Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT F A C H.

News
Cite
Share

Y LLOFFT F A C H YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XV. Y Llofft Fach" yn son am y Gweddill o'i Gweinidogion. ■ Mi dybiaf y gallaf gynwys y tri arall yn yr un benod. Ni fu tymor arosiad Mr. Lemuel yn fantais yn y byd i'r achos nac yn ddyrchafiad i'r gym'dog- aeth. Nid siarad dan fy nwylo yr ydwyf, ac nid d'weyd yn fy nghyfer; ond mewn gwaed oer y'mhen blynyddau ar ol ei ymadawiad. Aeth yr achos yn ol i rywle, a'r ardal dros ei phen a'i chlustiau i ddifaterwch crefyddol. Ac yr oedd yna ryw reddf unionsyth yn aros y'nghyd- wybod y wlad ag oedd yn cysylltu Mr. Lemuel a'r dirywiad. Mae'n wir y ceid rhywrai i dd'weyd taw can- lyniad Piwritaniaeth lem y gweinidog oedd y cwbl. Mr. Jones oedd hwnw; a siarada'i'r siopwr am "wrthweithiad," a'r scvvl am yswing- iad y pendil. Nid ydych wedi anghofio y fath un oedd Mr. Jones; ac y mae'n ddigon posib' fod peth gwir yn athrawiaeth y gwrthweithiad a'r pendil, fel pethau yn yr awyr. Ond cwestiwn arall yw a ellir ei chymhwyso at yr hyn yr wyf yn son am dano ar hyn o bryd. Pe buasai yma ddyn tebyg i'r dyn bach" yn ei ddilyn, fe fuasai'r pendil yr un ochr o hyd. Ond fel arall y bu, fel y cewch wel'd. Cafodd Mr. Lemuel ei wthio ar yr eglwys gan ddau neu dri o weinidogion a dd'wedent eu bod yn ei adnabod; ond nid oeddynt. Gwell genyf goelio felly am danynt nac un ffordd arall. Fel arall y mae y rhan fwyaf o'r bobl hyd heddyw yn dewis coelio. Nid oedd ond dyn deg-ar- hugain oed pan ddaeth atom ni, ond yr oedd wedi bod yn weinidog eisoes mewn pedwar o fanau. Dylasai hyny osod yr eglwys ar ei gwyl- iadwriaeth ond pan dd'wedaf wrthych taw wed'yn y daeth i wybod am hyny, mi wn y byddwch yn barod i'w gollwng yn rhydd. Nid wyf yn ameu na ddylasai holi'n fanylach nag y gwnaeth i helyntion ei orphenol; ond y mae mor hawdd bod yn gall ar ol i bethau basio Heblaw fod gair da'r gweinidogion wedi peri i'r eglwys defmlo'n ddiogel. Nid oedd eisieu ei well fel pregethwr. Y trueni mwyaf oedd na allesid ei gadw yn y pwlpud beunydd beunos. Elai drwy wasanaeth y Sabbath gyda'r fath ras ac urddas ag a'i gwnai yn bleser i chwi wrando arno. Nid yn ami y caech et yn yr Ysgol; ond yr oedd hyny'n fwy esgusodol ynddo na llawer o bethau, am fod y "mis" yn bell y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Pan y deuai, dangosai fedr nodedig i agor yr Ysgrythyrau, a phrofai y tu hwnt i ddadl ei fod yn well ysgolhaig na'r cyffredin. Nid oedd cystal i gadw seiat, ac yr oeddwn I yn meddwl ei fod yn ymwybodol o hyny; oblegid anfynych y ceid ei gwmni noson seiat. Dyn sengl oedd; a lletyai yn Ffermdy Phylip, ar gwr y pentre'. Ac yn awr, wedi d'weyd cymaint am dano, yr wyf am dd'weyd y peth nesa' yn ddistaw bach: yr oedd Mr. Lemuel yn meddwi ac yn hoff o adrodd straeon brwnt. Y si cyntaf a glywais I am dano i'w anfantais oedd pan oedd tri neu bedwar o'r dynion yn y Llofft Fach ryw dro ar ol y cwrdd gweddi. Yr oedd hyny 'beitu blwyddyn wedi iddo dd'od i'r lie. Yr wyf )n meddwl taw Malaci Mosus, Eben y go', mab y siop, ac Emwnt Ty Canol oedd y pedwar, tae fater am hyny. Yr oedd yn arferiad gan ryw haner dwsin o honynt, fwy neu lai, i dynu mygyn a chwedleua wedi i'r lleill fyn'd ac unai Mr. Lemuel a hwy fynyched a pheidio. Nid oedd neb yn falchach o'u cwmni na myfi ond os aent dros y marc o ran amser, deuai Jael- Jones i fewn, ac aent hwythau allan. Chwi gofiwch taw Jael oedd yn byw yn Tanllofft cyn i Dinah roi ei 'stol i lawr yno. Testyn y