Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y LLOFFT FACH;

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. 1 [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD XII. Y Llofft Pach "yn son am un o'i Gweinidogion. Bu yma bump o weinidogion o dro i droidro yn f'amser 1. Hwyrach i ragor fod ar yr eglwys o'i chychwyniad. Yr oedd yma eglwys a chapel cyn i mi gael fy nghodi; ond nid yr un eglwys na'r un capel sydd yma heddyw ag oedd pan ddechreuais I fy myd. O'r anwyl! nage. A dyna oeddwn yn ei dd'weyd pan y bygythiais fyn'd i grwydro i bump o weinidogion fod yma o bryd i gilydd yn fy nghof I. Yr wyf yn meddwl imi son am un neu ddau o honynt wrth basio: y gwr ieuanc a ddaeth i wrthdarawiad a'r hen Dwmi Morgan ar bwnc y teitlau, a Mr. Aaron sydd yma ar hyn o bryd, a'r hwn sydd wedi bod wrth y llyw bellach er's blynyddau. Nid hir oedd arosiad rhai o honynt. Yr ydych wedi sylwi, mi wn, fod y rhan fwyaf, os nad yr oil, o'r helyntion yr wyf wedi bod yn chwedleua am danynt wedi cymeryd lie pan nad oedd yr un gweinidog. Ond buont oil yn ddigon hir i wneud eu hoi ar yr eglwys, er gwell neu er gwaeth. Ni fydd fy adgofion yn gyflawn heb i mi wneud sylw o honynt; ond ni fydd pob un o honynt yn haeddu cymaint sylw a'l gilydd. Mae arnaf ofn fod y dull y dygais Mr. Jones i'ch sylw yn yr ail benod wedi creu rhagfar ynoch tuag ato. Arnaf fi y bu y bai os taw felly y mae wedi bod. Mae'n anodd genyf gredu na fydd y rhagfarn wedi myn'd i gyd erbyn y deuwch i ddiwedd y benod hon. Hyny yw, a chaniatau eich bod wedi fy nilyn mor belled. Oblegid yr oedd Mr. Jones yn ddyn o'i goryn i'w sawdl, er ei holl gleme." Mae'n wir nad oedd ffordd bell rhwng ei goryn a'i sawdl, ond yr oedd yna fetel ardderchog yn gorwedd bob cam o honi; a chwi wyddoch yr hen air sy'n d'weyd taw trech metel na maint." Y dyn bach oedd yr enw arno yn ei gefn. Pan ddaeth" y dyn bach" yma, yr oedd y ddysgyblaeth wedi bod dan draed er ys gormod o amser i fod o fantais i'r gweinidog newydd. Un peth a gyfrifai am hyny oedd: syniadau Hac am foesoldeb mewn gwahanol gyfeiriadau. A pheth arall: diffyg dysgyblaeth gartref. Yr wyf wedi sylwi droion pan fo ton bywyd cym- deithasol yn isel, fod ton y bywyd cartrefol yn syrthio hefyd, a siarad yn gyffredinol; a phrin y mae eisiau d'weyd fod hyny drachefn yn dylan- wadu ar don ysbrydol yr eglwys. Chwi allech feddwl y pryd hyny fod cryn dipyn o d'w'llwch o gwmpas medd'dod ac anlladrwydd, a oeddynt yn ddigon o bechodau i dori dyn allan o'r seiat. Byddai yn fwy o bechod ynoch i'w galw wrth yr enwau hyll yna y'nghyfrif llawer, oblegid "yfed braidd yn uchel ddywedid am y naill, a nwyf ie'nctid ddywedid am y Hall. Ychydig iawn o sylw a wneid o ddiacon a ddeuai adre' o'r dre' yn ei gerbyd, heb fod dim gwahaniaeth rhyngddo a'r moch a elent i'r dre' yn yr un cerbyd yn y bore'. Yr oedd ffair ocsiwn yn ysbeilio dynion teidi o'u synwyr a'u harian cyn pen teirawr ar ol myn'd iddi; a phan fyddai'r penau teuluoedd yn y cyflwr hwnw ragor na siwrne'n y mis, ai peth i ryfeddu ato ydoedd fod y cryts a'r crotesi, yn y gegin barch a'r gegin fach, yn cael eu "ffling" yn ddiwarafun ? Yr wyf yn cofio pan gaed un achos yma a barodd fwy o glebar nag aifer oherwydd ei ddrygsawr, i ryw lanc yn y seiat adrodd yr adnod sydd yn d'weyd Yr hwn sydd ddibechod o honoch, tafled yn