Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

YR ARGLWYDD FAER YN ST. BENET.

News
Cite
Share

YR ARGLWYDD FAER YN ST. BENET. Cynulliad Mawr. Nid yn ami y gwelir y fath gynulliad ar fore Sul yn St. Benet ag a gaed y Sul diweddaf. Yr oedd yr amgylchiad yn eithriadol o ran hyny, ac nid syndod gweled torf eithriadol hefyd. Yr oedd yr Arglwydd Faer wedi addaw ei bresenol- deb yno, a chan ei fod yn Gymro pybyr, yn ymffrostio yn ei darddiad syml o un o siroedd yr hen wlad, ac yn cymeryd llawer o ddyddordeb mewn materion Cymreig yn y ddinas, gweddus felly oedd gweled ei gyd-genedl yn ei groesawu gyda sirioldeb a brwdfrydedd teilwng o'r amgylchiad. Mae ymweliad swyddogol yr Arglwydd Faer bob amser yn sicr o ddenu'r dyrfa, ond nid y ffaith mai pennaeth y ddinas ydoedd yn dod i St. Benet oedd yn tynu ni'r Cymry, eithr am mai Cymro oedd y gwr oedd wedi esgyn am eleni i brif gadair lywyddol prif ddinas y byd. Yr oedd yn anrhydedd arnom ni fel cenedl, yn ,ddyrchafiad i'r cymeriad Cymreig ac nis anghofiodd yntau ei gysylltiadau boreuol, oherwydd addawodd gyda phob parodrwydd i dalu ymweliad a'r Fam Eglwys Gymreig ar y Sul cyntaf y gallai drefnu at hyny. Gyda'i arglwyddiaeth y boreu hwn yr oedd y Siryddion, yr Arglwyddes Faerol, ac ereill o urddasolion y ddinas. Yn mysg y Cymry gwelsom yno Mr. Frank Edwards, A.S., a'i briod, Miss Myfanwy Edwards, Mr. Abel Simner, Mr. a Mrs. J. Mason Williams, Mr. E. Vincent Evans (trysorydd y Gymdeithas Ddyn- garol Gymreig), a Miss Vincent Evans, &c. Yr oedd y gwasanaeth yn Gymraeg, a llafar- ganwyd y rhan gyntaf gan ficer y lie—y Parch. J. Crowle Ellis. Darllenwyd y llithiau am y dydd gan Mr. J. Mason Williams a Mr. Thomas Jones, y Cenhadwr Cymreig, a chaed y gwedd- iau terfynol gan y Parch. H. Watkins, caplan y Genhadaeth yn Bow. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn hynod 0 dda, a'r canu yn dangos yn amlwg fod y gynull- eidfa a'r cor yn cael dysgeidiaeth rhagorol gan yr organydd, Mr. J. E. Davies, a dylid crybwyll yn arbenig am yr unawd, Iesu, cyfaill f'enaid cu," yr hon a roed mewn modd effeithiol gan Mr. Emlyn Edwards. Ar derfyn y bregeth gwnaed casgliad tuag at gynorthwyo'r tylodion Cymreig, a deallwn fod atebiad sylweddol wedi ei wneyd gan y dorf i'r apel garedig a wnaed yn ystod y bregeth. Arglwydd Esgob Bangor ddaeth i bregethu ar yr amgylchiad, ac er mai Cymro yw'r Esgob, penderfynwyd rhoddi'r bregeth yn Saesneg am y tro. Yn destyn ei sylwadan cymerodd Actau 28. 15; hanes dyfodiad Paul i gymydogaeth y Tair Tafarn ar ei daith i Rufain, a'r cyfeillion yn dod i'w gyfarfod ar y daith gan ei gysuro. Yr hyn oedd Rufain, meddai, i'r Apostol Paul yw Llundain heddyw i Gymry ieuainc yr hen wlad. Credant mai yn hon y maent i gael pob gwaredigaeth a bendith, ond try allan yn ami yn bur wahanol i'w gobeithion. Pan y mai rhai o honynt yn syrthio yn yr ymdrech ac yn mynd yn ddigalon, y mae'r eglwysi Cymreig n megys cenhadon yn rhoddi nodded iddynt, ac yn eu calonogi yn y frwydr. Er cymaint ei phoblogrwydd lie unig iawn yw Llundain i Gymro sydd wedi troi o'r llwybr arferol. Ond yn yr unigrwydd yma daw'r Eglwysi Cymreig- a byddai yn angharedig pe gadawn allan y Capelau Cymreig yn hyn o fater hefyd—deuant allan gan roddi cartref oddi cartref i'r crwydriaid anystyriol hyn. Myn rhai nad yw'n heglwysi Cymreig o un budd am y gall pawb o honom ddeall y Saesneg, ac am hyny gallem gael gwas- anaeth Saesneg yn eglwysi ein cymydogion, ond dylid cofio fod yna swyn arbenig i'r Cymro yn f naws Cymreig sydd ynglyn a'r cynulliadau hyn. Y mae Ilu mawr o Gymry yn y ddinas, ac er fod y mwyafrif o honynt yn llwyddo yn rhagorol, rhaid addef fod yna ereill yn syrthio i dylodi a Phechod; ond mae hyn yn gosod cyfrifoldeb aynom nas gellir ei adael yn ddisylw, a cheisia y Gymdeithas Ddyngarol Gymreig lanw'r diffyg rwy gynorthwyo pob gwr neu wraig anffodus, a ydd Haw i lawer o'n cyd-wladwyr pan ar fin syrthio i dylodi ac angen. Yr oedd yn gobeithio y rhoddid achos teilwng y Gymdeithas hon at ystyriaeth pob un o'r gwrandawyr, ac y cynorthwyent hyd yr oedd yn bosibl y gwaith distaw a brawdgarol a wneir ganddi ymysg ein cyd-genedl llai ffortunus na ni yn y ddinas. ..< 'J

,.Y DYFODOL

[No title]

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising