Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. FFRWYDRODD nwy yn nhy y Parch. W. J. Williams, gweinidog y Capel Coffadwriaethol, Porthmadog, nos Sadwrn diweddaf, ac er iddo ef a'i briod gael eu llosgi yn ddrwg y mae'r ddiangfa a gawsant bron yn wyrthiol. Chwyth- wyd amryw o ffenestri y ty i'r heol, a thaflwyd drws yr ystafelIlIe bu y ffrwydriad yn glir oddiar ei fachau. Y MAE Mr. Bercham, yr Arolygydd dros Fwrdd Llywodraeth Leol yng Nghymru, yn ymneillduo, a gobeithio y bydd i Mr. John Burns bennodi Cymro yn olynydd iddo. Mewn • mwy na hanner Byrddau Gwarcheidwaid Gog- ledd Cymru cerir y gweithrediadau ymlaen yn Gymraeg, ac argreffir cofnodion llawer o honynt yn yr hen iaith hefyd. Ac mae'n sicr fod lliaws o aelodau byrddau Ile'r arferir y Saesneg yn bur analluog i gyflawni y dyledswyddau a ddisgwylir oddiwrthynt yn briodol. PROFWYD ewyllys y diweddar Mr. A. C. Humphreys-Owen, Glansevern, a chyn-aelod Seneddol dros Faldwyn, y dydd o'r blaen. Gwerth ei eiddo personol yw 3,904p, a maint ei etifedd- iaeth dirol yw 8,000 o erwau. Disgyna yr etifeddiaeth i'w fab, Mr. Erskine Humphreys- Owen, ac y mae y weddw i gael 5oop. yn y flwyddyn. MAE y chwe' mis o ras a ganiateir i golegau Aberystwyth a Bangor i hawlio eu rhan o'r 2o,ooop. a adawyd iddynt gan y diweddar Mr. Eyton Williams, bron dod i ben, ac nid yw yr un o'r ddau goleg wedi gofyn am yr arian eto. Fe gofir fod y cymunroddwr wedi gosod amod i lawr fod yn rhaid i bwy bynnag a ddaliai yr ysgoloriaethau o dan yr ewyllys gredu yn Nuw ac yn athrawiaethau sylfaenol Protestaniaeth. Yr amod yna yw y rhwystr ar ffordd y colegau i hawlio a defnyddio y gymunrodd. UWCHBEN adroddiad o weithrediadau Bwrdd Undeb Caernarfon yn un o'r newyddiaduron Seisnig, yr oeddis wedi rhoddi dan y penawd y llinellau, Payment of Members (talu i aelodau) a Keep of Lunatics (cynal gwall- gofiaid). Rhaid maddeu i'r darllenwyr os tybiasant fod mwy na chysylltiad damweiniol rhwng y ddau ymadrodd. GWELIR enwau dau Gymro yn rhestr hir arholwyr Prifysgol Cymru am y flwyddyn nesaf -y Prifathro Rhys mewn Cymraeg a'r Athro O. M. Edwards mewn Hanes. Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, yn ei breswylfod yn Aberhonddu, bu farw Cadben Morgan Thomas. Nid oedd ond 39 mlwydd oed. Yn mis Ebrill y flwyddyn ddiweddaf y pennodwyd ef i'r swydd. Un o feibion Llan- ymddyfri ydoedd. Cychwynodd ei yrfa fel milwr, ond trodd ei feddwl i fod yn hedd- geidwad. Bu yn heddgeidwad yn Nottingham. Yn 1896 pennodwyd ef yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Abertawe, a daliodd y swydd yma hyd nes y pennodwyd ef yn benaeth hedd- geidwaid Brycheiniog.. CAWN oleuni ar dywyllwch Llyfr Du Caer- fyrddin" toe. Mae'r Dr. Gwenogfryn Evans wedi ysgrifenu esboniad arno, a daw allan ar fyrder. Ni fydd cymaint o fynd arno, feallai, ag ar ambell esboniad arall, oni ni bydd yn llai derbyniol ym mysg ysgolheigion er hynny.

Y DYFODOL

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Advertising

CLEBER O'R CLWB: