Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. DECHREU'R DIWEDD.—Cynhal cyfarfodydd pen tymhor mae'r Cymdeiihasau Llenyddol y dyddiau hyn, a deallwn lod y tymhor wedi bod yn un llesol iddynt hefyd. DYSGU'R IAITH.—Addawa Arglwydd Faer Llundain draddodi araeth Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Rhaid i Finsent roddi amryw wersi i'w Arglwyddiaeth cyn y daw'r geiriau allan yn ddigonrhigil i lwyfan Eisteddfod. YR YIMGOMWEST FAWR.—Mae argoelion y ceir cwrdd tra llwyddianus i derfynu tymhor y Cymmrodorion eleni gan fod yr Arglwydd Faer yn trefnu i wahodd yr holl aelodau i'w dy yn ystod Mehefin. Bydd ycyfan yn Gymraeg yn y cynulliad, wrth gwrs. CINlO SYR ALFRED;- Llawer o ddyfalu sydd wedi bod beth oedd cynwys araeth C.-B. yn nghinio Syr Alfred Thomas yn y Devonshire Club pwy noson, ond yn ol yr hanes a gawsom gan un oedd yn bresenol ni roed yn yr holl wyl unrhyw arbenigrwydd i Gymru a'i cheisiadau rhagor na chyhoeddi tipyn o Gymraeg ar y rhaglen. SWYDD WAG.—Mae'r byd cyfreithiol, wrth gwrs, yn edrych yn awyddus ar sedd wag y Barnwr Gwilym Williams, ac enwir amryw o fargyfreithwyr yn ogystal ac A.S.-od am yr anrhydedd. Mae Mr. Lloyd Morgan yn cael ei enwi fel gwr tra chymwys, ond cwestiwn arall yw a wna efe ofyn am y swydd. TOLIO'R LLAETH.—Yr oedd blaenor parchus yn un o'n capelau wedi ei feddianu yn llwyr yn ddiweddar gan ysbryd y "self denial" sy'n nodweddu'r Salvation Army yma, ac ynglyn a chasgliad arbenig cymhellai'r gynulleidfa i ym- wadu a llawer o foethau yn ystod yr wythnos ddilynol a rhoddi'r gwerth at yr achos y Sul wedyn. Fel pethau y gellid cymeryd llai o honynt enwai'r' myglys, y cigarettes, rhubanau newydd i'r merched, bwydydd moethus, siwgr a theisien a the, ac yn y blaen. Ar y diwedd codai'r gweinidog oedd yn supplyo o'r wlad ac ychwanegai yn sly wrth y blaenor, yr hwn oedd laethwr-Rwyn gweld nad ydach yn eu cymhell i dolio dim ar y llaeth, frawd CHARING CROSS ROAD.Mae digon o amryw- iaeth i'w gael yn nghyfarfodydd Cymdeithas Ddirwestol y lie hwn, ac nid oes dim fel digon o amrywiaeth i gadw cymdeithas yn fyw. Nos Fercher, Mawrth 2 rain, rhaglen y noswaith oedd "Blwch Gofyniadau,"a chafwyd cyfarfod gwir ddyddorol. Llywyddwyd y cynulliad gan Mr. Dewi Evans. DEWI SANT, PADDINGTON.—Nos Fawrth ddiweddaf, gerbron y Gymdeithas Lenyddol, darllenwyd papur tra galluog gan Mr. John Evans Hughes, o Goleg St. loan, Caergrawnt, ar y testyn, "Scandinavian Mythology." Mwynhawyd y papur yn fawr gan yr aelodau, a siaradent yn uchel am alluoedd meddyliol y darllenydd. Yn absenoldeb y llywydd, Parch. W. Richards, cymerwyd y gadair gan yr is- lywydd, Mr. Evan Lloyd, Kilburn. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Hughes am ei bapur godidog gan Mr. Tom Jenkins, ac eiliwyd gan Mr. Hugh Jones. CYFARFODYDD.—Nos lau, yn yr Eglwys, cafwyd pregeth bwrpasol i'r tymhor sanctaidd presenol-y Garawys-gan y Parch. H. Watkins, o'r East End Mission. Brysied yma eto.- Cynhelir Cyfarfod Llenyddol pwysig ynglyn a'r Eglwys uchod nos Lun y Pasg. Ceir pob manylion ond danfon at yr ysgrifenydd, Mr. D. Evans, 5, Kennet Road, W. EGLWYS v DWYRAIN.—-Cynhaliwyd gwyl de a Chyfarfod Adloniadol yn y lie uchod nos lau, yr 2 2airi cyfisol Rhoddwyd y. wledd y tro yma gan benau teuluoedd yr Eglwys. Teg yw dweyd fod y danteithion, y trefniadau, a'r croesaw Cymrelg y tu hwnt i feirniadaeth,ac i bawb fwynhau eu hunain i berffeithrwydd, Ar ol y wledd aed trwy raglen faith o ganu, aJrodd, cystadlu, a cherddoriaeth offerynol. Gofod a balla i ni fanylu. Digon yw dweyd fod safon y cyfan yn wir uchel, a bod yn ein plith dalentau disglaer yn cyflym ymddatblygu at nod o ber- ffeithrwydd. Rhwydd hynt iddynt. Llanwyd y gadair i foddlonrwydd pawb-yn absenoldeb Mr. Jones, Poplar—gan ein cyfaill twymgalon, Mr. Davies, Bonner Street. Llywyddwyd y cyfarfod gan Gwilym Aeron. Terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf llwyddianus trwy ganu Hen WIad fy Nhadau," Mr. Humphreys yn canu yr unawd. C\NGHERDD MAWR.