Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
1 article on this Page
Hide Articles List
1 article on this Page
Y LLOFFT F A C H,
News
Cite
Share
Y LLOFFT F A C H, YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XX. Sl Y Llofft Fach yn son am Was Cyrnol Pari. Yr oedd Cyrnol Pari ei hun yn hen wr bon- heddig braf, a'i lon'd o natur dda. Mor llawn oedd nes y berwai drosodd ar adegau, ac y disgynai diferion breision o hono ar benau pawb a ddeuent yn agos ato ar hyd y ffordd. Nid oedd ganddo ben llawn yn y byd, ond yr oedd ei galon yn gwneud i fyny am hyny. Nid oedd ganddo chwaith boced lawned ag y buas- ech yn disgwyl i ddyn o'i fath ef fod yn berchen ami, ond llwyddai i'w gwneud yn wacach bob tro cyn y dychwelai i'w dy. Ei wyneb a'i war yn goch, ei ganol yn fawr a thrwmlwythog, ei gefn yn pantio i fewn mewn canlyniad, ei safiad yn filwrol, a'i holl osgo yn dweyd am y gwaed glas "—nid oedd odid undyn yn fwy adnabyddus drwy'r wlad benigilydd na Cyrnol Pari. Ac nid oedd neb yn fwy poblogaidd gan y bobl yn gyffredin. Chwi glywech ei chwerthiniad yn d'od i gwrdd a chwi rownd y gornel, yn fwy uchel na harti, ond yn eich ticlo heb i chwi fedru dweyd yn iawn paham. Arosai i siarad a ,phob gwr a gwraig, pob mab a merch, pob crwt a chroten, a phob ci a cheffyl ar y ffordd; a holai bawb yn ddiwahaniaeth mor ofalus a manwl a phe bai yn cael ei dalu am hyny gan y Llywodraeth. Yr unig beth a barai i chwi ame' oedd, ei fod yn gofyn yr un cwestiynau ddeng-- waith drosodd, a taw'r cwestiynau mwya' dibwys fyddent fynycha'. Yr oedd ei ysfa i siarad a phawb a gyfarfyddai yn ei wneud yn destyn difyrwch i fechgyn direidus yr ardal. Ar ei ffordd adre' un noson dipyn yn dywyll, wedi iddo droi i fyny'r hewl gul ag oedd yn taro allan o'r brif-ffordd, ac yn arwain at gat y palas, tybiodd ei fod yn clywed swn rhywun yn cerdded i'w gyfarfod, a safodd yn union. Yr oedd ei olygon y'mhell o fod yn reit, ond yr oedd yn sicr fod yno ddyn neu ddynes yn sefyll rhyngddo a'r berth. "Nos da," meddai, yn ei ddull caredig ar- ferol. "Sut mae ti ma's mor let? Lie ti'n byw ? Nid oedd ei glyw fawr gwell na'i olygon, ac felly credodd ei fod yn clywed swn tebyg i ateb yn cael ei roi iddo. Ond gan nad oedd yn ei ddeall: Be' ti weud ebai, a'i law y tu ol i'w glust. Wyt ti wedi ca'l anwd ? Lie ti wedi bod ? Hwyrach fod yr estron wedi cael gormoa o anwyd i wneud ei hun yn glywadwy i'r Cyrnol, oblegid yn ei fyw y medrai glywed gair. Yr oedd yn rhy dywyll iddo wel'd p'run ai dyn ai dynes oedd yno, ond fe farnodd wrth y distaw- rwydd taw dynes oedd, a'i bod yn 'swil yn ei bresenoldeb ef. Neu hwyrach taw ofn oedd arni i fyn'd yn ei blaen, oherwydd y tywyllwch a'r unigedd. Nid cynt y daeth hyny i'w feddwl nag y d'wedodd: Daw fi i