Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

EISTEDDFOD CITY ROAD.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD CITY ROAD. Cynulliad Mawr yn Shoreditch Town Hall. Ar un adeg bu'r eisteddfodau a gynhelid yn flynyddol o dan nawdd Eglwys y Wesleyaid yn City Road yn fath o uchel-wyliau ym rnywyd Cymry Llundain, ond am ryw achos neu gilydd gadawyd hwy o'r neilldu, a daeth pobl Falmouth Road i lanw'r adwy. Erbyn hyn y maent hwythau megis wedi blino ar y llafur ynglyn a'r fath gynulliad, a chaiff pob capel ac eglwys gynal eu heisteddfod leol, heb enyn fawr o ddyddordeb o'r tu allan i furiau yr adeilad Ile'u cynhelir. Ond caed eithriad i'r dosparth hwn eto nos Iau cyn y diweddaf, oherwydd anturiodd Capel City Road eangu y cortynau eleni eto drwy symud y cyfarfod cystadleuol i neuadd Shore- ditch a rhoddi iddo gymaint bri fel y gellid gyda phriodoldeb ei alw yn eisteddfod, a dang- osodd y dorf ddaeth ynghyd fod yn bosibl cael cynulliadau llwyddianus ond gofalu am drefn- iadau amserol a gwyr addas i reoli pob peth ynglyn a'r fath wyl. 'Roedd y frawdoliaeth yn City Road wedi bod yn ffodus i gael pwyllgor gweithgar, gyda dau ysgrifenydd campus yn mhersonau Mri. Eddie Evans ac Ebenezer Hughes, ac mae'r IIwyddiant ddilynodd yr anturiaeth yn profi eu bod wedi taro'r tant priodol i foddio torf o Gymry'r ddinas. Daeth nifer rhagorol o gystadleuwyr, yn ogystal a gwrandawyr, ynghyd i'r wyl, a chad- wyd y beirniaid yn ddyfal wrth eu gwaith yn ystod y noson faith. Y beirniaid oeddent Mr. Hugh Hughes, Treherbert, ar y gerddoriaeth; y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., ar y traethawd; Elfed ar y farddoniaeth; Mr. Barker ar y cyfieithu; Mr. Tudor Rhys yr adrodd; a'r gwragedd ffyddlon, Mrs. Meredith, Mrs. Evans, Mrs. Morgan, a Mrs Maengwyn Davies, ar yr amrywiaeth. Cyfeiliwyd i'r cystadleuwyr gan Miss Deborah Rees, a gofalodd Mr. Maengwyn Davies am yr arweinyddiaeth. Yr oedd safon y gwahanol gystadleuaethau yn bur uchel, a rhoddai'r naill feirniad fel y Hall y ganmoliaeth uchaf i amryw o honynt, heb law son am ranu y wobr unwaith neu ddwy yn ystod y noson. Dyma restr o enwau'r enillwyr ar y gwahanol adranau y buwyd yn cystadlu arnynt:— Unawd Soprano, Miss Mary Florence Jenkins, New Jewin. Unawd Contralto, Miss Florence Eldridge, Downs Road, Louver Clapton. Unawd Tenor, Mr. LI. Lloyd Huws, Gothic Hall. Unawd Baritone, Mr. Tom Jones, New Jewin. Pedwarawd, "Gwaredigaeth Pedr," rhanwyd rhwng parti Gothic Hall, o dan arweiniad Mr. LI. Lloyd Huws, a parti Morley Hall, o dan arweiniad Miss Thomas, Hackney. Canu'r Berdoneg, i blant, rhanwyd rhwng Miss Blodwen Jones, King's Cross, Miss M. Morgan, Jewin, a Miss Lizzie Dennis. Canu Ton Gynulleidfaol i barti 012; goreu, parti Mr. Thomas, Hackney. Deuawd, Tenor a Bass, Mri. LI. LI. Huws a J. Cowley, Gothic Hall. Y Brif Gystadleuaeth Gorawl oedd prif at- dyniad y cyfarfod yn yr adran yma, a daeth pedwar cor i'r ymdrechfa. Canasant oil yn wir dda, ond y goreu o ychydig oedd Cor Capel City Road, o dan arweiniad Mr. LI. LI. Huws, Gothic Hall. Yn adran yr Areitheg rhanwyd y wobr rhwng Miss Annie C. Jones, Clarence Road, Clapton, a Miss Jennie Davies, Falmouth Road; ac yn yr adroddiad Cymraeg cafodd Mr. Richard Wood, Capel y Boro, y pres a'r anrhydedd. Am gyfieithu o'r