siarad yn y Llofft Fach rhwng y pedwar a enwais oedd y gweinidog. Mae'n anodd ofnadw gen I lyncu'r cwbwl mae' nhw'n ddeud," ebe Emwnt, yr hwn oedd yn ddyn go ail ei Ie, ar y cyfan. Chwi ellwch yn burion heb dagu," ebe mab y siop. Gwr ifanc a ymylai ar fod yn dafodrydd oedd Tim. Mi glwes Alis yn deud nad oes braidd yr un nos yn pasio nad ydi o yn y parlwr bach, a'i fod o'n gwegian uwchben 'i bostion yn amal y'myn'd adra' Merch y tafarn ucha' oedd Alis, ac yr oedd Tim a hithau yn deall eu gilydd. Pwffiai tri allan o'r pedwar am enyd mewn dystawrwydd. Cnoi y byddai Eben. Wedi cael ei bilsen i'w gilfoch yn deidi- "A mae o'n rhy ffond o alw y'nhafarne'r Cei pan aiff o i'r dre' gyda gwr y Fotty," meddai. Mae o'n lwcus fod y ffordd i'r Fotty y'myn'd drwy glos Ffermdy Phylip," ebe Tim eilwaith "'does geno fo ddim i neud ond disgyn ar gareg y drws, a myn'd i mewn." Yr oedd mab y siop ar ei war bob cynyg. Enyd arall o ddystawrwydd. P.vffiai'r tri nes oedd y tan yn tasgu allan o'u pibelli, a symudodd Eben wely'r bilsen ar ol poeri i lygad y tan. Dyna beth arall," meddai Emwnt drachefn. Amser priodas merch Lledrddu, 'doedd o'n yfed dim byd ond llaeth. Mi gweles o." A throdd yn fuddugoliaethus at Tim. Ah ebe hwnw, dan ysgwyd ei ben yn wybodus. Ond beth oedd yn y llaeth ? 'Ro'wn ine yno." Beth oedd yn y Ilaeth ? Pe bass rhywbeth o natur arall yn y llaeth, mi fase'n troi lliw'r llaeth. Weles I ddim ond llwy yno fo." A gin, Emwnt bach!" ebe Tim dan ei anadl. Mae hwnw'n agos i'r un lliw, ond mae cetyn o wahaniaeth rhwng gwynt y ddau." Yr oedd Malaci wedi bod yn ddistaw ar hyd yr amser. Ond yn awr tynodd ei bibell o'i ben, saethodd i lygad y tan yr un pryd ag Eben nes ei gwbl ddallu, ac meddai: Pw pwy wahaniaeth am hyny ? Os yw'r dyn yn licio glasied o gwrw neu lymed o gin, 'dewch iddo. Mi naiff les iddo ar bob tywydd yn y wlad yma. Ond mae un peth yn perthyn iddo ag yr ydw I'n digio mwy wrtho fo na dim arall. Yr hen 'straeon brwnt mae o'n adrodd yn y tai, yn nghlyw'r plant, ac o flaen y merched a'r mamau-y tafod cias a'r llysnafedd aflan sydd gento 'Roedd o ar ganol 'stori felly yn y ty acw pan es i mewn ryw ddiwrnod, a 'roedd hi'n grechwen dros y lie. Mi rois stop arno'n union, ac aeth allan. Ond y'mhen tridiau ar ol hyny, mi glywais 'Lisa 'r forwyn yn deud yr un 'stori wrth MarVr ferch, a'r ddwy yn chwerthin yn braf, Os bydd o yma'n hir iawn, mi lygrith y becbgyn a'r merched i gyd. De'wch ini fyn'd, dyma Jael yn dwad." Fel mae mwya' o biti i dd'weyd, yr oedd gormod o wir yn yr hyn a glywais. Ac yr wyf wedi croniclo'r siarad cyntaf fu yn y Llofft Fach i arbed i mi fyn'd ar ol y manylion. Aeth y si ar led drwy'r gym'dogaeth fod Mr. Lemuel dipyn yn wlyb," a braidd yn brin o bwysau ffordd arall. Troai i fewn i un o dafarnau'r pentre ar ei ffordd adre' o gwrdd yr wythnos fel wrth ei grefft, ac yn ami i'r ddau; a dechreuodd plant a phobl y pentre' ysbio ar ei ol i wel'd sut y cerddai Trwsgl ei wala y byddai'n gyffredin. Nid oedd gwr Ffermdy Phylip mor union ei gerddediad ag y gwelwyd ef; ac nid oedd ei wraig yn celu taw'r gweinidog oedd wedi ei dynu dros y ffin. Yr oedd ei bresenoldeb ef yn y gyfedd- ach yn gwneud eraill yn ewn i fyn'd yno; ac yr oedd gwrando ar 'straeon brwnt Mr. Lemuel wedi d'od yn un o brif atdyniadau eisteddfa'r gwatwarwyr." Cadwyd ef allan o lawer ty ar gyfrif ei wefus anmhur, ac ni chymerai ond rhyw ddau neu dri o deuluoedd ef at y diwedd pan ddeuai'r mis heibio. Caed taw dyna ei hanes cyn d'od yma, a deliwyd ag ef yma fel y gwnaed yn y manau