Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. DYWEDIR fod yr adeiladau newydd heirdd ar gyfer y Llyfrgell Rydd, Aberystwyth, b'ron yn barod. Agorir hwy ar y i geg a'r 2ofed o Ebrill, gan Mrs. Vaughan Davies, priod yr aelod Seneddol dros y sir. Bydd y Prifathraw John Rhys, o Goleg yr Iesu, Rhydychain, yn bresenol, ac fe draddoda araeth. DVMA yr achosion i ba rai y priodola Mr. J. E. Southall y deffroad, neu, efallai y dylid dweyd, y deffroadau llenyddol yng Nghymru :— (1), cyhoeddi'r Beibi Cymraeg bychan yn 1630 (2), cyhoeddi "Canwyll y Cymru" yn 1643; (3), sefydlu yr Ysgolion Cylchredol yn 1730, yn y rhai y dysgwyd miloedd o bobl i ddarllen; (4), sefydlu yr Ysgol Sul; (5), Adfywiad yr Eisteddfod; (6), y Wasg Gyfnodol. YN y Senedd mae Mr. J. H. W. Idris, yr aelod tros Fflint, wedi sefydlu ei hun yn awdur- dod ar y fasnach siwgr, a Mr. Llewelyn Williams ar y fasnach alcan. MAE Mr. Harry Evans, F.R.C.O., Dowlais, ar fin symud i Lerpwl. Yno y mae wedi ffurfio cor pur lwyddianus, ac mae'r Cymry yno wedi rhoddi gwahoddiad cynes iddo ddod i drigo yn eu mysg. HYSBYSA Mr. Arthur H. Rogers, Cefnmawr, ei fod wedi dychwelyd i'r gorlan Fethodistaidd ar ol bod am tua blwyddyn a'r encil ymysg y Bedyddwyr. Diau y disgwylia i Fethodistiaid Bodedern ladd 116 pasgedig i'w groesawu yn ol, fel y gwnaed a'r afradlon hwnw gynt. YN ddiweddar bu farw Mr. Hugh Evans, Amlwch, yr hwn fu'n gwasanaethu mewn maelfa myglys am tua 60 mlynedd. Pan yn ddyn ieuanc bwriadai fyned i'r weinidogaeth, ond ni wnai ei enwad-y Wesleyaid—ei galonogi. Siomodd hyn Mr. Evans yn ddirfawr, ac am y 60 mlynedd diweddaf ni osododd ei droed tu fewn i'r un lie o addoliad. MAE Mr. J. D. Rees, yr aelod dros fwrdeis- drefi Trefaldwyn, yn sefyll y perygl o dorri dros ben terfynau yn ei awydd am ennill lie iddo ei hun yn Nhy y Cyffredin. Pechodd yn erbyn ei gyfeillion drwy alw y Milwriad Seely yn Mad Mullah." DYMA fel y canodd Dyfed yn un o gyfarfod- ydd Cymmrodorion Caerdydd i'r diweddar Farnwr Gwilym Williams ar ol gwrando arno yn areithio Gwefreiddiol gyfarwyddwr- i'w genedl Yw ein gonest farnwr Un yn dal i'n hiaith yn dwr, Yn goron o wladgarwr. Uwch ei rawd balch yr ydym—a'i enw -• Sydd yn anwyl genym A'n mawl gwir ei roddi 'r ym 0 galon ar ben Gwilym. Boneddwr, Barnwr heb wyrni — a'i barch Mor bur a'r goleuni; Wele'n awr, i'n hawliau ni Gymeriad heb gamwri. O'i ddiragfarn sedd farnol-ei fendith Sydd gyfiawnder hollol; A'i gywir waith geir o'i ol Yn glod i'n llysoedd gwladol. DAW adeilad Llundeinig o ddyddordeb neill- duol i Gymru-Neuadd Drefol Holborn-dan forthwyl yr arwerthydd y mis nesaf. Mae coffa da gan laweroedd o Gymry am gynulliadau enwog yn yr hen neuadd. Yma y gwaeth Ceiriog ei ymddangosiad cyhoeddus olaf, sef yn Tach- wedd 1886, adeg cyhoeddi'r Eisteddfod Gen- edlaethol a gynhaliwyd yn Llundain yn ddilynol. Yr oedd amryw byd o'r hen gewri, sy'n awr wedi mynd, gyda Ceiriog ar y llwyfan, Llew Llwyfo oedd un o honynt, ac fe adroddodd y llinellau Ti wyddost beth ddywed fy nghalon gyda'r hth rym nes gadael argraff annileadwy ar y rhai oedd yno.

Home News.

Football Chat.