Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd.- Mr. J.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd.- Mr. J. Lloyd Morgan, Gorllewin Caerfyrddin. MAE'N anodd gwybod pa un yw yr anrhyd- edd mwyaf, ai sicrhau ymddiriedaeth etholaeth gref, liosog, yn yr hon y ceir cydgyfarfyddiad o amrywiaeth bywyd prysur heddyw, neu ynte sicrhau ymddiried etholaeth sydd yn meddu hanes gloew yn y gorphenol- mewn geiriau eraill, ai cynrychioli pobl sydd yn arwain yn y dyddiau hyn, neu gynrychioli pobl y bu eu hynafiaid yn arwain mewn dyddiau sydd wedi myn'd heibio. Gellid dywedyd llawer o blaid uwchafiaeth y naill neu'r llall, a'r peth tebycaf yw mai gadael y pwnc yn agored fyddai raid faint bynag a drinid arno. Sut bynnag, medd Mr. J. Lloyd Morgan yr anrhydedd o ennill ymddiriedaeth a rhoddi llais i ddyheu- adau preswylwyr Rhanbarth Wedi Arfer Rhoddi Arweiniad i'r gweddill o Gymru drwy y cenedlaethau. Myn pobl Sir Gaerfyrddin mai oddiyno y cafodd Cymru doraeth ei dynion mawr, yn wleidyddol, Henyddol, a chrefyddol drwy y cenedlaethau. Nid awn i drin y pwnc hwnnw ychwaith, prin y byddai pawb o'n darllenwyr yn unfarn arno gan nad pa faint a drinid arno. Ond fe gydnabyddir yn gyffredinol fod Cymru grefyddol yn arbenig yn ddyledus i'r sir a roes iddi Stephen Hughes, o Feidrim Griffith Jones, Llanddowror Charles o'r Bala; Peter Williams yr Esboniwr Williams, Pantycelyn a llu mawr eraill a allesid enwi. Ac y mae y sir wedi bod hefyd yn fagwrfan to ar ol to o lenorion a roisant eu hamser a'u llafur i oleuo a diwyllio meddyliau eu cydwladwyr. Ond fe ddichon wedi'r cwbl mai croniclau gwleidyddol sir Gaerfyrddin sydd fwyaf dydd- orol. Yr hyn fu Eryri yn y Gogledd, dyna fu Gwlad Myrddin yn y De. Bu coedwigoedd y Cantref Mawr a'r Cantref Bychan yn noddfeydd annibyniaeth Gymreig yn y dyddiau gynt hafal bron i gymoedd ac ogofeydd y Wyddfa. A pha Gymro nad yw ei waed yn cynhesu wrth gofio am y Tywysog Rhys a'i ymdrechion arwrol i gadw Cymru rhag y gorlanw Sacsonaidd. Mewn cyfnodau diweddarach bu Ysbryd Diwygiad yn amlygu ei hun mewn eonder a grym mawr o fewn terfynau y sir hon. Onid o fewn terfynau hon y cododd David Rees, a John Williams, a Michael Jones, a John Thomas, faner rhyddid ac lawnder y werin ? Ac onid yma yr aeth -Rebecca a'i llancesau allan wrth oleu'r lloer tua chanol y ganrif o'r blaen i frwydro a gormes y tollbyrth ? Brwydr erwin fu honno, ac er nas gellir cymeradwyo y ffurf a gymerodd yr ym- Qorriad y mae'n eglur fod y cwynion a krwein 10 d iddo bron yn amhosibl i gnawd eu dal. Y prawf cryfaf o iawnder yr achos yr ymladdai ebecca drosto yw, na cheisiwyd gosod i fynu rachefn odid un o'r tollbyrth a dynnodd hi i awr- Ond yn gymharol ddiweddar, er hynny, yr ennillodd Rhyddfrydiaeth feddiant o barthau gwledig tir Myrddin. Mor ddiweddar ag 1880, pan oedd yr holl sir yn un etholaeth gyda dau aelod, ni feddai y Rhyddfrydwyr ddigon o ffydd i ddwyn dim ond un ymgeisydd i'r maes. Mr. W. R. Powell-" yswain bach Maesgwyn," fel y gelwid ef o anwyldeb tuag ato, oedd hwnnw. Dychwelwyd ef ar uchaf y pol, a chafodd gannoedd lawer 0 bleidleisiau yn fwy na'r agosaf ato o'r ddau Geidwadwr. Pan ranwyd y sir yn ddwy etholaeth yn 1884 dewisodd Mr. Powell sefyll dros y rhan orllewinol, yn yr hon y pres- wyliai. Penderfynodd Arglwydd Emlyn, ei Mr. J. LLOYD MORGAN, A.S. gydaelod o'r blaen, ar yr unrhyw