Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

-.----'------=--'-.--------Pobl…

News
Cite
Share

-=- Pobl a Phethau yng Nghymru. BLIN gan laWeroedd fydd clywed am farW y Parch. David Roberts* y Rhiw, Ffestiniog, yr hyn a gymefodd le dydd Sul diweddaf, ac efe yn f tain mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn weinidog i'r eglwys Fethodistaidd yn y Rhiw am ddeunaw-rnlynead ar-hugain, ac yn hynod o gymeradwy fel gwcinidog a bugail. Mab iddo ef yw y pregethwr hyawdl a phob- logaidd, y Parch. Richard Roberts, Westbotirne Grove. DVDD Llun, yn y Great Western Hotels Paddingtott, bu farw Mr. C; E J. Owen, o'r Hengwrtucha, gerllaW Dolgellau. Yr oedd yn fotieddwr hynaWs a charedig, ac yn dra phob- logaidd gyda'i holl gydnabod. Yrtigeisiodd am gynrychiolaeth Meirion yn erbyn y diweddat Mr. Tom Ellis yn 1895. Nid oes eisieU dweyd mai ymgais aflwyddianils ydoedd. BU;R Athro 0. M. Edwards yn bur wael yn ddiweddar, ond y mae wedi gwella Ac ail-afael yn ei ddyledswyddaU; -=- DEALLWN fod y Parch. G. Ellis, M.A;, Bootie, wedi cwblhau ei fywgraffiad o'r enwog Barch. Edward Morgan, Dyffryn; o'r diwedd, ac y bydd y gyfrolallan d'r wasg yn fiian. -=-=. BVVRIEDIR Cyhoeddi cyfrol o ganeuon Watcyn Wyn eleni, Sior Wyn, mab y bardd, a Gwili, ei hen gynorthwywr yn Ysgol y Gwynfryn, sydd yn golygu'r gwaith. MAWRYGIR Cymru'n anil— gan ei phobl ei hun ran amlaf-oherwydd ei sel dros addysg. Ofnwn nad yw'r ffeithiau bob amser yn cyf- iawnhau hyn. Dyna dref Caergybi er eng- raifft, lie o agos i T 1,000 o drigolion. Mae yno ysgol sir, wrth gwrs. Ond nid oes ond 35 o blant Caergybi ynddi, ac o'r rhai hyn hid oes ond pymtheg yn talu am eu haddysg. P'le mae'r sel ? Y MAE'R chwilotwyr yn prysur gasolu ffeithiau i brofi mai nid Mr. Lloyd-George yw'r aelod cyntaf o'r Cyfrin Gyngor i fod yn Gymro. Wrth gwrs, os eir ymhell yn ol dyna Syr William Seisyllt ar unwaith yn Gymro, prif gynghorydd y frenhines Elizabeth, a sefydlydd teulu'r Ceciliaid sy'n byw heddyw yn Ardalydd Salis- bury a'r Arglwydd Hugh Cecil. Ond yn ddi- weddar cafwyd fod gwr o Lantrisant, sef Syr Leoline Jenkins, yn Ysgrifenydd y Wladwriaeth dan James II., felly dyna ragflaenydd arall i Mr. Lloyd-George. Yr oedd y gwr hwn yn ysgolor o fri, ac iddo ef, meddir, y mae priodoli ail-sefydlu Coleg yr lesu yn Rhydychain. NID oedd Dydd Gwyl Dewi yn derbyn yr un anrhydedd bob amser ag y mae ar hyn o bryd. Yn nyddlyfr Samuel Pepys, wrth y dyddiad Mawrth iaf, 1666 7, ceir yr hanes rhyfedd yma:- "Yn Mark Lane gwelais (a hi yn Dd) dd Gwyl Dewi) lun dyn, wedi ei wisgo fel Cymro, yn craÚ gerfydd ei wddf oddiwrth un o'r polion sydd yn sefyll allan o ben un o dai'r masnachwyr, yn llawn maintioli ac wedi ei wneyd yn gywrain; a hyn sydd un o'r pethau rhyfeddaf a welais er's talm." Gallasem feddwlhyny CEIR crybwylliad am yr un ddefod mewn hen almanac, dyddiad 1750. Wele'r pennillion awenyddol :— But it would make a stranger laugh To see the English hang poor Taff; A pair of breeches and a coat, Hat, shoes, and stockings and what not All stuffed with hay to represent The Cambiian hero thereby meant. With sword sometimes three inches broad, And other armour made of wood, They drag him to some public tree And hang him up in effigy." Mae pethau fel hyn yn gymhorth i ni sylweddoli y camrau breision a wnaed gan Gymru yn ystod y ganrif a aeth heibiQ,

FAREWELL DINNER TO THE REV.…

WELSH DISESTABLISHMENT.

[No title]

Advertising

Football Chat.

UNIVERSITY COLLEGE OF NORTH…