Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. Frank…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. Frank Edwards (Maesyfed). MAESYFED yw un o'r rhai lleiaf ymhlith siroedd Cymru, lleiaf o ran arwynebedd ac o ran niftr ei thrigolion. Rhed yr afon Wy o du r gorllewin iddi, a sir )r Amwythig o du y dwyrain, tra y gwarchoda Maldwyn hi rhag oerwynt y Gogledd, a swydd Henffordd rhag poethwynt y De. Hyd 1885 meddai y bwrdeisdrefi gynrychiolydd yn y Senedd yn ogystal a'r sir. Ac fe gofia rhai, efallai, mai sedd y bwrdeisdrefi a gafodd Ardalydd Hartington (y Due o Ddyfnaint presenol) pan y trowyd ef allan o gynrychioli rhan o swydd Lancaster yn 1874. Yn y mesur diwygiadol diweddaf amddifadwyd Maesyfed o un aelod, a thaflwyd y bwrdeisdrefi a'r sir yn un. Yn ogystal a bod yn un o'r rhai lleiaf ei maint, Maesyfed hefyd mewn rhyw ystyr ydyw y Sir Leiaf Cymreig yng Nghymru i gyd. Gan ei bod yn cael mwy na'i hanner gylchynu gan Loegr, abron yn hollol amaethyddol ei nodwedd, yr oedd o angen- rheidrwydd yn fwy agored i'r gorlif Seisnig nag unrhyw ranbarth arall o'r Dywysogaeth. A'r canlyniad yw mai Saesneg a sieryd y trigolion bron yn ddieithriad. Yn Saesneg y cyfarchant eu gilydd, yn Saesneg y marchnadant, yn Saesneg yr addolant Ni wyr un o bob ugain o honynt air o Gymraeg, a phobl o leoedd eraill wedi ymsefydlu yn Llandrindod i gadw lletydai yw y rhai hynny.. Ond er newid yr iaith y mae ysbryd Maesyfed wedi parhau yn Gymreig hyd yma beth bynag, ac yn ol yr arwyddion heddyw efe a bara felly am dipyn yn rhagor hefyd. Er cymaint yw dylanwad sir y Mwythig ami, yn wleidyddol a chymdeithasol a chrefyddol, y mae mwyafrif gwyr Maesyfed mewn llawn gydym- deimlad a'u brodyr sy'n byw y tu arall i'r Wy. Nid oes eisieu prawf cryfach fod ysbryd a theimlad Maesyfed ) n Gymreig na'r ffaith fod ei chynrychiolydd yn y Senedd Yn Gymro Trwyadl ym mhob ystyr, o ran iaith, delfrydau, a chyd- ymdeimlad. Un o blant Meirion yw Mr. Frank Edwards. Ganwyd ef yn Aberdyfi yn r852, ond yn Llan- gollen, ar fin y Dyfrdwy deg, y treuliodd fwyaf o flynyddoedd ei febyd. Mae o dylwyth rhy- feddol o ba'chus. Cefnder iddo yw yr Esgob Edwards o Lanelwy, ac y mae y naill mor barod a'r llall i arddel y berthynas gan nad faint y pellder sydd rhyngddynt o ran eu daliadau a'u hamcanion politicaidd. Wedi cwrs o addysg rhagbarotoawl anfonwyd Mr. Frank Edwards i Rydychain, a chnmtrodd ei radd yn y brifysgol honno yn 1875. Ymgyflwynodd i efrydu y gyfraith, ond nid rhyw lawer a ym- arferodd a hi ers blynyddau. Yn 1880 priododd gyda Catheijne, merch y diweddar fytr. David Pavies? o Faesyffynon, Aberdar, ac o Tynycoed, Arthog, yn sir Feirionydd. Mae yn byw ers llawer blwyddyn bellach gerllaw Tri'rclawdd (Knighton), ym Maesyfed, acyn Ynad Heddwch a Dirprwy-Raglaw yn y sir honno, a gwasan- aethodd fel Uchel Siryddyn 1898. Dychwelwyd ef gyntaf i'r Senedd dros Faesyfed yn 1892, pryd yr ennillodd y sedd oedd cyn hynny yn Geidwadol, oddiar Mr. J. A. Bradney, gyda mwyafrif 0 233. Yn 1894 daeth i sylw arbenig fel Un o'r Pedwar Gwrthryfelwyr Cymreig, y tri eraill oeddynt Mr. Lloyd George, Mr. D. A. Thomas, a Mr. Herbert Lewis. Yr achos MR. FRANK EDWARDS, A.S. o'r gwrthryfel hwnnw ydoedd