad ddim, am y rheswm syml nad oedd ganddo ddim i'w golli. Nid hir y bu cyn iddo yfed ei hun i farwolaeth, yn aberth i'w flys a'i safle. Beth oedd i ddisgwyl oddiwrth ryw haner gwr bonheddig, na wyddai ond am un adnod y fewn i'r holl Feibl-" CIoddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus genyf?" Ar ol ei gladdu, casglodd y fam a'r ferch y cwbl y'nghyd, ac aethant i'r America, lie yr oedd gan y fam berth'nasau. Mi allwn feddwl taw cadw math o westy y buont yno nes i'r henaf o'r ddwy farw, a'u bod yn gwneud bywioliaeth reit gysurus. 'Doedd Meredydd ddim yn glir iawn ar y darn yma o'r hanes, na sut y daeth ef i fewn i'r fusnes. Mor bell ag yr oeddwn yn gallu deall, ac mor bell ag yr wyf yn cofio, yr oedd Meredydd yn cadw stor yn yr un dref, ac yn adnabod y ddwy foneddiges oedd yn cadw'r gwesty yn dda o ran eu gwel'd. Ond nid oeddynt hwy yn ei ad- nabod ef. Eto, yr oedd Meredydd, druan, yn addoli'r ferch o draw. Gwyddai'n burion nad oedd ganddo y siawns lleiaf am dani, ond gwnaeth ffwl o hono ei hun droion o gariad ati. Yr oedd ganddo gyfaill yn y dref o'r enw Jeff, ac yr oedd hwnw yn gwsmer beunyddiol yn y gwesty. Mab i un o fasnachwyr y dref ydoedd, a mwy o arian yn ei boced nag o synwyr dan ei wallt i'w ddysgu sut i'w gwario'n briodol. Cadwai ei bres i gyd yn ei wyneb. Dyna'n wir sut yr aeth i lewys y fam cyn iddi farw, ac y gwaeth i'r ferch ei briodi cyn iddi gael amser i wybod sefyllfa ei chalon. Trodd Jeff allan yn wr canolig ei wala, a bygythiai ddwyn pethau i ben yn y gwesty ar garlam. Yr oedd Meredydd ac yntau wedi cefnu ar eu gilydd byth oddiar y briodas; ond cadwai ei lygad o hyd arni hi, rhag iddi gael cam-driniaeth. Achubodd hi ragor na siwrne o grafangau ei gwr pan oedd hwnw mewn ffit o fedd'dod ond ni wyddai hi pwy ydoedd. Dyna sy'n gwneud y 'stori mor sad. Arferai Jeff gymeryd gymaint o arian ag a fyddai yn y ty, a myn'd i ben ei helynt am fis cyn d'od 'nol, heb ddimai i ymgroesi. Diflanai'n llwyr o'r dref ac o'r dalaeth; ac ni wyddai neb o'i berth'nasau agosaf p'run ai byw ai marw oedd yn ystod yr amser yna. Yr oedd wedi bod bythefnos ar un o'r crwydiadau yr wyf yn son am danynt, pan y cymerodd cyd-ddigwyddiad go ryfedd Ie. Yn un o'r papyrau oedd yn d'od yn wythnosol i'r gwesty yr oedd hanes dyn oedd wedi cael ei ladd mewn ymladdfa yn un o drefi'r dalaeth nesa'. Nid oedd neb yn ei adnabod; ond yr oedd ei farciau, hyd at yr enw oedd ar ei ddiIJad isa', yn dweyd wrth ei wraig taw Jeff oedd. Yn yr un papur, ac yn yr un golofn, yr oedd hysbysiad am unig ferch y diweddar Caleb Morgan, Yswain, o'r lie a'r lie, yn Nghymru am iddi ddychwelyd i'r hen wlad, a gohebu a chyfreithiwr oedd yn cael ei enwi, y byddai gan hwnw wybodaeth o bwys i'w roi iddi. Oud beth am Jeff ? Arosodd bythefnos arall i Jeff droi i fyny, os oedd ar dir y byw ond ni ddaeth siw na miw am dano. Rhoddodd y gwesty yn y farchnad, a chafodd brynwr iddo. Erbyn cwblhau yr oil, yr oedd pythefnos arall wedi myn'd—gymaint a hyny dros ben yr amser a arferai gymeryd cyn d'od 'nol. Ond nid oedd hanes am Jeff. Yn y cyfamser, yr oedd hi wedi gwneud ei hun yn hysbys i'r cyfreithiwr yn yr hen wlad trwy wifren a llythyr; ac ar ol distewi ei chydwybod obeitu'r colledig, cychwynodd. Ac nid hir y bu cyn iddi lanio'r ochr yma. Aeth ar ei hunion at y cyfreithiwr, a chafodd taw hi oedd yr etifedd