Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
YN ddiweddar daeth Mr. M. T. Morris, Caer- narfon, o hyd i tua 25 o donau cynulleidfaol wedi eu cyfansoddi gan y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn. Drwy ganiatad y teulu trosglwyddodd hwy i ofal Mr. Emlyn Evans, ac yn ol pob rebyg cant eu cyhoeddi cyn bo hir.
Advertising
Advertising
Cite
Share
E. H. JONES, 179, Aldersgate St., E.C., and 41, Stroud Green Road, N. -"b4I For a good Winter Overcoat give me a call before ordering elsewhere, from 3S/- Cheviots. Lounge Suits from d&-O/- Guaranteed for hard wear. Well recommended, and your custom respectfully solicited, Ladies' Costumes from 012 guineas.
EGLWYSI CYMREIG LLUNDAIN A'U…
News
Cite
Share
EGLWYSI CYMREIG LLUNDAIN A'U CYFRIFON. Erbyn adeg y Pasc mae'r rhan liosocaf o'r Eglwysi Cymreig yn y ddinas wedi cael amser i drefnu'r cyfrifon am y flwyddyn flaenorol, a cheir hamdden ar adeg y gwyliau i daflu cipdrem dros y gwahanol adroddiadau" a ddeuant i law. Gan fod yr enwad mwyaf wedi bod yn cynal ei uchel-wyl yn ystod y dyddiau diweddaf yma, y mae'n amserol i daflu golwg ar y ffigyrau sydd o'n blaen er gweled faint o gynydd sydd wedi canlyn y deffroad diweddar fu yn ein mysg. Gwyddom yn dda mai nid yn ol ffigyrau y mae i ni farnu unrhyw gynydd neu leshad crefyddol, ond ar yr un pryd rhydd awgrym lied dda i ni o'r tuallan beth yw gweithgarwch yr aelodau, ac os oes gwaith yn cael ei gyflawni y mae'n sicr y ceir rhan o'r ffrwyth yn yr adrodd- iadau pentymhor yma. Mewn llyfr hylaw yr oedd holl gyfrifon y Methodistiaid wedi eu trefnu gogyfer a'r Gymanfa fore'r Groglith, a dangosant fod yr enwad ar hyn o bryd yn Llundain mewn cyflwr tra llewyrchus. Mae yma:—Eglwysi, 16; canghenau ysgolion, 13; gweinidogion, 14; pregethwyr, 10; blaen- oriaid, 94; aelodau, 4398; a chyfrifir fod y gwrandawyr dros chwe' mil! Yr oedd cyfan- swm y casgliadau am y flwyddyn dros ddeng mil o bunau, sef £2 5s. ice. ar gyfer pob aelod ar gyfartaledd. Yn yr aelodaeth 'roedd cynydd o 159 oddiar y flwyddyn ddiweddaf. Dyma'r eglwysi y bu cynydd ynddynt: Hammersmith, 46 Mile End Road, 30; Charing Cross, 27; Clapham Junction, 27 Shirland Road, 22 Wood Green, 16; Willesden, 14; Walham Green, I I Lewisham, 11 Holloway, 9; a Stratford, 5; a bu lleihad yn Jewin, 27 Falmouth Road, 18 a Wilton Square, 3. Yr eglwys liosocaf yn awr yw Charing Cross Road, gyda 728 o aelodau; a daw Jewin yn agos ati gyda 715; yna ceir Falmouth Road, 443; Shirland Road, 416; Holloway, 322; i lawr at Tottenham gyda'i 38 o ffyddloniaid. Dyma'r tro cyntaf i Jewin gymeryd ail le yn hanes y Cyfundeb yn Llundain, ac mae hyn i'w briodoli yn benaf i gynydd yr achosion newydd- ion a'r atdyniadau mwy ynglyn a'r lleoedd canolog. Cyfrifir fod gwerth yr eiddo yn Llundain yn Z97,540, o'r hyn y mae dyled o £37,555 yn aros. Capel Jewin sydd a'r ddyled fwyaf, sef jQ8,820; yna daw Mile End Road, ^6,500; Walham Green, £ 5,740; a Lewisham, Z3,975, ond gydag ychydig ymroad yn ystod y blynydd- oedd nesaf yma disgwylir lleihau y beichiau hyn yn fawr. Yr Anibynwyr. 