Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
CLEBER O'R CLWB.
News
Cite
Share
CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] 1 AR y funud olaf y mae Cymry'r ddinas wedi penderfynu i gynhal cinio yn yr Hotel Cecil ar Ddydd Gwyl Dewi. 'Roedd pawb yn dis- gwyl y buasai'r Cymry Fyddion yn dihuno o'u cysgadrwydd erbyn yr adeg, ac yn gwneyd y trefniadau arferol eleni eto; ond mae aelodau'r Gymdeithas honno wedi mynd yn anobeithiol. Mae'r pwyllgor a etholwyd rhyw flwyddyn yn ol yn gwrthod gwneyd dim, tra ar yr un pryd mor anfoneddigaidd a gwrthod rhoddi eu swydd i fynu a gadael i eraill, mwy gwladgarol a mwy gonest yn eu cenhadaeth, i amcanu gwneyd rhywbeth dros genedlaetholdeb yn y ddinas. Ar hyn o bryd, mae'n eglur mai rhyw haid o Foxeriaid oedd y gwyr a benodwyd, oherwydd ni weithiant o gwbl os na chant fod ar y blaen yn mhob peth, a phan fo cais am symud yn dod oddiwrth yr aelodau cyffredin hwynthwy sydd fwyaf parod i dynu'n ol. DA genym ddeall, felly, mai yn annibynol ar y Cymru Fyddion y mae'r wledd eleni i gael ei chynhal. Addawa Mr. Ellis J. Griffith, yr aelod tros Fon, gymeryd y gadair, a disgwylir y Cymry ydynt yn aelodau o'r Weinyddiaeth i'r cynulliad yn ogystal ag amryw o wyr blaenaf y genedl yn Llundain ar hyn o bryd. Mae'r holiadau am docynau yn dra chyffredin, ac argoelion y llenwir neuadd fawr y gwesty enwog hwn ar y noson. Gwyddis y bydd cinio yr Hen Frythoniaid ar yr un adeg yng Ngwesty'r Holborn ond y mae'r Gymdeithas honno mor Geidwadol. fel nad yw mwyafrif Cymry'r ddinas yn cymeryd fawr o ddyddor- ddeb ynddi. Y rheswm, mae'n debyg yw, am fod' yr holl fudiadau ynglyn a hi wedi eu Seis- nigeiddio i'r fath raddau fel nas gellir ei galw yn Gymreig ond mewn enw yn unig. Bu rhai o aelodau y Clwb yn dra awyddus yn ddiweddar i roddi gwledd i'r 34 aelodau a gynrychiolant Gymru a Mynwy yn y Senedd bresenol, ond ar ol cael ymgom a rhai o wyr profedig y C) lch Cymreig yn y ddinas caed fod yr awgrym yn beth nas gellid ei weithio allan gyda rhwyddineb. Mewn pwyllgor a gaed 'roedd Mr. Vincent Evans yn gryf dros gael math o groesawiad cyffredinol, tra y dadleuai Mr. D. R. Hughes dros gwrdd mawr yn y Queen's Hall, ac ar ol ymgom llwyddodd i gytuno a'r Finsent am y tro, a threfnir yn awr i gael neuadd eang neu rhyw ystafelloedd cyhoeddus er cynal y fath gwrdd. 'Ceir danteithion a chan ar y noson, ynghyda araeth neu ddwy gan rai o'n cynrychiolwyr; a rhwng pob peth a'u gilydd credwn y llwyddir i wneyd cynulliad teilwng o'r amcan, os ceir gan yr aelodau i ddod iddo. NID oes argoelion y ceir "plaid Gymreig" yn y Senedd y tymhor hwn eto. Rywfodd neu gilydd y mae'n amhosibl cael undeb cydrhwng ein cynrychiolwyr, a'r rheswm am hyny yw eu bod mor anghymreig. Hawdd yw gwaeddi Hen Wlad fy Nhadau ar adeg etholiad a siarad ambell frawddeg yn llawn llediaith pan yn anerch yr etholwyr, ond ar ol ymgasglu i'r Senedd mae'r cyfan yn cilio a phob adran fel pe'n eiddigeddus o'r adran arall, a'r aelod hwn yn cilwgu ar yr aelod arall rhag iddo lwyddo i ennill mwy o boblogrwydd neu safle uwch, nes y
Advertising
Advertising
Cite
Share
AN IDEAL BLEND. 1/6 NONSUCH TEA 1/6 Astounding Value. Selected wilh tact and great care. Scientifically blended by life-long students of Tea and Tea- blending. It is absolutely Pure and Wholesome. Do not buy Tea of Amateurs whose knowledge of this most important article of daily use is absolutely nil. Send your orders to us and they will be executed with care, punctuality, and good judgment. Free delivery of 12 lbs. or upwards. Special Prices for large quantities. We will > pack Tea in jib., ^lb., etc., for Dairies. Don't forget the Address ROBINSON & HUGHES, Tea Experts and Coffee Specialists 394, Walworth Rd., Camberwell Gate, London, S.E.
-Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon.] IQC6. Chwef. 19. Castle Street. Cyngherdd Cenedlaethol an 8. 25. Eglwys St. Mair, Camberwell. Tregethir gan y Parch. Canon David Jones, Pen- maennoawr. 28. Cyfarfod Gwyl Dewi Sant yn y City Temple. Pregethwyr, Parch. T. J. Wheldon, B.A Bangor; Parch. J. Gomer Lewis, D,D., Abertawe. Maw. i. Cinio Gwyl Dewi yn yr Hotel Cecil. 2. Little Alie Street. Darlith gan y Parch. Gomer Lewis, D.D., Abertawe. » 3, 4, 5. Cyfarfod Pregethu Blynyddol Walham Green. 8. Eisteddfod Eglwys y Wesleyaid, City Road, yn y Shoreditch Town Hall. 8. East Ham. Cyngherdd Cystadleuol yn y Recreation Hall, Manor Park. 14. Ealing. Cyfarfod Amrywiaethol, Assembly Rooms, High Street. 15. Cwrdd Te a Chyngherdd Blynyddol King's Cross. 15. Te a Chyngherdd Blynyddol Capel Mile End Road. 15. Te a Chyngherdd Blynyddol Capel Walham Green. „ 15. Charing Cross Road. Darlith "Henri Arnaud and his Militant Church," Parch. P. H. Griffiths (ar ran Eglwys Waltham- stow.) „ 15. Swper Goffi, Eglwys St. Padarn, Hornsey Road, yn Emmanuel Mission Hall. 29. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. Ebrill 5. Te a Chyngherdd Blynyddol Little Alie Street, Aldgate. 6. Cymanfa Ganu M.C. Llundain yn Jewin Newydd. 26. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol Wilton Square. Mai 3. Cyfarfod Cystadleuol yn Jewin Newydd. 3. Ealing. Cwrdd Te a Chyngherdd Blynyddol yn y Town Hall. 13, 14. Cyfarfod Pregethu Gothic Hall. Parch. Richard Jones, B.A., Bwlchgwyn. Os ani wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis geJJwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhesymol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur rbob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference, Gweler y telerau ar tudalen I I.
- Football Chat.
News
Cite
Share
Football Chat. [By PEL DROED.] Is Football on the Wane ?—The attendances at the principal football contests in South Wales during the last few weeks are certainly lower than what was the case. Take the Cardiff v. Newport match on Saturday, for instance. Cardiff has only been defeated once, and that by New Zealand, this season, and the visit of the Cardiffians to Newport, would, it might have been imagined, caused a record crowd, but the attendance was surprisingly small for such an important fixture At Cardiff the football crowds have been considerably smaller of late, whilst Swansea has also had a similar experience. These facts have induced some people to believe that the enthusiasm for football in South Wales has reached its zenith, and that henceforth a continued diminution of interest may be ex- pected. We shall see. Last Saturday's Matches.-Swansea showed remarkably improved form in their match with Leicester, and won a substantial victory; Cardiff again proved too good for Newport, whilst the London Welsh defeated Bristol by six points to five. The London Welsh are to be heartily congratulated on their victory over the Bristol Club. They were certainly the best side and gave an exhibition of first class football. Soccer International.—The decision to play the Association football match, England v. Wales, at Cardiff, has given great satisfaction to the supporters of Association football in the southern portion of the Principality, as it will give a fillip to that code in what is such a stronghold of Rugby. It is not anticipated that the Cymry will defeat the wearers of the Rose, but at the same time the Englishmen will not have things all their own way. Wales has steadily improved her position in the Soccer world, and whereas some years ago the Princi- pality made an extremely poor show against the representatives of the three sister nations such has not been the case within the last half a dozen years or so. Last season, for example, Wales did particularly well, and the Englishmen will come to Cardiff this year not with anticipa- tions of a sweeping victory over the Leek, but with the knowledge that they will have opponents entitled to sincere respect.
