Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1906. Ebrill 22. Cyfarfodydd Cenhadol yn Little Alie Street. 22, 23. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Poplar- Parch. H. Hughes. 25. Charing Cross Road. Cyfarfod Cystadleuol. 26. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol Wilton Square Mai 2. Cyngherdd Mawreddog Eglwys Beauchamp Road, Clapham Junction. 3. Cyfarfod Cystadleuol yn Jewin Newydd. J. Ealing. Cwrdd Te a Chyngherdd Blynyddol yn y Town Hall. 5, 6 7 Cyfarfodydd Pregethu Blynyddol Little Alie Street. 6. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Barrett's Grove. 10. Te a Chyngherdd Blynyddol Little Alie Street, Aldgate. 10. Cyfarfod Te a Cyngherdd y Merched Ieuainc, Eglwys St. Padarn. 13, 14. Cyfarfod Pregethu Gothic Hall. Parch. Richard Jones, B.A., Bwlchgwyn. 13, 14. Cyfarfod Pregethu Blynyddol East Ham. Meh. 27-29. Bazaar Capel Stratford. Os am wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis gellwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhesymol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur i bob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference. Gweler y telerau ar tudalen 11.
[No title]
News
Cite
Share
Mr. Assheton Smith, the squire of Vaynol, has made an important concession to his farming tenants. In future they will be allowed to kill all the rabbits on their land, all the usual restrictions imposed by landlords having been removed.
Advertising
Advertising
Cite
Share
GEORGE WITHERS AND SONS, Est. by NORRIS AND BARNES 1765, experts, Makers Repairers, Importers of musical Strings. All Instruments and Bows repaired on the Premises. We have a very large collection of ancient Italian, French, German, and English Instruments. Price Lists free on application. 22, LEICESTER SQUARE MANUFACTORY: Hunt's Court. Charing Cross Road, LONDON.
PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddington Green- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B. A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11. o a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Supply Shirland Road. 6.30, Parch. J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.30, Parch. W. H. Davies, Pont- saeson. 6.30, P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Parch. D. Oliver. 6.30, G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45. Parch. W. W. Lewis, Caer- fyrddin. 6.3c, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, D. Oliver. Shirland Road 10.45. Parch. J. E. Davies, M.A. Holloway 10.30, Parch. T. Roderick, Llanbedr. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, Mr. E. Edwards, B.A. 6.30, Parch. F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, Parch. D. Williams, Llanwnda. 6.30, J. Wilson Roberts. Clapham Juntion 11.0, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, W. W. Lewis, Caer- fyrddin. Walham Green 10.30, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, Ceitho Davies, Aber- carn, Willesden Green 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, D. Williams, Llanwnda. Lewisham 11.0, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.30, Mr. E. Edwards, B.A. Tottenham 11.0, Parch P. H. Griffiths. 6.30, W H. Davies, Pont- saeson. Walthamstow 11.0, Parch. Ceitho Davies, Aber- carn. 6.30, LI. Edwards, M.A, Wood Green 11.0, Parch. R. O. Williams. 6.30, T Roderick, Llanbedr. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross— 11.0, Parch. D. C. Jones. —- 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. H. Elvet Lewis. 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- ii.o, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- ii.o a 6.50, Mr. D. T. Jenkins. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Parch. Ll. Bowyer. Battersea Rise- 11.0 a 6.30, Mr. Edward Owen, Eglwysbach. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0, Parch. J. W. Davies, India. 6.30, E. Edmunds, Abertawe. Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham- 11.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. J. H. Edwards. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Mr. J. H. Edwards. 6.30, Parch. T. Jones. Poplar, Duff Street- 3.30 a 6.30, Parch. H. Hughes, Ystalyfera.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Before giving your orders for CATERING Send for my Estimates, as I make a Speciality of Teas, Socials, Beanfeasts, ninriAfc and Church or Winners, SCHOOL Socials. I Qhannnn REFRESHMENT j. ^adunun, contractor, Maidenhead Court, Aldersgate St., E.C.
CYSTRAWEN Y GYMRAEG.