lie bu'n flaenorol. Ei ddiwedd yr ochr hyn oedd marw yn y tlotty yn nhre'r sir sut y bu arno'r ochr draw, goreu y gwyr ei enaid tlawd. Yr wyf wedi aros yn hwy nag oeddwn wedi addo i mi fy hun gyda'r creadur truan yna, fel y bydd yn rhaid 1 mi wasgu'r ddau arall i gwdyn bychan iawn. Croes drom ar gefn un o honynt oedd ei wraig. Ei "swmbwl"yn ddiau ydoedd. Yr oedd ef ei hun yn un o'r dynion duwiolaf yn yr holl wlad dyna farn yr holl wlad am dano ar ol byw gydag ef am saith mlynedd. Ac os cafodd rhywun ei buro drwy dan, efe oedd hwnw. Ond yr oedd ganddo fileines o wraig. Pe cai Dinah afael ynddi dan allt Tyle Tywyll ar noson ddi-leuad, tynai ei llygaid allan. Clywais hi yn d'weyd ganwaith. Yr oedd yn ddigon hawdd gwel'd nad oedd ganddi fymryn o gariad tuag at ei gwr, a chwi all'sech feddwl ei bod yn credu taw ei neges fawr mewn bywyd oedd ei boeni i'r bedd. Deuai i'r capel yn gyson, ac eisteddai uwchben y cloc; a chyhyd ag y byddai ei gwr yn pregethu, troai ddail y Llyfr Emynau a'r Beibl yn ddigel yn ei wyneb. Yr oedd yn syndod sut yr oedd y dyn yn gallu pregethu cystal. Trafodai ef allan o'r ty wrth bawb wrandawai arni, a thafodai ef yn y ty nes yr oedd yn gas ei chlywed. Ffraeai a'i chym'dogion bob tro y cai ei chym'dogion ffoled a hi ei hunan, ac nid heb sail y dywedid ei bod yn ffrind a'r botel. Diwrnod ei jiwbili ef oedd dydd Sul, pan y cai wared o honi o'r bore' hyd yr hwyr; oblegid yr oedd pawb wedi hen beidio gofyn iddi hi dd'od i dreulio'r Sul gyda'i gwr yn y man lie cedwid y mis." Ond ambell i fore' Sul, pan fyddai'r ffit arni, cloai ei ddillad parch i fyny fel na chai yr un pilin i fyn'd i'r cwrdd; a gwelwyd ef droion yn nesau at y capel yn ei hen ddillad bob dydd-het lwydgoch ar ei ben, fel pe bai wedi ei benthyca oddiar y bwgan brain yn yr ardd, hen esgidiau am ei draed a'u cyflwr yn waeth na bod yn frwnt, a choler am ei wddf a ddygai arwyddion wythnos o wasanaeth. Bu mewn diwyg tebyg yn gwasanaethu mewn angladdau ragor na siwrne. Gwnai bob speit o hono gartref ac oddicartref, nes gweithio'r gymdogaeth i fyny i dymer anghyffredin yn ei herbyn. Bid fyno, fe gyflawnodd y faeden "fesur ei hanwiredd ryw ddiwrnod. Ar ol ffit o gloi'r dillad un bore' Sul, daeth i'r cwrdd ar ganol y gwasanaeth yn feddw fawr, wedi colli pob hunan- barch, ac wedi bwrw pob ystyriaeth am y can- lyniadau i'r gwynt. I gychwyn, mesurodd ei hyd yn yr ali wrth dd'od i fewn-yna, drwy rym arferiad, aeth i dafodi'r pregethwr, a'i alw yn bobpeth ond gwr bonheddig-a phan y ceisiodd gwr y Ddoldir ganddi fod yn ddistaw (yr oedd ef yn ei r6d y pryd hwnw), danododd bethau iddo na wyddai fawr o neb arall ddim am danynt. Yr oedd hyny cyn iddo dd'od at grefydd. Dywedodd lot o wir a lot o gelwydd am y diaconiaid bob un, ac yr oedd yn ber- ffaith ddibartiol yn ei ffafrau. O'r diwedd, caed hi allan, a hebryngwyd hi gartre'; ond ni fu fawr llun ar yr oedfa hono wed'yn. Mae'r darn mwya' torcalonus ar ol. Mynodd y gweinidog dori ei wraig ei hun allan dr seiat, a mynodd ei wneud ar fore' Sul cwrdd mawr, pan oedd yr eglwys yno yn gyflawn. Dywedodd bethau rhyfedd iawn. Bu agos iddo dagu deir- gwaith, ond safiodd. Yr oedd yn frwydr galed y'nghorn gwddf pob un arall, ac ni chlywyd y fath ocheneidio mewn cwrdd erioed. Fe all'se dyn call feddwl fod pawb wedi cael anwyd trwm. Y noson hono drachefn, rhoddodd rybudd i ymadael. Pan ddaeth y rhybudd i fyny, ym- adawsant i'r lie, ac aethant i fyw i sir arall. Darllenodd un o fechgyn y Ddoldir y'mhen misoedd wed'yn, mewn papyr Seisnig, fod y