Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

.Cymru yn y Senedd. Mr. J.…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. J. Keir Hardie. O'R braidd y mae llawer yn barod i gydnabod yr aelod ieuangaf dros Ferthyr Tydfil yn aelod Cymreig. Disgynodd i ganol ein cenedl megis mellten ryw bum mlynedd a hanner yn ol, pryd yr ennillodd y sedd, gan droi allan yr hwn fuasai yn ei llenwi am lawer blwyddyn. Ac er y pryd hwnnw yng Nghymru y mae Mr. Keir Hardie wedi aros, yn cynrych- ioli un o'r etholaethau pwysicaf, yn dilyn ei lwybr ei hun, ac yn ddolur llygad i liaws mawr o bobl Cymru. Personoliaeth Ddyddorol. Beth bynnag a feddylir am Mr. Keir Hardie, y mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn bersonoliaeth fwyaf dyddorol efallai yn Nhy y Cyffredin. Mae pobpeth o'i gwmpas yn meddu arbenig- rwydd. Wedi ei weled unwaith nid yw yn bosibl peidio ei adnabod wedyn, ar ol unwaith wrando arno yn siarad nid a byth yn angof. Yngolwg dosbarth lliosog hanner gwallgofddyn, heb ganddo un amcan heblaw dinystrio ydyw. Synia dosbarth arall am dano fel corphoriad o eiddigedd ac uchelgais am fod yn y golwg, yn barod i wneud unrhyw beth hynod, os dwg hynny ef ei hun i fwy o sylw. Ond y mae dosbarth arall drachefn yn edrych arno fel prophwyd, fel y Josuah sydd i arwain gwerin Prydain Fawr i wlad yr addewid. Rhaid cyfaddef fod ynddo elfenau sy'n rhoddi sail i'r tair tybiaeth yn ei gylch. Ac y mae un peth yn wir am dano sydd yn sicr o gael ei grybwyll gan nad pa syniad a goleddir, y mae wedi Cadw ei Hunaniaeth yn Nhy y Cyffredin. A dim ond hanner gwallgofddyn, neu ddyn am fod yn hynod, neu broffwyd allasai wneud hynny. Faint bynnag o wir oedd yn nywediad Wil Bryan, fod students y colegau duwinyddol yr un fath a postage stamps, gellir cymhwyso y dywediad gyda llawn cymaint o briodoldeb at aelodau'r Senedd. Mae rhywbeth yn awyr Ty y Cyffredin sy'n dinystrio hunaniaeth bron bawb el iddo. Gwisgant yn ol ffasiwn neillduol, edrychant ar bynciau gwladwriaethol drwy wydrau neillduol, barnant angenion y deyrnas wrth safon neillduol-ffasiwn, gwydrau, a safon Ty y Cyffredin. Ni siaredir yno ond yn ol rheolau arbenig, ni wiw dangos yno ond gradd benodol o frwdfrydedd. A'r canlyniad yw fod pedwar-ar-bymtheg o bob, ugain o'r rhai a groes- ant riniog y Ty yn colli eu hunaniaeth yn llwyr. Ond y mae Mr. Keir Hardie wedi gorchfygu Ty y Cyffredin. Gwisga yno yn wahanol i bawb arall, mor werinol ag y gall neb wisgo. Yn ei yniyl ef yr oedd Mr. John Burns-cyn iddo fynd yn Wir Anrhydeddus-yn gwisgo fel un o'r pendefigion. Ni chydnebydd ffasiwn y Ty hyd yn nod i'r graddau o wisgo het gron. Mae'r aelodau a'r gwylwyr wedi cynefino ag ef bellach, ond pan aeth yno gyntaf, gan yrru at y fynedfa mewn cerbyd agored mawr, tebyg i'r cerbyd a red rhwng Pwllheli ac Aberdaron, a thorf o weithwyr West Ham yr osgorddlu iddo, yr oedd y syndod yn barlysol. Dywedid yn bur hyderus y pryd hwnnw y tynnai Ty y Cyffredin ei hynod- rwydd ohono yn bur fuan. Ond hyd yn hyn y mae wedi methu, ac erbyn hyn wedi rhoi yr ymgais i fynu. Ac megis yn ei wisg a'i ymddangosiad felly hefyd y mae wedi cadw hunaniaeth yn ei ddull o feddwl a siarad. Yr un yn union yw ef ymhob ystyr heddyw ag oedd pan yn chwilio MR. J. KEIR HARDIE, A.S. 1 a.d am ryw etholaeth i'w wneud yn Aelod Seneddol. A pha faint bynnag o awydd tynu sylw a all fod