Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. NID yw y drafodaeth pa un ai "Ffordd Deiniol" neu Ffordd Ddeiniol" yw y Cymraeg cywiraf wedi ei dwyn i ben eto. Mae llythyrau lawer yn newyddiaduron Gogledd Cymru ynghylch y pwnc o hyd, y diweddaf o honynt gan yr Athro John Morris Jones, yr hwn sy'n troi y byrddau yn lan ar y rhai a ddadleuant dros Ffordd Deiniol." CYHOEDDIR fod y Parch. John Davies, Bont- ddu, wedi cyflwyno £500 i Genadaeth Dramor y Trefnyddion Calfinaidd, y Hog yn unig i'w ddefnyddio tuag at gynorthwyo pregethwyr ieuainc brodorol yn y Coleg Duwinyddol yn yr India, yn ol fel y byddo y Pwyllgor Cenhadol yn barnu yn ddoeth. BYDDAI y diweddar Farnwr Gwilym Williams yn cario llawer o weitbrediadau y llys ymlaen yn Gymraeg er gwaethaf gwrthdystiad ambell Sais o gyfreithiwr fod hynny yn afreolaidd. Ond pan fyddai tegwch a rheol yn gwrthdaro dilyn tegwch wnai y barnwr heb hidio neb. Cymraeg cerig calch" Morganwg a ddefn- yddiai y barnwr yn wastad, ac ami i ddyledwr cyfrwysgall a gyfarchwyd ganddo a'r ymadrodd, Dyn budur ych chi. Mae'n well genich chi bala arian fel dwr ar gyfreithia na thalu'ch dyled." Y MAE y casgliad cyfoethog ac amrywiol o lyfrau Cymraeg oedd yn eiddo i'r diweddar Mr. Alcwyn Evans, o Gaerfyrddin, i ddod dan y morthwyl yn fuan. Cynwysa y casgliad lawer o'r llyfrau Cymraeg cyntaf a argraffwyd, amryw o honynt yn anhawdd iawn i'w cael. Yn eu plith ceir Maddeuant i'r Miloedd," y llyfr cyntaf a argraffwyd yng Nghaerfyrddin gan Isaac Carter yn 1725. Carter a argraffodd y llyfrau cyntaf oil yng Nghymru, ac yr oedd ei wasg ar y dechreu yn Adpar, gerllaw Castell- newydd Emlyn. MAE Mr. Harri Evans, yr arweinydd corawl adnabyddus, am symud o Ddowlais i Lerpwl. Mae wedi bod mewn cysylltiad a'r cor undebol Cymreig ac a chor y Philharmonic yn Lerpwl eis peth amser. MAE Miss Davies, Treborth, ar ymweliad a Bryniau Khassia, maes cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn enill calonau plant y brodorion yno, yn ol a glywn, drwy ddangos sut mae cynal "te parti" yn ol dull capelau Cymru. Fe ga groeso mawr pa le bynag yr el. PE'I olrheinid, fe geid fod hanes rhyfedd i ami hen gapel Cymreig a werthwyd pan yr aeth yn rhy fychan neu yn rhy hen ffasiwn i gyfarfod angenion yr eglwys a'i meddai. Fe dery hyn i'n meddwl wrth glywed fod hen gapel Ymneillduol yng Ngholwyn Bay, ar ol treiglo o law i law, yn awr wedi syrthio i ddwylo'r brodyr Pabyddol, y rhai sydd am agor achos ynddo. Feallai nad ellid cymhwyso at yr achos hwn yr hen air sy'n dweyd fod yn "hawdd cyneu tanar hen aelwyd." Ond mae'n iawn cofio hefyd fod Cymru i gyd yn hen aelwyd i Babyddiaeth, a hen aelwyd a gadwodd y gwres yn hir. MAE cyfres o erihyglau yn dechreu yn y Daily Dispatch yn ymdrin a chanlyniadau y Diwygiad yng Nghymru. Arwyddir hwy gan un sydd yn galw ei hun yn Welshman." Addefa ar y cychwyn fod y cynulleidfaoedd yn y capelydd wedi ychwanegu, ac hefyd fod llai o ddiota nag a fu, ond dywed nad yw yr olaf i'w briodoli i'r Diwygiad, ond i dlodi y bobl. Ofna fod rhai Or dychweledigion wedi ymgolli mewn hunan- gyfiawnder a chulni meddwl. Mae yn son hefyd am engreifftiau o rai sydd wedi cwympo ar ol bod yn sefyll am flwyddyn neu ychwaneg. Trist yw y ffeithiau hyn, ond mae genym le i ddiolch fod ffeithiau eraill i'w eyferbynu a hwy. Mae yr ysgrifenydd yn diweddu ei ysgrif gyda'r haer- iad fod masnach y grocers trwyddedig wedi cynyddu yn fawr iawn. Gallwn dybied beth a olyga y ffaith hon, os ffaith hefyd. Tybed fod rhywbeth i brofi yr haeriad ? YN ei adroddiad blynyddol dywed Dr. Jones, Swyddog lechydol Ffestiniog, fod cyfartaledd y marwolaethau yn y dosbarth y flwyddyn ddiw- eddaf yn 22.40 y fil, y cyfartaledd uchaf er 1896. Y mae cyfartaledd y marwolaethau yn Ffestiniog yn bur uchel yn wastad, a phriodola y meddyg hynny i dai Ilaith, gormod o yfed te, gormod o arfer tybacco, yn enwedig ei gnoi, a chyfarfodydd hirion mewn addoldai gorlawnion.

Y DYFODOL

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising