Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Am Gymry Llundain. DIWYGIAD. Yn lie cinio ar ddydd Gwyl Dewi awgrymai un gohebydd y dylid cynal cyfarfod Diwygiadol. Gwnai les hefyd. Y SENEDD. — Disgwylir yr holl aelodau Cymreig i'r ddinas yn ystod yr wythnos nesaf, a gwnant gatrawd lied dda hefyd. DIOJ.CHGARWCH.—Paham nas cynhelir math o Gyfarfod Diolchgarwch i groesawu y 34 aelod Cymreig ar gychwyniad eu Senedd dymhor. Awgrymwn Eglwys Gadeiriol St. Paul neu Westminster fel adeiladau addas i'r fath gynulliad, ac esgobion Ty Ddewi a Llanelwy i ddarllen y llithiau, a Gomer Lewis a Towyn Jones i bregethu iddynt. CINIAWAu.Mae dylanwad paganaidd y Sais o hyd yn mynd a bryd y Cymro Llundeinig, ac awgrymir yn awr mai trwy wledd y dylasid croesawu'r 34 cynrychiolwyr hyn, fel pe baent heb bryd o fWJd oadiar ddechreu yr etholiad. Credwn y gellir mynd i eithafion hyd yn oed mewn caredigrwydd a gloddest. AWGRYM.—Mae rhyw William Evans o'r National Liberal Club, ac ereill o aelodau'r lie, yn ceisio ffurfio pwyllgor i wahodd yr holl haid i ginio arbenig. Pwy yw'r William Evans hwn nis gwyddom, a pha faint y mae wedi ei wneyd tuag at hyrwyddo'r fath oruchafiaeth a gaed yn Nghymru sydd anhysbys i ni ? Ond credwn fod gan Gymry'r ddinas ddigon o arweinwyr yn yr amgylchiadpresennol heb i ddieithriaid wthio cynlluniau anaddas o'n blaen. I PARIS.—Mae'r cynghorwyr Llundeinig wedi mynd i Paris yr wythnos hon, ac yn eu plith mae Mri. Howell J. Williams, Timothy Davies, A.S., T. H. W. Idris, A.S. Gwneir parotoadau helaeth er rhoddi croesaw calonog iddynt. CYMRY EREILL.—Gyda'r cwmni hyn mae'r Cymro ieuanc, Mr. David Thomas, ysgrifenydd cyfrinachol Sir E. Cornwall, cadeirydd Cyngor Sir Llundain. Un o fechgyn Merthyr yw Mr. Thomas, ac aelod o gapel Elfed yn King's Cross, ac un o'r dadleuwyr goreu ynglyn a Chymdeithas Gymreig y Tabernacl. Ar yr un dydd gwelsom Mr. Watkin Jones yn troi ei wyneb tua phrif ddinas y Ffrancwr ar alwadau masnachol, ac, fel y gwyddis, un o gadfiidogion dadleuol Cymdeithas y Tabernacl ydyw yntau. "VOTE FOR HOWELL IDRIS." Hanesyn toddedig gaed yn y papurau ddiwedd yr wyth- nos ddiweddaf. Yn etholaeth Fflint ddydd yr etholiad cyfarfu bachgenyn bach, pedair oed, a dam wain trwy losgi. Cafodd ei dad ef ar yr .aelwyd mewn cyflwr tost ac ar fin marw. Ar ol ei drin gan y meddygon ac mewn cyflwr o an- ymwybodolrwydd, canai'n lion, "We'll vote for Howell Idris" nes i'r Ilais bach llawen ddistewi yn yr angeu
Advertising
Advertising
Cite
Share
E. H. JONES, 179, Aldersgate St., E.C., and 41, Stroud Green Road N. For a good Winter Overcoat give me a call before ordering elsewhere, from 35/- Cheviots* Lounge Suits from 42/- Guaranteed for hard wear. 'Well recommended, and your custom respectfully solicited. Ladies* Costumes from 0-1 guineas. 2
Advertising
Advertising
Cite
Share
WYBROW & SON, 222, Coldharbour Lane, Loughborough Junction, S.W. INEXPENSIVE AND MODERN FUNERALS In Town or Country, at stated charges which in all cases are moderate. PaiCE LIST ON APPLICATION. Distance no object.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
