Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CLEBER O'R CLWB:

News
Cite
Share

CLEBER O'R CLWB: [Gan yr Hen Shon.] Beth sydd yn cyfrif am gynydd yr ysbryd Seisnig yma yn ein plith y dyddiau hyn ? Y mae'r hen syniad fod siarad yr iaith Gymraeg yn fath o sarhad ar ddyn fel pe'n dod 'nol eto, ac argoelion fod yn rhaid i Gymro, os am fod yn rhywun, i droi yn Sais rhonc ar unwaith. Dyna oedd barn rhai o'r cwmni yn y Clwb pwy noson pan yn ceisio penderfynu'r cwestiwn. Dyma ni yn y Clwb Cymraeg, fel engraifft. Yma 'does ond Saesneg yn cael ei siarad bron ar bob adeg. Yn wir, pe siaradem Gymraeg wrth y swyddog- ion, nis gallent ein deall, a'r canlyniad yw nad yw'r Clwb ond yn un Cymraeg mewn enw yn unig. Nid beio'r perchenogion a'r aelodau yr wyf, eithr nodi ffaith eglur, a'i gosod allan fel esiampl o'r hyn a geir ynglyn a phob mudiad Cymraeg yn y ddinas heddyw. Dyna Ysgol Gymraeg yn Ashford heb neb o'r swyddogion yn Gymry mewn iaith, a Chymdeithas yr Hen Frythoniaid—Saeson bob un; a llawer o fan gymdeithasau a elwir yn Gymraeg, ond pe's anfonech lythyr yn Gymraeg atynt buasai yn creu cyffro nid bychan cyn byth y cawsech ateb Cymraeg iddo. Mae'r capelau a'r eglwysi yn dilyn yr un arferiad. Rhoddir bri ar y bregeth Seisnig yn ein huchel-wyliau—ni waeth pa mor sal fydd y traddodiad. A rhai o'n pregethwyr mor bell a thioi'r gwasanaeth foreu Sul yn Saesneg dan yr esgus o foddio'r teuluoedd Seisnigaidd sydd yn ein cynulleidfaoedd, a llawer o'r siarad yn ein cyfarfodydd cyhoeddus a droi'r i iaith ein cymydogion heb yr un rheswm ond i geisio boddio y rhan fwyaf bynheddig o'u cefnogwyr cyfoethog. Nid arwydd er daioni yw hyn, oherwydd gwyr y neb sydd gyfarwydd a'n bywyd crefyddol yn y cylchoedd Cymreig mai ychydig yw'r nifer sy'n glynu wrth yr achosion Cymreig ar ol gwneyd eu ffortiwn yn y byd masnachol Seisnig. Dyna eto ein gwleddoedd cenhedl- aethol yn cael eu troi i Saesneg bron yn gyfan- gwbl, a gwaeth na'r oil dyma'r Undeb yn y cyfarfod terfynol yn gwahodd Saeson i siarad wrth y bobl ieuainc-am gadw eu cenedlaeth- oldeb feallai—a hyny mewn iaith na fydd y mwyafrif o honom ond yn siaradwyr trwstan ynddi. Credaf y dylem ni, y rhai sy'n honni bod yn Gymry, wneud ein goreu ar bob adeg i sicrhau fod y parch dyladwy yn cael ei roddi iddi. Mae'r hen gred nad oes a fyno iaith a chenedl- aetholdeb wedi ei thaflu i'r gwynt .ers blynydd- oedd, a gwyr pobl y Werddon a'r Alban erbyn heddyw faint o ddrwg a wnaeth yr hen syniad hwnnw iddynt hwy. Er ceisio dadwneud y mawrddrwg yngl) n a cholli'r iaith, y mae'r bobloedd hyn ar eu heithaf heddyw yn ceisio adfer yr hen ieithoedd yn eu gwkdydd hwy; ac os na ofelir genym ninau mewn pryd, am gadwr- aeth yr iaith, bydd yr un genhadaeth yn aros i'n disgynyddion ninnau yng Nghymru cyn pen llai na dwy genhedlaeth eto. Buasai yn well i ni ddechreu yn y Clwb, a throi hwn ar y dechreu yn Gymraeg mewn iaith yn ogystalagmewnsyniad. tY

Am Gymry Llundain.