Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Pobl a Phethau yng Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. O'R wyth neu naw drama ar Owain Law- goch" a anfonwyd i'r gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf, nid oes yr un yn deilwng i'w hactio, fel y bwriadai y pwyllgor, os ceid un o ryw werth. MAE John Morgan, y llanc a gymerasid i'r ddalfa ar y dybiaeth mai efe gyflawnodd yr anfadwaith fu yn achos o farwolaeth y plentyn Edith Wall, yn Nhredegar Newydd, wedi ei ollwng yn rhydd, am nad allai yr heddgeidwaid gael dim tystiolaeth i'w euogfarnu. Hyd yn hyn nid oes dim goleuni ar y dirgelwch. MAE yn ofnus y ceir dyddiau blinion ym Mhontypridd ar fyrder. Honna hynafiaethwyr yn awr nad oes mwy na hanner can' mlynedd er y gosodwyd y Maen Chwyf lie y mae yn bresenol. Dywedir fod Morien yn trefnu'r byddinoedd i roddi taw bythol ar y fath gabldraeth. DYGWYD cynghaws cyfreithiol gan lowr sy'n Geidwadwr yn erbyn Cyngrhair Mwnwyr De- Tieudir Cymru am fod y Cyngrhair yn gorfodi ei holl aelodau i dalu cyfran tuag at ethol a chynal cynrychiolwyr yn y Senedd. Ond dy- farnodd y Barnwr Owen fod gan y Cyngrhair berffaith hawl i wneud hynny, ac os nad oedd aelod yn foddlon talu y gallai roddi ei aelodaeth i fynu. AETH y Parch. Dr. John Pugh, o Gaerdydd, i'r Aipht am ei iechyd. Tra yno bu yn bur wael, ac y mae yn awr yn gorphwys yn Alexan- dria. Ond disgwylir y bydd yn alluog i gychwyn tua chartref yr wythnos hon. Gobeithio y bydd wedi llwyr wella erbyn y cyrhaeddo i Gaerdydd. MAE rhyw Fardd Cadeiriol wedi ysgrifenu llythyr o golofn o hyd i'r Western ilfail i brofi mai Ceiriog ydyw y mwyaf poblogaidd o holl feirdd Cymreig y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Ni chlywsom ni fod neb yn amheu hynny. Pe gallai yr ysgrifenydd hwn brofi o fewn terfynau .colofn pwy o'r beirdd Cymreig yw y lleiaf poblogaidd buasai yn gwneud gwasanaeth gwerth- fawr, ac ni buasai hynny yn wastraff ar athrylith. AR ddwyn allan fisolion nid oes ddiben. Y diweddaf i ddangos ei wyneb yw y Welsh Review. Yng Nghaerdydd y cyhoeddir hwn, ac nid oes brawddeg Gymraeg ynddo. Ond y mae yn bur ddyddorol. Dylai y golygydd beidio gyru y darllenwyr i hanner llewyg yn rhy ami gyda dadguddiadau. Mae yn y rhifyn cyntaf un dadguddiad o leiaf a wnaeth i lawer hanner pendroni, sef, fod Mr. David Davies, yr A.S. dros Faldwyn, yn or-\vyr i "John Jones, Talsarn." A hwythau wedi meddwl mai tad- ynghyfraith modryb iddo o chwaer ei fam oedd John Jones." Ebe gwr a ddadleuai ei achos ei hun yn y 'Cwrt Bach yng Nghastellnedd y dydd o'r blaen, Wrth ei wrthwynebydd, Fe ddylech fynd i'ch -cynhebrwng yn eich dillad, eich hun os nad elhvch fforddio talu am eraill." MAE y Parch. D. T. Hughes, rheithor Tal- sarnau, sir Feirionydd, wedi bod yn gwasan- aethu fel athraw yn Ysgol Genedlaethol Llan- decwyn heb ddim tal am y tri-mis-ar-ddeg diweddaf. Gwrthododd Pwyllgor Addysg y sir bennodi athraw am y barnai nad oedd angen yr ysgol. Pan agorodd y Rheithor Hughes hi, nifer yr ysgolheigion oedd pedwar. Y maent erbyn hyn yn saith.
[No title]
News
Cite
Share
Y GOMER press, 9, RED LION COURT, FLEET Be^EET' am holl Gyhoeddiadau'r Byd a'r
/CLEBER O'R CLWB.
