Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH;

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. » l Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XIII. "Y Llofft Fach" yn son am Helyntion y Ddysgyblaeth. Yr enw sydd genym ni yma ar Sul Cymundeb yw (, SuI cwrdd mawr." Ac y mae yn enw cymhwys iawn. Tybiaf fod yna ryw urddas yn perthyn iddo sydd yn gosod math o fawredd arno. Clywais taw "Sul pen mis y gelwir ef yn y trefi. Fel pe na bai pob Sul yn Sul pen mis Ond nid yw pob Sul yn Sul cwrdd mawr. Mae hwn yn gysegredicach y'marn a cbyfri'r bobl hyn nag un Sul arall. Dyrcha'i ben yn uwch na'r un o'r lleill, a gwneir mwy o ymdrech i fod yn bresenol yn y cwrdd ar hwn nag ar un o'r Suliau eraill. Nid oes neb i aros gartre' heHdyw a fyddo'n abl i symud obeitu. Mae'r parotdadau wedi dechreu yn foreuach nag arfer, a gadewir rhwn2, Rhagluniaeth a'r anifeil- iaid. Daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de', dros y bryniau draw a draws y pantiau obry, drwy'r gelltydd ac yn groes i'r caeau, i Jerusalem heddyw. Maent yn duo'r ffyrdd wrth dd'od, ac yn duo'r ffyrdd wrth ddychwelyd. Dydd gwledd dinasyddion Sion, diwrnod cnfio Pen Calfaria, pan yr eir dros Ewyllys y Brawd Hynaf, ac yr adnewyddir y "llw ffyddlondeb mewn gwaed. Nid yn fynych y byddai Mr. Jones oddicartre' ar y Sul hwn yn wir, an.fynych iawn y byddai. Nid wyf yn cofio iddo fud ragor na theirgwaith yn ystod yr amser y bu yma, ac yr oedd y Sul a ddilynai ddiarddeliad mab y Felin yn un o'r ri. Peth diflas iawn yw fod y gweinidog bant Sul cwrdd mawr; ac os wyf yn siwr o rywbeth yn fwy na'i gilydd, yr wyf yn siwr o hyn fod yn well gan yr eglwys wel'd eu gweinidog gartre' pryd hyny hyd y'nod pe bai yn codi ei bac a myn'd i ger'ed am y gweddill o'r mis. Oni chlywais y saint \n d'weyd eu barn ar y cwestiwn dro ar ol tro ? Oni fum yn gwrando arnynt yn cwyno wrth eu gilydd pan gymerai peth felly Ie, gan ysgwyd eu penau? Ac er na byddwn yn gwel d llawer o sens yn eu piniwn yn ami, yr oeddwn gyda hwy ar y pen hwn. A Dinah hefyd. Anffawd flin oedd absenoldeb Mr. Jones y Sul yr wyf yn son am dano. Nid wyf yn siwr b'le yr oedd, os clywais hyny ond dyn ieuanc newydd ei ordeinio mewn eglwys gyfagos oedd \ma yn ei Ie. Mi awn yn feichiau dros y "dyn bach," pe gw) buasai beth oedd i fod y bore' hwnw, y torasai ei gyhoeddiad ar y funud ddwaetha' gyda chydwybod dawel. Ond nid oedd nt b wedi cael y cllw Ileia'. Yr oedd pawb dan eu dwylo ac y'nghalon ddi- ffaeth Harri ei hun yn unig yr cedd y gyfrinach n gorwedd. Ar ol pregethu, pan ddisgynodd y pregethwr o'i bwJpud at y bwrdd i weinyddu'r ordinhad, cyn i'r bobl yn brin orphen canu, dacw Hari 'n codi ar ffiynt y galeri lie yr eis- teddai, yn wyn at ei ddwyglust, a'i barabl yn herfeiddiol Yr wyf am gael gwybod, Syr," meddai, ar ba dir y cefais fy nhori allan yn y cwrdd paro- toad diweddaf. Pe buaswn yn gwybod fod hyny i gymeryd lie, buaswn yn bresenol a phe buaswn yn bresenol, gallaswn amddiffyn fy hun. Ond gan na che's y cyfle, yr wyf yn hawlio y rheswm am y cwbl cyn myn'd y'mhellaeh." Pob gair yn ei le o ran gramadeg, a phob gair o'i Ie o ran ysbryd. Yr wyf wedi sylwi rai gweithiau nad yw y naill o angenrheidrwydd yn sicrhau'r llall. Yr oedd yn boenus ei glywed yn bradychu ei ymwybyddiaeth o'i euogrwydd dr.wy yr hyn a dybiai ef a fuasai yn cuddio hyny. Safai ar ei draed uwchben y gynulleidfa. fel duw dial, a tharawai ei law yn fflat ar ymyl y set bob tro y pwysleisiai. Gallasai dyn dyeithr gredu am dano, fel y d'wedai Robin Bach wed'yn