Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymanfa'r Pasg.

News
Cite
Share

Cymanfa'r Pasg. CYNYDD METHODISTIAETH YN LLUNDAIN. QWERSI'R DIWYQIAD. Uchel-wyl y Cyfundeb Methodistaidd yn Llundain yw Cymanfa'r Pasg. Dyma'r adeg i daflu cipdrem ar waith y flwyddyn flaenorol, ac i dynu gwersi er cyfarwyddo a rhoddi ysbrydiad adnewyddol am flwyddyn arall o lafur yn y Winllan. Eleni yr oedd cryn lawer o ddyfalu beth fyddai neges arbenig y Gymanfa i eglwysi'r ddinas. Yr oedd y brwdfrydedd ynglyn a'r adfywiad megys wedi cilio, a'r arweinwyr wedi cael hamdden i daflu cipdrem ar yr effeithiau. Y llynedd yr oeddem yn nghanol y gwres, a'r holl gyfarfodydd arferol wedi eu gyru o'r neilldu gan gyrddau gweddi'r Diwygiad, a'r oil a ellid wneyd adeg y Gymanfa oedd diolch am ddan- foniad yr Ysbryd a gweddio am ffrwyth addas o'r ymweliad a ni. Erbyn heddyw mae'r sefyllfa wedi newid. Gallodd ein hystadegwyr osod crynhodeb cryno ger bron o'r hyn yw ffrwyth y Diwygiad yn Llundain, mor bell ag y gellir ystadegu dylan- wadau o'r fath, ac mae'n eglur mai nid tywalltiad ofer a gaed. Mae'r cyfrifon a gyhoeddwyd yn profi fod cynydd cyffredinol wedi cymeryd lie yn yr eglwysi, a dengys y cyfraniadau hefyd nad yw'r gras o roddi at achos yr Arglwydd wedi lleihau dim er cymaint y caledi a'r cwyno sydd yn y cylchoedd masnachol y dyddiau hyn. Yr oedd rhestr faith o gewri'r Cyfundeb wedi eu gwahodd o'r wlad i wasanaethu yn yr wyl eleni, ac yn eu plith gellir enwi y Parchn. Thomas Levi, Aberystwyth Evan Jones, Caer- narfon; Rhys Morgan, Llanddewibrefi; W. Prytherch, Abertawy; W. S. Jones, Machynlleth; David Williams, Llanwnda, ac ereill. Gwas- anaethent yn y 16 capel yn ystod y Sadwrn, Sabboth, a nos Lun, a chaed cynulliadau rhagorol yn yr holl odfeuon, pan ystyrid y nifer o ieuenctyd oedd wedi cilio i'r wlad i fwynhau o'r tywydd hyfryd a gaed dros y gwyliau. Rheol arferol yr wyl hon yw agor y gweith- rediadau ar foreu'r Groglith drwy g)nal Seiat Gyffredinol yn nghapel Jewin o dan lywyddiaeth cadeirydd y Cyfarfod Misol. Yn anffodus eleni yr oedd y cadeirydd-y Parch. G. H. Havard-yn y wlad, a bu raid i'r Parch. J. E. Davies, M.A., gymeryd yr awenau i'w law, ac nis gellid wrth wr doethach a mwy cymhwys i'r alwad nag ete. Dywedai Mr. Davies yn ei anerchiad arweiniol ei bod yn gryn demtasiwn iddo siarad llawer, am mai dyma'r ugeinfed Gymanfa iddo weled yn Llundain fel gweinidog. Yr oedd pethau wedi newid llawer oddiar y daeth yma gyntaf, a 'does ond ychydig yn aros o'r rhai a wasanaethent yma yr adeg gyntaf y daeth i'r lie. Er hyn oil yr oedd yn llawen i ni gofio fod Duw y tadau yn aros, ac yn parhau i dywallt Ei fendithion fel cynt. Yr hybarch Thomas Levi, Aberystwyth, oedd i wneyd sylwadau ar ystadegau y Cyfundeb yn Llundain, a galwodd Mr. Davies arno i wneyd hyny. Yn ei sylwadau