Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
GRANTS TO WELSH COLLEGES.
News
Cite
Share
GRANTS TO WELSH COLLEGES. Deputation to Mr. Asquith. The Welsh members met on Friday after- noon in Committee Room No. 7 to consider the mode of procedure in regard to the presen- tation of the case in support of the application of the three constituent Colleges of the University of Wales to increased grants from the Treasury, which they were to submit to the Chancellor of the Exchequer at the private interview granted to them for that purpose. Mr. Asquith received them in his room at the House of Commons, and the deputation included the following ^embers :—Sir Alfred Thomas, chairman of the Welsh party; Messrs. Brynmor Jones and Herbert Roberts, joint secretaries; Herbert Lewis, S. T. Evans, Frank Edwards, Ivor Guest, Colonel Ivor Herbert, D. A. Thomas, David Davies, William Jones, Lloyd. Morgan, Osmond Williams, Wynford Philipps, Ellis Griffith, Yaughan Davies, Llewelyn Williams, -Keir Hardie, William Brace, John Williams, and J. D. Rees. Mr. Lloyd-George as a -=
Advertising
Advertising
Cite
Share
r n T Swiss Tours, ■ I I I I I 17 Days, £ 7 I7s. 6d. r I I I. Norway Cruise, I III l^| July, 3 Days, S3 I9s. 6d. Particulars r n T Swiss Tours, ■ I I I I I 17 Days, £ 7 I7s. 6d. r I I I. Norway Cruise, I III l^| July, 3 Days, S3 I9s. 6d. ■ II I HI Particulars — SECRETARY, ■ II I II Free Church Touring Guild, | | K I | | ^lem0r'al Farringdon
LLOYD=GEORGE.
News
Cite
Share
LLOYD=GEORGE. Gwnaeth Mr. Lloyd-George gymwynasau mawr a Chymru. Efe oedd y cyntaf, er dyddiau Llewelyn, fedrodd uno Cymru i ymestyn at un nod cenedlaethol. Ymbleidio ac ymryson fu anffawd fawr ein cenedl ar hyd y canrifoedd. Rhenir parthau Cymru gan ei mynyddoedd uchel a'i bryniau garw. Rhanwyd ei phobl gynt gan frad ac ymladdau gwallgof yr hen dywysog- ion ac mewn amserau diweddarach bu enwad- aeth gul, gyfyng, yn gwneyd yr un gwaith yn llawn mwy effeithiol. Breuddwydiodd Llewelyn Fawr am gael Cymru yn un; a bu Llewelyn ein Llyw Olaf farw er mwyn ceisio dwyn hyny oddi amgylch a dyna paham yr erys eu henwau mor beraroglus yn y wlad. Hawdd ydyw adnabod y dyn anwyd i arwain pobl, wrth eangder ei feddwl, anhyblygrwydd ei ewyllys, tan ei athrylith, cyfaredd ei bersonoliaeth, yng nghyd a glewder dihafal ei ysbryd. Teimlodd y neb a ddaeth yn agos at Mr. Lloyd-George, nid ei fod ef am arwain, ond mai efe, yn rhinwedd y rhyw- beth cyfrin sydd ynddo, yw yr arweinydd. Ei arwyddair ydyw:— To stand the first in worth as in command To add new honours to my native land Before my eyes my mighty sires to place And emulate the glories of our race." Profodd ei wroldeb yn ei waith yn cymeryd y maes yn erbyn yr ysbryd rhyfelgar dorodd yn genllif gwallgof dros y wlad yma yn amser rhyfel anffodus De Affrica; ac enillodd ym- ddiriedaeth ac edmygedd ei blaid drwy y Deyrnas, ar ei waith yn dadleu mor gyndyn a medrus yn erbyn i'r Llywodraeth estyn ei Haw i logellau trethdalwyr y bwrdeisdrefi er mwyn gwaddoli y tirfeddianwyr cyfoethog: a bydd Ymneillduwyr Lloegr a Chymru o dan ddyled iddo byth am ei wrthwynebiad diail i Ddeddf Addysg 1902, pan y dadleuid ei hadranau yn Nhy y Cyffredin. Ac iddo ef yn benaf y perthyn y clod am ddarfod i'r wlad yma o'r diwedd agor ei llygaid ar wir gymeriad Toriaeth, a'i hysgubo ymaith megis yr ysguba'r corwynt we'r copyn. Y gwir diaddurn ydyw sylw y gwr ddwedodd :—" Mr. Lloyd-George is the maker of modern