nesa' i 'stad y teulu. Yn wir, imi ddweyd yn reit, hi oedd y perchen ar y pryd. Yr ydych wedi sylwi, mi wn, na ddwedais iddi wneud un math o ymchwiliad am ei gwr ar ol darllen am dano yn y papyr. Pe buaswn wedi dweyd hyny, ni fuaswn wedi dweyd y gwir; oblegid nid aeth i'r dref y dywedai'r papyr fod dyn tebyg i Jeff wedi cael ei ladd ynddi. Nid aeth yno ei hun, ac ni ofynodd i neb arall fyn'd yno drosti. Ond heb yn wybod iddi, aeth Meredydd Pywel yno—yr oedd yntau wedi darllen yr hanes yn y papyr -a chafodd taw nid Jeff oedd! Gan na wydclai sut yr oedd ei wraig wedi cymeryd y peth, os oedd wedi gwel'd yr hanes o gwbl, nid oedd yn teimlo fod ganddo le i ymyryd. Yr oedd yr hysbysiad wedi dianc ei sylw; a phe buasai wedi sylwi arno, mae dowt ynddi a fuasai yn ei gysylltu a meistres y gwesty. Felly, erbyn iddo dd'od i wybod ei bod wedi gwerthu'r ty, yr oedd hi wedi hen hwylio; ac nid oedd neb o'r dwylo newydd yn gwybod dim am ei symud- iadau. Yr oedd wedi llwyddo i guddio ei thraciau mor llwyr a phe byddai yn dianc o afael y gyfraith. Bid siwr, yr oedd Mrs. Jeff yn eitha' gonest yn ei chredo fod ei gwr wedi marw; ond buasai yn onestach ynddi i adael i'r wlad wybod taw widw oedd. Ac yn enwedig pan ddaeth Cyrnol Pari i ofyn am ei llaw. Ond yr oedd rhyw hen falchder ffol y'ngafael a hi erioed a phan ddaeth cywilydd i helpu hwnw wed'yn, mi fuasai cystal i chwi ddisgwyl i'r Foel Felen fyn'd i'r mor ag iddi fyn'd i'r gell gyffesu. Mae'n anodd gwybod pa'm y cymer- odd hi'r Cyrnol, ac yntau gymaint yn hyn na hi; ond dyna, yr oedd yn ormod o gamp i neb i roi cyfri' am ddim a wnai. Mi glywais Dinah yn dweyd iddi gael pedwar o gynygion y gwyddai hi am danynt, ac iddi eu gwrthod oil yn ffafr Cyrnol Pari. Wel, yr oedd yr hen Gyrnol yn siwr o fod yn ei charu yn ei ffordd ei hun ond mae'n ddowt gen I a oedd ganddi hi ryw lawer o olwg arno ef. Y'nghwrs amser, aeth yn fynheddig ffiaidd; ac fel y d'wedais, codi eu trwynau a wnai'r bobl oreu arni pan basient hi ar yr hewl. Dyna sut yr oedd pethau yn trotian yn y palas nes i Meredydd Pywel ddyfod yno yn was pena' i'r Cyrnol. Dipyn yn ddy- wedwst y byddai Meredydd ar y darn yma o'i hanes hefyd. Mae'n debyg iddo ddod o hyd rywsut taw wedi 'myn'd i Gymru yr oedd yr hon a adwaenai fel gwraig Jetf-iddo wneud ei feddwl i fyny wed'yn fel dyn i'w hanghofio, a stico at ei fusnes—a'i fod yn llwyddo i wneud hyny'n raddol, nes iddo wel'd Jeff yn y corff ryw ddiwrnod. Ac fe spwyliodd hyny'r cawl i gyd. Daeth yr afradlon ato i'w stor, a holodd ef am ei wraig. Yr oedd blynyddau, deallwch, wedi pasio oddiar pan y gadawsai ei wraig y tro diweddaf; ac yr oedd yn siwr o fod yn wraig i Cyrnol Pari yn yr hen wlad erbyn hyn. Ni dd'wedodd Meredydd ei bod wedi myn'd i Gymru, ond tyngodd Jeff y mynai dd'od o hyd iddi pytae wedi myn'd i uffern Yr oedd yn berffaith Rodni yn ei iaith, ei wisg, a'i fuchedd. Ar ol cael ei wared, gwerthodd Meredydd ei fusnes, a daeth yntau i Gymru. Breuddwydio yr oedd y gallai fod o'r un gwasanaeth i Mrs. Jeff, pe digwyddai i'r gwr gael gafael arni, ag y bu yr ochr arall i'r mor. Ac fel y mae pethau yn d'od i daro weithiau, cafodd le fel hwsmon gyda Cyrnol Pati, er mawr syndod iddo. Ond yr oedd ei syndod pan welodd yn Mrs. Pari yr hon a adwaenai gynt fel Mrs. Jeff y tu hwnt i ddim a fedrai ei ddesgrifio. Ar ol hir grwydro, yr wyf