Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. Osmond…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. Osmond Williams, Meirionydd. MEVVN mwy nag un ystyr y mae hanes politicaidd sir Feirionydd yn llawn mor ddyddorol a hanes unrhyw sir yng Nghymru. Dyma yr unig sir na fu bwrdeisdrefi o'i mewn ryw adeg neu gilydd. Paham yr amddifadwyd ei threfi o gynrychiolydd yn y Senedd nid ydym yn gwybod. Dichon mai ar gyfrif bychander rhif eu preswylwyr, oblegid er fod Dolgellau, a Harlech, a'r Bala, a Chorwen yn hen drefi, ac yn meddu hanes digon rhamantus, ni bu rhifedi eu preswylwyr yn fawr un amser. Sir amaethyddol, deneu ei phoblog- aeth, oedd Meirion hyd nes yr agorw) d chwarelau llechi Blaenau Ffestiniog a Chorris, ac i'r Bermo ddod yn boblogaidd fel ymdrochle. Sut bynnag, un aelod sydd wedi arfer ei chynrychioli oil, ac hyd yn gymharol ddiweddar credid mai hi ydoedd Cadarnle Toriaeth yng Ngogledd Cymru. Edrychid ar y sedd fel treftadaeth y tirfeddianwyr pendefigaidd, a llenwid hi gan genhedlaeth ar 01 cenhedlaeth o Fychaniaid a Wynniaid. Ni feddai neb wroldeb i ymryson a hwy am dani Ond yn y chweched degaid o'r ganrif ddiwecklaf fc godai gwr i amlygrwydd yng nghwrr gorllewinol y sir oedd i newid agvredd pethau. Cyfreithiwr ydoedd, a hannai o deulu Ymneillduol parchus yn Ueyn, a thrwy ei ymroddiad a'i fedr a gwenau ffawd a ddringai i sefyllfa o gyfoeth a dylanwad. Pen- derfynodcl ef wneud ymgais i ennill y sedd i'r Rhyddfrydwyr. Cynnygiodd ddwywaith, yn, 1859 ac 1865, a methodd, eithr nid oedd, mwyafrif ei wrthwynebydd yr ail dro ond rhyw wythar-hugain. Yr adeg honno ni feddai yr etholwyr amddiffyniad y balot, a, throwyd ilu o ffermwyr Penllyn ac Edeyrnion o'u ffermydd oblegid iddynt feiddio pleidleisio yn groes i ewyllys y tirfeddianwyr. Ni chafodd hynny unrhyw effaith ar yr ysbryd Rhyddfrydol namyn ei gryfhau i fwy 0 egni. Pan estynwyd yr ethol- fraint yn 1867, ac y daeth cannoedd o chwarel- wyr Ffestiniog i feddu pleidlais, gwelodd y Ceid- wadwyr fod eu dydd ar ben, ac yn 1868 etholwyd y gwr a godasai y faner ddwywaith o'r blaen, Mr. David Williams, Castell Deudraeth, yn ddiwrthwynebiad. Ni fynai yr hwn a ddaliai y sedd hyd hynny fynd i'r pol. Ni chafodd Mr. David Williams roddi ond un bleidlais yn Nhy y Cyffredin, a honno yn ffafr Dadgysylltu yr Eglwys yn y Werddon. Bu farw yn nechreu 1870. Ond yr oedd wedi dryllio y llyffeth- eiriau, ac nis gellid eu cyfanu mwy. Er yr adeg honno mae Meirion yn arwain Rhyddfrydiaeth Cymru. Hi oedd y gyntaf o'r holl siroedd i edrych ymhlith ei gwerin ei hun am gynrych- Jolydd Seneddol, a chafodd hyd iddo yn Tom Ellis, o anwyl anniflan goffadwriaeth. Pe na wnaethai Meirion ddim arall heblaw darganfod y cenedl- aetholwr o Gynlas buasai wedi gwneud digon i sicrhau edmygedd pob Cymro am genedlaethau. Anhawdd credu nad oes dim ond ugain mlynedd er hynny. Gymaint o le mae Cymru wedi lanw yn hanes Ty y Cyffredin er yr aeth Tom Ellis yno gyntaf. Mynai llawer, hyd yn nod o Gymry, fod Meirion yn hanner gwallgof i anfon mab i ffermwr cyffredin,, heb gyfoeth na chysylltiadau teuluaidd, i St. Stephan. Edrychid arno yntau fel breuddwydiwr, a'i gynlluniau i godi ei wlad fel cynlluniau anhymig ac anymar- ferol. Nid oes neb yn meddwl felly yn awr. Mae breuddwvdion Tom Ellis yn prysur ddyfod MR. OSMOND