dy sendo di i'r hewl fawr, os wyt ti nerfos." A chychwynodd. Cychwynodd y llall gam neu ddau ar ei ol. Clebrai'r Cyrnol o hyd, ond yn ddigefnogaeth hollol o ran dim a dd'wedai'r llall wrtho. Ar ol cyraedd i enau'r heol gul ac i ymyl y brif-ffordd, taniodd y Cyrnol fatsen ar ei drowser; a chyn gole'r tamed sigar oedd ganddo rhwng ei ddanedd, daliodd y fatsen yn wyneb ei gydymaith, er mwyn ei adnabod. Mae'n debyg iddo lwyddo, oblegid taflodd y fatsen i lawr heb danio'i sigar, ac aeth yn ei ol fel pe bai wedi gwei'd ysbryd. Nid oedd wedi myn'd haner dwsin o gamrau nag y gollyngwyd yr oernad mwya' torcalonus ar ei ol; a dyna ddatguddiodd y gyfrinach i eraill taw a mul bach y Felin yr oedd y Cyrnol wedi bod yn cownsela ar hyd yr amser. Yr oedd Ned yn cael ei adael tua'r nos fynycha' i grwydro dios yr hewl gul, a llywethair am ei draed. Pan oedd y Cyrnol ac yntau yn ceisio deall eu gilydd, daeth crwt y Felin, yn ol ei arfer, i chwilio am dano er mwyn ei gau i fewn dros y nos. A dyna sut y daeth y 'stori i'r Llofft Fach. Eglwyswr selog oedd Cyrnol Pari, a dar- llenai'r llithiau amled a pheidio yn eglwys y plwy' gerllaw. Yr oedd yn well darllenwr na'r 'ffeirad, a buasai'n g'wilydd iddo beidio. Clywais y bobl yma yn dweyd ragor o weithiau nag a allaf gyfri' na fu salach darllenwr na'r 'ffeirad hwnw mewn pwlpud erioed. Bid siwr, yr unig gyfle a gaent i'w glywed oedd mewn angladdau; ond gwaetha' i gyd oedd hyny. Oblegid os clylasai fod yn gwybod un wers yn well na'i gilydd, y wers gladdu oedd hono. Ond ei darnio'n arswydus a wnai, yn ol pob hanes. Llithrai dros rai o'r adnodau fel pe bai pytaten dwym' yn chware' rhwng ei ddwyfoch, ac yr oedd yn boenus ei glywed yn ymgodymu a "gogoniant" y cyrff wybrenol. Mi wn am rai yn dilyn angladdau i'r hen eglwys o bwrpas i wrando'r 'ffeirad y'myn'd dros y wers. As os oedd hono'n cael ei thrin mor druenus ganddo, beth am y lleill ? Mi dybiaf ei fod yn falch o'i galon i gael gan y Cyrnol i'w helpu ambell waith ac yr oedd y Cyrnol falched ag yntau, am reswm gwahanol. Preswyliai mewn palasdy henafol yn ymyl y pentre' isa'; a d'wedai pobl a gymerent arnynt fod yn awdurdod ar bethau o'r fath nad oedd cystal arno yn y ty ac allan o hono. Nid oes un cwestiwn nad ychydig iawn o amser a dreuliai'r Cyrnol yn ei dy ei hun, oblegid yr oedd i'w wel'd ar hyd y lie bron beunydd beunos, sut bynag fyddai'r tywydd. Gwyddai pawb taw hen faeden oedd ei wraig, a dyfalai llawer ei bod yn dipyn o "shrew" gartre'. Prin y gallech ddisgwyl i'r merched oedd yno'n gweini ddal eu tafodau pan gaent siawns i siarad. Deuai dwy o honynt i Tan- llofft yn awr ac yn y man at Dinah ac er na hoffwn ddweyd fod Dinah yn tynu ar y merched, yr wyf yn eitha' siwr ei bod yn gwybod cym- aint am ddiffeithdra