Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. Lewis…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. Lewis Haslam (Bwrdeisdrefi Mynwy). EFALLAI y bydd rhywun ymysg ein dar- llenwyr yn barod i synnu na baem yn cysylltu enw Mr. Lewis Haslam a Chas- newydd. Am yr aelod dros Gasnewydd—" the member for Newport "-y sonia llafar gwlad, ac y mae yn amheus a oes mwy nag un o bob deg o'r rhai fu'n gwylio'r etholiad diweddaf a'i ganlyniadau yn credu yn amgen nad Casnew- ydd a bia'r sedd yn Nhy y Cyffredin. Ond y gwir am dani yw, na wyr y Senedd ddim am Gasnewydd nag am gynrychiolydd iddi. Yr enw ar y deddflyfrau yw Bwrdeisdref Dosbarth Mynwy, ac fel aelod dros y fwrdeisdref honno yr eistedda y person a eilw'r bobl yn aelod dros Gasnewydd. Gwneir y Dosbarth i fynu o dair tref: Mynwy, Usk, a Chasnewydd, ac ar enw y flaenaf, pen tref y sir, y gelwir hi. Teimla llawer o bobl Casnewydd fod hyn yn anhegwch ac anghyfiawnder, a rhaid i bob un diragfarn gydnabod fod ganddynt reswm da dros deimlo felly. Cyfeiriant at Gaerdydd gerllaw. Er fod tair tref yn gynwysedig yn y fwrdeisdref honno --Caerdydd, Pontfaen, a Llantrisant — eto Caerdydd, yn swyddogol, bia'r aelod, a hawdd dychmygu y gri a godai gwyr y ddinas honno pe bed) ddid y fwrdeisdref yn "fwrdeisdref dosbarth Morganwg." Ond o ran nifer ethol- wyr nid yw y gwahaniaeth rhwng Caerdydd a'r ddwy dref gysylltiedig a hi, yn nemawr os dim mwy mewn cymhariaeth na'r gwahaniaeth rhwng Casnewydd a'r ddwy dref gysylltiedig a hithau. Dyma rifedi yr etholwyr yn y tair :— Casnewydd 10,079 Mynwy 847 Usk 278 Nid rhyfedd fod y flaenaf yn cwyno. Y mae Casnewydd yn meddu lie lied amlwg yn hanes rhai o frwydrau politicaidd y gorphenol. Yno y gorymdeithiodd y Siartiaid o gymoedd Rhymni a Sirhowy ac Ebbwy, yno y daethant i wrthdarawiad a'r milwyr, yno y lladdwyd rhai o honynt ac y cymerwyd eraill yn garcharorion, ac yr oedd 61 y frwydr ar rai o adeiladau y dref hyd yn ddiweddar iawn, os nad ydynt yno eto. Ond Cynrychiolaeth Seneddol Ansefydlog ddigon sydd wedi bod i'r fwrdeisdref drwy y blynyddoedd. Dipyn o flynyddoedd yn ol ni phafodd yr aelod Rhyddfrydol, os iawn y cofiwn. namyn tri o fwyafrif. Yr ydym yn sicr mai deg ydoedd yn 1885, er cryfed y llanw y flwyddyn honno. Yn etholiad y flwyddyn ddilynol- etholiad Ymreolaeth-ennillodd y diweddar Syr George Elliott y sedd i'r Ceidwadwyr, a chafodd dros bedwar-cant-a-hanner o bleidleisiau yn fwy na'r hen aelod. Ond yn 1892 ennillodd Mr. Albert Spicer, sydd yn awr yn cynrychioli Canolbarth. Hackney, y sedd yn ol i'r Rhydd- frydwyr. Cadwodd ef feddiant o honi am wyth mlynedd, ond yn 1900 gorthrechwyd ef gan Dr. Rutherfoord Harris, Ysgrifenydd Cwmni Breint- MR. LEWIS HASLAM, A.S. (MYNWY). iedig Deheubarth Affrica-y gwr sydd newydd ymneillduo o gynrychioli Dulwich. Byr fu tymor Dr. Rutherfoord