WILLIAMS, A.S. i ben, a'r sir a'i magodd ac a'i gwnaeth yn Seneddwr yn gadarnach nag erioed yn yr egwyddorion yr ymladdodd ef mor bybyr drostynt. Pan fu y bachgen o Gynlas farw mor annisgwyliadwy, dewiswyd Mr. O. M. Edwards yn olynydd iddo. Ond nid oedd awyr y Senedd a berw Ty y Cyffredin yn cyd-daro a'i anianawd ef. Ymneillduodd yn 1900, ac yn ei le dewis- wyd yr aelod presenol, Mr. Osmond Williams. Mab ydyw ef i Mr. David Williams, o Gastell Deudraeth, aelod Rhyddfrydol cyntaf y sir er dyddiau y Werinlywodraeth. Ganwyd ef yn 1849. Derbyniodd ei addysg yn ysgol enwog Eton. Ar farwolaeth ei dad daeth i feddiant o Gastell Deudraeth a'r etifeddiaeth eang gysylltiedig a'r lie, ac yno y mae wedi preswylio. Yn 1880 priododd Florence Evelyn, pedwaredd ferch y diweddar Mr. G. W. Greaves, o Bias Weunydd, Ffestiniog, a Benicote, swydd Warwick, a chwaer i Mr. J. Ernest Greaves, Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon. Mae iddynt bedwar o blant, yr hynaf o ba rai yw yr Is-filwrydd T. D. Osmond Williams, a ddaeth i sylw drwy ei wroldeb yn y rhyfel yn Neheubarth Anfrica. Fel y gallesid disgwyl i gynrychiolydd Sen- eddol Meirion fod, y mae Mr. Osmond Williams yn Rhyddfrydwr trwyadl, ac mewn llawn cyd- ymdeimlad a'r Ymneillduwyr gwerinol a gyn- rychiola. Nid pan feddyliodd am yr anrhydedd o fod yn aelod Seneddol y dechreuodd ddadgan ei olygiadau politicaidd. Yr oedd wedi bod am dros chwarter canrif cyn hynny yn Un o Golofnau Rhyddfrydiaeth yn y sir. Pan y dewisodd Rhyddfrydwyr Meirion Tom Ellis yn ymgeisydd yn 1886, trodd bron yr oil o'r tirfeddianwyr a arferent berthyn i'r blaid eu cefnau arni, ac aeth y lleill yn ddifraw ac oeraidd. Ond safodd Mr. Osmond Williams yn y rhenc, ac ni chafodd y cenedlaetholwr gwladgarol a gwerinol neb i'w gefnogi gyda mwy o ffyddlondeb ac aiddgarwch. Teimlai yn falch o fod yn Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol oedd mor drwyadl yn ei hymlyniad wrth egwyddorion goreu cenedlgarwch, ac yr oedd cydweithio a'r werin i sicrhau iddi ei hawliau yn hyfrydwch gwirioneddol iddo. Bu hefyd drwy y blynydd- oedd yn un o'r' rhai mwyaf blaenllaw gyda materion sirol. Mae yn ddirprwy-gadeirydd y Chwarter Sessiwn, ac wedi bod am flynyddoedd yn gadeirydd y Cyngor Sirol. Medr siarad a'i etholwyr yn eu hiaith, ac y mae ei hir drigias yn eu plith wedi ei ddwyn i ddeall eu hangenion a'u dyheuadau. Y fath yw ei boblogrwydd fel na fedd neb wroldeb i ddod i'w erbyn mewn etholiad. Ni byddai y braslun hwn yn gyflawn heb gyfeirro at Mr. Osmond Williams Fel Tirfeddianydd. Yn y cymeriad hwn y mae yn ethriad bron ym mysg tirfeddianwyr y wlad. Nis gellir dychmygu am berthynas hapusach na'r berthynas rhyngddo ef a'i denantiaid. Gallai holl dir- lwyddi y byd ei chymeryd yn esiampl. Nid meistr yw efe i'r rhai a ddaliant dir dano, ond tad a brawd. Mae ei weinyddiadau tuag atynt mor deg a chyfiawn, nes yr edrychant arno fel eu cyfaill penaf, ac ni phetrusant ofyn ei gyngor a'i gyfarwyddyd ar bron bob achos. Yr hyn oedd y patriarchiaid yn y dwyrain, a'r pennaeth- iaid Rhufeinig yn yr Eidal, i'w llwythau a'u dilynwyr, dyna yw Mr. Osmond Williams i'r rhai sydd yn byw ar ei etifeddiaeth. A'r berthynas hyfryd hon yw un rheswm paham y dewisodd amaethwyr a chwarelwyr Meirion yr Yswain o Gastell Deudraeth i'w cynrychioli yn Nhy y Cyffredin.