ynddo, nid oes dadl nad yw yn wr 0 Argyhoeddiadau Dyfnion, a theimladau cryfion anghyffredin. Nis gall neb wrando arno yn siarad na bod yn ei gymdeithas heb gael ei argyhoeddi o hynny yn fuan, pa un bynnag a gytuna ag ef neu beidio. Er nad yw yn Gymro, y mae yn Gelt, a daw cryfder a gwendid y Celt i'r golwg yn amlwg ynddo. Mae'n breuddwydio breuddwydion ac yn gwisgo siacced fraith mae'n byw ym myd delfrydau a ystyria llu mawr o'i gyd-Seneddwyr yn anymar- ferol. A medd hefyd ar athrylith y Celt i bortreadu dyfodol goleu, a chyda hyawdledd sy'n swynol odiaeth gwahodda y werin i'w ddilyn i feddiannu y dyfodol hwnnw. Gyrfa ramantus ydyw gyrfa James Keir Hardie wedi bod. Ganwyd ef yn un o bentrefydd glofaol swydd Lanark, yn Ysgotland, yn y flwyddyn 1856. Saer llongau oedd ei dad o ran galwedigaeth ac Atheist o ran ei gredo. Yr oedd y teulu yn dlawd iawn. Ni chafodd James ddiwrnod o ysgol erioed. Dysgodd ddarllen rywsut cyn ei fod yn cofio yn iawn, ac ymberffeithiodd yn hynny wrth ddarllen y llyfrau darluniau yn ffenestr siop y llyfrwerthwr. Pan yn wyth mlwydd oed dechreuodd weithio yn y pwll glo, a pharhaodd gyda'r gorchwyl hwnnw am bym- theng mlynedd. Yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg cyn medru ysgrifenu cymaint a'i enw. Ond erbyn ei fod yn dair-ar-hugain yr oedd wedi dysgu ysgrifenu yn dda, ac wedi meistroli llaw- fer, a rhifyddiaeth, a llawer o ganghenau eraill gwybodaeth. Yr adeg honno rhoes heibio dorri glo, a daeth yn ysgrifenydd un o Undebau y Mwnwyr. Ym mhen dwy flynedd trodd at newyddiaduriaeth, ac am bedair blynedd bu yn is-olygydd papur newydd lleol. Yn 1888, pan yn ddeuddeg-ar-hugain oed, ceisiodd fynd i'r Senedd dros ran o swydd Lanark. Methiant fu yr ymgais honno, ac aeth yntau ymlaen a'i waith gyda'r wasg ac addysgwr y werin. Yn 1892 etholwyd ef dros Adran Ddeheuol West Ham gyda mwyafrif mawr, ond cafodd ei daflu allan dair blynedd yn ddiweddarach, ac allan o'r Senedd y bu nes y dewiswyd ef yn aelod dros Ferthyr Tydfil. 0 ran ei olygiadau gwleidyddol Sosialydd ydyw Mr. Keir Hardie, ac nid yw un amser yn ceisio lliniaru na lleddfu dim ar ei Sosialaeth. Nid Sosialaeth anffyddol fel eiddo y diweddar Charles Bradlaugh ychwaith yw ei Sosialaeth ef. Seilia hi ar y Testament Newydd yn hollol, ac y mae yn ddyn gwir grefyddol o ran ei ysbryd. Ond fel Creawdwr PlaidlAnnibynol Llafur yr adwaenir ef oreu, a'r symudiad hwnnw sydd wedi rhoddi iddo amlygrwydd mor fawr. Yr oedd cynrychiolwyr Llafur yn Nhy y Cyffredin ymhell cyn i Keir Hardie fyned yno, ond fel Rhyddfrydwyr yr etholwyd hwy, ac fel aelodau o'r blaid honno y gweithredent. Keir Hardie oedd y cyntaf i ddadlu y dylasai Llafur gael cynrychiolwyr heb fod yn perthyn i un o'r ddwy blaid Seneddol, cynrychiolwyr cwbl annibynol. Nid yw ef yn credu yn y Rhyddfrydwyr mwy nag yn y Ceidwadwyr. Mae llawer o bobl yn methu deall ei safle, ond anhawdd gwybod paham. Ei syniad ef yw na cha Llafur chware teg hyd nes y bo yn ddigon cryf yn y Senedd i lywodraethu pethau. Ni wna y Rhyddfrydwyr ond symud ymaith y cwynion mwyaf cywilyddus, ac y mae gwneud hynny yn anfantais yn hytrach na mantais, gan ei fod yn peri i'r werin dybied ei bod yn cael cyfiawnder. Myn ef osod y fwyell ar wreiddyn y pren ar unwaith, a gwell ganddo adael ei ganghenau yn llonydd nes y daw'r adeg i'w dorri i lawr. Mae pob diwygiwr cymedrol a