Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

.Cymru yn y Senedd.-Syr George…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd.-Syr George Newnes, Abertawe. MAE bwrdeisdref Abertawe yn un o'r bwrdeisdrefi hynaf a phwysicaf yng Nghymru. Ar un adeg, yn flaenorol i 1884, gwneid yr etholaeth i fynu o amryw drefi, Abertawe, Aberafon, Cynffig, Castellnedd, a Chasllwchwr. Ond erbyn y flwyddyn a nod- wyd yr oedd y boblogaeth yn yr amrywiol drefi hyn wedi cynyddu i'r fath nifer fel y trefnwyd i ranu yr etholaeth yn ddwy, ac er y pryd hwnnw y mae gan dre Abertawe, yn cynwys plwyfi Tawe a Sant Thomas, gynrychiolydd ei hun. Dyma yr etholaeth y bu Y Diweddar Mr. L. LI. Dillwyn yn Aelod Seneddol drosti am gyfnod mor faith, un o'r Rhyddfrydwyr goreu a eisteddodd yn Nhy y Cyffredin erioed, a gwr, er mai Sais o waed a thafod ydoedd, mor fyw i angenion a dyheuadau Cymru ac odid un o'i phlant hi ei hunan. Yr oedd ef yn un o'r rhai cyntaf i ddwyn ymlaen gynygion am ddeddfwriaeth i Gymru ar wahan i Loegr, a ? bu llawer o amheu ei ddoethineb, a pheth beio arno hefyd oblegid hynny. Ond yr oedd gwerin Cymru gydag ef, a bu raid i'r rhai a'i beient ar y cychwyn ddod i'r un saf- [ bwyntag yntau cyn hir. Wedi marwolaeth j Mr. Dillwyn daeth ton o ddylanwad Ceid- wadol dros Abertawe, a bu y sedd am rai blynyddoedd yn feddiant i Syr John Dillwyn Llewelyn, nai i'r hen aelod, ond o olygiadau gwleidyddol cwbl wahanol iddo. Yn 1900 ennillwyd y sedd i'r Rhyddfrydwyr drachefn gan Syr George Newnes, Barwnig, gyda mwy nag un-cant-ar-ddeg o fwyafrif. Ac yn yr etholiad diweddaf ail-etholwyd ef, ac ychwanegodd at ei fwyafrif ryw gant a hanner, er fod buddiannau masnachol Abertawe yn gyfryw ag i wneuthur llawer o'r etholwyr yn agored i gael eu swyno gan lywod-ddysg y diffyndollwyr. Y Cyhoeddwr Llwyddianus. Mae Syr George Newnes yn wr sydd yn fwy adnabyddus ac enwog ym myd masnach anturiaethus nag ydyw ym myd gwleidydd- iaeth. Un o wyr y wasg ydyw, nid y wasg newyddiadurol yn hollol chwaith. Ni chlyw- som ei fod,yn meddu unrhyw dalent neillduol i ysgrifenu fel Mr. Labouchere, perchenog y Truth, neu Syr Edward Russell, o Lerpwl, ac amryw o Seneddwyr eraill a fuont ac y sydd yn amIwg yn y byd newyddiadurol a llenyddol. Ac eto, nid oes neb enwocach a mwy llwydd- ianus fel eyhoeddwr cyfnodolion a llyfrau na'r aelod dros dref Abertawe. Y tri dyn mwyaf ffodus mewn cysylltiad a'r wasg yn y dyddiau diweddaf hyn yn Lloegr yn ddiau yw Syr George Newnes, Arglwydd Northcliffe, a Syr Arthur Pearson, ac o'r tri hyn y mwyaf yw Syr George Newnes. Mab i Weinidog Cynulleidfaol ydyw y Barwnig anrhydeddus. Ganwyd ef yn 1851, a derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Silcoates, yn sir Gaerefrog, ac yn Ysgol Dinas Llundain (Ci(y of London School). Ymroddodd i fasnach yn lied ieuanc, ac os nad ydym yn camgymeryd, bu am rai blynyddoedd yn drafaeliwr masnachol. Ond ni adawodd i'r gangen o fasnach y gweithiai ynddi gaethiwo ei holl feddwl. Edrychai allan am gyfleusdra i'w ynni dorri allan mewn cyfeiriad newydd-am y lli