fod y Weinyddiaeth Rydd r\ dol yn oedi dwyn i mewn i Dy y Cyffredin fesur i Ddadgyssylltu yr Eglwys yng Nghymru yn ol y cytundeb a wnaed wrth dynu allan raglen Newcastle, nad oedd onid Mesur Ymrcolaeth i'r Werddon i gael y flaenoriaeth arno. Oherwydd yr oediad torrodd y pedwar aelod eu cysylltiad a'r Blaid Ryddfrydol am dymhor. Ni pherthyn i ni roddi barn ar ddoethineb neu annoethincb y cwrs a gymerasant. Ond rhoisant brawf i'r Saeson y medrai rhai Cymry fod yn annibynol, bid a fyno. Dygwyd Mesur Dadgysylltiad i mewn y Senedd dymhor dilynol, serch i'r Senedd dorri i fynu cyn iddo gael ei, basio. Fe gofir yn dda i'r Blaid Ryddfrydol gael ei gorth. rechu yn llwyr yn etholiad 1895, ac ymhlith yr ugeiniau lawer o seddau a ennillwyd gan yr Undebwyr yr oedd Maesyfed, ac allan o'r Senedd y bu Mr. Frank Edwards am bum' mlynedd. Nid oedd mwyafrif ei wrthwynebydd ond 81, a theimlid yn dra sicr y gellid ei ddileu pan y deuai y gwrthweithiad lleiaf. Ond ni bu raid aros am wrthweithiad. Yn 1900, er gwaethaf y llanw Ceidwadol a adnewyddasai ei rym oherwydd y rhyfel yn Neheubarth Affrica, llwyddodd Mr. Edwards i adfeddianu y sedd, er nad oedd ei fwyafrif yntau yn fwy na 166. Sedd sigledig a thipyn yn anwadal yw wedi bod ar rai adegau. Mae nodwedd y sir yn arbenig, a'i safle ddaearyddol yn ei dwyn i gysylltiad llawer agosach a sir y Mwythig nag a'i chwaer siroedd yng Nghymru. Ac nid oes yn y Deyrnas Gyfunol sir mor Geidwadol a sir y Mwythig. Methodd y llifeiriant Rhyddfrydol oedd mor anwrthwynebol bron ym mhub man fis yn ol ag effeithio nemawr ddim ar sir y Mwythig. Mae pedwar allan o'i phump aelod yn Geidwadwyr. Nid rhyfedd felly fod y frwydr a ymladdodd Mr. Edwards yn un galed. Prydtrai llawer ynghylch canlyniad y frwydr, ond credai y rhai a feddent yr adnabyddiaeth oreu ohonno ef, a'i fedr i ymladd, y deuai allan yn fuddug- oliaethwr. Ac felly y bu. Ychwanegodd Yntau ei Fwyafrif yr un fath a'r holl aelodau Cymreig. Ni bu yr ychwanegiad yn gymaint ag yn y. siroedd eraill mae'n wir. Nid yw rhif yr etholwyr yn agos cymaint, ac fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd yr etholaeth, oherwydd ei bod yn cynw)S llawer mwy o ffermwyr a man dyddynwvr nag o lafurwyr amaethyddol, yn haws i'w hudo gyda swynioti treth ar gynyrch tramor nag odid un- rhyw etholaeth arall yn y wlad. Ac wrth ystyried y pethau hyn, ynL! byda'r ffaith ychwanegol fod ei wrthwynebydd yn fab i'r Cymro pohlogaidd Sir John Dillwyn Llewelyn, ac wedi bod yn talu s\lw dyfal i'r etholwyr er etholiad 1900, y syndod yw 1 Mr. Frank Edwards gadw'r bedd. Diau fod hyn i'w brioiloli i'w boblogrwydd personol ef yn llawn cymaint ag i ystyriaethau gwleidyddol. Mae yr aelod anrhydeddus yn meddu ar y. ddynoliaeth fwyaf hawddgar ac at dyniadol, ac yn sicr o wneyd cyfeillion ymhob man lie bo. Mae yn gyfuniad o rinweddau mwyaf deniadol y cymeriad Cymreig. Ac ni fedd Cymru yn Nhy y Cyffredin gynrychiolydd a bery yn ffyddlonach i'w dyhcuadau goreu na Mr. Frank Edwards. Mae yn deall ei hangenion fel y gall un a fagwyd ar ei bryniau ac a ymdrodd o:i febyd ymysg ei gNerin, ac y mae \n.llawn cydym- deimud ag ymdrechion ei g.*neJl huro (>i bywvd ac i ymddyrchu ymysg cencdloedd era. 11 ybyd.