Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Notes of the Week.

GWYL DEWI.

[No title]

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

erbyn hyn y rhaid rhoddi i'r cyhoedd reolaeth lawn a llwyr ar bob ysgol a gynhelir ag arian y cyhoedd, a bod yn rhaid dileu pob prawflw ynglyn a phenodiad pob athraw o'r uchaf hyd yr isaf. Nid ynghylch y pethau yna y bydd ymryson a brwydro. Dau bwnc arall a barant anhawsder, sef, Beth a wneir ag Addysg Grefyddol ? a Sut y gwneir ynglyn ag adeiladau ? Y cyntaf o'r ddau hyn yw y pwysicaf a'r mwyaf dyrus, a phe penderfynid hwnnw i foddlonrwydd, fe ddeuid dros yr ail heb lawer o drafferth. Eithr oni cheir rhyw ffordd i benderfynu y cyntaf y bo mwyafrif Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr yn cytuno ami, daw pwnc yr adeiladau yn bwnc y gynnen. Yr ydym yn gobeithio nad oes neb o'r Ymneillduwyr yn awyddus i gymeryd mantais ar y sefyllfa fanteisiol y maent ynddi i wneyd dim na buasent yn foddlawn i'w dderbyn oddiar law y gwrthwynebwyr. Gwyddom fod y Ddeddf sydd yn awr mewn grym yn gwbl anheg tuag atynt hwy, ond nid yw hynny yn unrhyw reswm dros iddynt hwy ymddwyn yn anheg tuagat Eglwyswyr a Phabyddion ar y naill law, na thuagat Foesegwyr, Iuddewon, ac Anffyddwyr ar y llaw arall. Byddai yn ddrwg genym weled y mwyafrif Rhyddfrydol ac Ymneillduol-oblegid mwyafrif Ymneillduol yw mwyafrif y Llywod- raeth-yn trefnu cwrs o addysg grefyddol y teimlai neb fod eisieu adran cydwybod ynglyn a hi. Nid oes yr un adran yn Neddf 1870 wedi profi mor anfoddhaol. Gadewid hi yn llythyren farw, oblegid fod plant y rhieni a wnaent ddefnydd ohoni yn mynd yn ddefaid duon" ypk yr ysgolion. Rhoddid ar ddeall i'r plant eraill nad oedd y rhai na chymerent yr addysg grefyddol yn gymwys gymdeithion iddynt, trefnid i'r cyfryw wersi na chymerent ddyddordeb ynddynt, atelid hwy rhag cyfranogi o fwynderau a estynid i'r lleill, ac mewn mil a mwy o ffyrdd gwneid iddynt sylweddoli eu bod allan o ffafr rheolwyr ac athrawon. Os yw addysg grefyddol i gael ei rhoddi yn y dyfodol, rhaid iddi fod naill ai ar ddechreu neu ar ddiwedd yr oriau ysgol, a pherffaith ryddid i'r rhai nad ewyllysient ei derbyn fod yn absenol yn ystod yr amser y cyfrenir hi. Yn ychwanegol at hynny ni ddylid caniatau rhoddi addysg grefyddol i unrhyw blentyn heb fod cais am hynny yn dod oddiwrth ei rieni neu ei warcheidwaid. Hyd yma, cymerid yn ganiatol fod pob plentyn am gael yr addysg honno oni ddywedid yn amgen. Fel arall y dylai fed. Mae miloedd nad aent i'r drafferth o anfon i ymofyn. Ond gyda'r gri am i'r hawl i benderfynu gael ei roddi i'r rheini dylid gosod y cyfrifoldeb yn glir ar eu hysgwyddau, a chamwri a hwy fyddai cymeryd mantais ar eu hesgeulusdra neu eu llwfrdra i gyfranu i'w plant yr hyn na theimlant ddigon o ddyddordeb ynddo i'w geisio. Gorchwyl anhawdd iawn, os nad amhosibl, fydd trefnu adran cydwybod a weithia yn esmwyth a di-ofid, yr ydym yn sicr na weithia felly os na osodir cais ysgrifenedig oddiwrth y rhieni am addysg grefyddol yn amod bendant ynglyn a hi. A thybied fod addysg grefyddol i'w chyfranu yn yr ysgolion, yna cyfyd y cwestiwn-Pwy sydd i'w rhoddi? Yr ydym yn gweled fod Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yn hawlio mai hwy, a hwy yn unig. O'r braidd yr ydym yn hoffi y rhan amlwg a gymer yr athrawon yn y ddadl hon, ac yr ydym o'r blaen wedi datgan ein barn y buasai yn weddusach iddynt fod yn fwy gostyngedig. Nid er mwyn yr athrawon y bodola yr ysgolion, ond er mwyn y plant; ac y mae yn ddrwg genym weled cynifer o'r athrawon yn cymeryd safle sy'n awgrymu eu bod yn edrych ar yr ysgolion fel pe baent yn eiddo preifat iddynt eu hunain. Ni feddwn unrhyw ragfarn at yr athrawon, gwyddom eu bod fel rheol yn bersonau o gymeriadau a galluoedd uchel. Ond y mae tybied y dylent gael rhyddid i gyfranu addysg grefyddol heb un math o brawf ar eu cymhwysder i hynny yn ynfyd- rwydd. Cydnebydd pawb ystyriol fod addysg grefyddol yr un mor bwysig, a dweyd y lleiaf, ag yw addysg fydol. Ni feddylid am osod neb i ddysgu y naill heb brofi ei gymhwysder, ac yn sicr ni ddylid gosod neb i ddysgu y llall heb hynny ychwaith. Ni wna y tro i gymeryd yn ganiataol fod athraw yn credu yng ngwirioneddau y Beibl, na'i fod yn ddigon cyfarwydd yn ei gynwysiad i hyfforddi eraill ynddo mewn ffordd a fyddo o fudd ac adeiladaeth. A gymerid yn ganiataol ei fod yn gwybod elfenau rhifyddiaeth ac mewn cydymdeimlad a hwy ? Mae crybwyll y peth yn dangos mor ynfyd yw yr honiad y dylid ymddiried i'r athrawon am addysg grefyddol briodol, ac ar yr un pryd hawlio dilead prawflwon. A yw Anffyddwyr ac Iuddewon i gyfranu addysg grefyddol yn seiliedig ar y Beibl ? Neu ynte a yw pob un o'r cyfryw i'w cloi allan o fod yn athrawon o gwbl ? Rhaid gwynebu y pwnc yna os yw yr athrawon i ddysgu y Beibl i'r plant. Ac yr ydym yn dymuno cyflwyno y ddau ofyniad hyn i sylw pob Ymneillduwr ystyriol :-( 1) A garent hwy i'w plant gael eu dysgu am Dduw a Christ gan bersonau na chredant yn y naill na'r Hall ? (2) Pa faint tecach fyddai cau allan o fod yn athrawon rai na chredant yn nysgeidiaeth y Testament Newydd nag yw eu cau hwythau allan am na chredant yn y Deugain Erthygl ond Un? Yr ydym yn y sylwadau hyn wedi trin y pwnc yn yr agweddau hynny arno sy'n cyffwrdd yr ysgolion yn gyffredinol. Cawn ddychwelyd at ei agweddau mwy neillduol yr wythnos nesaf.