News
Cite
Share
CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] BETH yw'r achos fod y fath ddiffyg anturiaeth yn nodweddu'r cyhoeddwyr Cymreig fel dos- barth ? Dyna oedd testyn ymgom a gaed pwy noson ar ol clywed rhywun yn siarad ar y pwysigrwydd o gael papyr cenedlaethol i Gymry Llanrwst, Chubat, Khassia, a phob plwy trwy y bydysawd, ac i'r nefolion a'r tanddaearolion awdurdodau. Yr oedd y mater yn un mor bwysig fel y bu raid cael trafodaeth sobr arno; ac roedd rhai o'r siaradwyr megys wedi eu gorlyncu gan wladgarwch pur, fel y credent eu bod yn traethu yr hyn oedd barn pedwar ugain o bob cant o Gymry Gwlad yr Aipht a phob gwlad arall. Wrth gwrs, lies cenedl y Cymry oedd wrth wraidd y cyfan, ac nid unrhyw syniad o enill personol, neu ariangarwch. Hawyr bach, ni feddyliodd neb fod hyny'n bosibl, a'r unig fater oedd pa sut i gyfrif am ddifrawder y cyhoeddwyr Cymreig. Yr oeddent bob un-o Gaergybi i Gaerdydd—mor amddifad o genedl- aetholdeb fel nad oedd papyr Cymraeg gwerth yr enw yn cael ei gyhoeddi ganddynt. Yr oedd y llyfrau a argreffid ganddynt yn sal odiaeth ac yn gyfieithiadau ail-law bob tudalen. Nid oeddent yn adverteisio dim yn y papurau Seisnig, nac yn gosod eu cynyrchion ar y gorsafoedd nac yn y siopau cyffredin fel y gwnai'r cyhoeddwyr Seisnig. Pa ryfedd eu bod mor bell yn 01 'i EDRYCHWCH eto, ebai rhywun arall, y mae'r llyfr hymnau diweddaraf yn cael ei gyhoeddi yn yr Iwerddon-yn Nublin. Dyna i chwi Sais o Paisley yn myned i gyhoeddi Who's Who" Cymraeg, ac os am bapyr gwerth yr enw rhaid i chwi fynd dros y don i'r America cyn cael hwnw. Yr un fath gyda chyhoeddiadau newydd- ion. Gwelais hysbysiad fod y fath gyhoeddiad a'r Welsh Review i ddod allan, ac enw ffirm o Saeson yn Llundain yn gyhoeddwyr iddo, ac er holi yno droion ni wyddent ddim am y peth Ar ol y fath restr o gwynion fel hyn, nid oedd yn un syndod fod y frawdoliaeth yn lied unfarn y dylid gwneyd rhywbeth er gwella'r byd Cym- reig mor bell ag a wnelai a'r argraffwasg. Doedd dim rheswm-mewn cyfnod pryd mae Diffyndollaeth ac amddiffynfa masnachol yn cael y fath sylw-fod prif waith y genedl, yn llyfrau emynau ac yn Feiblau, yn cael eu troi allan yn hollol gan swyddfeydd Seisnig. AR ol yr holl siarad i gyd doedd yno neb yn barod i roddi ei law yn ei boced, fel y gwnaeth Mr. Thomasson a'r Tribune, a chyfranu rhyw haner can mil o bunau tuag at sefydlu masnach- dy arall at y rhai gwael (?) sydd eisoes mewn bod, ac mae'r pwnc o ddiffvg anturiaeth y cyhoeddwyr wedi ei droi yn ddiffyg anturiaeth y beirniaid, a dyna fel rheol yw diwedd pob math o rhyw wag siarad gan bersonau na wyddant ond y nesaf peth i ddim am anhawsderau'r fasnach a maes cyfyng y rhai a weithiant i'r byd Cymreig yn unig. RHYW stori ryfedd oedd y stori a draethwyd o flaen y Llys Cyfreithiol yr wythnos ddiweddaf • gan frawd Syr Alfred Thomas, Cadeirydd y Blaid Gymreig. Yn ol fel y deallid hi gan y cyhoedd, yi oedd y brawd yn ceisio dyweyd fod Syr Alfred wedi ymddwyn yn anheg tuag ato, ac wedi manteisio ar ei eiddo pan oedd efe mewn gwallgofdy. Honai hefyd fod Syr Alfred yn meddu arfer rhyw swynion drosto, ac yn dylanwadu yn anheg arno. Yn wir, cymaint oedd y cwynion fel yr oedd yn amhosibl meddwl y cawsid neb i'w dwyn ger bron llys gwladol. ———— AR gais y barnwr daeth y pleidiau i gytundeb, a thraethodd yntau ei ddedfryd nad oedd y rhithyn lleiaf o sail i unrhyw achwyniad yn erbyn ymddygiad neu gymeriad Syr Alfred yn yr holl helynt anffortunus. Yn ol pob arddangos- iad, y mae gan y brawd syniadau rhyfedd am allu neu ddylanwad y naill feddwl ar y llall. Yn lie bod yn achos i'w ddadleu o flaen Llys Cyfreithiol, credwn mai achos i'w ddwyn ger bron rhyw gymdeithas yn ymdrin ar Feddyleg ddylai fod. PAHAM yr oedd yn rhaid troi cinio'r Cymru Fyddion—neu'r Cinio Cenedlaethol, fel ei gelwir-yn arddangosfa gyfreithiol, fel ag a wnaed yn yr Hotel Cecil eleni ? Nid wyf yn cofio bod mewn gwyl mor fflat erioed. Ni chafodd neb ddyweyd gair yno ond y rhai oeddent yn dal perthynas a'r gyfraith, ac roedd y rhai hyny i gyd yn ail-adroddiadau cyffredin o'r hyn a glywyd genym droion o'r blaen. Dyma'r trydydd tro i Mr. E. J. Griffith, yr aelod tros Fon, lanw'r gadair, a gallem feddwl wrth hyn nad oes neb yn ngolwg yr haid fechan sy'n "rhedeg" yr wyl hon yn deilwng o gael y fath anrhydedd ond efe. Pa gysylltiad hefyd sydd cydrhwng yr Arglwydd Ganghellydd a Chymru nis gwn, ond os mai rhyw siaradwr fel yna yw arwr y Cymry cenedlgarol (?) hyn, wel, dyn a'n helpo
LLOFRUDDIAETH YN NGHYMRU.
