Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. "\VINSTON.Mae'r Undeb wedi llwyddo i gael addewid pendant gan Mr. Winston Churchill y bydd iddo ddod i'r cyfarfod a gynhelir ar y 28ain o'r mis hwn. NEWID Y NOSON.—Ar nos Sadwrn y bwriedid cynal y cwrdd ar y dechreu, ond dywed y ddau Aelod Seneddol sydd i siarad mai nos Iau fydd mwyaf cyfleus iddynt. "WILL CROOKS."—Mae'r aelod poblogaidd dros Woolwich wedi addaw dod i'r Cyfarfod Dirwestol gynhelir nos lau nesaf yn Jewin. Bydd Mrs. Lloyd George yn llanw'r gadair, a 'Y disgwyljf torf fawr yno hefyd. MR. TIMOTHY DAVIES, A.S.-Nid yw'r aelod tros Fulham yn bwriadu aros yn ddistaw yn y Senedd, a gwelwn ei fod eisoes wedi bod yn holi'r Ysgrifenydd Cartrefol ynghylch rhai o arferion amheus gwerthwyr diodydd meddwol. AR GOLL-Aeth pregethwr Cymdeithas y Brythonwyr ar grwydr nos Iau diweddaf, a bu raid cynal cwrdd agored am y tro. Y llywydd oedd Dr. Walter Davies, D.P.H., yr hwn a roes araeth amserol ar "Dalentau Cuddiédig." Nos Iau nesaf disgwylir araeth gan lenor enwog, a rhoddir croesaw i bob Cymro ddod i'r cwrdd. Yn y Clwb Cymraeg y cynhelir y cynulliadau am y tymor presenol. Y cyfeiriad yw 2, White- hall Court, a gall yr anghyfarwydd ei gyrhaedd ond gofyn i'r porthor. Mae lift o'r llawr isaf i gludo pawb i fynu i'r Clwb Cymraeg. CVDYMDEIMLAD.- Y n nghyfarfod y Brython- wyr pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad yr aelodau a gweddw a merch y diweddar Edward Owen (Cadfanydd) ar ol colli priod a thad mor anwyl. Yr oedd Mr. Owen yn un o sefydlwyr y Gymdeithas, ac wedi dal yn ffyddlon i'r cyfar- fodydd ar hyd yr holl amser. SIARADWR ARALL.-Mae Cymru wedi cael llais newydd yn Nhy'r Cyffredin, a phrofodd Mr. W. Llewelyn Williams, yr aelod newydd tros Fwrdesdrefi Caerfyrddin, yn ei araeth gyntaf, ddydd Llun, mai nid aelod mud fydd efe. Cafodd wraudawiad astud, ac am dros hanner awr o amser profodd ei fod yn feistr ar areitheg y Ty ac ar y pwnc yr ymdriniai ag ef. Ar derfyn ei araeth rhoddwyd cymeradwyaeth cyffredinol i'r aelod newydd, a doedd neb yn Hawenhau yn fwy am ei lwyddiant na Mr. Lloyd George ei hunan. Os enwogodd ei ragflaenydd, -Mr. Alfred Davies, ei hun fel holwr cwestiynau, y mae Mr. Williams, yn debyg o wneyd ei qnod fel un b'r areithwyr blaenaf a anfonwyd i'r Senedd o Gymru. WOOLWICH.—Mae'r eglwys Annibynol yn Woolwich a'i bryd ar godi capel newydd, a chan fod nifer dda o Gymry gweithgar yn y cylch mae argoelion llewyrchus ar yr anturiaeth. Nos Iau, Chwefror 22ain, caed cyngherdd rhagorol yn y Neuadd Drefol er budd yr achos, a chymaint oedd y tyru i'r lie fel y bu raid troi amryw ugeiniau ffwrdd o ddiffyg lie. Yr oedd y pwyllgor lleol wedi sicrhau nawddogaeth yr Aelodau Seneddol D. Lloyd George, Will Crooks, Syr John Puleston, Parch. L. Jenkin Jones, Maer Woolwich, a llu mawr o urddas- olion lleol, a rhoed cyhoeddiad eang i'r cyfarfod fel nad oedd yn syndod gweled y fath dorf wedi dod ynghyd. Y RHAGLEN.