gyntaf gareg ati hi." Teimlodd rhai o'r hen fechgyn fod yna golyn yn yr adnod, a 'doedd dim perswad arnynt nad oedd y llanc wedi dysgu'r adnod o bwrpas i'w poeni hwy. Pa un bynag a oedd hyny yn wir neu beidio, bu dysgyblaeth arno ef, druan, yn y cwrdd eglwys nesaf ar ol hyny, a chafodd ei gadw o gymundeb am ddeufis! Dyna sut yr oedd pethau pan ddaeth y dyn ieuanc o'r Gogledd i'r lie. Nid oedd dim yn ei ymddangosiad oedd yn eich brawychu. Ac eithrio ychydig rodres yn ei gerddediad, nid wyf yn meddwl yr edrychai neb ar ei ol ar yr heol, ond y bobl sy'n arfer edrych ar ol pawb. Eto, yr oedd yna ewyllys anarferol o gref yn byw yn ei babell; ac un- waith y deuech i'w adnabod yn iawn, chwi welech yr ewyllys hono wed'yn yn holl ysgog- iadau ei gorff. Bu gorfod i'r hen Dwmi newid ei gan am dano'n fuan, a haner dwsin o rai eraill is eu moesau na Thwmi. Pan adawodd y lie ar ol bod yma dair blynedd, ni all'sech dd'weyd taw yr un eglwys oedd hon ac yr oedd y llall wedi gwella pwer. Mi rof ddwy engraff i chwi i ddangos y fath un ydoedd. Yr oedd yma ddyn bychan wedi bod yn perthyn i'r eglwys er's blynyddau, a'i dad a'i fam o'i flaen. Matthew oedd ei enw, ond Mat y gelwid ef fynycha'. Teiliwr oedd wrth ei grefft, ac yr oedd yn byw gyda'i wraig ryw chwarter milltir yn nes yma na'r pentref isa'. Nid oedd yn ddiwybod, ond tybiai ei fod yn gwybod mwy nag a wyddai mewn gwirionedd. Eisteddai yn union gyferbyn a'r pwlpud-nid yn y set fawr, ond yn y drws nesaf iddi. Yr oedd wedi ceisio myn'd iddi droion, ac wedi methu o ddiffyg cefn- ogaeth. Bwgan pregethwyr ieuainc ydoedd, oher- wydd dau beth yr oedd y son wedi myn'd am dano ei fodyn feirniad peryglus, ac yr oedd ei olwg allanol yn tueddu i gadarnhau'r son yn fwy na pheidio. Efe ei hun oedd yn gyfrifol am y son, a'i wraig oedd yn gyfrifol am y wasgod wen a'r gadwen aur. Pechod parod Mat oedd meddwi ar ddydd Sadwrn yn y dre' farchnad, nes fod lied y ffordd yn fwy o dasg iddo na'i hyd. Fel yr oedd yn digwydd, yr oedd y ffordd nesaf iddo o'r dref y'myn'd heibio ty ei weinidog a gwelodd Mr. Jones ef un prydnawn drwy ffenestr ei barlwr yn pasio fel llong hwyliau ar wynt gwrth- wynebus. Clywsai am dano o'r blaen, ond ni welsai ef cyn y tro hwnw. Ceisiai Mat gerdded yn sobr pan ddeuai ar gyfer ty'r gweinidog, oblegid yr oedd rhyw reddfneu gilydd yn sibrwd wrtho'r prydiau hyny ei fod ar ei dreial. Ond buasai'n well iddo beidio, yn enwedig pan welodd Mr. Jones ef. Yr oedd ei osgo mor chwerthinus o annaturiol nes gwneud iddo ym- ddangos yn feddwach nag ydoedd. Hyny fu hyd nos Iau. Noson cwrdd eglwys oedd, ac yr oedd Mat yno mor ddefosiynol a neb. Pan ddaeth y cyhuddiad i'w erbyn o'r gadair, taflwyd ef oddiar ei echel mor llwyr fel y meth- odd dd'weyd yr un gair; a phan y dedfryd- wyd ef i gael ei ddiaelodi nes y dychwdai i geisio ei le eilwaith ar dir edifeirwch, aeth allan fel whelpyn wedi ei chwipio, a'i gynffon rhwng ei goesau. Ond ni fu yn hir yn ei wrthgiliad, oblegid yr oedd ryw anian cwrdd" ynddo dan y cwbl. Profodd ei ddiarddeliad yn fendith i Mat mewn dau gyfeiriad ni feddwai fynyched ag o'r blaen, a phan y gwnai, gofalai am gwm- pasu milldir o ffordd i beidio pasio ty'r gwein- idog. Dangosodd y dyn bach nad gwr i gellwair ag ef ydoedd ar bwnc dysgyblaeth. Ond pan y gwnaeth esiampl o fab y Felin y tynodd sylw'r wlad ato fel un o etifeddion y fflangell ro'es yr Iesu o'i law. Safodd y pryd hwnw a'i gefn yn erbyn y wal dros burdeb bywyd eglwysig a bron na all'sai dd'weyd fel ei Feistr, nad oedd o'r bobl neb gydag ef. Yr oedd teulu'r Felin yn deulu parchus ei wala, ac ychydig o deuluoedd yr eglwys oedd. heb fod yn d'od i fewn i'r gwaed yn rhywle. Mae'n wir taw rhedeg dipyn yn deneu yr oedd drwy wythienau llawer o honynt; ond pan fyddai taro, ni welsoch erioed mor gyflym y rhedai y tew a'r teneu at eu gilydd. Mae gwaed yn siwr o fod yn dewach na dw'r, pytae deneued a glasdwr. Bachgen ardderchog oedd Had wedi bod cyn i Mr. Jones dd'od i'r lie; un o'r rhai mwya' selog am ei gwrdd, a'r mwya' defn- yddiol wedi iddo gyraedd oedran defnyddioldeb. Efe oedd braich dde' ei dad yn y felin, oblegid I yr oedd wedi cael gwell manteision na phlant yn gyffredin yn y dyddiau hyny. Nid oedd neb cyflymach ei feddwl, cryfach ei ysgwydd, parotach ei law, na hoewach ei droed nag efe yn yr holl wlad. Yr oedd pawb yn ffrind i Hari, a Hari'n ffrind i bawb. Fel y medrai bron ar bobpeth, medrai hefyd ar ganu y tu hwnt i lawer. Gosodwyd ef i ofalu am gor y capel ar un adeg, ac nid oedd ei well ar y galeri yn y Gymanfa Ysgolion. Cymerai ran gyhoeddus yn y moddion, ac yr oedd ei weddi a'i air mor bwrpasol ag y gall'sech ddymuno. Dyna fel yr oedd, fel y d'wedais, cyn i Mr. Jones dd'od yma. Tua'r un adeg, priododd Harri a merch y tafarn isa'; ac aeth yn drawsgyweiriad yn ei fywyd. Dechreuasai lymeitian cyn ei phriodi, ond wed'yn aeth ar ei ben iddi. Yr oedd ei wraig yn ei helpu, a'i deulu-y'nghyfraith yn helpu'r ddau. Gwelwyd ef yn gorwedd yn ffos y clawdd ragor na siwrne, a bu dan glo yn un o dai'r sir yn y dre' drwy'r nos. Yn y tafarn isa' y mynai fod byth a hefyd, ac ni welai ei dad ef yn y felin ond unwaith bob tri mis. Collodd ei hynawsedd, a gwaethygai yn gyflym. yn ei wedd ac yn ei wisg.. Aeth i edrych yn fedlemllyd, ac i siarad yn hunan- gyfiawn pan fentrai rhywun ei gynghori er ei les. Ond yn rhyfedd iawn, daliai i dd'od i'r cwrdd o hyd; a rhyfeddach fyth, deuai i'w gymundeb yn gyson bob pen mis. Ond yr hyn oedd ryfeddach na'r cwbl oedd, na wnai neb un sylw o hono, a'i fuchedd wedi myn'd yn ddiareb rhwng pob dau. Y gwir am dani yw yr oedd yma ormod yn perthyn iddo yn yr eglwys, a gormod yn debyg iddo yn y set fawr. Yr wyf am i chwi gofio fod hyn oil yn gorchuddio mwy o dir o ran amser nag y mae byrdra'r hanes yn eich cyfiawnhau i feddwl. Nid oedd Mr. Jones byth yn d'od ar ei draws pan fyddai yn y cyflwr hwn, ond ni all'sai gau ei glustiau yn erbyn y sibrydion a ddeuent heibio iddo gyda'r awel. Siaradai a'r diacon- iaid am dano, ac ni wadent y ffeithiau; ond pan y dadleuai fod enw da yr achos a gogon- iant crefydd yn galw am ei ddiarddeliad, dechreuent anesmwytho'n union. A dyna i gyd. O'r diwedd, gwelodd y gweinidog y byddai yn rhaid iddo gymeryd y tarw gerfydd ei gyrn, a gwnaeth hyny yn y cwrdd parotoad. Unwaith yr argyhoeddid y "dyn bach o'i ddyledswydd, 'doedd neb a'i lluddiai. Torodd ddau fachgen allan un bore' Sul o flaen y cymundeb gwelsai hwy y diwrnod cynt yn y dre' heb droed o danynt. Chewch ch'i ddim meddwi ddoe a chymuno heddyw," meddai. Gwnaeth yr un peth a Hari heb siwgro dim ar ei achos. Ond bu yn helynt flin arno wed'yn, fel y cewch glywed. (l'w barhau).

Advertising