Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

,-Y LLOFFT FACH.

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH. [Can y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XVIII. Y Llofft Faclz" yn dilyn Hanes vr Henblas. Yr oedd Mr. Aaron wedi myn'd dros haner y llyfr, pan y daeth i'r Henblas un diwedydd, ac y cafodd Daniel Gruffydd yn ei wely, heb godi o hono'r diwrnod hwnw. Ac ni ddaeth o hono wed'yn nes y cariwyd ef gan bedwar i'w ddodi ar yr elor. Nid oedd y gweinidog wedi ei wel'd oddiar yr wythnos o'r blaen, am ei fod wedi bod oddicartre'; ac aeth ids drosto pan ddaeth Lydia i agor y drws iddo, ac y gwelodd ei le yn wag gyferbyn. Camodd yn gynil dros y trothwy, a chauodd Lydia'r drws. Methodd yr U:1 o'r ddau ddweyd gair am enyd, y naill gan bryder, a'r llall gan dristwch. Pan geisiai Mr. Aaron siarad, rhedai lwmp o rywle i'w wddf yn union, a mygai'r swn yn ei enedigaeth. Ar ol ceisio ddwywaith neu dair, a methu bob tro, rnoddodd i fyny. Yr oedd llygaid Lydia yn gochion gan anhunedd a dagrau nid oedd cwsg wedi bod yn agos i'w hamrantau er's nosweith- iau. Yr oedd ei thrwyn yn feinach nag erioed oherwydd y treulio parhaus oedd arno i'w sychu, a'i wneud i ymddangos yn barchus y'mysg ei gydnabod. Eisteddodd i lawr, cuddiodd ei gwyneb yn ei ffedog, ac ymollyngodd iddi fel pe bai holl argaeau ei natur wedi tori. Daeth dipyn yn well wed'yn. Clywai Mr. Aaron drwynau'r merched yn y rwm nesa' yn rhedeg am y cyntaf, a themtid ef am funud i wenu. Ond digwyddodd Daniel besychu uwch ei ben, ac achubwyd ef rhag hunan-laddiad. Mae ganddo lygad cyflym iawn i wel'd yr ochr chwithig 1 bethau, ac mi a'i clywais yn dweyd droion fod hyny wedi bod yn ormod o brofed- igaeth iddo rai gweithiau. Oblegid 'doedd dim dal yn y byd nad mewn oedfa neu angladd y byddai hyny yn digwydd a gorfodid ef i ys- griwio ei wefusau, a gwneud pwer o rigmarol oddiallan i guddio'r terfysg oddifewn, megis carthu ei wddf, pesychu, agor ei gadach poced, a chw'thu ei drwyn. Nes iddo gael gafael ar ei gydbwysedd lweth. Wedi cael gwared o'r lwmp, anturiodd ofyn Ydi Daniel yn wa'th heddy'?" Ac ebe Lydia yn doredig 'Dydi o ddim yn teimlo i godi, a 'dydi o ddim yn cyfadde 'i fod o'n wa'th. Wn i ddim sut mae o. Pan gwnes I 'beitu saith, mi all'swn feddwl 'i fod o'n cysgu, a ddwedes I ddim wrtho rhag 'i ddistyrbo. Ond pan o'wn I'n agor y drws i fyn'd i lawr, dyna fo'n deud rhwbeth am ole'. Leiciet ti i mi gwnu'r bleind, Daniel ? meddwn 1. Ond 'dydw I ddim yn meddwl 'i fod o wedi 'nghlywed I, achos y peth nesa' 'wedodd o oedd P'un ai Bob ynte fi caiff o gynta', sgwn I ? Mi fydd yn ras deit rhyngon ni.' Mae o'n wandro, meddwn I, a mi alwes ar Hannah. Erbyn iddi ddwad, 'roedd o wedi dwad ato'i hun, a medda fo Choda' I ddim heddy', ond mi leiciwn wel'd Bob.' Pwy Bob ? meddwn 1. 