dywedai Mr. Levi nad oedd wedi cael mantais i astudio y ffigyrau yn iawn oherwydd eu diweddarwch yn d'od i law. Eto, mae taflu trem drostynt yn destyn diolch, ac fe ddylem gofio pan yn gwneyd hyny ar anniversaryr croeshoeliad mai ffrwyth hyny yw'r oil sydd yma. Dylid diolch i'r casglydd hefyd am y ffigyrau yn y llyfr, ac mae'n sicr eu bod wedi costio iddo gymaint o lafur ag mae llyfr chwe' cheiniog wedi ei wneyd i lawer awdwr. Yr oedd Mr. Davies yn son ei fod yma ugain mlynedd yn ol, ac mae hyn yn fy adgoffa inau am y Gymanfa gyntaf y bum yma. Mae 48 mlynedd wedi myn'd oddiar hyny, ac wn i ddim a oes llawer yn aros ag oedd yn y cynulliad hwnw. Ond mae'r cenhadon oedd yn cydwasanaethu a mi oil wedi croesi ers talm, Dr., Parry, Roger Edwards, Edward Morgan, Richard Lumley, ac ereill. Dyna hwy, oil wedi myn'd; ond beth pe bawn i gydmaru yr achos yn awr a'r adeg honno Pedair eglwys oedd y pryd hyny: Jewin Crescent, Nassau, Wilton Square a Cambrian. Mae y rhai hyn hefyd wedi newid, Jewin o Jewin Crescent i Stryd y Wyntyll-beth yw'r Gymraeg am Fann Street ?—Nassau i Charing Cross Road mae Wilton yr un fan o hyd, ond am yr hen Gambrian aeth yn nghyntaf i Crosby Row, ac oddiyno i Falmouth Road, lie yr erys yn awr. 'Doedd ond dau weinidog y pryd hyny-Owen Thomas a John Mills. Ydi mae'r cyfnewidiad wedi bod yn fawr iawn. Ond 'does eisieu myn'd yn 01 48 mlynedd, mae'r cyfnewidiad yn ystod y deng mlynedd diweddaf wedi bod yn fawr. Edrycher ar ffigyrau 1896 a 1906. Eglwysi, 9 yn 1896, yn awr 16; gweinidogion 5, yn awr 14; pregethwyr 7, yn awr 10; blaenoriaid 51, bron wedi dyblu, yn awr 94; cymunwyr 2982, yn awr 4398, sef cynydd yn y deng mlynedd o 1416. "Cwyna'r cyfeillion nad yw'r casgliadau yr hyn a ddylent tod. Yr oedd rhai yn gobeithio y byddai'r Diwygiad wedi effeithio ar ein cyfran- iadau, ac mae'n amlwg, a'u cymeryd gyda'u gilydd, y mae'r cyfraniadau yn dda. 'Does ond tri chyfarfod misol yn Nghymru yn well na Llundain yn nghyfartaledd y cyfraniadau at y weinidogaeth, nac ond tri yn rhagori yn yr holl gyfraniadau ar gyfer pob aelod. Felly, ar y cyfan, y mae stad eich cyfraniadau yn an- rhydeddus. "Mae'n amlwg eich bod wedi cael bendith arbenig yn y Diwygiad. 'Dyw'r chwanegiad yn nifer yr aelodau yn fawr, ond rhaid nodi un peth pwysig iawn, sef fod llawer o'r rhai sydd yn yr eglwysi wedi cael troedigaeth-profasant nad oeddent yn wir grefyddwyr o'r blaen, ac y mae'n fwy anhawdd argyhoeddi un sydd gyda chrefydd na dyn o'r byd. Mae'n amlwg hefyd fod yr ymweliad diweddaf hyn wedi codi level profiad yr eglwys i dir uwch Fel Methodistiaid yr ydym ar hyd y blynyddau wedi cadw level isel iawn o brofiad, ac yn yr hen amser y gwr oedd a mwyaf o ofn arno am gyflwr ei grefydd oedd yr hwn y teimlid ei fod yn gywir, ond yn awr y mae'r cywair wedi newid, a nod llawenydd yw cael lie amlwg, ac os am gael gweithwyr da hefyd, codwch i fyny i dir uwch yn eich eglwysi. 