Gymraeg rhanwyd rhwng Mr. T. Lloyd Roberts, Charing Cross, a Mr. J. Williams, Gothic Hall; ac o'r Saesneg, Mr. R. Pierce Jones, Gothic Hall, oedd y buddugwr. Hanfodion bywyd crefyddol llwyddianus oedd testyn y prif draethawd, a dyfarnwyd cyn- yrchion "Omega," "Haminiog," ac "Efrydydd" yn gyfartal. Nis atebodd y ddau flaenaf i'w henw yn y cyfarfod, ond caed Efrydydd ym mherson Mr. Moses Roberts, Birmingham. Am y Farwnad goffa i'r ddiweddar Mrs. Jones rhoed y pres i "Cyfaill y Galarwyr," sef y Parch. J. Humphreys, gweinidog Wesleyaidd, Treorci. Dau englyn, "Y Diwygiad," goreu, eiddo "Effro," sef Mr. T. Cenech Davies, Glanrhyd, Ton, Pentre. 1'r merched caed dwy gystadleuaeth arbenig, sef gwau par o hosanau, ac am hyn gwobrwywyd Mrs. Williams, o'r Boro, yr hon a ddychwelodd y wobr i'r pwyllgor. Yr oedd gwaith Miss Humphries, Llansilin, yn haeddu cymaint clod fel y dyfarnodd Mrs. Meredith, City Road, ail wobr iddi. Am wneyd "Tea Cosy," goreu, Miss Cassie Davies, Charing Cross. Y BEIRNIADAETHAU. Y FARWNAD. Daeth tair marwnad i law ond drwg genym orfod dweyd mai gwan a diafael yw dwy o honynt. Nid yw Deitws," i ddechreu, wedi meistroli y Cymraeg. Rhaid iddo ymroddi i'r Gramadeg Gymraeg os am ragori, a rhaid iddo hefyd godi, o ran arddull, uwchlaw cyffredinedd. "Tear drop.We find the same defects in this English poem viz., lack of good gram- matical construction, and too much of the commonplace. For instance, no one can parse such a line as this— And we our loss to mourn her gain to greet. Nor can I make good sense of such lines as these-- Alas that mother's heart, that heaved with joy, And grew the richer with unstinted pride; To her was she, as to a child, a toy, She was her all, to succour and to guide. The poem is smoothly written, and in metre and rhyme is all that could be desired. Yn ffodus mae genym un ar ol-eiddo "Cyfaill y Galarwyr," ac ystyriwn fod y gerdd syml, gar- trefol, nodweddiadol hon yn haeddu'r wobr. DAU ENGLYN- Y DIWYGIAD." Nid yw englyn Dafydd" yn meddu cyng- hanedd o gwbl; ac nid yw "Eto Unwaith" ddim gwrell, gan mai dwy linell yn unig sy'n gywir. ganddo. Y mae Pererin Llesg wedi colli yn ei linell olaf drwy fai amlwg Rhy debyg." Y mae'r cyrch yn anghywir yn ei englyn cyntaf gan "Llwyd Bach." Yn anffodus y mae Profiad" wedi andwyo dau englyn da trwy sillebu Cymru yn Gymri; hawdd fuasai iddo gryfhau cynghanedd ac ystyr ei ddwy llinell gyntaf, rywbeth fel hyn— Y Diwygiad o wegi-ddihunodd Enaid gwlad i foli. Y mae englynion Dewi," Dan ei Swyn," a "Thoriad y Dydd" yn gywir, ond yn meddu llinellau egwan o ran ystyr, megis- Cywirol donnau cariad. Gwawl o wyneb goleuni. Lief lor yn lIef i wirio. Ceir gwell gwaith gan "John Penri," "Crom- well," ac "Effro." Nid wyf yn hoffi "brwd eneiniad" nid oes berthynas o gwbl rhwng eneiniad a rhywbeth brwd. Tywallt olew ar y pen yw eneinio: a hoffai'r bardd ei gael yn frwd? Ystyriaf mai "Effro" yw y goreu, ac iddo ef y dyfarnir y wobr am ddau englyn z;1 gafaelgar a da, yn diweddu'n rymus. ELFED. Y DIWYGIAD, Dvyf awel o adfywiad-i gyrhaedd Gwerin gwlith eneiniad. Duw agos, yw'r Diwygiad, A'i anadl Ef lon'd y wlad. Cenedl effro yn canu;—Ysbryd dwys Pwerau Duw'Ù plygu. Yn y llwch eneidiau'r llu, Nes troi oes at yr lesu. EKFRO. THE ADJUDICATION ON THE ESSAY. The competition for the