am Iesu Grist, ei fod "y dyn ga's y cam tosta." Yr oedd gwyr y set fawr wedi myn'd i grynu yn erbyn eu gilydd, a'r merched bron myn'd i ffitie cauai'r hen wragedd eu llygaid yn dyn, a llyncai'r pregethwr ei waed gymaint allse. Nid oedd dim i'w glywed ond "watch" Malaci Mosus yn tician. Wrth wel'd nad oedd neb o'r awdurdodau yn ei ateb, eb'ai'r pregethwr yn gymodol: Chwi welwch nad wyf fi yma end fel un yn gwasanaethu yn lie eich gweinidog am heddyw. Gwell yw i chwi adael i'r gwasanaeth fyn'd yn ei flaen, a setlo pethau pan ddaw Mr. Jones gartre' Na," ebe'r filen, rhaid i bethau gael eu setlo 'nawr. 'Does dim cymuno i fod heddyw nes i hyn gael ei glirio. Ar ba dir y ce's I fy nhori allan nos lau ? Yr oedd y llaw wedi myn'd yn ddwrn bellach, a disgynai ar ymyl y set fel gordd. Pa'm na 'tebwch ch'i? Ch'i'r diaconiaid yna, oes genoch ch'i ddim byd i ddeud ?" 'Roeddech ch'i yn y cwrdd eglwys, ac yn cyd- synio a'r cwbl. Os na ro'wch ch'i reswm i mi, mi gymuna' er y'ch gwaetha' chi'r set Pwyslais arall. Ceisiodd y pregethwr ei an- wybyddu, a dechreuodd ddarllen adnodau'r Cymundeb. Ond buasai cystal iddo beidio. Yr oedd Hari ar gefn ei geffyl erbyn hyn, ac yn barod i'w farchogaeth i ddistryw. Nid oedd dim yn ei foddhau yn fwy na gwel'd y cyffro yr oedd wedi ei achosi. Yr oedd hefyd yn colli ei ram- adeg, yr hyn oedd yn arwydd sicr ei fod yn colli ei hunanfeddiant. Bu un o'r diaconiaid yn ddigon craff i wel'd hyny, ac yn ddigon gwrol bob yn dipyn i fantcisio ar y peth i dd'od a'r olygfa drist i derfyn. Ond yr oedd y lleill fel pe baent ar y drain. Ofnent bob munud i Hari eu henwi, oblegid da y gwyddent fod llawer o'u triciau yn hysbys iddo. Pe cymerai yn ei ben i'w henwi, ac i ddanod iddynt nad oedd y gwahaniaeth oedd rhyngddynt hwy ac yntau gymaint ag oedd pobl yn feddwl—beth wed'yn ? Rhoddodd yr haner awr hyny dast o'r purdan iddynt na chawsant ei debyg erioed, er eu bod wrth fwrdd y Cymundeb. Yr oedd Matthew 'r teiliwr yno y tu ol i'r set fawr, ac yn sipian ei wefusau wrth wel'd fel yr oedd Harrz 'n troi'r byrddau ar Mr. Jones. Dyma wraig y Brynar yn codi ac y'myn'd allan. A dacw ddwy o ferched y Siop yn ei dilyn drwy'r drws arall. Dyna swn traed rhywun yn d'od dros y grisiau, ac allan. Dystawrwydd etc, heb fod dim yn ei dori ond "watch" Malaci Mosus a'r cloc yn rhedeg am y cynta'. Teimlodd y diacon y soniais am dano ei bod yn bryd rhoi stop ar y chware', a chododd ar ei draed. Efe oedd yr iengaf o'r swyddogion, ac nid oedd ond chwe' mis er pan y cawsai ei ddewis. Bachgen tal, braf, yn debyg i grwt wedi gordyfu, mor wylaidd a chroten, a'i waed yn rhuthro i'w wyneb bob tro y siaradech ag ef. Yr oedd yn rhaid fod argyhoeddiad ei gydwybod wedi gorchf\gu gwyleidd-dra ei natur cyn byth y buasai yn codi dan y fath amgylchiadau. Ac ebai'r gwr ieuanc Beth yw eich cais, Mr. LlwydV Pan welodd Hari mai Dafydd Hywel oedd yn gofyn y cwestiwn iddo, dofodd \n union, oblegid nid oedd ganddo ddim i'w dd'weyd am dano. Yr oedd ei don dipyn yn is, a'i bwyslais dipyn yn wanach, pan yn ei ateb na phan yr oedd yn holi'n herfeiddiol ychydig cyn hyny. Fy nghais yw hyn," meddai. Paham y cefais fy nhori allan o fod yn aelod crefyddol ? A pha- ham y gwnaed hyny yn fy nghefn, heb gymaint a rhybudd o'r peth ? Dyna fy nghais yn fyr." Chwi gawsoch eich tori allan trwy gydsyn- iad cyffredinol y cwrdd parotoad, oblegid eich bywyd anweddus, Mr. Llwyd. Pa'm na chaw- sech wybod gan Mr. Joites fod hyny i fod nos lau, nis gwn ond y mae genyf berffaiih ym- ddiried ynddo ei fod wedi gwneud yr hyn oedd, oreu. Chwi o bawb yw'r diweddaf i ofyn y fath gwestiwn. 