Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

BARDD NEWYDD.

News
Cite
Share

BARDD NEWYDD. Yn y rhifyn diweddaf o'r Goleuad y mae gan y Parch. G. H. Havard, B.A., Wilton Square, erthygl ddyddorol o dan y teitl uchod. Y bardd newydd" hwn yw Mr. Ellis Roberts, Cymro Llundeinig, mab Mr. Richard Roberts, Y.H., Islington, a nai Mr. Lewis H. Roberts, Wilton Square. Mae Mr. Ellis Roberts ar staff y Pall Mall Gazette, a gwelir ei erthyglau yn fynych yn y newyddiadur hwnnw. Mae yn awr wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, a dyma rai ffeithau a ddywed Mr. Havard am dani:— Ni ymddengys Mr. Ellis Roberts i mi yn ymresymu yn a priori," chwedl y dysgedigion hyny yw, nid yw yn cychwyn gyda stor tu ol iddo o ddamcaniaethau am ystyr bywyd, mar- wolaeth, poen, &c., gan fyned i chwilio am engreifftiau o'r damcaniaethau hyn yn "gweithio" yn ngwahanol gylchoedd ei brofiad. Yn hytrach agosha at gynwys ei brofiad a ffrwyth ei sylwadaeth yn ddiragfarn, a defnyddia hwy fel damhegion i dynu oddiwrthynt wersi sydd bob amser yn aruchel ac adeiladol, a weithiau yn awgrymiadau pwysig, treiddgar, yn nghyfeiriad solvio rhai o broblems cyndyn dynion pob oes. Nid wyf yn meddwl fod Mr. Ellis Roberts am i ni edrych ar y casgliadau y mae yn ei dynu oddiwrth ei ymresymiadau damegol fel ei olygiadau personol ar y gwahanol faterion y mae yn ymwneyd a hwy. Er engraifft, nid teg meddwl fod Mr. Ellis Roberts mor uchel- eglwysig yn ei fywyd preifat' ag y mae yn y penill yma o'i eiddo 0 Mary (the Virgin) Queen enthroned, enskied, If we have e'er thine aid implored, Teach us to say, when vext or tried, Behold the handmaid of the Lord." Nid anffyddiwr yw Shelley bob amser yn ei farddoniaeth, er mai anffyddiwr oedd yn ei galon nid duwinydd oedd Byron, er ei fod yn traethu gyda rhwysg duwinyddol ar bechod gwreiddiol 'nawr ac eilwaith yn ei ysgrifeniadau. Nis gellir casglu yn derfynol drachefn beth yw barn bersonol Mr. Ellis Roberts am sefyllfa pethau yn Rwsia heddyw, er fod ei gydymdeimlad yn amlwg gyda'r werinos yn y ddau ddam tarawiadol sydd a wnelont a St. Petersburg yn 1905 a '06. Sylwer ar y penill canlynol:— St. Petersburg, Sunday, Jan. 22. To see their little Father and to ask For liberty, marcht thousands of his sons What answer came from the Imperial mask ? Silence And then the thunder of the guns. Er y gwyddom am engreifftiau o Uchel Eglwysyddiaeth a Radicaliaeth yn nodweddu yr un personau, cam a bardd yw chwilio am ei gredo crefyddol neu boliticaidd yn ei farddon- iaeth. Ni raid i wrthwynebwyr Uchel Eglwys- yddiaeth ar y naill llaw, neu Radicaliaeth ar y Haw arall, neu'r ddau ar unwaith, dramgwyddo felly wrth lyfr Mr. Ellis Roberts, a pheidio ei ddarllen a'i fwynhau. Mawr y dyfalu a'r damcanu sydd uwchben ystyr marwolaeth ymhlith beirdd, a rhyfedd y derbyniad aiddgar roddir gan y cyhoedd i'r farddoniaeth fydd yn addaw taflu y fflachiad eiddilaf o oleuni ar y glyn." Dyfynaf y llinellau canlynol, nid yn unig fel engraifft o hofifder y bardd o'i bwnc, ond hefyd fel engraifft o'r awgrymiadau dwfn a thlws sydd gan Mr. Ellis Roberts yn ami i'w gynyg am y ffordd i chwalu y cymylau ordoiant y bedd :— Therefore, 0 Master Death, I give thee a song at the last, Utter'd with faltering breath And a sense of sins that are past. Not altogether in fear I approach to the time appointed: For thine eyes when I see them near, Are the eyes of the Lord's Anointed. So that thou do His work, Contented I will not move: Is he Love's at all, who would shirk The uttermost bidding of Love? Mae Cariad yn agor llawer clo, yn symud ami anhawsder, i Mr. Ellis Roberts. Hoffaf ei ddysgeidiaeth yn fawr yn unig carem ragor o oleuni ganddo, os nad yw y bardd yn gadael ei orsedd, pan y dechreua egluro, ar yr hyn a olyga wrth Gariad sydd y fath noddfa ddiogel iddo. Gofod a balla, a mi yn dechreu sylwi ar ddarnau rhagorol eraill, rhagorol nid fel cyfan- waith, gymaint ag yn yr hyn awgrymir ganddynt. A rhagoriaeth o'r fath oreu i'r darllenydd gyfarfod ag ef er ei les ei hun yw y rhagor- iaeth yma.

COL. PRYCE=JONES ON THE WELSH…

[No title]

Gohebiaethau.

Advertising

[No title]