essay On the essentials of a successful Christian life brought fourteen competitors into the field. I immedi- ately congratulate the Eisteddfod Committee on the fact that they have fixed on a subject that appealed to so many competitors, and it is further a source of cheer and satisfaction that so many young people in our midst take delight in high thinking and, I should gather too, in high living. The essays vary conspicuously in length. Candidates should remember that an adjudicator does not reward an essay "by the yard." Qne essay covered fifty pages, another forty-seven. Surely candidates ought to write, not all they know about the subject, but all they consider of exceptional value in what they know about it. One of the prize essays in this com- petition is also the shortest. Its brevity is not its only merit, for in its short compass there is so much real substance as there is in the long- drawn-out essays. Of course, the essays must vary considerably in merit. There was some misunderstanding or disagreement among the candidates as to the meaning of the subject. It is fair to say that the subject is not of my setting. Some thought that what was required was an examination of the essential methods or means towards attaining the grand end-the religious character; others thought that the subject required more of an analysis of the end itself, a diagnosis of the Christian ideal. Maybe that a little of both would be desirable in treating the subject-, though that would be made more explicit, if the subject was "The Christian character, and the way to attain it." But no essayist has suffered much for taking too one- sided a view of the subject, in either direction. Each one has been judged on its merits, from its own point of view. I have weighed the merits of the essays very carefully, indeed; I have adjoined to each essay certain comments, for considering which I shall be obliged to all the candidates. The verdict may not be a popular one: if it will lead to my not being asked again to adjudicate, I shall not grieve, as it is not a task to court, to read 14 long essays, not always written in a legible style 1 But my verdict is the only one I can give conscientiously. And that is, while I am sorry that Deudraeth and Herodius'" essays—excellent in many ways- must be unrewarded in this competition, the prize of 25s. ought to be equally divided between three, viz., "Omega" (the writer of the shortest essay in the competition), "Efrydydd," and Haminiog," who obtain from a possible 120 marks r08 a piece. Whatever pleasure and edification, and I have had much of both, have come to me through reading these essays, I thank the competitors one and all, and only trust that the spirit that runs through the essays is a cortect expression of the ruling spirit of their lives. Total Marks, 120.—Haminiog 108, Efrydydd 108, Omega 108, Deudraeth 107, Herodius 105, Ap Idloes 100, Oenig Wyllt 98, Meirion 89, Disgybl 87, Brodor o Lundain 85, Un o'r Fyddin Lan 85, Solomon Jones 80, Anfedrus 72, a Meirionfab 70. GWILYM H. HAVARD. Yn ySLod y cyfarfod canwyd can yr Eistedd- fod gan Miss K. Towena Thomas. Deallwn fod y cyfan wedi troi allan yn llwyddiant perffaith ac y ceir swm sylweddol tuag at drysorfa'r capel oddiwrth yr wvl.

Advertising