Liberalism." Flynyddoedd yn ol yr oedd yn rhy eithafol ym marn y doethion a dalient ar bob cyfle i ddweyd hyny wrth bawb. Yn ddiweddar, cwyna rhywrai ei fod yn rhy gymhedrol a phwyllog. Nid yw hyn oil onid prawf arall ddarfod geni'r dyn i arwain pobl. Y mae gwir lawer yn sylw y dyn hwnw He who is not a radical in his youth is a knave; he who is not a conservative in his age is a fool. Ystyr y sylw, mi goeliaf, ydyw, fod dyn yn dysgu wrth iddo gael hamdden a chyfleusdra i weled pethau a'i lygaid ei hun yn y byd yma. Hysbys yw i bawb y rhaid i'r neb a fyno gael sylw ei gyd-ddynion, gynhyrfu a chyffroi cym- deithas drosodd a thrachefn ond ar ol iddo gael clust a chalon cenedl rhaid iddo bellach arwain ac enill ymddiried pobl drwy bwyll a synwyr. Bu llawer o feirniadu ar yr ymgyrch a elwir The Welsh Policy; ond erbyn hyn gwelir. ei bod nid yn unig wedi arbed traul, ond ei bod hefyd wedi arbed y dyryswch anaele fuasai passive resistance yn ei achosi mewn gwlad Ymneillduol fel Cymru. Ond gwnaeth an- rhaethol fwy nag arbed traul, a thrafferth, ac anrhefn: cadwodd y wlad yn effro i wrth- dystio o hyd yn erbyn anhegwch ac anghyfiawnder y Llywodraeth ac yn benaf oil bu yn foddion i uno Cymru am y tro cyntaf er's llawer canrif. Gwnaeth mynyddoedd Cymru a blin helyntion yr hen amseroedd lawer dros annibyniaeth y bobl; ond milwriasant yn erbyn uno y Cymry ar hyd yr amser a dichon mai dyna y rheswm i'r Cymro fethu fel llywodraethwr ar hyd y canrifoedd, pan fedrodd y Teuton pwl ei feddwl wneyd. Pan mae daearyddiaeth gwlad yn rhanu y bob], y mae eisiau gallu cryf iawn i'w huno. Medrodd ymgyrch Cymru yn erbyn gorthrwm Mr. Balfour a'i Weinyddiaeth wneyd hyny yn llwyr; a bellach edrychir ar awdwr y drychfeddwl a threfnwr y catrodau fel unben y genedl. DafyddlLlwyd a fedd y llu,—Sior enwog Sy arweinydd Cymru: Dwyn ei genedl dan ganu I 'mosod ar ormes du, Dafydd Llwyd a faidd y llu—a gyfyd 0 ogofau'r fagddu Ni cha'r fall a'i holl allu 01 ei garn ar Walia gu. Meiddiaf inau haeru yng ngeiriau yr Athraw J. Morris Jones Dafydd Llwyd a faidd y llu," tra yr erys ef yn ffyddlon i nodweddion gwahan- iaethol Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth Cymru. Y mae ami un o'r Aelodau Seneddol dros Gymru yn Ymneillduwyr pybyr ar adeg etholiad a gallesid meddwl eu bod yn dwyn mawr sef dros Salem fechan ac Ebenezer gysegredig ond wedi y cyrhaeddont eu hamcan ac yr elont i Lundain, dywedir y siaradant gyda gwen oer nawddolog am Ymneillduaeth eu gwlad enedigol. Cymerant ofal ar nas gwel neb hwy un amser yn tywyllu drws yr un capel Cymreig yn y Brif- ddinas. Yn wir, y mae yn y Weinyddiaeth sydd mewn awdurdod ar hyn o bryd rai gwyr enwog fagwyd ar fronau Y mneillduaeth; ond, ysywaeth, collasant eu cariad at grefydd semi eu hen gartref, a throisant i Eglwys Loegr, am y tybient, mi goeliaf, fod y gwasanaeth yn fwy ■ rhwysgfawr a'r gymdeithas sydd yno yn fwy etholedig. Ni charwn, er dim a welais erioed,- ag awgrymu dim fyddo yn angharedig anx Eglwys Loegr a'i gwasanaeth. Na Mae yr Eglwys yna yn gorfforiad byw o freuddwydion y canrifoedd wedi eu cysegru gan weddiau llawer oes; ond dymunwn ofyn, Paham y mae yn rhaid i'r Cymro, ar ol iddo gael ei ddyrchafu i gyfoeth a safle, adael crefydd boreu ei oes a throi i'r Eglwys ?-(Y Parch. D. Stanley Jones yn y Geninen am Ebrill).
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y GOMER PRESS, 9, RED LION COURT, FLEET STREET, E.C, am holl Gyhoeddiadau'r Byd a'r Bettws.
