Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

Nodiadau Golygyddol. Y GORCHWYL CYNTAF A'l ANHAWS- DERAU.-I. Cymerir yn ganiataol gan bawb mai y Mesur cyntaf o bwys a ddygir ger bron Ty y Cyffredin wedi y cyferfydd fydd Mesur i wella Deddfau Addysg 1902 a 1903. Eu gwella olygir, ac nid eu dileu, oblegid er yr holl ffaeleddau a'r anghyfiawnder sydd ynddynt, nid yw y deddfau hynny heb lawer o ddarpariadau y byddai yn drueni ymyraeth a hwy. Efallai y trefna y Mesur newydd i roddi rheolaeth yr ysgolion i fwrdd neu gyngor wedi ei ethol yn arbenig i'r pwrpas hwnnw. Mae y gorchwyl hwnnw wedi ychwanegu llafur y Cynghorau Sirol a Threfol yn ddirfawr, ac yn Llundain a lleoedd poblog eraill yn achos o gryn dipyn o annibendod a chymysgedd. Ond os creir corph newydd i weinyddu y Ddeddf, yn y manau mwyaf poblog yn unig y gwneir hynny. Gadewir pethau yn y siroedd o'r tu allan i'r trefi yn debyg fel y maent yn awr. Y pwnc mawr y bydd yn rhaid delio ag ef yn y Mesur fydd yr-*anhawsder crefyddol, a pho fwyaf a feddylir am dano mwyaf oil o anhawsder ydyw. Gwir fod y wlad wedi dadgan ei barn yn glir ar y mater, ond y mae mor wir a hynny nad yw y mwyafrif Rhyddfrydol enfawr yn cynrychioli mwy na thri o bob pump o'r ethol- wyr a bleidleisiodd, os yw yn cynrychioli cynnifer. Er fod y Ceidwadwyr mewn lleiafrif, eto y mae yn lleiafrif llawer iawn cryfach a lliosocach yn y wlad nag ydyw yn y Senedd, ac ni ellir anwybyddu y lleiafrif hwn pan y deuir i ddeddfu. Ynglyn a dau beth y mae y ddedfryd wedi ei rhoddi, rheolaeth a phrawflwon, a chredwn fod yr Eglwyswyr agos oil yn sylweddoli

Advertising