Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y TYWYDD ETO.—Dyma haf arall wedi myn'd a gauaf yn d'od ar ei ol. Caed oerwynt ac eira i'n gyru i rwgnach yr wythnos hon eto. YR ARGLWYDD FAER.—Er fod yr haul yn ceisio gwenu foreu Sul pan oedd yr Arglwydd Faer yn St. Benet, eto yr oedd ei wisg faerol yn z' hynod o addas i gadw yr awel oer allan. ADDOLWYR BOREU SUL.- Yr oedd yn llawen genym weled cynulliad mor fawr i roesawu yr Arglwydd Faer yn St. Benet, ac yn eu mysg nifer .o'n pobl fawr, na's gwelir hwy ond yn anaml iawn mewn lie o addoliad ar foreu Saboth. Mae'n dda cael rhywbeth i'w dyddori a'u denu allan am unwaith mewn blwyddyn i odfa'r bore MR. IDRIS, A.S.-Blin iawn gan Gymry Llundain glywed am yr anffawd i'r boneddwr poblogaidd Mr. Idris. Yn ol pob argoelion bydd raid iddo gadw allan o'r Senedd am rai wythnosau. Dymuniad ei lu cyfeillion yw ar iddo gael adferiad buan. SEDD WAG EIFION. — Er fod amryw o Gymry'r ddinas wedi eu henwi ynglyn ag ethol- aeth Eifion, 'does neb ond Mr. T. E. Morris, y bargyfreithiwr, wedi bod yn anerch cyfarfodydd yn y lie. 'Roedd dau neu dri arall yn barod i lanw sedd wag Eifion pe gelwid arnynt i wneyd hyny. Ond nid y cymhwysderau yn ol pobl Llundain yw'r hyn a farna etholwyr Eifion. Y CROESAWIAD MAWR.—Gan fod yr amser mor brin a'r tymor mor brysur, y mae'r pwyllgor a benodwyd ynglyn a'r bwriad o roddi croesaw lr 34 aelod Cymreig wedi gohirio'r cyfan hyd ryw adeg fwy addas y flwyddyn nesaf. ROYAL ACADEMY. — Mae'r arlunydd, Mr. Christopher Williams, wedi cael dau o'i ddarlun- Jau i'r arddangosfa hon eleni. Yr oedd y pwyll gor wedi dewis tri o'i waith, ond gan fod y lie mor brin bu raid gadael darlun o Syr John Williams o'r neilldu y tro hwn. Ac y mae'r critics yn dyweyd fod yr un adawyd allan yn rhagori hyd yn oed ar y ddau a gawsant eu hongian. ZD TYSTEB MR. L. H. ROBERTS.—Mae eglwys Wilton Square yn bwriadu anrhegu y boneddwr caredig hwn a'i ddarlun pan yr ymedy a'r ddinas. Mr. Christopher Williams sydd wrth y gwaith o'i baentio, a sicr y bydd yn gampwaith hefyd. Mae Mr. Williams eisoes wedi enwogi ei hun wrth baentio dau neu dri o wyr blaenaf ein cenedl. ELFED YN WAEL.—Oherwydd ei fod yn dioddef tan anwyd trwm nis gallodd y Parch. W. Elvet Lewis bregethu y ddau Sul diweddaf. eallwn ei fod yn gwella erbyn hyn, a diau gydag ychydig seibiant y caiff adferiad llwyr i'w hoender arferol. DARLITH.-Addawa Mr. B. Rees, Carthusian Street, roddi darlith ar ei daith ar draws Gwlad Canaan, o flaen pobl y Tabernacl, nos Iau wythnos i'r nesaf. Bydd yn ddyddorol cael barn CYmro Llundeinig fel Mr. Rees ar arferion y Dwyrain, ac am y golygfeydd o gylch y Ddinas Sanctaidd. Addurnir y ddarlith gan nifer o ddar- luniau a dynwyd gan Mr. a Mrs. Rees ar y daith. GWYR MORGANWG.