POOR DAN !-Daw'r newydd o Bendigo, canolbarth Awstralia, am farwolaeth sydyn Mr. Dan Jones, gynt un o brynwyr yn swyddfa Mri. Debenham a Freebody, Wigmore Street, ac un o aelodau Charing Cross. Yr oedd yn gerddor da, ac yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion yn Llundain, ond pan ar ganol llwyddiant bu raid iddo rhyw flwyddyn yn ol ffoi. i wlad arall er ceisio adgyfnerthiad i'w iechyd. Ond ofer fu'r cyfan, ac wele ef yn cael ei alw adref rhyw bythefnos cyn y Nadolig diweddaf. Cysged ei lwch yn dawel yn mhellafoedd daear. Y mae ei gof yn wyrdd yn Llundain ac yn ei ardal enedigol, Tregaron, o hyd Poor Dan YMADAWIAD.-Deallwn fod un o weinidogion parchusaf y pwlpud Cymreig ar ymddiswyddo o'i ofal bugeiliol yn Llundain cyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd ei ymadawiad yn golled dirfawr i'n cenedl yma hefyd. CHARING CROSS ROAD.-Rhaid cael amryw- iaeth hyd yn oed mewn Cymdeithas Ddirwestol, a nos Fercher, lonawr 31am, yn y lie hwn, caed noson hwyliog o dan drefn newydd. Llywydd y cynulliad oedd Mr. J. Humphreys, a'r rheol am y noson oedd Canwch, siaradwch, neu ceiniog a dalwch," ac roedd yn syndod gweled y fath awydd am osgoi'r tal. Ac yn wir roedd yr hyn a wnaed gan bob un hefyd yn fwy gwerthfawr na phe goddefent gael eu dirwyo i'r swm a nodwyd. Caed caneuon, ac adrodd- iadau, ac areithiau, yn addysgiadol a difyr, gan Miss S. L. Evans, Mrs. Capell, Miss Jones, Mri. Dewi Evans, D. Davies, T. Davies, R. Williams, J. Webster, ac ereill, a chafodd pawb eu llwyr foddloni. Ar waetha'r ddirwy bu rhai yn fud a rhoddwyd yr arian i drysorfa Cym- deithas Ddirwestol y Merched. Y TABERNACL.—Caed dadl rhwng-gym- deithasol yn y lie hwn nos Sadwrn diweddaf. Yr ymwelwyr oedd Cymdeithas Wilton Square, a'r pwnc yr ymdrinid arno oedd "A all dyn ymgyfoethogi'n onest ?" Dywedai Wilton Square, o dan arweiniad ddeheuig Mr. J. W. Jones, y gallai, tra y taerai gwyr y Tabernacl, o dan arweiniad Mr. T. J. Evans, fod hynny yn amhosibl. Bu'r ddwyblaid yn siarad yn ddoniol a deheuig, a chadwodd cefnogwyr pybyr y ddwyblaid y ddadl mewn bri hyd awr ddiweddar. Ar derfyn y siarad ymranwyd y Tý, a phlaid y Tabernacl a orfu. Cadeiriwyd yn ddoniol gan Mr. D. Rhys, y bargyfreithiwr, a diolchwyd iddo yn ddeheuig ar y diwedd gan y Parchn. H. Elfet Lewis a G. H. Havard, B.D. Mae'r dadleuon hyn yn gwneyd llawer o les i'r gwahanol Gymdeithasau Cymreig ac nid syndod fod llawer o'n pobl gyhoeddus heddyw wedi dechreu eu gyrfa yn y cynulliadau llenyddol a dadleuol hyn. YR "AELODAU" NEWYDD.—Mae haner dwsin o'r A.S.-od newydd yn perthyn i'r eglwysi Cymraeg yn Llundain. Mr. Timothy Davies yn aelod yn Walham Green; Mr. Lloyd George yn Castle Street; Mr. Llewelyn Williams yn King's Cross; Mri. Herbert Lewis, Herbert Roberts, ac Ellis Griffith yn Charing Cross; a Mr. Bryn Roberts yn Jewin. GYDA'R SAESON.—I gapelau ac eglwysi Seisnig yr a y gweddill o'r aelodau, ond hyderwn y gwelir Mr. David Davies, LIan- dinam, yn mynychu capel Jewin, fel y gwnai ei daid a'i dad ar adegau pan yn Llundain. Byddai hyn yn gymhorth mawr iddo i adnabod y byd Cymreig a gwella ei wybodaeth o'r iaith. CHWYDDO'R RHENGOEDD.—Mae Mr. Harry Jones, is-olygydd y Daily Chronicle ar gael ei alw yn aelod cyflawn fel bargyfreithiwr. Nid yw Mr. Jones yn bwriadu ymadael a'i grefft bresenol, eithr ceidw at lenydda yn ogystal ag ymhyfrydu yn nghyfrinion y gyfraith. SYR JOHN.