'Ond Bob Lewis,' medda fo; a mi gofies yn union am y llyfr ydach chi'n ddar- llen iddo fo." Ie, gyda Bob 'roedden ni'r tro diwedda," ebai Mr. Aaron dan ei anadl Mae o'n gwbod y'ch bod ch'i wedi dwad yn 01, a mae o yn y'ch disgwyl ch'i er's ticin. Mi af i fyny i ddweud wrtho eich bod yma." Ac i fyny yr aeth Lydia Gruffydd ar flaenau ei thraed. Yr oedd ei hamcan yn dda, ond yr oedd y star yn gruddfan yn enbyd odditani. Yn fuan, galwodd ar ol Mr. Aaron oddiar ben y gnsiau, ac aeth yntau i fyny ar flaenau ei draed. Gyda'r un canlyniad. Wedi myn'd i fewn i'r ystafell, gwelodd fod Daniel wedi rhoi camrau breision ar y daith er pan fu yno o'r blaen, a'r cysgod arno'n drwchus. Gorweddai ar ei gefn yn ei wely, a'i ddau lygad yn llydan agored ond yr oedd yn ddigon hawdd gwel'd eu bod fel lampau'r morwynion ffol—wedi diffoddi Ni chymerodd Mr. Aaron arno ei fod yn sylwi ar bethau fel hyn, ac ebai'n siriol: Wel, yr hen ffrind, sut mae'r hwyl ?" Gwir ddwedsoch ch'i, sut mae'r hwyl-dim ond un sy' gen I, a pheth go annifyr ydi treio gyru'r canw yn 'i flaen ar ddim ond un hwyl." "0 na, mae genoch ch'i ragor nag un. Dyna Lydia, a Hannah, a Mari-dyna ch'i dair hwyl ardderchog sydd at y'ch gwasanaeth o hyd. Peidiwch ch'i a myn'd yn rhy syffisiant, a chithe fel 'rydach ch'i Mae nhw'n gneud 'u gore', 'does dim dowt; ond mi fydd yn rhaid i mi rwyfo fy nghwch fy hun yn union." Wel, os taw dim ond un hwyl sy' genoch ch'i, mi liciwn I wybod bedi hi, Daniel?" Trodd ei wyneb cystuddiol i gyfeiriad y llais, ac meddai'n angerddol ddwys Rhys Lewis Ni wyddai Mr. Aaron beth i ddweyd ar y funud. Gwyddai fod y llyfr wedi gafael yn gryf yn nychymyg Daniel, ond ni feddyliodd ei fod wedi cydio mor dyn yn ei enaid hyd y funud hono. Ydio genoch ch'i ? Ydi mae o gen I; ond hwyrach y bydde'n well ini aros i ch'i ddwad i lawr cyn darllen rhagor o hono." Na, 'nawr am dani—'nawr. Mae Bob a fine eisie'r gole'n ddiymdroi. Mae hi'n rhy dywyll i groesi heb y gole' "O'r gore', Danul bach, peidiwch gwylltio. Ni frysia'r hwn a gredo,' wyddoch. Mi fydd y gole'n siwr o ddwad." A dyna Mr. Aaron yn dechreu darllen hanes Bob a'i ymgodymau. Nid oedd swn arall i'w glywed yn yr ystafell. Eisteddai Lydia yn ymyl y drws, ond yr oedd y siol am ei phen a'r ffedog am ei gwyneb. Taflai'r darllenwr ei lygaid ar Daniel weithiau, a thybiai ei fod yn cysgu. Ond pan gymerai seibiant y prydiau hyny, troai Daniel ei ben ato, a sibrydai Go on Ac yn ei flaen yr a'i Mr. Aaron. Ac yn ei flaen yr aeth, heibio i anffawd fawr bywyd Bob, ei ymddyddanion a'i fam, y modd yr ym- balfalai am y gole', y daeth o hyd iddo yn y diwedd, ac y newidiodd ddau fyd yn ei lewyrch. Clustfeiniai yn y fan yma am ryw arwydd