'Does yr un enwad arall yn cyhoeddi ffigyrau cyffredinol ond y Methodistiaid. Myn yr Anibynwyr fod yn anibynol, ac er fod rhyw lun o'r hyn a elwir yn Undeb yn bodoli rhyng- ddynt ar achlysuron, y mae trefniant pob eglwys mor gysegredig, ac yn cael ei gadw gyda llawer mwy o sel nag yw'r daliadau a'r egwyddorion ereill. Yr adroddiad llawnaf a welsom ers talm yw eiddo eglwys y Tabernacl, King's Cross. Lleinw rhyw 40 tudalen o ffigyrau man, a phrawf y cyfan fod yma weithgarwch diflino ynglyn a'r gwahanol adranau o'r gwaith. Y gweinidog, fel y gwyddis, yw'r Parch. H. Elvet Lewis, ac oddiar ei ddyfodiad i blith y Cymry y mae wedi codi nifer yr aelodaeth i 786, sef cynydd o 69 oddiar y flwyddyn y llynedd. Dyma'r eglwys Gymreig liosocaf yn Llundain heddyw, ac yn nesaf ati daw Charing Cross Road gyda 728. Dengys y cyfrifon arianol fod y casgliadau at y weinidogaeth yn £676, tra mae'r holl gasgliadau tuag at y capel a'r cyn- deithasau ynglyn ag ef yn ZI, 2 20. Yn ychwan- egol at hyn ceir adroddiad llawn o gasgliad arbenig a wnaed at leihau dyled y capel, yr hyn a symia i fyny i Zi,629, ond erys eto yn agos i bedair mil o ddyled ar yr adeilad wedi'r ad- gyweirio diweddar, a'r organ newydd yn y lie. Rhifa eglwys anibynol y Boro' 329 o aelodau, ac y mae haelioni a gweithgarwch yn nodwedd- ion amlwg yn yr eglwys hon. Rhoddasant dros gan' punt y flwyddyn ddiweddaf at ddi-ddyledu Barrett's Grove, ac 'roedd cyfanswm y casgliadau- ar fin saith cant o bunau. Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd dros £ 113 yn weddill yn llaw'r trysorydd. Nid yw'r eglwysi bychain yn cyhoeddi adrodd. iadau mae'n debyg, a thyna; feallai, sydd i gyfrif am lawer o'u dinodedd. Mewn cylch gwasgarog fel Llundain rhaid wrth weithgarwch a chyhoedd- usrwydd parhaus, ac yn hyn o fater mae'r Methodistiaid yn esiampl bwysig i'r holl enwadau ereill, a dengys eu gwedd gynyddol a llewyrchus heddyw eu bod wedi deall anghenion Cymry Llundain, y rhai a esgeuluswyd mor hir gan yr enwadau ereill yn ogystal a'r Eglwys Sefydledig..
CYSTRAWEN Y GYMRAEG.
News
Cite
Share
CYSTRAWEN Y GYMRAEG. Crybwyllasom yn ddiweddar am y ddadl ym Mangor ac yn rhai o newyddiaduron y Gogledd ynghylch cywirdeb yr ymadroddion "Ffordd Deiniol" a Ffordd Ddeiniol." Pe na wnai y ddadl honno ddim mwy na bod yn achlysur i dynnu allan bamphletyn yr Athro John Morris Jones ar gystrawen y ddau ymadrodd a chys- trawen y Gymraeg yn gyfifredinol fe dalai yn dda. Y mae sylwadau yr Athro mor glir a sicr, fel nad oes eisieu i ni wneud unrhyw esgusawd am roddi y dyfyniad a ganlyn ohonynt :—Yn anffodus, ebe'r Athro hyddysg, nid oes genym air yn Gymraeg am genitive case gelwir ef yn "achos meddianol," ond nid yw meddiannu ond un o'i liaws ystyron. Yn drws ty" gellir dywedyd fod y ty yn meddu'r drws ond wrth ramadegu saer maen" ffolineb yw dywedyd fod y maen yn meddu'r saer. Galwer yr ail air,. am y tro, yn ddibynnair, gan ei fod yn dibynnu ar y Hall; a galwer ty yn ddibynnair medd- iannol, a maen" yn ddibynnair disgrifiadol. Y mae gan y dibynnair meddiannol gydsain galed bob amser, megis "drws ty," "coes bwrdd"; ond meddalheir cydsain dibynnair disgrifiadol ar ol enw benywaidd, megis "llwy fwrdd," "gwal gerrig," hynny yw, fe dreiglir y dibynnair disgrifiadol fel ansoddair. Danghosais yn y Geninen, bedair blynedd ar bymtheg yn ol, fod ysgrifenwyr Cymraeg di- weddar yn esgeuluso'r gallu hwn o dioi enw yn ansoddair; tybiant fod yn rhaid i bob dibynnair fod yn feddiannol; tybiant fod "Ysgol Sabothol" yn fwy gramadegoln; "Ysgol Sul"; soniai'r hen Gymry gynt am "fardd teulu" a "gof llys," ond "bardd teuluol" a "gof llysol," ydyw cystrawen ys- grifenwyr yr oes hon, er bod yr hen gystrawen yn fyw ar lafar, ac yn llunio ymadroddion newyddion beunydd