-N os Sadwrn diweddpf bu gwyr gwlad Forgan yn cynal noson pen- tymor eu Cymdeithas yn Llundain. Daeth cwmni hapus ynghyd i'r Criterion, o dan lywydd- iaeth Mr. Brynmor Jones, K.C., ac fel y gweddill o gyfarfodydd y flwyddyn aeth y cyfan heibio yn hynod o hwylus. DYSGU'R IAITH.-Y mae swyddogion Ysgol Sul capel Beauchamp Road, Clapham Junction, wedi sicrhau Mr. T. Huws Davies, B.Sc., i gymeryd gofal dosbarthiadau i ddysgu yr iaith Gymraeg. Cychwynwyd y mudiad hwn rhyw bythefnos yn ol, ac y mae yn cynhal dau ddos- barth ar nos Wener, y cyntaf, o 6 i 7, i'r plant a'r ail, o 7 i 8, i'r rhai hyny sydd yn tueddu at Ddic Shon Dafyddiaeth. Y mae y ddau ddos- barth yn dra lliosog eu rhif, a disgwyliwn cyn bo hir y bydd Saesneg wedi ei adael tu allan i borth y capel ar y Suliau—nid yn unig ym mysg y plant, ond y rhai mewn oed. 0 hyn allan Gwnewch bobpeth yn Cymraeg"—tu fewn i gapel Cymraeg beth bynag.—S. SHIRLAND ROAD.Chwith genym gofnodi marwolaeth Mr. Hugh Edwards (Carlton Vale gynt), ar y igeg o Ebrill yn y St. Clement's Nursing Home, Fulham Palace Road, yn 72 mlwydd oed. Bu ar wely cystudd am rai wyth- nosau, ond yr oedd yn amlwg yn nychu ers cryn amser. Bu efe yn flaenor i holl gylch Cyfarfod Misol Llundain am 40 mlynedd, a threuliodd dros hanner canrif yn y brifddinas. Claddwyd ef yn mynwent Paddington, ddydd Llun, Ebrill 23am, a gweinyddwyd yn y gwasanaeth arweiniol yng nghapel Shirland Road, ac ar lan y bedd, gan y Parchn. J. E. Davies, F. Knoyle, a P. H. Griffiths. Daeth tyrfa o'i hen gydnabod o wahanol barthau'r ddinas i dalu'r gymwynas olaf iddo. MARWOLAETH.—Blin genym gofnodi marw- olaeth Mrs. Mary Morris, priod Mr. J. Osborne Morris, 35, Lisle Street, Leicester Square, a merch i Mr. John Jones, grocer, Pontrhyd- fendigaid, Ceredigion, yr hyn a gymerodd le dydd Gwener diweddaf yn University College Hospital ar ol cystudd byr a chaled. Aed a'r gorph i Gymru o orsaf Faddington nos Lun, a daeth nifer liosog ynghyd i dalu eu teyrnged o barch i'r ymadawedig a'r teulu yn eu galar. Cynhaliwyd gwasanaeth byr ar y Plaiforlll. gan y Parch. Peter Hughes Griffiths, Charing Cross Road, o ba eglwys yr oedd ein cyfeilles yn aelod ffyddlon. Claddwyd ei gweddillion yn yr Hen Fynachlog, Pontrhydfendigaid, dydd Mercher, pryd y daeth Ilawer o gyfeillion ei mhebyd ynghyd.-F. CHARING CROSS ROAD.-Cymerodd y cyfarfod cystadleuol, ynglyn a'r Gymdeithas Ddirwestol o'r lie uchod, le nos Fercher, Ebrill 25am, ac yr oedd yn amlwg iawn fod pob llwyddiant gyda'r cyfarfod. Daeth llond yr ystafell o bobl ieuainc i gymeryd rhan ac i fwynhau eu hunain. Cadeir- ydd y cyfarfod oedd Mr. J. J. Capell, llywyddwyd gan Mr. Tom Jenkins, a chyfeiliwyd gan Mr. W. G. Hughes. Y beirniaid oeddynt-Canu, Mr. John Griffiths; barddoniaeth, Parch. Peter Hughes Griffiths; areitheg, Mr. Richard Thomas. Gwnaethant oil eu gwaith yn rhag- orol. Yr oedd yno nifer fawr o gystadleuwyr,' ac yr oedd yn rhaid cael cyn-brawf ar rai o'r cystadleuaethau yn