—Bwriada aelodau yr Eglwys gynal cynghetdd arbenig yn South Place Institute, Finsbury, E.C., Ebrill 26ain. Mae'r pwyllgor wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth rhai o brif gantorion y ddinas, ac mae genym bob sail i gredu y try yr anturiaeth allan yn llwydd- iant perffaith. Yr elw i fyned at chwyddo y building fund. Gweler y manylion mewn colofn arall. YTABERNACL.—Ar ol cael un o'r is-lywyddion yn Aelod Seneddol mae Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl wedi troi yn barlamentaidd iawn beth bynag a olygir wrth hyny. Nos Sadwrn diweddaf buont yn dadlu ar y priodoldeb o gyfyngu ar ddyfodiad tramorwyr tylawd i'r wlad hon yr aliens fet eu gelwir gan y Sais, a chaed dwyblaid selog ar y pwnc. Cymaint oedd y brwdfrydedd a'r awydd am siarad fel y cafodd y cadeirydd, Mr. Wilfred Rowlands, a'r gweinidog, Elfed, gryn orchwyl i ranu'r Ty mewn awr briodoL Os yw'r pla siarad mor boeth yn Westminster, wel ffarwel am waith y tymhor hwn beth bynag. Heno eto bydd y Gymdeithas yn ymdrin a phwnc dyrus y Chineaid yn Ne Affrica, a sicr ei penderfynant gyda.haner y siarad a gaed yn Nhv'r Cyfifredin. JEWIN.—Cwrdd mawr iawn oedd y Cwrdd Dirwestol a gaed yn y lie hwn nos lau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Cymdeithas Ddirwestol y Merched wedi trefnu gogyfer a chynulliad gweddol fawr, ond fe'i synwyd o'r ochr oreu a daeth llond y capel eang i roddi cefnogaeth i'r mudiad daionus a bleidir ganddynt mor gyson ar hyd y blynyddoedd. Cadeiriwyd gan Mrs. Lloyd George, a gwnaeth ei gwaith yn gampus hefyd, trwy draddodi anerchiad pwrpasol i ddechreu a chadw'r cwrdd mewn hwyl a mynd ar hyd yr amser. Y SIARADWYR.—Yr oeddent wedi llwyddo i gael dau siaradwr campus i'r cwrdd hefyd yn mhersonau Mri. Tom Richards, A.S., a "Till Crooks, A.S.-dau o gynrychiolwyr Llafur, a phriodol y sylwai Mrs. Lloyd George fod y gwyr sy'n pleidio achos y gweithwyr yn y Senedd bron yn ddieithriad yn ffafriol i'r mudiad o gyfyngu ar ddylanwad y fasnach feddwol, oherwydd gwyddent yn well na neb am y difrod a wnai ymysg y bobl gyffredin a'r gweithwyr drwy bob rhan o Brydain. MR. T. RICHARDS, A.S.Siaradwr gwychyw Mr. Richards, ac enillodd serch y gynulleidfa ar unwaith drwy ei ddull syml a naturiol o osod ei achos ger bron. Fel Cymro credai y dylai Cymru gael ei gadael i benderfynu pwnc dirwest yn ei ffordd ei hun. Yr oeddem, meddai, wedi cael pwlpud sobr ers blynyddau, ac ond i ni gael rhyddid i edrych ar ol y fasnach ni fyddai achos cwyno na lwyddid i wneyd yr holl wlad yn Gymru sobr. Yr oedd am i Fynwy ddod dan Ddeddf Cau'r Tafarndai ar y Sul hefyd, a chredai mai dyledswydd cyntaf y llywodraeth oedd symud y temtasiynau meddwol oddiar ffordd ein pobl ieuainc. WILL CROOKS, A.S.—Un o wyr yr East End yw'r aelod hwn, ac mae ei brofiad o ddifrod y fasnach feddwol yri ei etholaeth wedi gwneyd dirwestwr cadarn o hono oddiar yr oedd yn fachgenyn. Yr oedd yn dda ganddo weled y dorf mor hapus mewn ty o addoliad heb gym- orth y ddiod, a sicr y gallent fod yn lIawnmor hapus o'r tuallan hefyd heb gymorth y wirod. Nid oedd yn ddigon i ni fod y sobr ein hunain, eithr dylem galonogi a cheisio gan eraill i fod yn sobr hefyd. Yr oedd cyfrifoldebarbenig yn gorwedd ar ein hysgwyddau oil, a,hyderai drwy gyfarfodydd o'r fath y ceid llawer i ddod yn weithwyr selog dros yr achos dirwestol, yn ogystal ag yn bleidwyr. MRS. HERBERT LEWIS.