gwraig y palas ag odid i neb oedd yn byw y tu allan iddo. Ond gwyddai pawb eraill ddigon i ddangos eu teimad tuag at y naill a'r llall. Mawr yr helynt a wneid i beri i'r hen wr bonheddig ddeall taw 'fe oedd y "dyn," ac nid ei wraig; ac elai rhai allan o'u ffordd i godi eu trwynau ar my lady pan basient hi ar yr heol. Nid am ei bod hi yn hidio am hyny, oblegid codai ei thrwyn yn uwch na neb o honynt, ac yn ddibartiol ar bawb. Ond mae yn help i ddangos beth oedd barn y wlad am dani. Yr oedd hi ganwaith mwy selog dros yr Eglwys na'r Cyrnol. Gwelais ef yn y Llofft Fach droion pan fyddai commiti yn eis- tedd ar faterion y plwy'. Fel y byddai weithiau yn lie yn yr ysgol ar bwys yr Eglwys. Rhaid i mi ddweyd fod y 'ffeirad hwnw yn ddyn od o rydd-braidd ormod felly i siwtio gwraig y Cyrnol a rhai tebyg iddi. A rhyngoch chwi a minau-mae nhw wedi myn'd i'r byd mawr bob un er's blynyddau-mi welais yr hen sgweier mewn mwy nag un o gyrddau'r Diwygiad, ac yn edrych can wyllted a gafr ar daranau. Ond synwn i ddim na chymerasai hi ei llusgo gerfydd ei gwallt cyn gosod lied ei throed mewn lie o'r fath. Bob tro y pasiai heibio, p'run bynag ai ar ei.thraed ai yn ei cherbyd y byddai, gofalai droi ei phen i'r ochr arall rhag i'w llygaid ddisgyn ar y coed a'r cerig hyn. 0, ni fu ei phenach erioed y ffordd yma mewn culni a chrebachdod. Gwaetha'r modd i'r ardal, ganddi hi oedd yr arian; nid wyf yn meddwl fod ganddo ef ryw lawer fwy na chithe. Ac fe darodd yn ei phen ryw dro i godi eglwys ar ei chost ei hun yn yr ymyl: chwi ellwch ei gwel'd heb chw'su drwy'r ffenest' isa'. 'Doedd dim o'i heisiau'r pryd hwnw, ac y mae llai o'i heisiau heddy'; ond fe aeth nifer o gynffonwyr iddi o'r gwahanol gapeli, ac aeth dau neu dri oddiyma. Yn awr, rhag i chwi feddwl taw 'stori'r Cyrnol a'i wraig yn unig sydd genyf, mi dd'wedaf ychydig am y gwas. Heb gyfri' gwraig Sam Wmffras a'r plant, chwi gofiwch imi son am ddau allan o dri arall a roisant eu hunain yr un noson yn y Llofft Fach, pan oedd llanw'r Diwygiad 'beitu cyraedd ei bwynt ucha'. Sam ei hun a gwr y Ddoldir oedd y ddau. Y trydydd oedd gwas Cyrnol Pari; ac ni dd'wedais air am hwnw byth wed'yn. Mi ddylaswn fod wedi dweyd yr hyn oedd genyf i'w ddweyd am dano yn union y pryd hyny, pan oeddwn yn son am y lleill, ac nid troi'n ol fel hyn mor ddisens a diseremoni. Yr wyf wedi bod yn ceisio cyfle i ddweyd gair am danaf fy hun er's meityn, ac wedi methu. Dyma gyfle'n awr. Mae'n siwr ei bod yn bryd i mi dewi bellach, a phlygu fy mhen heb ragor o siarad i'r dynged sydd yn prysur daflu ei chysgod arnaf. 