ystod y cyfarfod. Ennillwyd y gwobrau gan y rhai canlynol:—Unawd i blant dan 12 oed, "Craig yr Oesoedd," i, Rowena Thomas; 2, Miriam Jones; 3, John Jones. Adroddiad i blant dan 8 oed, emyn 230, 1, Gildas Tibbott; 2, Sophia Jones; 3, Jennie Jones. Deuawd i blant dan 16 oed, "0 am ras i garu'r Iesu," Katie Edwards a Jack Rees Thomas. Darn barddonol, Dirwest mewn Crefydd," Mr. Tibbott; darllen cerddoriaeth difyfyr, Miss Gladys Lloyd. Englyn, "Plenydd," Mr. R. Wood. Adrodd pennillion yn dechreu a'r llythyren 0, Mr. William Davies. Unawd, Miss Gladys Lloyd. Cyfieithu emyn, rhif 444, Mr. O. M. Jones. Wythawd, "Writing on the Wall," Charing Cross Beginners. Ateb pedwar cwestiwn, Mr. T. Lloyd Roberts a Mr. T. Davies. Ar ol myned drwy y rhaglen faith hon cafodd pawb ddigoni eu hunain o'r danteithion ardderchog oedd wedi cael ei darparu. Mae llwyddiant y cyfarfod hwn yn ddyledus i weith- garwch mawr yr ysgrifenydd, Mr. Dewi Evans. WILTON SQUARE.—Nos Iau diweddaf, Ebrill 26ain, cynhaliwyd cyfarfod te a chyngherdd blynyddol yr eglwys uchod. Sefydliad wedi ei adgyfodi ar ol bod o'r neilldu am rai blynydd- oedd yw y cyfarfod te, ond credaf fod ei Iwydd- iant eleni yn sicrwydd y bydd mewn bri am amser maith i ddyfod. Trefnwyd y te gan chwiorydd caredig yr eglwys, a boddiwyd pawb a gymerodd gwpanaid, fel y gellid disgwyl, gan ei fod mewn dwylaw da iawn. Wedi'r wledd yma cafwyd gwledd ddigymar o gerddoriaeth. Llwyddodd y pwyllgor i gael gwasanaeth Miss Amy Evans, Miss Gwladys Roberts, Mr. Merlin Davies, Mr. David Evans, a'r adroddwr, Mr. E. J. Harding a Mr. Walter Hughes wrth y berdoneg. Nid yw yn bosibl dewis goreuon pan fo pawb yn berffaith. 'Roedd caneuon y cantorion yn swyno yr holl gynulleidfa, a rhaid oedd ail ganu bob tro, nes o'r diwedd gorfu i'r Cadeirydd bledio a'r gwrandawyr i beidio mynu ail ganiad. Peth arall, yr hwn oedd yn rhoddi amrywiaeth i'r rhaglen, oedd datganiad darnau gan y Cor, dan arweiniad Mr. R. O. Jones a chyfeiliant Miss 'Maggie Davies. Llanwyd y swydd o gadeirydd i foddlonrwydd" pawb gan Mr. Richard Roberts, J.P., a rhoddodd anerchiad pwrpasol ac amserol, a rhywbeth mwy sylweddol wedi hyny. SHEPHERD'S BusH.-Her Grace The Duchess of Marlborough opened an Industrial Exhibition and Competitions at St. Stephen's Church House, Shepherd's Bush, last week, in connection with which we have much pleasure in congratulating Miss Emily Rheidoles Morgan on her triumph in capturing the prize for solo singing, and also securing the much coveted medal for drill. We pride ourselves on being a musical nation, but proficiency in drill is rather a new departure. Miss Morgan is well-known at the Bush, and is the grand-daughter of Mrs. Williams, of Penton- ville. This promising young vocalist has our best wishes, and we hope to hear more of her in future.

CHEAP CONTINENTAL TOURS.

Notes of the Week.!