o'r gwely fod Daniel wedi cael digon ond ni ddaeth un. Darllenodd y'mlaen, benod ar ol penod, nes iddi ddechre' t'wllu; ac wedi iddi fyn'd yn rhy dywyll iddo fedru darllen rhagor, cododd yn ddystaw ac aeth allan -a chyn i Lydia cyr- aedd y gegin ar ei ol, yr oedd cefn Mr. Aaron yn diflanu yn y gwyll. Erbyn dranoeth, yr oedd Daniel wedi hybu'n syndod. Yr oedd yntau fel pe wedi newid dau fyd fel Bob, gyda hyn o wahaniaeth fod enaid ac ysbryd Bob wedi myn'd gyda'u gilydd, ond ysbryd gwr yr Henblas yn unig oedd wedi myn'd. Yr oedd ei enaid o hyd yn glynu wrth yr hen dy. Neidiodd Lydia ar un 11am i'r casgliad ei fod wedi cael tro"; ac yn ei llawenydd mawr anghofiodd y siol y bore' hwnw, a gwelwyd hi gan y cym'dogion o draw yn pigo bloclau yn yr ardd o flaen y ffrynt, ac yn eu cylymu'n ofalus ar y ffwrwm oedd yn y porth. Pan alwodd y gweinidog ar ol brecwast, yr oedd y blodau ar ben y gist dderw yn ymyl gwely Daniel, a'u sawr yn cyraedd y gegin. Mor fychan yw byd ambell un ac mor agos i'w gilydd yw'r pegynau Byd felly oedd byd lydia Gruffydd. Anaml y ceid hi'n hir wrth y cyhydedd, ond o begwn i begwn y byddai tynycha', fel pendil cloc. Wrth wel'd Daniel yn y dwmps" ddoe, credai y byddai yn y fynwent cyn diwedd yr wythnos ac wrth ei wel'd wedi sirioli heddyw, aeth i gredu y byddai yn yr iard cyn diwedd y mis. Ond gwelai Mr. Aaron yn wahanol. Y gole' oedd wedi d'od, ac yn chware' ar ei wyneb Dyna oedd yn peri'r sirioldeb. Wedi deall pwy oedd yno, ebai'n ddiymdroi: 11 Mi gafodd Bob a fine'r gole' 'run pryd. Pan o'ch chi'n darllen am dano ddoe, mi teimles o yn 'y nghyredd I dan y dillad, ac yn gyru rhwbeth i ffwrdd odd'ar 'y mrest I. Mi godes 'y mhen i fyny, a ro'dd y rwm yn ole' i gyd ond fedrwn I mo'ch gwel'd ch'i, na Lydia, na neb o'wn I 'nabod—ond UN. IEsu GRIST oedd hwnw, a fo oedd yn gneud y gole' Mi feddylies I'ch bod chi'n cysgu, Daniel, a mi es allan yn ddistaw bach pan a th hi'n rhy dywyll imi ddarllen. Felly, 'dallech eh'i mo ngwel'd I." Na, nid hyny, achos wela' I mono ch'i 'nawr, ond mae y rwm yn reit ole', a IESU GRIST 'i llon'd hi Mae o yma byth odd'ar neithiwr." Daeth y lwmp yn ol i wddf Mr. Aaron, ac yn ei fyw y medrai ddweyd gair. Ar ol munud o ddystawrwydd Leiciech ch'i gael penod o'r llyfr, Daniel ?" Leiciwn, o'r ddau." Gwyddai'r gweinidog beth oedd yn ei feddwl, a darllenodd y nawfed benod yn Efengyl Loan. Yr oedd mor gyfarwydd yn y benod ag un benod yn y Beibl, ond wrth ei darllen y tro hwn, yr oedd fel penod newydd iddo. Aeth yntau bob yn dipyn i dybio ei fod yn gwel'd y gole' welai .Daniel--ei fod y'mhob adnod fel yr oedd yn ei darllen, ac yn dangos iddo bethau na welsai erioed o'r blaen. Yr oedd y llyth'renau fel llyth'renau o aur, yn debyg i'r pictiwrau sydd ar ffenestri yr eglwys yn Llaneffro, ebai Mr. ,71 Aaron pan yn dweyd yr hanes wed'yn yn y Llofft Fach. Pan ddaeth at y geiriau "Un peth a wn I, lie yr oeddwn I yn ddallr yr wyf fi yn awr yn gweled "— Reit," ebe Daniel; fi ydi hwnw 'Ro'wn I'n meddwl mod I'n gwel'd o'r blaen, ond 'down I ddim. 