'Roedd y diweddar Evan Harris, o Ferthyr, yn credu mewn cael y bobl i lawenhau bob amser, a thrwy bregethu efengyl o lawenydd iddynt y daeth yn ben casglwr ei oes. Ond er y cynydd i gyd, rwy'n gweled fod yna un golofn yn absenol yn eich adroddiad. 'Does genych chwi ddim colofn ddirwestol. Mae eisieu talu sylw i hyn yn yr eglwysi. Dyma un o bynciau'r dydd, yn fasnachol, yn wleidyddol, a chrefyddol. Mae genym Senedd mwy dirwestol 'nawr nag a gaed erioed mae genym Weinyddiaeth sobr, a dirwest wedi myned i fewn i Gyfrin-Gynghor ein teyrnas; ac mae'r prif gwmniau masnachol yn dechreu gorfodi eu gweithwyr i ymwrthod a phob math o ddiodydd meddwol. Felly, gwelir fod y byd ar ei oreu yn cynyddu mewn sobrwydd, a gofalwn ninau na fyddwn ni'r eglwysi yn esgeuluso ein cenhadaeth, ac yn cael ein gadael ar ol yn hyn o waith." Y pwnc oeddis wedi ei benodi i ymdrin arno yn y Seiat Gyffredinol oedd Owersi y Diwygiad, a'r Parch. Evan Jones, o Gaernarfori, agorodd yr ymdrafodaeth, a dywedai mai'r wers gyntaf oedd fod y Diwygiad wedi d'od. Am 45 mlynedd buom yn disgwyl am dano oddiar adeg '59. Yr oeddem wedi myn'd i gredu na ddoi o byth, ac 'roedd rhai prophwydi wedi myn'd i ddweyd mai nid trwy'r pwlpud y cawsid e' tro nesaf ond trwy'r wasg. 'Roedd y pwlpud i fyn'd lawr, a'r wasg i dd'od lan. 'Rwy'n pressman fy hun, ac ni ddymunwn ddweyd dim yn ddiraddiol am y wasg-ond mae'r Diwygiad wedi d'od, a chyng- horwn y rhai sydd yn hoffi prophwydo iddynt beidio prophwydo rhagllaw os na fyddant yn gwybod. Fe ddaeth hefyd o le rhyfedd iawn. Ond o leoedd rhyfedd y daeth pob Diwygiad, ac o le dinod yn y De y daeth hwn. Mae hen benill yn dweyd- Tyred y deheuwynt nefol- ac 'roeddwn wedi myn'd i gredu unwaith na ddeuai'r Diwygiad byth o'r Gogledd. O'r De y daeth pob un ag eithrio Diwygiad Beddgelert, ac er mai Gogleddwr wyf mae'n well gen' i'r deheu^nt fel rheol. Ond peidiwn diystyru un rhan o'r byd yma, waeth ni wyddom beth sydd gan Dduw i dd'od o hono. Nid yn unig daeth yn groes i'r pr6phwydi, ond daeth yn groes i'r rhai sy'n credu mewn Datblygiad hefyd. Mynai rhai mai Datblygiad yw pob peth yn y byd yma-mae yma ddat- blygiad, ond y mae Duw yma hefyd. A phan ddaeth fe ddatguddiodd fod nerthoedd y byd a ddaw yn ddigon i gyfarfod a'r holl amgylchiadau, ac fod yn rbaid i bob trefniant arall roddi ffordd iddo. Cawsom ni wel'd hyny yng Nghaernarfon acw. Mae genym ni'r Pafilion, yr adeilad mwyaf yn y Gogledd, ac 'roedd Prif Weinidog a Cabinet Minister i dd'od i siarad yno, ond pan glywsant fod y Diwygiad wedi d'od 'doedd dim use Do, fe wnaeth bethau rhyfedd, ac 'roeddem ni'r pregethwyr wedi myn'd yn ddigon baclz i fod yn wrandawyr tawel. Daeth a thystiolaethau rhyfedd hefyd, a gweddiau