Y LLOFFT F A C H,
News
Cite
Share
d'od yma weithiau, aeth yn gynddeiriog. Edrychai'r Cyrnol arni yn syn weithiau pan elai allan o'i ffordd i fychanu Meredydd; ac yr oedd ei hymddygiadau'n ami yn tynu sylw'r gweision eraill, a'r morwynion yn y ty. Yr oedd yn anmhosib' i neb 'nabod ei le yn well na Meredydd Pyivel: bob amser yn barchus heb fod yn wasaidd, bob amser yn foneddigaidd heb fod yn llywaith. Yr oedd yn gymaint o wr bonheddig yn ei lais, a'i siarad, a'i ysgogiadau ag oedd y Cyrnol ei hun bob mymryn ac yr oedd yna rywbeth o'i gwmpas yn ei dori allan o fysg pobl y tir a'r gegin. Ond nid oedd wedi bod yma flwyddyn cyn i bethau dd'od i bwynt. I Dinah yr wyf yn ddyledus am lawer o'r manylion, ac i'r ddwy forwyn a ddeuent i'w gwel'd yn awr a phryd arall yr oedd hithau yn ddyledus. Yr oedd un neu'r llall o honynt beunydd a byth wrth dwll y clo. Yr oedd y Cyrnol wedi myn'd i'r eglwys ryw nos Sul heb ei wraig, ac nid oedd neb yn y ty ond un o ffrindiau Dinah, na neb o gwmpas y ty ond Meredydd Pywel. Yr oedd Mrs. Pari wedi ysigo ei throed wrth ddisgyn oddiar gefn ei cheffyl y diwrnod o'r blaen, a gorweddai y noson yma ar fainc feddal ac isel yn un o ystafelloedd y gwaelod. Pan y daeth Meredydd i mewn heb gnoc na chaniatad, cododd ei feistres ar ei heistedd, ac edrychodd arno a'i gwyneb fel marmor. Yr oedd o gorff lluniaidd, ac yn ie'ngach na'i gwr o lawer o flynyddoedd. Go brin o ddeugain oedd hi, tra yr oedd y Cyrnol y tu arall i'r trigain. Nid oedd Meredydd chwaith nemor dros ddeugain. Ar ol edrych ar eu gilydd enyd neu ddwy, ebai hi yn gyntaf: A ydych wedi camgymeryd y parlwr am y beudy, Syr? "Nag ydwyf; ond y mae'n amlwg eich bod chwi wedi camgymeryd cyfaill am elyn," ebai yntau, heb godi ei lais fel y gwnaeth hi. Ewch yn ol y ffordd y daethoch, cyn y galwaf ar Ruth i agor y drws i chwi. Ni chlywais am y fath haerllugrwydd erioed," meddai, gan godi ei llais yn uwch. Dynesodd Meredydd gam neu ddau ati. Os pad ydych am i bawb wybod yr hyn sydd genyf i'w dd'weyd wrthych, gwrandewch arnaf yn ddistaw. A wyddoch pwy welais ddoe yn y pentre' ? Eich gwr, Jeff Harris! Mae yn chwilio am danoch, a chwi wyddoch beth mae hyny yn ei olygu. A gaf fi aros nes daw'r Cyrnol o'r eglwys, ynte a fyddai'n well i mi fyn'd i 'mofyn Jeff o'r Llew Brith'?" (Pw barhau.)
GRANTS TO WELSH COLLEGES.
News
Cite
Share
Cabinet Minister could not very well attend the deputation to his fellow-Minister, but he showed his interest in the proceedings and dis- cussed the situation with his Welsh colleagues. The Chairman having introduced the deputa- tion to the Chancellor and stated the object of the interview, Mr. Brynmor Jones made a clear and comprehensive but necessarily brief state- ment of the position and claims of the con- stituent colleges for further assistance from the Treasury. Mr. William Jones followed, and gave instances of the sacrifices made by the people of Wales during many years in the cause of higher education. Mr. S. T. Evans very ably urged the right of Wales to be regarded as a separate entity in educational matters and its claim to special and distinctive treatment. Mr. Asquith, in his reply, observed that the time was not altogether opportune for con- sidering so important a financial question, seeing that he hoped to introduce the Budget for the year on Monday next, but he expressed his pleasure at meeting the members of the deputa- tion, and said he was glad of the opportunity of hearing their views. He need hardly inform them that to press the special circumstances of Wales and the sacrifices that she had made on behalf of education was in his case only forcing an open door. Having expressed the opinion that the real question at issue was whether the amounts now contributed by the Treasury towards the Welsh Colleges were adequate to enable them to discharge their duties in regard to supplying and developing higher education in the Principality, the Chancellor asked the deputation "to formulate its request in the language of pounds, shillings, and pence as regards each college." He further asked the deputation whether a college or colleges would be willing to submit to any or all of the con- ditions laid down in the Treasury Minute covering the grants now made to the English University Colleges, and, if not, to particularise those to which they objected, together with the grounds of their objections, In conclusion he said I do not wish to hurry you, but I hope that in due course you will supply me with the information that I have asked for, and I can assure you that it will receive my sym- pathetic consideration."