Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE newyddiadur Cymraeg arall wedi gwneyd ei ymddangosiad yn Lerpwl, yn dwyn yr enw YBrython. Daw allan o hen swyddfa y Cymro. Addawa y rhifyn cyntaf yn dda iawn, a cheir nifer o oreugwyr Lerpwl a'r cylch yn noddwyr iddo. Pob llwydd i'r Brython ieuanc hwn i wneyd gwrhydri. DYWED y Faner y disgwylir y bydd i Mr. Evan Roberts ail gychwyn ei genhadaeth yn sir Gaernarfon un o'r dyddiau nesaf. Fe gofir iddo ei thorri i fynu ar ei hanner oherwydd yr etholiad, ac oherwydd fod y llafur parhaus gyda hi yn effeithio yn niweidiol ar ei iechyd ef ei hun. MAE son fod Caerdydd am gyflwyno "Rhyddid y Ddinas" i'r Gwir Anrhydeddus Lloyd-George pan a yno i ginio y Cymmrodor- ion ar y trydydd o Fawrth. Er fod yr Arglwydd Faer (yr Henadur Robert Hughes) yn Geidwad- wr cadarn, eto y mae yn selog dros i'r ddinas osod yr urddas hwn ar y gwr a ystyria yn Gymro blaenaf ei oes." Diolch fod ambell un i'w gael a'i Gymreigiaeth yn llettach na'i bolitics. Wrth anrhydeddu Lloyd-George fe anrhydedda Caerdydd ei hunan. Bu esgobaeth Bangor yn ethol Proctoriaid i'r Confocasiwn y dydd o'r blaen. Y Canon T. Warren Trefor a etholwyd i gynrychioli y Deon a'r Glwysgor, a'r Parchn. T. Edwards (Gwynedd), Aber, a D. Lewis, Dyffryn Ardudwy, i gynrych- ioli y clerigwyr yn gyffredinol. Yr oeddynt ill trioedd yn y swydd o'r blaen. YR oedd Mr. Llewelyn Williams, A.S., "ar dramp yn y Werddon dro yn ol. Yn rhywle ar ei daith un diwrnod, gwaeddodd ar lafurwr oedd mewn cae gerllaw pa faint o amser gymerai iddo gerdded i dref neillduol. Trodd y llafurwr ato a syllodd arno yn syn, a'i bwys ar ei raw. Gan dybio ei fod dipyn yn drwm ei glyw, gwaeddodd y teithiwr y gofyniad eilwaith. Ond ni chadd ddim ateb. Daeth y teithiwr i'r casgliad fod y llafurwr mor fyddar a phost, a ffwrdd ag ef i'w ymdaith. Ond cyn iddo fyned encyd o ffordd clywai lais yn crochfloeddio o'i ol, Mi fyddi yno ymhen chwarter awr." Sut na buaset ti yn ateb pan ofynais iti ?" ebe y teithiwr yn sarug. Sut y gwyddwn i y pryd hwnnw pa mor gyflym y medret ti gerdded," oedd ateb y Gwyddel ffraeth. DYWED y Drych fod rhywun yn yr Hen Wlad eisieu newid yr Anthem Genedlaethol rywbeth yn debyg i hyn Mae Hen Wlad fy Nhadau yn anwyl i mi, Gwlad beirdd a pheldroedwyr, enwogion o fri." MAE swyddfa y Cymro, Lerpwl, yn cyhoeddi cyfres o lyfrau Cymraeg bychain tair ceiniog o

Advertising

* WELSH CROWN LANDS.

Y DYFODOL'

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.-

Advertising

Pobl a Phethau yng Nghymru.