—Yr oedd rhaglen ddeniadol iawn hefyd wedi ei threfnu erbyn y noson a chantorion o'r radd flaenaf wedi eu sicrhau, a'r farn gyffredin yw na chaed yn Woolwich ers hir amser well cynulliad na gwledd gerddorol ragorach nag a roed y noson hon. Y cantorion oeddent Miss Gertrude Hughes, Miss Gwladys Roberts, Mr. Spencer Thomas, a Mr. Ivor Foster. Yn eu cynorthwyo 'roedd Cor Meibion Merlin Morgan, heb son am y crythor poblog- aidd, Mr. Philip Lewis. Afraid fai siarad am bob cerddor yn unigol digon yw dweyd iddynt oil orfod ail-ganu a chawsant bob un dderbyniad hynod o frwdfrydig, a rhaid addef iddynt ganu yn rhagorol bob tro, a sicr os dygir y fath dalentau eto i'r He y rhoddir iddynt gefnogaeth barod iawn. GWEITHWYR DA.-Mae digon o anturiaeth yn y rhai sy'n gyfrifol am achos Woolwich, a dyna'r rheswm paham y trodd y cyfan allan mor benigamp. Yr oedd pwyllgor ffyddlon wedi ei drefnu o dan lywyddiaeth Mr. W. H. Lewis, a chyda Mri. R. G. Thomas a L. Davies Lewis fel ysgrifenyddion; a gwyr y rhai sy'n adwaen y cyfeillion hyn eu bod yn rhagori mewn trefnu cyfarfodydd o'r fath. Da genym ddeall hefyd fod y cwrdd wedi troi allan yn llwyddiant perffaith yn y wedd arianol yn ogystal ag yn gerddorol. Ewch rhagoch, wyr Woolwich DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, Chwefror 6ed, mwynhawyd noson gerddorol dra hyfryd dan gyfarwyddyd medrus organydd ein heglwys, sef Mr. T. Vincent Davies. Cymerwyd rhan yn y canu gan Mrs. Gordon Lewis, Misses Maggie Pierce ac Ada Davies, Mri. Dick Pierce, H. Pierce, T. Jenkins, ac eraill. Diolchwyd yn gynhes i Mr. Davies am drefnu noson o'r fath, ac i bawb a gymerasant ran yn y canu, a diweddwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. LLWYDD YR EGLWYS.—Pregethir yn ystod y Garawys ) n Dewi Sant gan offeiriaid dieithr. Llanwyd y pwlpud nos Fercher, Mawrth 7 fed, gan y Parch. W. Davies, Holloway.—Cymerir dyddordeb mawr yn holl weithrediadau yr eglwys hon gan y foneddiges garedig ac haelionus, Miss Armstrong Williams, a'r wyth- nos ddiweddaf anrhegodd yr eglwys a "pulpit frontal" a "book markers." Nid dyma'r unig roddion a gawsom ganddi yn ddiweddar. Hir pes iddi a bendith ami. CHARING CROSS ROAD.-O dan nawdd Cym- 'deithas Ddirwestol y Merched cafwyd cyfarfod da iawn yn y lie uchod nos Fercher, Mawrth 7fed. Daeth nifer liosog ynghyd, ac o dan lywyddiad Mrs. Timothy Davies trodd allan yn. gyfarfod llwyddianus iawn. Cymerwyd rhan gan y persOriau canlynol :—Miss Ashton, Mr. Richard Thomas, Mrs. Timothy Davies, Miss Anna Jones, Dr. Rowlands, Mr. Stanley Davies, Mr. John Phillips, Mr. Dewi Evans, Miss Hughes, Mrs. Capell, a Mrs. D. Edwards. TOTTENHAM —Da genym ddeall fod yr eglwys Fethodistaidd yn y cylch hwn yn myned ym rtilaen yn dra llewyrchus ar hyn o bryd. Mae'r Parch. W. HL Davies, Pontsaeson, Llanori, ger Aberystwyth, wedi dod i ofalu am y lie hyd ddiwedd Ebrill. a chan ei fod yn bregethwr gwych ac yn weithiwr cysson diau y gwelir llawer o ffrwyth ei arosiad yn ein mysg. RHESWM A THEIMLAD.-Dadleu ar y rhai hyn fel elfenau arweiniol ein bywyd fu gwaith Cymdeithas y Tabernacl nos Sadwrn, Mawrth 3ydd. Arweinid plaid y rhesymwyr gan Mr. W. H. Lewis a dadleuai Mr. Rudolph Davies dros werth teimlad. Yr oedd y siaradwyr yn afres- ymol o unochrog dros reswm, a hwy a orfu yn yr ymraniad ar y diwedd. JEWIN NEWYDD.