Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Undeb Cymdeithasau Diwylliadol.

News
Cite
Share

Undeb Cymdeithasau Diwylliadol. CYFARFOD PEN=TYMHOR. ARAETH GAN MR. WINSTON CHURCHILL. Pan gyhoedda'r Undeb ei gyfarfod pen-tymhor mae'n arwydd fod yr haf wrth y drws, ac yn alwad ar y man Gymdeithasau roddi heibio eu gwaith hyd nes y byrhao'r dydd eto. Nos Iau, Mawrth 29am, y caed y cynulliad terfynol eleni, ac os awn i farnu'r tymhor oddiwrth y brwd- frydedd a'r dorf ddaeth ynghyd i'r cwrdd olaf, rhaid ei gyfrif yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus a gaed oddiar ei sefydliad yn ein plith. Yr oedd capel a neuadd Castle Street wedi eu sicrhau am y noson, ond profasant yn llawer rhy fach am y tro. Nid ar y trefnwyr oedd y bai am hyn, feallai, gan eu bod wedi gofalu am ddigon o le pe bae'r dorf ond wedi cadw at nifer arferol cyrddau o'r fath. Y tro hwn daethant yn lliosocach nag erioed. Llanwyd pob congl o'r adeilad, a chwynai amryw ddegau eu bod wedi gorfod aros o'r tuallan heb obaith na gweled yr areithwyr na chael gwrando sill o'r hyn a siaradwyd. Flwyddyn yn ol yr oedd y llywydd—Mr. Ellis J. Griffith, yr aelod poblogaidd dros Fon— wedi cael addewid gan Mr. Winston Churchill a Major Seely y deuent i gyfarfod y Cymry. Ar y funyd olaf methodd Mr. Churchill a throi i fynu, a bu'n siom i'r dorf yn Jewin iddo dorri ei gyhoeddiad. Y pryd hwnnw addawodd Mr. Griffith y gwnai adgoffa'r gwr ieuanc y flwyddyn wedyn o'r siom, a phan wnaeth hynny beth amser yn ol caed ganddo addewid pendant y deuai i'r cwrdd eleni os ei trefnid ar nos Iau yn lie nos Sadwrn. Felly y bu, a phan gyhoeddwyd y cyfarfod 'roedd pawb yri awyddus i glywed y Seneddwr ieuanc ac i'w groesawu fel un oedd yn barod i roddi gwrandawiad i bob cwyn cenedlaethol a ddygid i'w sylw gan yr Aelodau Cymreig Daeth amryw o foneddigesau caredig ynghyd i ofalu am gwpanaid o de i'r ymwelwyr cyn dechreu y cwrdd cyhoeddus. Yr oedd y wedd gymdeithasol hon yn brawf fod yr Undeb yn dra awyddus i djwyn y gwahanol Gymdeithasau i adnabyddiaeth o'u gilydd, ac am rhyw awr neu ragor buwyd yn mwynhau o'r parotoadau hyn. Erbyn adeg dechreu'r cyfarfod yn y capel yr oedd y lie yn orlawn. Gwnaeth cyfeillion Castle Street eu goreu i osod seddau ym mhob congl o'r adeilad a llanw'r rhodfeydd a chadeiriau, ond waeth hynny na rhagor yr oedd y dyrfa wedi gorlanw'r lie cyn wyth o'r gloch. Daeth cenad o Dy'r Cyffredin fod y tri wyr ar eu ffordd i'r capel, a dechreuwyd mewn hwyl ar y rhaglen oeddid wedi drefnu. Canwyd gan Miss Dilys Jones i agor y gweithrediadau, ac yna galwodd Mr. T. J. Evans-cadeirydd y

Advertising

Y ME5UR ADDYSG NEWYDD.

Advertising

Undeb Cymdeithasau Diwylliadol.