fel wagan dren" ac ysgol nos." Mewn hen Gymraeg, fe dreiglid cydsain enw priod pan ddibynnai ar enw benywaidd, megis "llaw Dduw," "llaw Fair," "tref Lun- dain a chedwir y gystrawen hon eto mewn cannoedd o enwau lleoedd, enwau gwyliau, a thermau eraill, megis Llan Faethlu, Llan Fwrog, Bod Feirig, Bod Fair, Caer Gybi, Tre Faldwyn, Carn Fadryn, Afon Gonwy, Sir Fon, Gwyl Fair. Yn wir, fe geir y feddal mewn enwau personol hyd yn oed ar ol gair gwryw- aidd, megis Ty Ddewi, Tyddyn Fadog, Cae Ddafydd, Tyddyn Ronw, Ty Dduw. Fel hyn aeth y gydsain feddal yn rheol mewn enwau lleoedd; a dilys pe cyfrifid pob Llan a Thre a Bod a Thyddyn, fod naw o bob deg o honynt yn dilyn y rheol. Edryched pawb o'i amgylch ar enwau'r plwyfydd a'r ffermydd a'r ffyrdd yn ei ardal ei hun, a chyfaddefed, ai nid dyna y rheol yn enwedig ar ol enw cyffredin benywaidd? Dyma reol yr oesoedd; dyma hen arfer y Cymry ac ni bydd yn rheol farw hyd onid a'r Cymry i
Advertising
Advertising
Cite
Share
D, COOKSEY SON, Inexpensive & Modern Funerals. (Price List on Application). 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department, 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, KING'S CROSS.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
am y datganiad goreu o unrhyw unawd yn cym- eryd lie yn ystod y cyngherdd, a gofaled pawb sydd am gystadlu anfon eu henwau i'r ysgrif- enyddion erbyn yr 28ain p Ebrill. LLWYDDIANT.-Y mae yn dda genym bob amser weled ein cydgenedl yn lhvyddo ac yn neillduol mewn lleoedd uchel yn y Brifddinas, a da oedd genym weled ddarfod i Gynghor Dinas Westminster.wneyd ychwanegiad sylwedd- ol at gyflog un o swyddogion ei Bwrdd Iechyd yr wythnos ddiweddaf, sef Mr. William Williams, a llongyfarchwn ef.—HEN GVFAILL. CHARING CROSS ROAD.- There was a large gathering of young people in the Lecture Hall of the above place on Wednesday evening, April nth, to witness the Temperance Parlia- ment, which was the programme of the evening in connection with the Temperance Society. The Parliament had been splendidly arranged, and, as someone remarked, Had the members of the House of Commons themselves taken part matters could not have been much better or more heated." The Speaker (Dr. Rowlands) kept the House well in order. After the usual questions a vote of censure was moved by the Opposition on the Government for the absence of the promise of temperance legislation in the King's Speech, and from this a very heated discussion followed. Finally, when the division was taken, the majority voted -in favour of the Opposition. The House rose at 10.15 p.m., although some voted for an "all night sitting." CASTLE STREET.-Mae argoelion am eistedd- fod lewyrchus yn y lie hwn nos Sadwrn, 28ain o'r mis yma. Deallwn fod nifer lied dda o gystadleuwyr wedi anfon eu henwau i fewn ar y gwahanol gystadleuaethau, ond ni fydd angen am preliminary test ar yr un o'r darnau, medd yr Ysgrifenydd lleol. YR ARGLWYDD FAER.-Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae'r Arglwydd Faer i dalu ymweliad ag Eglwys Gymraeg St. Benet boreu dydd Sul, 29am o'r mis—Sul wythnos i foru. Bydd yr ymweliad yn ymweliad swyddogol, gyda'r Siryddion ag amryw o aelodau'r Cyngor Dinesig, oil yn eu gwisgoedd rhwysgfawr, a chyda'r urddas teilwng o'r fath ymweliad. Pregethir gan Arglwydd Esgob Bangor yn Saesneg-er mwyn y dieithriaid mae'n debyg- ond bydd yr holl wasanaeth yn Gymraeg.