'Nawr yr'ydw I'n gwel'd; a 'rydw I'n gwel'd 'nawr nad o'wn I ddim yn gwel'd o'r blaen. 0 diolch am dano'r ochor yma Mi a'th Bob i'w ganol o ar 'i ben, ond mae o wedi dwad i gwrdd a fi dipyn o'r ffordd. 'Dawith o mono I mwy cyn cyraedd tawel Ian bro y goleuni' Pan dorodd Daniel ar ei draws, edrychodd Mr. Aaron i fyny ato, a gwelodd y gole' oedd yn yr adnodau yn chware' ar ei wyneb. Yr oedd yr ystafell wely yn y ffrynt, a haul y bore' yr ochr arall: fel taw nid yr haul oedd yn ei achosi. Heblaw nad oedd dim ynddo yn debyg i ole' haul. Os medrwch feddwl am enfys yn goleuo, dyna'r tebyca'. Ac wrth gofio, mae son yn yr Hen Lyfr am yr enfys sydd o amgylch gorsedd- fainc Duw. Ni welai Mr. Aaron y gole' yn unman arall ond yn yr adnodau ac ar wyneb Daniel. Ni theimlodd yn debyg erioed. Dy- wedai ei fod fel Moses wrth y mynydd, "yn ofni ac yn crynu." Yr oedd y frawdoliaeth yn teimlo'n od iawn pan yr adroddai'r gyfrinach yn y Llofft Fach ar ol i bethau basio ond ail law oedd y cwbl iddynt hwy. Beth, tybed, raid fod ei deiinladau ef, yn yr un ystafell a'r gole' Darllenodd y gweinidog y benod drwyddi, ac aeth ar ei liniau. Nid yw yn siwr o ddim wed'yn nes y cafodd ei hun yn y gegin gyda Lydia. Mae o lawer yn well, on'd yw e ?" ebai Lydia'n awchus. 0 ydi, lawer yn well," ebai yntau. A chwanegodd megis wrtho'i hun Ddoe 'roedd o'n gryfach i fyw ac yn wanach i farw; heddyw mae o'n wanach i fyw ac yn gryfach i farw." Ond chlywodd Lydia mo hono. Yr oedd Mr. Aaron'wedi meddwl na fuasai Darnel yn galw am y llyfr wed'yn ? ond fel arall y bu. Daeth gymaint yn well nes iddo gael ei deimtio am dro i gredu ei fod yn gwella. Ac o benod i benod, yn araf a chloff, aed drwy'r llyfr o'r diwedd; ac o'r funud y gorphenwyd ef, dechreuodd Datiiel waethygu drachefn. Ac yr oedd yn amlwg bellach fod ei lyfr yntau wedi ei orphen. Aeth Lydia i'r pegwn arall yn union, ac yr oedd y merched yn methu gwneud fawr o ddim ond rhwbio eu llygaid a sychu eu trwynau. Daeth brawd iddo i edrych am dano ryw ddiwrnod ac ebai Daniel wrtho "'Does dim tamed o ofn marw arna' I byth wedi i Mr. Aaron ddarllen Bob Lewis i mi. Mae'r t'wllwch wedi myn'd i gyd, a'r gole'n myn'd yn fwy. Mi leiciwn gwrdd a Daniel Owen i ddiolch iddo fo. Mae o'r un enw bedydd a fine, a mae o wedi colli 'i iechyd fel fine A mae o wedi myn'd i'r Nefoedd er pan ddechreliason ni'r I I yfr, Daniel," ebai Mr. Aaron. Dyna i gyd oedd eisie," meddai. Ac aeth ar ei ben i ganol y goleuni, fel B Jb