Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Gwyl Dewi.

News
Cite
Share

Gwyl Dewi. Y DATHLIADAU YN LLUNDAIN. 0 flwyddyn i flwyddyn mae pybyrwch cenedl- garol y Cymry oddi cartref yn myned ar gynydd, ac ar adeg dathlu coffa nawdd sant y genedl eleni yr oedd y cynulliadau yn Llundain yn llawer lliosocach ac yn fwy brwdfrydig nag a welwyd yn ein hanes o'r blaen. Am dair noson bu'r gwahanol gyfarfodydd mewn llawn hwyl, heb son am y man gyngherddau gynhaliwyd y Sadyrnau cyn ac ar ol y iaf o Fawrth. Fel y crybwyllwyd genym yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y cynulliad yn St. Paul ar nos Fawrth yn fawr iawn, a'r unig gwyn sydd genym yn erbyn y cyfarfod yw'r ffaith fod y pwyll- gor y naill flwyddyn ar ol y llall yn rhedeg gormod ar ol y cynlluniau Seisnig, ac mae nifer o'r Eglwys- wyr mwyaf selog yn cwyno na thelir digon o sylw i'r cynulliadau Cymreig pan yn trefnu'r cor i ganu ar yr achlysur. Yr oedd y bregeth eleni yn rhagorol o ran cynwys, ysbryd, a thraethiad; a cheir byr gynwys ei chenhadaeth mewn colofn arall. Hyderwn y gofelir am drefnwyr mwy Cymreig gogyfer a'r gwyliau dyfodol, fel ag i wneyd y cynulliad blynyddol hon yn wir gynrychioladol o'r Eglwys yn Nghymru. Ar nos Gwyl Dewi caed dwy wledd fawr yn y ddinas, un yn Holborn Restaurant a'r llall yn yr Hotel Cecil. Yn y gwesty blaenaf yr ym- gynullodd Cymdeithas Anrhydeddus Yr Hen Frythoniaid, yr hon, fel y gwyddis, yw'r Gymdeithas Gymreig hynaf ymysg Cymry'r ddinas, ac o dan ei nawdd y ffurfiwyd Ysgol y Merched Cymraeg yn Ashford, a defnyddir y cynulliad blynyddol hwn i roddi adroddiad o waith yr ysgol, yn ogystal a chasglu addewidion a chyfraniadau tuagat wella y sefydliad da hwnnw. Dyma'r 191 fed cinio blynyddol i'r aelodau gynhal, oherwydd mae' hanes y Gymdeithas yn rhedeg yn ol i ddechreu y i8fed ganrif, a ffurfiwyd hi'r pryd hwnnw er rhoddi addysg a chynorthwy i blant y Cymry tylawd oedd yn preswylio yn y ddinas ar y pryd. 0 fod yn gymdeithas fechan cynyddodd i fri a dylanwad, ac mae'r ysgol hardd sydd yn Ashford yn tystiolaethu i lafur a gwladgarwch y Cymry fu yn preswylio yma yn yr oesau o'r blaen. Llywydd y wledd eleni oedd yr Arglwydd Faer Llundeinig—yr Henadur W. Vaughan Morgan—ac ymysg y gwahoddwyr gwelid Esgob Bangor, Syr John Llewelyn, Syr J. Szlumper, Cadfridog Owen Jones, Cyrnol Laurie, Dr. Henry Owen, Parch. Hartwell Jones, Mr. J. Thomas (Pencerdd Gwalia), Prifathraw Thomas, ac ereill. Rhoddodd yr Arglwydd Faer y llwncdestynau Coffa ein Sant Dewi" a Llwyddiant Cym- deithas Henafol y Brythoniaid," ac yr oedd yn dda ganddo ddadgan fod yr ysgol yn Ashford yn parhau i fyned ar gynydd, fel y tystiai y rhestr faith o ysgolorion llwyddianus a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Yna yfwyd iechyd da'r Llywydd, ar gynygiad y Cyrnol Windsor Clive, ac yn ei araeth mewn ateb gwnaed apel arbenig ar ran trysorfa'r ysgol gan ei Arglwyddiaeth. Hysbys- odd Canon Brownrigg ei fod wedi ei benodi i Ddeoniaeth Bocking, ond y byddai yn parhau mewn cysylltiad a'r ysgol, ac yr hyderai i gael yr ysgolorion o dro i dro i dalu ymweliad a'r lie yr oedd yn myned i fyw iddo yn ei swydd newydd. Yn ystod yr hwyr caed caneuon Seisnig ac alawon Cymreig gan gor o ferched o'r ysgol, ond y trueni yw yr esgeulusir y Gymraeg yn hollol yn y lie. Ar adeg fel hyn dylid ar bob cyfrif ddysgu caneuon Cymreig i'r plant, fel ag i'w meithrin ag ychydig o'r gwir ysbryd cenedl- garol. 