Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CLEBER O'R CLWB.

News
Cite
Share

CLEBER O'R CLWB. [Gan'yr Hen Shon.] Cred unfarn gwleidyddwyr y Clwb nos Fercher diweddaf oedd fod y Weinyddiaeth o'r diwedd wedi darganfod ei gwir genhadaeth. Oddiar yr etholiad y mae'r fath bynciau a'r Fyddin, y Chineaid, y tramorwyr tylawd, a Masnach Rydd oil wedi eu dadleu drosodd a throsodd, ac eto 'does neb un mymryn doethach wedi'r siarad i gyd. Ond nos Fawrth daeth yr aelodau yn ol o'r crwydriadau pellenig hyn, o fyd y dychymyg a'r dyfaliadau i lawr at bethau teilwng o wir ystyriaeth Senedd yr Ymherod- raeth Brydeinig-y wlad ar yr hon ni fachluda yr haul un amser. A beth feddyliech chwi oedd y Mesur a hawliai ail ddarlleniad y noson hon, dim llai na'r mater tymhorol o gloron had -neu fel y dywed pobl y Sowth-tato had. Mae o bwys arbenig i'r Gwyddel fod y gofal priodol yn cael ei roddi gan y Llywodraeth i'r bytaten. Dyma fara ei gynhaliaeth ef, fel tase, ac mae gweled y fath bwnc yn cael ei drin yn y Senedd-dy yn brawf fod yr hyn a freuddwydiai yr etholwyr o'r diwedd ar gael ei sylweddoli. Pan oedd Daniel Owen ers talwm yn ceisio am sedd ar y Cyngor lleol, ei fater mawr ef oedd "cytiau moch i'r preswylwyr, hyny yw, i osod moch ynddynt, ac fe lwyddodd y nofelydd Cymreig yn ei amcanion hefyd. I bobl y Wyddgrug yr oedd cytiau" priodol i'r moch yn beth llawer mwy pwysig ar y pryd na dadl ar ryw ddamcaniaeth ymherodrol fel Masnach Rydd, a'r un peth sy'n nodweddu pwnc y Gwyddel yn Senedd Prydain heddyw, iddo ef mae tatws had yn fwy ymarferol na dim arall; ac unwaith eto wele yr Ynys Werdd wedi derbyn hawliau. ———— Tra'n son am datws had, priodol yw galw sylw at lythyr Dim Lol" yn eich rhifyn diweddaf yn euro arnaf am feiddio galw Cinio'r Cecil yn ginio fflat, ac yn fy nghyhuddo o edrych yn ysgafn ar bethau. Wel, mater o chwaeth yw'r cyntaf, rwy'n addef. Byddai'r hyn a deimlaf fi yn fflat feallai i wr heb ddim lol yn hynod ddyddorol ac adeiladol. Mae'ch goheb- ydd yn haner addef fod araeth y gwr a wahodd- wyd yn fflat. Yn wir, prin y byddai hyny yn ddesgrifiad teg o honi, os yn wir y gellid ei galw yn araeth o gwbl. Ond pan yr a i fy nghyhuddo o edrych yn ysgafn ar bethau, y mae Dim Lol" yn dyweyd yn groes i'w anian. Yn wir, lol o'r fath waethaf yw hyny. Yn y Clwb heddyw, rwy'n mentro i ddyweyd, 'does neb yn edrych yn fwy difrifol ar bethau na'r Hen Shon. Mae'r ffaith fy mod wedi edrych yn sobr ar lith y critic hwn yn brawf diymwad o hyny, ac os gelwir arnaf, ganddo ef a'i gyfeillion croendeneu, i lywyddu cinio Gwyl Dewi y flwyddyn nesaf, byddaf yn eithaf parod i fwyta het Dim Lol "—waeth mae het gwr sy'n perchen mor ychydig o ben yn sicr o fod yn eithafol o fychan-a fy het innau hefyd yn y fargen, er cymaint ei maintioli, os na thraddodaf well araeth nag a gaed gan y gwahoddwyr Seisnig yma y ddwy neu dair blynedd diweddaf. Yr holiad rhwng pob dau yr wythnos hon yw, Beth fydd polisi'r Weinyddiaeth ynglyn ag Addysg Cymru? Disgwylir y Mesur newydd i'r Senedd ddydd Llun, ond y mae ei adranau dadleuol yn adnabyddus i'r gwr cyffredin. Yr oil a wyddom yn awr yw fod Mr. Birrell wedi derbyn ymwelwyr oddiwrth bob adran a phlaid yn ystod yr wythnosau diweddaf yma, ac os yw wedi llwyddo i droedio cydrhwng y gwahanol grioedd sydd wedi eu codi ganddynt, wel, y mae'n haeddu cofadail fynor ar unwaith. A barnu oddiwrth wendid y Weinyddiaeth ar helynt Taff Vale, mae He i ofni mai hannerog fydd Mesur Addysg, ac na symudir mo'r anhaws- derau sectol mor rhwydd ag y creda cynrychiol- wyr y gwahanol enwadau. Mae'n sicr nad oes ond un cwrs hollol ddiogel i'n Seneddwyr ei gymeryd ar hyn o bwnc, sef yw hyny gadael y Beibl o'r tuallan i'r ysgol, a gofalu am wybod- aeth fydol i'r plant yn unig. Pan gytunir ar hyn ni fydd angen am gynlluniau sectol byth wedyn. Gwr i gydymdeimlo ag ef yw Syr John Puleston heddyw. Trwy ei ddoethineb a'i fedr llwyddodd i ethol Syr Edward Clarke, y dad- leuydd enwog, a Mr. Balfour i gynrychioli hawliau'r brif-ddinas yn Nhy'r Cyffredin. Ond cyn gynted ag y cafodd Syr Edward ei draed gwleidyddol odditano dyma fe yn rhedeg yn ei ffordd ei hun gan anghofio ei addewidion tybiedig a throi ei gefn ar Fasnach Deg a sothach o'r fath a gredir ynddynt mor drylwyr gan bobl arianog y ddinas. Fel cadeirydd y blaid Doriaidd yn y ddinas rhaid i Syr John lywio'r pleidwyr allan o'r trybini presenol. Mae un adran am daflu Syr Edward dros y dibyn i'r mor, a phlaid arall yn teimlo yn fwy trugarog tuag ato ac am adael iddo i ddangos beth a wna ar ol rhagor o brofiad yn y Ty. Ond fel y saif pethau yn awr nid yw teulu gwleidyddol Syr John yn rhyw gysurus iawn. Pan ddaw i gael mygyn yn ystafell y Clwb nos yfory rhaid i mi fynd i gydymdeimlo ag ef!

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.

Am Gymry Llundain.