hynod, a llawer i berl o gymeriad fu'n gorwedd yn dawel yn llwch dinodedd a distaw- rwydd yn yr eglwys a godwyd i'r goleu drwy'r Diwygiad hwn. Peth arall hefyd dangosodd mai yn y lleoedd lie 'roedd y parotoi ddyfalaf y caed y fendith fwyaf. Gorlifodd ein tir fel y gorlifa afon y Nile dir yr Aipht, a phan dreia'r dyfroedd yno gwelir mai'r ffermwyr sydd wedi bod yn trin y tir oreu cyn y llanw yw'r rhai a feddant y cyn- hauaf goreu. Felly boed i ni ofalu am driniaeth briodol o'r plant, yr Ysgol Sul, a'r gyfeillach, er medi o gynhauaf pob tywalltiad ysbrydol a ddaw. Parch. W. Prytherch, Abertawe. 'Doedd e' ddim yn deall y Diwygiad ar v dechreu, ond fe'i gorchfygwyd cyn hir. Y prif wersi iddo ef ynddo oedd mai (I) Yr un yw trefn Iesu i gadw pawb, a (2) Dangos symledd yr efengyl i gyfarfod a phob pechadur. Nid yw'r gallu yma wedi d'od i aros. Mae'n amheus i mi a'i doeth fai ei gael o hyd. Mae oeri i fod yn y cyrddau Diwygiadol, ond gadewch i ni er hyny weddio ar Dduw am i ni gael oeri a shap gwaith arno ni. Parch. William Lewis, Cwmparc. Dysga'r Diwygiad ni fod yr Arglwydd yn defnyddio moddion syml iawn i wneyd ei waith mawr. Mae Duw wedi myn'd i leoedd anhynod bob amser i gael ei genhadon—i'r mynydd-dir at Dafydd, y bachgen bochgoch— i Nazareth, cartref yr Iesu. 'Roedd eisieu Diwygiad ar Gymru, ac mae wedi d'od. Ond ni ddaeth o'r lleoedd 'roe'm ni yn disgwyl. Nid trwy'r colegau na 'chan raddedigion, ac mae'n hynod mai gwr graddedig oedd y cyntaf i ddi- raddio'r Diwygiwr. Mae'r Diwygiad wedi gwneyd i ffwrdd a llawer o bethau oeddent wedi cael lie Duw genym-yn yr addoliad y trefniadau wedi eu dyrysu, a'r defodau wedi gorfod cilio o'r golwg, a Duw megis wedi mynu assertio ei rights. Parch. W. S. Jones, Machynlleth. Soniai'r Hen Lyfr na wyddent amser Ei ddyfod- iad, ond yn awr y mae wedi d'od. Yr oedd ef ar daith yn yr India pan glywodd gyntaf am y deffroad, a'r syndod iddo ef oedd y sylw a delid i'r hanes yn holl bapurau y byd ar unwaith. Drwy hyn gwelai mai un o wersi pwysicaf y Diwygiad oedd-Fod gan genedl y Cymry, yn y mater o grefydd, genhadaeth arbenig at y byd. Credai fod Duw megis wedi ymddangos iddi gan ddywedyd, "Ynot ti y bendithiaf holl dylwythau'r ddaear." Mae Duw wedi ethol cyfryngau bychain cyn hyn i gario ei genhad- aeth, ac mae am i ni ddysgu'r wers fod modd i ni estyn y Gair i bob cwr o'r ddaear. Peidied neb a meddwl mai arwynebiad daear a llios- owgrwydd golud sydd i fod yn allu yn y byd. Bu Groeg, er mor fach, yn ddigon i osod ei nod ar athrawiaeth a chelf, ac onid Canaan roddodd i ni grefydd, felly boed i ninnau ddysgu'r wers. Parch. Dafydd Williams, Llanwnda. Dysga'r Diwygiad i ni, fel Barnabas gynt, i weled gras Duw yn y gwaith. Nid ofer fu'r llafur gyda'r plant, yr Ysgol Sul, a'r pregethu. Cloddio ffosydd wnaeth Jehosaphat ar y sychdir,