Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

THE EDUCATION CRISIS.

[No title]

MARWOLAETH MR. R. S. WILLAMS,…

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. R. S. WILLAMS, Y CENHADWR CYMREIG. Dydd Llun, Chwefror i9eg, rhoddwyd i orphwys ym Mynwent City of London, Little Ilford, weddillion y cenhadwr anwyl a Uafurus. Mr. R. S. Williams. Genedigol o Brymbo ydoedd, lie y bu am flynyddau yn aelod prrchus a gweithgar, ac yn arbenig fel ysgrifemdd eisteddfodau. Bron ddeng mlynedd ar hugain yn ol arweiniodd Rhagluniaeth ef (drwy gyfryng- oliaeth Arglwyddes Osborne Morgan) i gymeryd rhan amlwg Yllg Nghenha<iaeth D .inesig Llun- dain, adran ddwyrein awl. Ni raid ond son am dano, ac ar unwaith y mae ei waith, a'i gymeriad glan, ei ymroddiad llwyr i gysuro y colledig, yn ymwthio o flaen y llygaid a'r meddwl. Gwr Duw ydoedd, a gwnaeth waith o'r yolwg mewn distawrwydd drwy ei ymweliadau a phreswyl- feydd, a'r ysbytdai, ei gyfarfodydd gyda'r -chai- orydd yn Silver Street, Stratford, a Poplar, a'r cyfarfodydd ar Nos Kercher yn Silver Street, a'r gwasanaeth ar y Sabboth. Adwaenai yr sgnfenydd ef er yn fachgen, ac yn ystod y pum' mlynedd ar hugain yn Llundam cafodd y fraint o'i g^mni yn wythnosol yn ei ymweliadau a'i gyfarf idydd, a phleser oedd cyd- weithio gydag ef. Yr oedd yn ddeall y natur ddynol, ac yn guddiwr beiau. Kdrychai gyda dygasedd ar chwedleuaeth, a gwnai ei oreu i gysuro mewn trallod, a chefnogi ymdrech. Yr oeddwn gydag ef yn nechreuad achos Romford Road (\n y Conference Hill), a gwnaed ym- drech yn Canning Town. Yr oedd y cyfeillion yn Silver Street yn gobeithio ar hyd y misoedd y cawsai adferiad, a brodyr caredig yn cadw yr achos ym mlaen er mwyn sirioli ei ysbryd. Nid anghofir y cyfarfodydd gan mor anwyl ydoedd, a defmddiol, ond hed 1yw wele ef (y cyntaf o'r cenhadon Cymreig yn ystod ypymtheng mlynedd a deugain diweddaf) yn cael ei alw odd.wrth e; waith at ei wobr. Daeth llu o wyr bucheddol i dalu y gymwynas olaf. Am ddau o'r gloch cynhaliwyd gwasan- aeth wrth y ty, wedi hynny yng Nghapel M.C. Romford Road, dan lywyddiaeth y Parch. J. Wilson Roberts Siaradwyd yn deimladwy gan Dr. Phillips, y cenhadwr T. Jones, a'r Parch. G. H. Havard, Wilton Square. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. Edmund Evans, City Road. Trefnwyd i fyned ymlaen tua'r gladdfa. Yr oedd presenoldeb y Parchn. D. Oliver, Arberth Evans, Gwilym H. Havard, E. Owen (Barrett's Grove), a P. Hughes Griffiths (Charing Cross), a Mr. Johnson (cenhadwr Saesneg). a'u gwasanaeth ar lan y bedd, yn brawf o gymeriad uchel ein brawd. Derbyniodd y teulu lythyrau cydymdeimlad o leoedd lliosog. Yr oedd geiriau Dr. Phillips am dano fel cuddiwr beiau yn hollol gywir. Bydd colled am dano yri yr hen gylchoedd y bu'n gwasanaethu, ond yn y teulu y mae y bwlch mwyaf. V Meistr wyr y dyfodol. Cymerodd y gwas ymaith yng nghanol ei ddyddiau (deuddeng a deugain mlwydd oed), ond yr oedd iachawdwriaeth ei gydgenedl yn pwyso yn drwm ar ei galon. Collir ef o gwrdd bhnyddol Chingford, a chwrdd blynyddol Syr John Puleston. Llawer ellid ddywed\d, ond palla geiriau a thristwch ysbryd ar ol deugain o flynyddoedd o adnab)ddiaeth a bron bum' mlynedd ar hugain o gydweitnio a chydrodio. Gadavvodd dystiol- aeth cyn ei symud ddariod iddo ryngu bod i Duw, ac erys yn berarogl i'w gydgenhadon a'i hen gydnabyddion crefyddol o bob enwad. Hedd- wch i'w lwch, a llwydd ar yr ymdrechion, Duw yn gofalu am ei deulu a'r gwaith adawodd. MAELOR.

[No title]

Y LLOFFT FACH;