News
Cite
Share
LLOFRUDDIAETH YN NGHYMRU. Cymro o Lundain yn y Ddalfa. Nos Sadwrn diweddaf bu tro rhyfedd mewn ffermdy yn sir Drefaldwyn. Lladdwyd ffermwr parchus o'r enw John Evans a'i briod, y rhai a drigiannent yn ardal Garthbeilio. Yn ol yr hanes yr oedd Cymro o Lundain yn swpera gyda'r ddau anffodus, ac ni welwyd hwy yn fyw ar ol y noson honno. Boreu Sul caed y trueiniaid wedi marw, ac aed i chwilio am y gwr oedd yno y noson flaenorol. Ddydd Llun caed o hyd iddo mewn ymguddfan rhyw 15 milldir o le'r gyflafan, ac ar ol gwrthwynebiad tost gorch- fygwyd ef gan heddwas, a dygwyd ef i'r ddalfa. Rowland Llywarch yw enw'r gwr a gyhuddir o achosi marwolaeth Mr. Evans a'i wraig, ac y mae'n lied adnabyddus ymysg llaethwyr y ddinas. Mae ganddo fasnachdy yn Bermond- sey a Shepherd's Bush, ac mae ei wraig a'i dair merch yn aelodau parchus yn nghapel y Boro', lie yr oedd yntau yn ymwelydd achlysurol am rai blynyddau. Ni wyddis eto beth oedd achos ymweliad Mr. Llywarch a .Chymru, na'r hyn a'i cymhellodd i gyflawni'r fath anfadwaith difrifol.
PRUDENTIAL ASSURANCE CO.,…
News
Cite
Share
PRUDENTIAL ASSURANCE CO., LTD. Continued progress is shown in the very satisfactory fifty-seventh annual report of the Prudential Assurance Company, both new busi- ness and premium income indicating substantial growth. In the ordinary branch the number of policies issued during 1905 was 75,293. The pre- miums received during 1.905 were 64,123,318, being an increase of £ i 54,302 over the year 1904. Claims of the year amounted to £ i,8i2,6i8; the number of deaths was 7,437, and 7,775 endowment assurances matured. The number of policies in force at the end of the year was 773,051. In the industrial branch the premiums re- ceived during 1905 were £ 6,139,050, being an increase of £ 159,715. Claims amounted to £ 2,261,748. The number of deaths was 238,220, and 3,344 endowment assurances matured The total number of policies in force at the end of the year was 16,065,268 their average duration is 11 years. The valuation, as usual, has been made by Mr. Frederick Schooling, with the result that in the ordinary branch the surplus shown is £ 1,187,149, including the sum of ^176,249 brought forward from last year. Out of this surplus the directors have added £ 150,000 to the Investments' Reserve Fund, which stands at Z950,000, In the industrial branch the surplus is £967,7°9, including ^385>398 brought forward; the directors have added Z250,000 to the reserve fund, which ILW stands at £ 1,750,000. In the balance sheet the assets of the Com- pany in both branches reach the magnificent total of Z59,464,376, a figure which is as much as £ 4,104,871 over that of 1904. Any of our Welsh readers who are desirous of obtaining full particulars of the Company, with names of nearest agents, &c., should communi- cate with the district agent, Mr. G. H. Heap, i, Argyle Square, W.C., who will gladly give- any information.