'Does dim posib' ei hosgoi. Mae hyd yn nod Dinah yn gorfod cydnabod hyny erbyn hyn waethaf yn ei danedd. Waethaf yn ei stwmps ddylaswn ddweyd, oblegid 'does gan Dinah yr un dant yn ei phen. Ac y mae Jonah yn bwyta'i ewinedd bob tro y try y cwestiwn i fyny Beth i wneud a'r Llofft Fach ? Ond yr hyn sy'n tori fy nghalon yw, fy mod yn cael barn angau" ynof fy hun er's cetyn. Onid wyf wedi dal fy hun ragor na siwrne yn d'weyd yr un pethau, fel ambell i hen glebryn pedwar ugain sydd a'i dafod yn rhedeg yn gynt na'i go', ac yn anibynol arno y rhan fwyaf o'i amser ? Gwir imi ddweyd ar y dechre' nad oeddwn yn addo bod yn drefnus iawn ond pell oeddwn o feddwl y buaswn mor ddilun ag wyf wedi bod. Mae'r peth wedi fy ngwneud yn felancoli'r tu hwnt. Bethawnaf? Mi garwn son eto am bethau a phersonau nad wyf wedi son am danynt ond yn gynil iawn; ac mi garwn son am eraill nad wyf wedi son am danynt o gwbl. Os oes rhywun yn deilwng o le yn fy Ewyllys, mae gwas Cyrnol Pari yn siwr o fod. Wel-a-hai ynte cwrs arall lweth. Ac erbyn y daw hono i ben, mi wna lw na fydd eisiau galw'r helgwn yn ol. Deuant adre' o honynt eu hunain yn llipa eu gwala. Dwy flynedd y bu Meredydd Pywet y'ngwas- anaeth y Cyrnol cyn iddo dd'od at grefydd. Hwsmona y byddai fwya,' a dreifio ei feistr a'i feistres i'r dre' pan fyddai taro. Ni wyddai neb ddim o'i hanes pan ddaeth yno, a 'doedd neb damed callach wedi iddo fod yno rai blynyddau, Yr oedd hyny yn ei dynu i lawr i rywle y'nghyfri' pobl y wlad, ac yn ei wneud yn ddigownt hynod y'mysg ei gyd-wasanaethwyr yn Gelli Arian. Oblegid dyna oedd enw palas y Cyrnol. 'Does dim ag y mae gwladwyr yn ei gasau yn fwy na bod dyn yn ddistaw ar bwnc ei fywyd. Os ydych yn cofio, dyna oedd pechod mawr Wil Denis, priod ieuenctid Dinah. Ond yr oedd meistr Meredydd Pywel yn siwr o fod yn credu ynddo. Gosodai bobpeth dan ei law o'r tu fa's, ac yr oeddynt yn debycach i ddau gydradd ar y ffordd nag i feistr a gwas. Ond 'doedd fawr o gariad yn cael ei golli rhwng y gwas a'i feistres. Pa'm, yr oedd yn anodd d'weyd. Yr oedd hi fel pe bai wedi cymeryd yn ei erbyn cyn pen dau ddiwrnod wedi iddo 0 fyn'd yno. Dipyn yn afresymol yr ymddangosai hyny i eraill oedd yn gwel'd; ond pan gofiwch fod cariad a chas rhai pobl yn cael eu geni yn eu maint mewn llai o amser na deuddydd, nid yw gymaint i synu ato. Ac yr oedd Mrs. Part o ran ei thymer 'yn ryw hafdy o'r fath, lie y saethai'r hadau i fyny yn gyflym anghyffredin. Hwyrach i resymau gael eu lie wed'yn, er y buasai'n anodd i neb eu henwi. Ond ar ol ilr glwyd gael ei hagor, 'doedd dim dal beth elai i fewn. Un peth a'i chythruddai'n anghyffredin oedd, na th'wllai'r hwsmon byth mo ddrws yr eglwys. Nid am ei fod yn ddibris o bethau crefyddol, oblegid yr oedd yma lawer nos Sul; ac nid am ei fod yn dewis taflu un math o sarhad ar ei feistr a'i feistres. Ond ae o ddim- Ac yr oedd hyny yn danwydd ar gasineb ei feistres tuag ato. Wedi iddi ddeall ei fod yn