Harris fel aelod dros fwrdeisdref Mynwy, oblegid deisebwyd yn erbyn ei ddychweliad oherwydd fod ei gefnogwyr wedi troseddu Deddf Llygredigaethau Etholiadol, a dyfarnodd y llys fod ei etholiad yn ddirym. Yn yr ymdrech am y sedd a ddilynodd daeth Mr. Spicer i'r maes drachefn yn erbyn Syr Joseph Lawrence. Ond y Ceidwadwr a orfu drwy fwyafrif o amryw gannoedd. Ymhen rhyw dair blynedd dechreuodd y Rhyddfrydwyr baratoi ar gyfer brwydr arall drwy ddewis Mr. Lewis Haslam i gario eu baner, ac yn yr etholiad yn Ionawr diweddaf etholwyd ef gyda mwyafrif gorthrechol. Yr oedd yr ymdrech yn un dair-onglog, a dyna yr unig etholaeth yng Nghymru y bu ymdrech dair-onglog ynddi heblaw rhanbarth Gwydr, Daeth plaid Llafur ag ymgeisydd i'r maes, ond er i hwnnw lwyddo i ennill cannoedd lawer o gefnogwyr, yr oedd mwyafrif Mr. Haslam uwchlaw pymtheg cant. Ni chaed prawf cliriach yn unman drwy y deyrnas o nerth y llanw Rhyddfrydol nag a gaed yng Nghasnewydd. Er fod Mynwy yn ymarferol yng Nghymru, nid oes yr un Cymro wedi bod yn ymgeisydd am sedd y bwrdeisdrefi ers llawer iawn o flyn- yddoedd. Mae yr elfen Seisnig yn gref iawn yn y tair tref a'i gwnant i fynu. Brodor o Bolton yn Lancashire yw Mr. Lewis Haslam, mab i Mr. John Haslam, Gilnow House, yn y dref honno. Ganwyd ef oddeutu hanner-cant o fljnyddoedd yn ol. Derbyniodd ei addysg foreuaf mewn sefydliad preifat, ac wedi hynny yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain. Mae yn wr amlwg yn y byd masnachol, yn gyfarwyddwr mwy nag un o gwinniau cotwm sir Lancaster, ac yn un o ynadon heddwch y sir honno. Preswylia yn awr yn Evelyn Gardens, Lluniain, ac y mae yn aelod o glybiau y Reform a'r National Liberal. Yn ei hanes gwleidyddol ef gwirir yr hen air Cymraeg, "Y drydedd waith yw'r goel," oblegid ymladdodd ddwy frwydr etholiadol yn aflwyddianus o'r blaen. Yn 1892 gwrthwynebodd Arglwydd Stanley yr rhanbarth Westhoughton, a lhvyddodd i leihau pum' cant ar y mwyafrif Ceidwadol yno. Yn 1900 ymgeisiodd am y sedd dros ranbarth Stamford, yn swydd Lincoln, ond ni bu cyn agosed i ennill yno, yn bennaf, yn ddiau, oherwydd fod clefyd y rhyfel" mor anwrth- wynebol yn yr etholiad hwnnw. Teg yw ày- wedyd hefyd fod y ddwy etholaeth yn gadarn- leoedd Ceidwadaeth. Mae ei lwyddiant eithriadol ym Mwrdeisdref Mynwy yn wyneb y ffaith fod plaid cynydd wedi ymranu, yn tystio, nid yn unig i rym y don Ryddfrydol, ond hefyd i allu Mr. Haslam i ennill ffafr yr etholwyr a'i fedr i ymladd brwydr etholiadol. Diau fod ei gysylltiadau masnachol yn gym- hwysder mawr ynddo i gynrychioli lie fel Casnewydd, a'r farn gyffredin ydyw fod yr etholwyr wedi bod yn hynod ffodus wrth ei ddewis yn aelod. Nis gallwn ond gobeithio y caiff y disgwyliadau eu sylweddoli, ac y bydd iddo gofio mai aelod dros ran hanfodol o Gymru ydyw, er fod ei etholaeth ar yr ochr arall i'r afon Wysg.