—Ar ol i'r ddau aelod siarad mor hyawdl caed gan Mrs. Lewis i gynyg pleidlais o ddiolchgarwch iddynt, yr hyn wnaeth mewn araeth hyawdl. Pe ceid rhagor o ferched i wrteithio'r ddawn o siarad yn gyhoeddus mae'n sicr y gadawent y gwyr ar ol yn lied fuan. Eiliwyd gan Mrs. Green, Castle Street, a. chadarnhaodd y dorf hyny mewn modd cynes. Yn ystod yr hwyr- caed caneuon gan Misses Gertrude Parry. a Lalla Parry, ac adroddiad hefyd gan Mrs. D. O. Evans, Clapham Junction. CLAPHAM JUNCTION.—" Gyda'r Werin oedd testyn darlith Mr. T. Huws-Davies, B.Sc., 0 flaen Cymdeithas Ddiwylliadol yr eglwys uchod nos Fercher, 21ain cyfisol. Cafwyd cynulliad da i wrandaw ar Mr. Davies, a chafwyd anerchiad addysgiadol ganddo. BORO'.—Cafwyd dadl bwysig yng Nghym- deithas Lenyddol y Boro' ar y mater, A yw yn iawn i gynal cyngherddau mewn lleoedd addol- iad ? Dangosodd Mr. R. D. Hodges ei bod yn iawn ac yn wasanaethgar i foesoldeb a chrefydd i gynal cyngherddau yn ein heglwysdai; eithr taerodd Mr. Tyssilian Jones, ar, eraill, nad oedd yn iawn, oherwydd y cenid bron yn ddieithriad ganeuon masweddol yn y cyngherddau cyssegr- edig a gamenwir felly ac am y mwyafrif o'r cyngherddau fod bron yr oil a genir ynddynt yn gwbl anaddas i gyssegroedd Duw. Tuedd cyng- herdd bob amser yw cario ymaith o'r meddwl y parchedigaeth hwnw a ddylasai fod ynom yn nhy yr Arglwydd. Cydunid gan yr oil o'r aelodau mai mantais i foesoldeb a chrefydd fuasai cael neuaddau i gyngherddau, fel y gellid cadw cyssegroedd y Goruchaf yn sanctaidd i addoliad ei saint Ef. NOSON y MERCHED.—Nos lau wythnos i'r diweddaf oedd Noson y Merched yn y Gym- deithas uchod. Aethant drwy raglen faith ac amrywiol o adroddiadau, unawdau, deuawdau, rhan-ganau, ac ymarferiadau gan y plant, yr hyn oedd yn nodedig o brydferth. Llywyddwyd gan y foneddiges haelfrydig, Mrs. J. B. Evans, yn syml, dirodres, swynol, ac effeithiol. Rhodd- odd wledd o ddanteithion i bawb ddaethai ynghyd, a chafwyd cyfarfod lliosog a llwydd- ianus. Nos lau, Ebrill 5ed, y bydd yr eistedd- fod dan lywyddiaeth Mr. W. R. Evans, yr hwn yw cyfarfod olaf y tymhor i'r Gymdeithas. UNDEB EGLWYSI RHYDDION LLUNDAIN.— Cynhaliodd yr Undeb uchod gyfarfod y Pwyll- gor Gweithiol nos Wener diweddaf yn Jewin, dan lywyddiaeth y Parch. J. E. Davies, M.A. Trefnwyd i gael cwrdd gweddi undebol yn King's Cross nos Lun nesaf, Ebrill zfed, a chyfarfod dirwestol undebol yn Falmouth Road nos Fawrth, Ebrill 2 4ain, y ddau gyfarfod i ddechreu am 7.30 o'r gloch. Y mae yr Undeb hefyd yn parotoi i gynal cyfres o ddarlithiau ar Hanes Ymneillduaeth" o'i gychwyniad hyd yn awr, i'w traddodi yn eglwysi Cymraeg Llun- dain yn ystod tymor yr Hydref a'r gauaf nesaf. Trefnir i un neu ddwy o'r darlithoedd hyn i gael eu traddodi ym mhob un o'r capelau Cymraeg yn y dref. Bwriedir ffurfio wyth dosbarth o'r eglwysi, ac i bob un o'r wyth darlith i gael ei thraddodi ym mhob dosbarth. Buasai yn hwylus iawn pe y gallesid gweithio y darlithiau hyn ynglyn a chymdeithasau diwyll- iadol y gwahanol eglwysi. Ceir pob manylion eto oddiwrth ysgrifenydd yr Undeb. Deallwn fod ym mryd y pwyllgor hefyd i gael cyfresau o gyfarfodydd diwygiadol a dirwestol yn ystod y tymor nesaf. Os medr y pwyllgor wau y cwbl y maent wedi stofi bydd lluosowgrwydd o gyfleusderau i ddiwylliànt a moesoldeb gan n t) Gymry Llundain yn y tymor nesaf.