—Un o bileri Ceidwadaeth yn y ddinas yw Syr John H. Puleston, ac mae yn dra phoblogaidd gan bob dosbarth yno. Dywedir mai trwy ei ddylanwad ef y llwyddwyd i gael gan Mr. Alban Gibbs i ymneillduo yn ffafr Mr. Balfour, ac yr ad-delir yn dda i'r gwr ieuanc hwnnw pan ddaw y Toriaid i awdurdod eto. Mae troion o'r fath yn haeddu eu cofio pan fo teitlau yn cael eu dosbarthu yn weddol rad. Ei DYSTEIS.—Oherwydd yr etholiad ni wnaed fawr o gynydd ynglyn a'r dysteb i Syr John, ond deallwn y cychwynir ar y mudiad ar fyrder wedi gorphen a gwaith y swyddfeydd CeidwadoL Ar ol cael y Senedd mewn gwaith ca'r Ceidwad- wyr wedyn ddigon o hamdden i ddwyn y fath achos i sylw'r gwahanol gymdeithasau gwleid- yddol. GWYL DEWI SANT.—Gan fod y gymanfa yn City Temple yn agoshau, dymuna y pwyllgor erfyn yn daer am i'r cantorion trwy holl gylch- oedd Cymreig y ddinas wneyd eu rhan heb golli amser. Da genym ddeall i'r rehearsals gychwyn yn addawol mewn rhai lleoedd y Sul o'r blaen. Gobeithio fod pawb wedi dechreu ar eu gwaith. Rhaid i ni gael canu da cyn y gellir disgwyl cymanfa ragorol. Y mae y pwyllgor wedi dewis nifer o donau ag y gellir disgwyl canu na fu ei ragorach. Os bydd rhyw rai mewn angen am ragor o ragleni, cerdyn at yr ysgrifenydd a sicrha gyflawnder ar unwaith. PRIODAS.Dydd Llun cyn y diweddaf, yn Brighton, priodwyd y Cynghorwr John Thomas, North End Road, Walham Green, a Miss Sawle, o Brighton. Mae Mr. Thomas yn bur adnabyddus i Gymry y ddinas fel masnachydd poblogaidd a llwyddianus. Efe oedd un o'r ychydig a fu yn foddion sefydlu yr achos yn Walham .Green, ac y mae wedi bod yn weithgar iawn yn yr eglwys, ac wedi gwasanaethu yn ffyddlawn fel blaenor a thrysorydd yr eglwys ar hyd y blyn- yddoedd. Dymuna ei liaws cyfeillion bob llwyddiant iddo ef a Mrs. Thomas yn y dyfodol. HEOL-y-CASTELL.-Fe welir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol fod cyngherdd cenhedl- aethol i'w gynal yn neuadd Capel Heol-y-Castell nos Sadwrn, Chwefror 24am. Mae hwn yn sefydliad blynyddol, ac mae arwyddion am gyngherdd neillduol o dda eleni. Mae y soprano a'r tenor yn dra adnabyddus i Gymry Llundain, a gellir prophwydo yn sicr y bydd y contralto a'r baritone yn adnabyddus cyn hir. Mae Miss Thomas yn boblogaidd iawn yn Neheudir Cymru, a Mr. Thomas yn Ngogledd Cymru, a bydd yn fraint cael eu clywed ar yr achlysur hwn. Wrth gwrs, bydd presenoldeb y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George a'r aelodau Cymreig ereill yn atdyniad cryf, a disgwylir cynulliad lluosog iawn. HAMMERSMITH.—Testyn dadl y Gymdeithas Ddiwylliadol, nos Fercher, y 31ain cynfisol, ydoedd, "A ddylai Gweinidogion yr Efengyl gymeryd rhan mewn Gwleidyddiaeth." Agor- wyd ar yr ochr gadarnhaol gan Mr. J. N. Jones, a chymerwyd yr ochr nacaol gan Mr. G. O. Williams. Cymerwyd rhan yn yr ymdrafodaeth gan Miss Vaughan, Mr. A. E. Rowlands, Mr. J. C. Williams, a Mr. J. Morgan. Wedi pleid- leisio cafwyd mwyafrif o blaid yr ochr gadarn- haol, felly gellir ystyried y cwestiwn wedi ei benderfynu unwaith ac am byth !—J. DEWI SANT, PADDINGTON.-Nos Fawrth, lonawr 3oain, yn yr ystafell eglwysig, cafwyd noson lawen, pryd y mwynhaodd y bobl ieuainc eu hunain yn y modd goreu. Meistr a thref- nydd ychwareuon am y noson oedd Mr. Tom Jenkins, Haverstock Road, yr hwn sydd yn hen law wrth y gwaith hwn. Gwyr pa games i'w hawgrymu er mwyn cadw y presenolion mewn hwyl dda o dechreu y cyfarfod hyd ei ddiwedd.