bellach yn agos i'r man lie y cychwynais. Ni chymerodd Mrs. Pari at Meredydd o'r diwrnod y daeth yno. Pe gofynasech iddi, nid wyf y'meddwl y gall'sai dd'weyd pa'm. Mentrodd y Cyrnol ofyn iddi ddwywaith neu dair, ond buasai cystal iddo beidio. Heblaw'r 'stumog uchel oedd yn ei blino yn etifeddol, yr oedd fel pe bai ganddi ryw reddf y tu ol i'w hymenydd yn rhywle fod y dyn yma yn gwybod am ei hen fywyd. Y gwir am dano, yr oedd ami ei ofn heb fedru rhoi un rheswm am hyny ac nid yw'r math yma o ofn byth yn deg a chyfiawn. Tybiai ei fod yn gwylio ei symudiadau; ac adgofiai iddo weithiau taw gwas y Cyrnol ydoedd, ac nid ei gwas hi. Yr oedd ei balchder drachefn ar ei ffordd i geisio gan y Cyrnol ei droi i ffwrdd; ac nid oedd gwaith lIrendydd yn dewis y capel o flaen yr eglwys yn gwella dim ar bethau. Heb ymdroi rhagor, yr wyf yn d'weyd i chwi taw dyna oedd y sefyllfa i fyny at ddiwedd y benod o'r blaen. Wedi iddi dd'od ati ei hun, dechreuodd "fwrw diarth," fel y d'wedais "Pwy ydi Jeff?" ebai, gan dreio'r ffroen uchel o hyd. "Eich gwr yn yr America," ebai Meredydd Pywel. Yr o'ech chwi yn credu ei fod wedi ei ladd, pan y daethoch drosodd i Gymru: ond 'doedd o ddim. 'Dydw I ddim yn deud na chawsoch ddigon o le i gredu hyny; ond 'doedd o ddim. A 'dydi o ddim, Mrs. Pari-dydi o ddim. Mae o'n fyw heddy'—a mae o'n aros yn y pentre'. Mi gweles o fy hun ddoe ddwaetha'n y byd, a 'rydw I'n siwr taw chwilio am ei wraig mae o." 0 r trampio fu dros brif-ffordd ei chalon y funud hono Beth os deuai Jeff o hyd iddi ? Beth os deuai'r Cyrnol i wybod ? Onid oedd wedi tori'r gyfraith ? Ac onid oedd yn agored i gael ei thransportio ? 'Doedd dim i wneud ond ildio, ac ildio i'r dyn ag yr oedd wedi bod mor gas iddo ar hyd yr amser. Beth oedd ei amcan, tybed ? Faint oedd ei bris ? A oedd yn bosib' prynu ei ddystawrwydd ? Cododd ei llygaid i fyny ato, ac ni welai ddim ond parch a thosturi yn ei wyneb. Sut y gwyddoch y pethau hyn i gyd ? ebai, yn rhy ddistaw i'r glust oedd wrth dwll y clo glywed. Yn wir, yr oedd Meredydd wedi gofalu gostwng ei lais cyn hyny, fel na all'sai neb wneud i fyny'r 'stori o ambell i air ystrai. A dyna'r gwas y'myn'd dros yr hanes o'r dechreu i'r diwedd, heb gelu dim o'i deimladau ei hun a hithau'n gwrando, ac yn gwrando, ac yn gwrando. Wedi iddo orphen, dyna Mrs. Pari yn codi oddiar y gadair, ac yn estyn ei llaw i Meredydd: Maddeuwch i mi," meddai yn floesg," am fy mod wedi eich trin mor annheil wng-" Cydiodd Meredydd yn ei llaw yn y fath fodd nes creu ffydd a gwroldeb yn ei chalon yr un pryd. "Fi yw'r pechadur," meddai, "a fi sydd eisiau maddeuant. Dyma'n unig yw fy mhle; eich enw da oedd genyf mewn golwg wrth aros yma cy'd, wedi cael allan fod Jeff ar dir y byw. 0 hyn allan, peidiwch pryderu dim mi gadwaf fy llygad arno tra bydd y ffor' yma. Ni chaiff eich blino, os gallaf. Ond yn wir, nid wyf y'meddwl y blina Jeff neb yn hir iawn y mae'n siwr o fod yn darfod uwch ben ei draed." Ac felly yr oedd. Pan aeth Meredydd i holi am dano y'mhen diwrnod neu ddau, yr oedd Jeff, druan, ar ei wely angau, ac yn gwbl ddisylw o bawb a phobpeth. Yr oedd wedi myn'd yn rhy wan i fedru d'weyd fawr o ddim pan oedd yn ffwndro fwya'. Ac ar ol ei holl grwydriadau, aeth i'r byd mawr heb gael gafael ar ei wraig, er iddo gyraedd bron o fewn ergyd careg i'r ty oedd yn do uwch ei phen. (I'w barhau.)