CYMANFA GWYL DEWI.
News
Cite
Share
CYMANFA GWYL DEWI. Gan mai dyma'r cyfle diweddaf i alw sylw at y Gymanfa trwy gyfrwng y WELSHMAN, dymuna y pwyllgor erfyn yn daer ar i holl swyddogion yr eglwysi Cymreig wneyd pob peth ag sydd yn eu Z:) gallu tuagat gael y Gymanfa yn llwyddiant. Yr ydym yn gobeithio fod yr handbills a'r posters wedi cyrhaedd y capelau Cymreig erbyn y Sul diweddaf, a'u bod wedi cael sylw dyladwy. Daw cyfle eto y Sul nesaf, a gwn na fydd yn ormod i ni erfyn ar y cyhoeddwyr i wneyd eu rhan i gymell y Cymry i fod yn y City Temple yn brydlon er mwyn sicrhau lie cysurus i fwynhau y gwasanaeth. Bydd y drysau yn agored am chwech o'r gloch, a bydd yn bwysig iawn i'r stiwardiaid a'r rhai sydd yn garedig yn addaw gwerthu rhagleni fod yno erbyn yr adeg y bydd y drysau yn agor. A gawn ni erfyn hefyd am i holl ganghenau yr eglwys i fyned at Dduw o hyn hyd hynny i erfyn, gyda thaerni rhai yn teimlo eu hangen, am ddylanwad yr Ysbryd Glan i orphwys ar y canu, a'r darllen, a'r gweddio, a'r pregethu Ond i ni gael hyn, fe gawn gymanfa ag y cofir am dani gyda diolch gan y rhai fydd yno.-T. JONES, Ysgrifenydd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BS For Advertisements, LiUwImv Catalogues, &c. GOOD WORK. LOW PRICES Warehouses, Shop Fronts &c. a Speciality. HALF-TONE ENGRAVING CO., LTD., 25, Farringdon Avenue, London, E.C.
CLEBER O'R CLWB.
News
Cite
Share
mae bron yn amhosibl cael gwir undeb cyd- rhyngddynt. Ar ol canfod fod Cymru gyfan o'r tu cefn iddynt yr oeddem yn disgwyl y buasent yn ymgeisio at greu plaid gref, gryno, a phen- dant y tro hwn. OND fel arall y mae, ac nid oes un adran yn y Senedd heddyw yn fwy cymysglyd ac yn fwy anhawdd i uno na'r 34 Cymry a anfonwyd genym fel gwlad i St. Stephan. Pan dry y genedl arnynt bydd eu tynged yn ail i'r hyn a welwyd mewn etholaethau Seisnig yn ddiweddar, ac ysgubir yr hen haid yn llwyr fel na flinant mo'n tir mwyach. YR oedd Mr. Ellis Griffith a Mr. D. A. Thomas mewn tymher bur ddrwg pwy noson pan ddatthant i'r Clwb ar ol bod yng nghyfarfod cyntaf y Blaid Gymreig yn Westminster. Yno buont yn siarad yn groyw ar bwnc Dadgysylltiad ac yn hawlio ei osod ar unwaith yn ffrynt y frwydr. Yr oedd y lleill am ymddiried ei leoliad yn y rhaglen i'r Weinyddiaeth, ond y profiad cyffredin yw fod yn rhaid hyd yn oed i wthio Rhyddfrydwyr i'w d) ledswyddau, ac na thai i Gymru yn awr i adael i'r pwnc hwn fod yn farw hyd ryw adeg gyfaddas i'n harweinwyr Seneddol. Mae llawer i'w ddweyd tros awydd Mri. Griffith a Thomas, ond gan fod dadganiad Syr Alfred wedi ei dderbyn gan y wlad yn gyffredinol, a Mr. Lloyd George wedi dadgan rai blynyddau yn ol na wnai dderbyn swydd mewn unrhyw Weinyddiaeth nad oedd yn barod i gymeryd cais Cymru yn hyn o fater yn y rhes flaenaf o'i daliadau gwleidyddol, yr ydwyf yn llwyr gredu y gellir bod yn berffaith dawel ar hyn o bryd, beth bynag, y gwna'r Weinyddiaeth hon ryw gais er symud y camwri hwn sy'n gwasgu mor anghyfiawn ar Ymneillduwyr ein cenedl..