ran, ac yr oedd y frwydr rhyngddynt yn frwydr y cewri. Ond yswain Maesgwyn" a gariodd y dydd. Yr oedd ei wrthwynebydd dros un-cant-ar-bymtheg ar ol. Parhaodd Mr. Powell i gynrychioli yr etholaeth hyd ei farwolaeth yn 1889. Dewisodd y blaid Ryddfrydol y gwr ieuanc, Mr. J. Lloyd Morgan, i gario ei baner, a rhoddodd yr ethol- aeth ei chymeradwyaeth i'r dewisiad drwy ei ethol gyda mwyafrif o fwy na dau-gant-ar- bymtheg. Y mae wedi parhau i lanw y sedd yn ddifwlch am ddwy-flynedd-ar-bymtheg, ac ym mron bob etholiad wedi cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Hannu o Gyff Dtf. Mae y tylwyth yr hanna Mr. Lloyd Morgan o honno yn un o dylwythau parchusaf gwlad Myrddin. Ni chafodd Ymneillduaeth unrhyw deulu a fu yn ffyddlonach iddi ac yn fwy ym- drechgar drosti na Morganiaid y Forge. Ym mhob cenhedlaeth safent fel cedrwydd dros eu hegwyddorion, ac yr oedd eu safle a'u cymeriad yn peri fod eu dylanwad yn fawr dros gylch eang. Ac yr oedd tad yr aelod anrhydeddus, y Parch. Athro William Morgan, o'r Coleg Henadur- iaethol yng Nghaerfyrddin, yn wr o allu ac awdurdod anghyffredin. Ynddo ef ceid cydgrynhoad o oreu y cyff yr hannai o hono. Yr oedd ei uniondeb a'i wybodaeth, a'i fonedd- igeiddrwydd yn hawlio ac yn derbyn cydnabydd- iaeth cylch eang iawn, a chafodd mwy nag un a anturiodd geisio drygu yr achosion a anwylai ef wybod nad gwr i gellwair ag ef ydoedd. Yn yr awyrgylch a'r cysylltiadau ffafriol hyn y meithrin- wyd yr aelod anrhydeddus dros orllewinbarth Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ef ym mhen tref y sir yn 1861. Addysgwyd ef yng Ngholeg Tattenhall, ac yn Trinity Hall, Caergrawnt, lie y graddiodd yn y flwyddyn [882. Penderfyn- odd fod yn fargyfreithiwr, a'r flwyddyn ddilynol cafodd ei alw yn y Deml Fewnol. Ymun- odd a chylchdaith Deheudir Cymru, ac y mae galw mawr am ei wasanaeth yn y brawdlysoedd. Yn ei Gysylltiadau Seneddol y mae Mr. Lloyd Morgan yn rhoddi boddlon- rwydd i'r etholwyr Ymneillduol a Rhyddfrydol a gynrychiola, ac yn ffyddlon i draddoddiadau ei dadau. Nid yw ei lais i'w glywed yn Nhy y Cyffredin mor fynych a'r eiddo rhai o'i gyd- aelodau Cymreig, ac nid bob amser y mae ef a hwythau yn gweled lygad yn llygad. Yr oedd yn un o'r ddau neu dri a safasant yn erbyn cynllun y cadymgyrch Cymreig i wrthwynebu y Ddeddf Addysg, a bernir mai ei ddylanwad ef yn benaf a barodd i Sir Gaerfyrddin oedi cyhyd heb gydweithredu a siroedd eraill Cymru. Yr oedd gwahaniaeth barn, fodd bynnag, nid ynghylch dyledswydd Cymru i amddiffyn ei hymneillduaeth a'i rhyddid, ond ynghylch y moddion priodol a thebyg o fod yn effeithiol. Ond os y gwahaniaetha fel hyn ar gynlluniau gweithredol weithiau, nis gellir dweyd am dano ei fod yn llai cadarn dros e^wyddorion y blaid Ryddfrydol, nac yn llai o Ymneillduwr na'r gweddill o'i gyd-aelodau. Yn ei ddull tawel, gwerinaidd, y mae wedi Ennill Calon ei Etholwyr, ac ym mhob cynulliad gwledig ynglyn a gofyn- ion y ffermwyr nid oes yr un gwr a gaiff well gwrandawiad nag efe. Gan mai rhanbarth amaethyddol yn benaf a gynrychiola y mae yn ei elfen pan yn ymgomio a'r ffermwyr gwledig ar faterion amaethyddol, ac ystyrir ef yn farnwr craff ar bob dosbarth o anifeiliaid a'r modd goreu i drin tiroedd bras glanau'r Towy, ac y mae ei elfen amaethyddol i raddau pell yn gyfrifol am ei neillduedd o gyfarfodydd cy- hoeddus Cymry Llundain.