0 dan nawdd y Cymry Fyddion y cynhelir y cinio cenedlaethol yn yr Hotel Cecil fel rheol, ond eleni, gan fod y Gymdeithas honno wedi huno, ffurfiwyd pwyllgor arbenig i gario y gwaith ymlaen, ac mewn canlyniad caed Owledd Cenedlaethol, o dan lywyddiaeth Mr. Ellis J. Griffith, yr aelod dros Foil. Daeth rhyw bedwar cant o Gymry'r ddinas ynghyd, ac yn eu plith yr oedd Arglwydd Farnwr Vaughan Williams, Syr Alfred Thomas, a'r Aelodau Seneddol Mri. S. T. Evans, Frank Edwards, J. Lloyd Morgan, Bryn Roberts, Clem. Edwards Mr. a Mrs. John Hinds, Mr. a Mrs. T. H. W. Idris, Mr. a Mrs. Howell J. Williams, Mr. a Mrs. Glyn Evans, Mr. Wilfrid Rowlands, a Mr. T. E. Morris. Yr Arglwydd Ganghellydd oedd wedi ei wahodd i fod yn arwr y noson, ac, fel yr oedd yn weddus, yr oedd yr adran gyfreithiol yn cael ei chynrychioli yn lied gyflawn yn y cynulliad. Caed cinio rhagorol o amryw ddysgleidiau, ac yn y siarad a ddilynodd yr oedd yr areithiau yn llawn brwdfrydedd cenedlgarol. Yr Arglwydd Ganghellydd gynygiodd y llwncdestyn Cymru mewn araeth fer, yn yr hon yr edmygai'r syniad o gadwraeth y cenhedloedd bychain, oherwydd os byddai cenedl yn bur i'w hunan byddai'n lied sicr o fod yn ffyddlon yn ei chenhadaethau ymherodrol. Ni wyddai lawer am Gymru, ond yr oedd yn adnabod llawer o Gymry glew, ac yn wir yn y Senedd ddiweddaf 'doedd yno neb ond Cymry a Scotiaid yn werth sylw. Mr. Ellis Griffith oedd i ateb ar ran Cymru, a llawenychai wrth weled gwyr o safle'r Arglwydd Ganghellydd yn cydnabod hawliau cenedloedd bychain. Nid rhywbeth diystyr chwaith oedd ein cenedlgarwch a'n cenhadaeth. Rhyw ddeugain mlynedd yn ol tystiai'r Times mai'r iaith Gymraeg oedd melldith Cymru. Oddiar hyny yr oedd safle yr iaith wedi newid yn ddir- fawr, a'r nifer a'i siaradent wedi myned ar gynydd tuhwnt i bob prophwydoliaeth. Yr oedd yn iaith yr aelwyd trwy Gymru benbaladr, a gofidiai fod Bwrdd Addysg wedi ei dirmygu trwy ei gadael allan o'r colegau a'r ysgolion, a hyderai na pharheid yr esgeulusdra hyn yn hir. Mr. S. T. Evans a'r Arglwydd Farnwr Vaughan Williams fu'n cynyg iechyd da'r Cadeirydd a chaed areithiau edmygol ganddynt o allu a gweithgarwch Mr. Ellis Griffith. Dywedai'r Arglwydd Farnwr hefyd fod gan Gymru ei chwynion arbenig, ac er mai Tori cysson oedd ef erioed eto credai mai syniad cyfeiliornus iawn oedd honni mai rhan o Arch- esgobaeth Caergaint oedd Cymru, a gobeithiai y gwnai'r Senedd bresenol symud yr anghyfiawn- derau oedd yn gorwedd arnom fel cenedl. Yn ystod yr hwyr caed caneuon swynol gan Misses Jennie Ellis, Dilys Jones, a Ben Ivor. Gwleddoedd Ereill. 0 bob tref o bwys daw'r hanes am wleddoedd cyffelyb. Yn Middlesbrough yr oedd cynulliad arbenig wedi ymgasglu ar nos Wener, a'r prif siaradwr oedd y Parch. H. Elfet Lewis, o'r Tabernacl. Yn Barry caed araeth gan Mr. Llewelyn Williams, A.S. Yn Nghaerloyw yr oedd yr Arglwydd Farnwr Vaughan Williams ar nos Sadwrn, tra yn Nghaerdydd, fel y ceir hanes mewn colofn arall, yr oedd yr Anrhydeddus D. Lloyd-George yn traethu ei genhadaeth arbenig i Gymru. Ar ol hyn pwy na waedda Oes y byd i'r iaith Gymraeg

BISHOP OF ST. DAVID'S ON DISESTABLISHMENT.

A FRIENDLY WARNING.