hwnnw sydd ym mywyd dyn a'i dwg i ffortiwn ond iddo fentro iddo pan y bo yn ben SYR GEORGE NEWNES, A.S. llanw. Teimlai fod ei deithiau yma a thraw yn fwy'blinderus nag y dylasent fod o ddiffyg llenyddiadth cyfaddas i'w darllen mewn tren a cherbyd, llenyddiaeth ddyddorol, na ofynai am fyfyrdod dwys i'w deall a'u mwynhau, ac y gellid ei throi heibio pan y mynnid a'i chymeryd i fyny drachefn pan y mynnid heb golli pen y llinyn. Dechreuodd chwilio am lenyddiaeth felly, ond prin ryfeddol ydoedd ar ystol pob stesion. Ac un diwrnod tarawodd drychfeddwl ef am gyhoeddiad a dybiai a atebai yr angen, cyhoedd- iad heb yr un o'i nodwedd y pryd hwnnw. Wedi cael y drychfeddwl, aeth ati heb oedi i'w droi yn ffaith, ac yn 1881, ac yr oedd ef yn ddeg-ar-hugain oed, dygodd allan y rhifyn cyntaf o Tit=Bits." Ym Manceinion y gwelodd y cyhoeddiad newydd oleu dydd. Nid oes angen am i ni ddesgrifio ei nodwedd, mae ein holl ddarllenwyr yn ddigon cyfarwydd ag ef. Daeth yn amlwg yn fuan iawn fod Tit-Bits yn cyfateb i chwaeth y dydd, a chyrhaeddodd gylchrediad mawr cyn pen ychydig amser. Yr oedd yn rhywbeth newydd, yn ddifyr heb fod yn drwm, ac yn cyfranu rhyw gymaint o wybodaeth heb fod yn rhaid i bobl brysur a blinedig drethu eu ham- "T ser a'u meddyliau i ddod o hyd iddi. Y prawf cryfaf o lwydd anturiaeth yw fod efelychiadau yn gwneyd eu hymddangosiad, a bu i Tit- Bits, fel amryw eraill o anturiaethau ei sylfaenydd a'i berchenog, lu o efelychwyr. Ar ol Newnes y daeth yr Harmsworths a'r Pearsons, a'r holl ddosbarth sydd gyffelyb iddynt. Y fath oedd llwyddiant Tit-Bits erbyn 1884 fel y symudwyd ei gartref o Fanceinion i Lundain, a phrofodd y symud o fantais ddirfawr. Yr oedd ffortiwn y perchenog erbyn hyn yn sicr, a theimlodd yntau y gallai fforddio rhoi peth o'i amser i wleidyddiaeth. Yn Aelod Seneddol. Yr yr etholiad cyffredinol yn 1885 ethol- wyd ef i Dy y Cyffredin dros ran Newmarket o sir Gaergrawnt fel Rhyddfrydwr, a daliodd y sedd am ddeng mlynedd, ond taflodd y don o wrthweithiad Ceidwadol a ysgubodd dros y deyrnas yn 1895 ef allan o honi. Ac heb sedd y bu nes iddo gael ei ethol dros Aber- tawe yn 1900. Gwnaed ef yn Farwnig gan Arglwydd Rosebery cyn mynd allan o awdurdod yn y flwyddyn y collodd ei sedd dros Newmarket. Yn y cyfamser yr oedd llwyddiant anghymarol Tit-Bits wedi awgrymu iddo gyfeiriadau llenyddol eraill ymha rai y gallai ei ddyfeisgarwch weithio. Cychwynodd y "Strand Magazine" yn 1801, yn gylchgrawn misol, gyda darlun ar bob tudalen ohono. Cymerodd y bobl at y cyhoeddiad hwn o'i eiddo drachefn gyda'r. un- rhyw sel ag y cymerasent at ei gyhoeddiad cyntaf. Yr oedd y papur o ansawdd mor dda, yr argraff mor glir, y darluniau mor bert, a'r cynwys mor amrywiol a dyddorol, fel y dyheai y tyrfaoedd am y naill rifyn ar ol y llall. Ac yn fuan wedi i'r Strand gychwyn bu i Syr George, yn ol ei ffawd arferol, ddarganfod nofelydd newydd-Syr A. Conan Doyle yn awr-a sicr- haodd ei wasanaeth i ysgrifenu i'r misolyn cyfres o nofelau o dan y teitl "Anturiaethau Sherlock Holmes." Yr oedd y darganfyddiad hwnnw yn