—Nos Fawrth y 6ed cyfisol, trwy garedigrwydd y brodyr hynaws Mr. Abraham Owen a Mr. Tom Phillips, cafodd aelodau y Gymdeithas Ddiwylliadol yn y lie hwn wledd o'r fath oreu i'r corph a'r meddwl. I ddechreu, cafwyd cyngherdd rhagorol, pryd y cadeiriwyd gan Mr. T. H. Davies, ac y dadgan- wyd gan amryw gantorion o fri. Ar ol y cyngherdd cafwyd cyflawnder o ddanteithion. Mae ein dyled yn fawr i'r ddau frawd fu mor garedig a threfnu y cyfarfod. EISTEDDFOD EAST HAM.—Nos Iau, Mawrth 8fed, cynhaliwyd eisteddfod lwyddianus iawn yn y Recreation Hall, Manor Park, mewn cyssylltiad a'r achos yn Sibley Grove, East Ham. Cadeirydd, Mr. W. Lloyd Owen. Beirniaid, Pedr Alaw, Mr. D. Richards, A.R.C.O., a'r Parch. R. C. Sloane. Yr oedd oddeutu 150 o gystadleuwyr wedi anfon eu henwau i mewn, a throdd y mwyafrif os nad y cyfan o honynt i fynu. Buwyd yn neillduol o ffortunus yn ein cadeirydd, Mr. W. Lloyd Owen, yr hwn nid yn unig a roddodd anerchiad fer, bwrpasol, ac yn llawn brwdfrydedd Cymreig, ond a gyflwynodd hefyd swm anrhydeddus tuag at y drysorfa. Cafodd pob cystadleuaeth ei chynrychioli'n dda. Nid ymddangosodd cymaint ag un cystadleuwyr gwael ar y llwyfan, yr hyn oedd yn ychwanegu at lwyddiant y cyfarfod. Yn sicr cafodd y beirniaid dipyn o waith nos Iau i weinyddu cyfiawnder, a dodwyd hwy yn y fath bwynt ar adegau nes gorfod rhanu y'gwobrwyon. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai hyn :—Duet, "Watchman, what of the Night," Mri. Claude Dyer a A. Bannister; unawd soprano, "From Mighty Kings," Miss Elsie Wood, Stratford; .unawd contralto, Abide with Me," Miss Grace Pickford, Manor Park; unawd tenor, "Thoughts and Tears," Mr. A. Bannister, Forest Gate; unawd baritone, "The Sailor's Grave," Mr. D. Jones (Llew Caron). Can i blant dan 14 oed, i, Lalla Thomas; 2, Miss Queenie Groves; 3, Miss Olive Course. Pianoforte solo, "Cymbeline," Miss E. Kemesh, Leytonstone; adroddiadau, "Julius Caesar," Miss Rooce a Miss W. Steele, Forest Gate; adroddiadau i blant, "Confession," Mr. Idris Evans, East Ham. Cyn ymadael rhoddwyd diolch i'r Cadeirydd ar gynygiad y Parch. Llewelyn Bowyer, yn cael ei eilio gan Mr. J. Owen Jones, ac unodd pawb yn galonog mewn cymeradwy- aeth pan ddatganwyd teimlad o ddiolchgarwch iddo fel hyn :— J. Owen ein llwydd heno—rhown air Oreu'n calon iddo Treiddia'r boneddwr trwyddo • A dim ei fath-dyna fa. •••"• Haul ei anian yw haelioni—a'i ddawn 'N ddoniol at reoli; Yn nwfn god ein 'Steddfod ni Dyry a gwen dair gini. Haedda yr ysgrifenyddion, Mri. Dan ac Evan Evans, y ganmoliaeth uchaf sy'n bosibl am eu llafur diflino yn ngweithiad allan y trefniadau, y rhai oeddent yn bobpeth allesid ddymuno. Fe ofala'r pwyllgor am le mwy y tro nesaf.. HAMMERSMITH. — Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o dan nawdd Cymdeithas Ddiwyll- iadol yr eglwys uchod nos Fercher diweddaf, o dan lywyddiaeth y Parch. F. Knoyle, B.A. Cafwyd addewid gan Mr. Elllis J. Griffith, A.S., llywydd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol, r y buasai'n bresenol yn y cyfarfod, a mawr ydoedd y disgwyliad am dano. Traddododd Mr. "Griffith anerchiad grymus, yn llawn o hwyl ag ysbryd Cymreig—yr ysbryd Cymreig hwnnwäg y mae Mr. Griffith yn feddianol arno i'r fath

Notes of the Week.