News
Cite
Share
ddywedyd Llan Daniel, a'u pregethwyr i son am Dy Duw. Fe dybir gan y rhan fwyaf o ohebwyr Mr. Owen mai Cymraeg y Canol Oesoedd ydyw'r gydsain feddal, ac mai Cymraeg di- weddar yn unig yw'r galed. Er engraifft, tybia fy nghyfaill yr Athro Anwyl fod angen profi bod y gydsain galed yn ddigon hen i fod yn safonol; a dyfynna tad Dafydd a mam Gwenlliant o ramadeg Dr. Davies, a gyhoeddwyd yn 1621, i ddangos ei bod ar arfer y pryd hynny. Digon gwir, ond dengys ei ymresymiad ei fod heb sylwi ei bod ar arfer beth bynnag dri chan mlynedd cyn hynny: dyma bedair enghraifft o Fabinogion y Llyfr Gwyn- hoedl Pwyll (col. 37), ansawdd Pwyll (34), merch Gwyn, gwraig Pryderi (71). Dengys hyn fod tad Dafydd a mam Gwenlliant yn hollol unol a rheol y canol oesoedd. Fe droes y gydsain yn galed ym mhob ymadrodd cyffredin yn y canol oesoedd, Ile'r oedd y dibynnair yn feddiannol." Felly y mae "tad Deiniol" a "mam Deiniol" yn gywir mewn Cymraeg hen a diweddar; yr un modd hefyd ffordd Deiniol," ond cofier mai ffordd yn perthyn i ddyn o'r enw Deiniol" ydyw ystyr yr ymadrodd hwn; hynny ydyw "Deiniol's Road," fel Deiniol's father" a Deiniol's mother." Pe gofynllid ffordd pwy yw hon ? yr ateb yn ddiau fyddai ffordd Deiniol." Y mae'r ddau air yn yr ymadrodd yn cadw bob un ei ystyr ei hun. Ond yn yr enwau lleoedd a'r termau eraill y mae'r ddau air yn Cyfuno i Ffurfio un Enw. Pan fo'r gair cyntaf yn wrywaidd, fel yn Ty Ddewi," ffurfiant un gair cyfansawdd a gwelir yr un gystrawen mewn hen enwau, hyd yn oed pan fo'r ail air yn ansoddair, megis yn Bryn- ddu" ym Mon a "Mynyddfawr" yn Arfon. Pan fo'r gair yn fenywaidd, y mae'r ail yn ddibynnair disgrifiadol, a'r ddau yn ffurfio un enw fel yn "pont bren neu pontbren." Fel hyn "Lady-day," nid "Lady's day," ydyw Gwyl Fair, a Michaelmas nid Michael's mass ydyw Gwyl Fihangel. Yr un modd Mary- kirk" ydyw Llanfair, nid Mary's church, nid eglwys yn perthyn i Fair, ond eglwys ar enw Mair. Felly hefyd Tref Lundain London Town," nid "London's Town." Nid medd- lannol ydyw'r ail air, ond ansoddeiriol; gan hynny, fe wel y rhai a ddyfynnodd o'r Ysgrythyr, ac fe wnaeth llawer, nad oes a wnelo ymadrodd- ion fel "ffyrdd Dafydd" ddim a'r pwnc; a chan nad oes enwau lleoedd Cymreig yn y Belbl, ef allai na raid dywedyd rhagor ar y ddadl feiblaidd. Lie bynnag y bo'r dibynnair yn feddiannol, y mae'r gydsain i fod yn galed. Carnedd Llywelyn medd rhywun; ie, ond Llywelyn's Cairn ydyw hynny, nid Llywelyn Cairn." Nid wyf yn honni bod y Gymraeg a'r Saesneg ynarfer yr un gystrawen bob amser; er bod "tyDduw" a "bendith Dduw" yn yniadroddion cyfansawdd yn Gymraeg, ni ellir cyfieithu i'r Saesneg heb ffurf feddiannol God's." O'r ochr arall, y mae enwau aber- oedd yn eiriau cyfansawdd yn Saesneg, megis Plymouth ond yn Gymraeg ceir y medd- iannol bob amser ar ol Aber, a dywedir "Aber fel y dywedir ceg dyn," ac am yr un rneswm. Ond er bod yr arferiad yn amrywio fhyw gymaint yn y ddwy iaith, y mae'r gwahan- laeth rhwng y ddwy gystrawen yn amlwg yn yniraeg, yn enwedig mewn Cymraeg diweddar. u ffordd Deiniol" yn gyfieithiad cywir o Deiniol's road," ond Ffordd Ddeiniol sy'n cyfateb i'r enw Deiniol Road." ynd nid ar lafar gwlad yr wyf yn seilio fy adl- Arferiad yr ysgrifenwyr awdurol sy'n penderfynu Cywirdeb Ymadrodd yrci mhob iaith ac yr wyf yn dywedyd mai'r gystrawen a gymeradwyais ydyw'r un a geir ^e\yn ymadroddion cyffelyb gan ein prif awduron nid awduron y canol oesoedd yn unig, ond uron yr holl oesoedd, —y Bardd Cwsg yn a rf r 1 ■^a'-)inogion, Goronwy Owen yn gystal afydd ap Gwilym, Dewi Wyn a Robert ap w ym Ddu yn gystal a Lewis Glyn Gothi a Thudur Aled. Ym mhob gwlad arall y mae'r llenyddiaeth ddiweddar yn sugno maeth o'r hen lenyddiaeth; pa le mae gwlad a'i hysgrifenwyr mor ddiwybod am ei llenyddiaeth a Chymru ? Gwir nad arnynt hwy y mae'r bai; y mae'r iaith wedi ei hesgeuluso'n waradwyddus yn addysg y genedl, ac y maent hwythau'n cael eu maeth o lenyddiaeth Saesneg. Am hynny y mae Cymraeg da'r hen awduron yn o led ddi- eithr iddynt, a phan gyfarfyddant a'i chystraw- ennau ar lafar gwlad galwant hwynt yn llygriadau. Ond y mae dyddiau gwell gerllaw. Pan gilia'r dieithrwch hwn, fe ganfyddant y swyn sy mewn Cymraeg diledryw.