'Does neb wedi cael ei rybuddio'n amlach, a pharch i'ch rhieni'n unig sydd wedi'ch cadw yma cy'd. A pheth arall, yr ydych mewn diod yn drwm yn awr; ac os nad ydych wedi cwbl ymwerthu i'r diafol, ewch allan rhag c'wilydd." Cydiodd Hari yn ei het, a chychwynodd i ben y grisiau. Yn y fan hono gwaeddodd allan Dof a'r mater hwn i'r cwrdd eglwys nesaf, a mi fynaf gyfiawnder Ac ymaith ag ef. Aed yn mlaen a gwaith y Cymundeb, ac yr oedd wedi pasio haner dydd cyn i'r gynulleidfa wasgaru. Yr oedd y cwrdd eglwys i fod cyn y Sul dilynol. Cafodd Mr. Jones lythyr maith oddi- wrth Hari, yn ei hysbysu o'i fwriad i dd'od a'r mater y'mlaen, ac yn ei gwestiyno fel pe bai mewn arholiad. Atebodd Mr. Jones ef, a d'wedodd wrtho mai ei nerth ef oedd bod yn llonydd." Daeth llythyr wed'yn. ond ni wnaeth sylw o hwnw. Daethum i wybod y pethau hyn yn y cwrdd eglwys, ac yr oedd y Llofft Fach ar dori y noson hono Yr oedd Hari yno mor dalgryf ag erioed, ac 61 diod yn am- lwg arno. Yr oedd Dafydd Hyivel yno hefyd, a'r diaconiaid eraill i gyd ond un. Porthmona oedd gwaith hwnw, a 'doedd dim dal arno bryd y byddai gartre'. Hawdd oedd gwybod wrth y z;1 trydan oedd yno fod y llinyn yn dyn a'r teim- lad yn uchel. Cymerodd y gweinidog at y gwasanaeth arweiniol, a gweddiodd yn ddwys am nerth i ddyoddef dros burdeb yr Efengyl, ac i fod yn ffyddlon i wirionedd er i hyny gostio bjwioliaeth a bywyd. Nid oedd ei lais yn gwbl dan lywodraeth, ond yr oedd ei lygad yn sefydlog a'i galon yn ei lie. Ar ol canu, a rhoi'r cyfleusdra arferol i rywun siarad, dyma Hari ar ei draed, ac yn d'od y'mlaen at y bwrdd i ymyl y gweinidog. Dechreuodd ami fel dyn wedi ei ddirwyn i fyny, a'i ollwng i fyn'd. Ond gwell imi beidio ei adrodd. Con- demniai ei hun bob gair a ddywedai. Troai'n athronydd ambell dro, a gofynai pwy allai dd'weyd bryd oedd e'n feddw ? Ei fod yn gallu siarad, a cherdded, ac ysgrifenu, a chofio, ac nis gwn beth 1 gyd, pan oedd dynion yn d'weyd ei fod yn feddw. Sut y gwyddent hyny ? Ac am fywyd anweddaidd," beth oedd yn ei fywyd ef oedd yn anweddaido. ? Beth oedd yn gwneud bywyd yn anweddaidd ? Ac yn y blaen, yn ol dull cnaf o'r rhywogaeth a geir yn awr ac yn y man yn yr eglwysi, y rhai ni wyddant beth yw ofni Duw na pharchu dyn. Ni chynygiodd neb ei atal; a phan y daeth i ben draw ei druth, ac yr eisteddodd i lawr, cododd Mr. Jones i fyny ac ar ol gofyn os oedd rhywbeth arall i fod ger bron, edtychodd y'myw llygad J-íari- estynodd ei fys ato, a llosgodd ei gydwybod a marwor fel hyn "'Dydach ch'i ddim yn aelod yma oddiar nos Iau diwedda'. 'Does genoch ch'i ddim hawl i fod yma ond fel pechadur edifeiriol yn gofyn am ei le'n ol. Ond os ydych am gael gwybod sut y mae dynion yn medru' deud eich bod yn feddw, mi ddeudaf i ch'i. 'Dydi dyn sobr ddim yn gneud ei wely yn ystlysau'r ffos fel Z-1 'r)dach ch'i wedi bod 'Dydi dyn sobr byth yn cael llety noswaith yn y gell fel y cawsoch chwi. 'Dydi dyn sobr byth yn ymladd a dyn arall ar ben heol fel y buoch chwi. Fasa dyn sobr byth yn myn'd i gwrdd cymundeb fel yr aethoch chi'r Sul diwedda'. A fasa dyn sobr byth yn d'od yma heno i setlo ei dynged ei hun fel 'rydach ch'i wedi dwad. Ac os ydych yn gofyn pwy a'ch gwelodd yn feddw, mi'ch gwelais I ch'i yn un A minau," ebai Dafydd Hywel y diacon. A minau," ebai Ilais o ymyl y drws. Trodd pawb i edrych, a phwy oedd yno ond y porth- mon y soniais am dano, yr hwn oedd newydd gyraedd, a d'od i fewn yn ddystaw pan oedd Mr. Jones ar ganol y siarad.