Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

"Y GENINEN" AM IONAWR.

Advertising

Pobl a Phethau yng ,Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. Y GWIR Anrhydeddus D. Lloyd-George fydd y prif siaradwr yng ngwledd Gwyl Dewi a gynhelir yng Nghaerdjdd ar y 3ydd o fis Mawrth. AWGRYMIR y dylid gwneyd tysteb i Mr. William Jones, A.S., er ei gynorthwyo i dalu costau'r etholiad diweddar. MAE eisieu goleu yng Nghaergybi, ac mae'r I b Llywodraeth wedi caniatau i'r Cyngor Lleol fenthyca 3,000P. tuagat helaethu'r gwaith try- danol yn y lie. DYWEDAI Syr Alfred Thomas, ddydd Llun diweddaf, fod y Prifweinidog wedi rhoddi addewid pendant iddo y dygai i fewn Fesur Dadgysylltiad i'r Senedd yn 1908. Y PARCH. T. Edwin Jones, ficer Bangor, sydd wedi ei benodi i fywioliaeth Caergybi. Mae hon yn werth tua 400P. y flwyddyn, ac yn un o'r rhai goreu yng Ngogledd Cymru. Gan Goleg yr lesu, Rhydychen, oedd y penodiad, ac fe wyr y Prifathraw Rhys a'i gymrodyr yn y coleg hwnnw pwy sydd yn gweithio oreu o blaid y genedl yng Nghymru, oherwydd 'does yr un offeiriad wedi gwneyd mwy dros Gymru a'r Gymraeg na'r Parch. T. Edwin Jones. Pe bae'r penodiad yn llaw yr Eglwyswyr culaf, diau mai rhyw sparbil o hanner-Cymro a osodid yn y He bras hwn. TRA'N son am ddyrchafiadau Eglwysig mae'n arwydd da fod y fath nifer o Gymry glew yn cael eu dewis i swyddi uchel ar hyn o bryd. Dyna Dyfrig yn cael ei ddyrchafu i ganoniaeth Bangor, cydnabyddiaeth arbenig o'i fedr a'i allu fel pregethwr Cymraeg, ac wele'r hen hanes- ydd dyddan, y Parch. D. Jones, Penmaenmawr, wedi ei benodi i is-ganoniaeth yn yr un esgob- aeth. 0 dipyn i beth fe ddaw'r Eglwys i barchu ei gwyr glewaf. GAN fod y tywydd yn dechreu tyneru ac argoelion o'r gwanwyn yn agoshau, y mae'n ddyddorol i wybod pa le i aros yn y wlad ar adeg y gwyliau agoshaol. Ceir rhestr o rai o'r lletydai goreu yng Nghymru yn ein colofnau o dro i dro; ac os am fyned i fwynhau awelon tyner Llandudno a Llangollen y dyddiau hyn nis gellir gwneyd yn well na dewis y lleoedd a hysbysebir genym. HYSBYSIR fod Mr. Lloyd-George, A.S., wrthi yn awr yn parotoi i'r wasg gyfrol o'i areithiau ymhlaid Masnach Rydd Ar anogaeth daer cyfeillion yr ymgymerodd y boneddwr anrhyd- eddus a'r gwaith hwn. PENODWYD y Parch. E. T. Davies (Dyfrig), ficer Pwllheli, yn ganon trigianol yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae Dyfrig yn Gymro gwlad- garol, yn Eisteddfodwr aiddgar, ac yn un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl a fedd yr Eglwys yng Nghymru. UN o nodweddion yr etholiad diweddaf ydoedd fod pob oedran yn ymdaflu iddo. Yn Llanfachell, sir Fon, cerddodd hen wr cant oed i'r etholfan, a llanwodd ei bapur pleidleisio ei hunan. Pleidleisiodd un arall sydd o fewn blwydd i gant yn y Dwyran hefyd. Y PARCH. R. Gwylfa Roberts, Llanelli, sydd wedi ei benodi yn rhan-olygydd i'r Di-wvgiwr fel olynydd i'r diweddar AVatcyn Wyn. BRODOR o Aberaman yw Mr. John Williams, yr A.S. Llafur dros Ddosbarth Gwyr. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1861. Pan yn ddeuddeg oed dechreuodd weithio yn y lofa. Penodwyd ef yn Miner's Agent ar farwolaeth Mr. Isaac Evans, ac y mae yn Ysgrifenydd Cymdeithas Unedig Mwnwyr Deheudir Cymru er 1890. Bu yn pregethu gyda'r Bedyddwyr am rai blyn- yddau, a chafodd ei ordeinio yn weinidog yn eu plith. MAE Ymddiriedolwyr Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, wedi penodi Mr. Haydn Jones, Towyn, yn un o'r llywodraethwyr i lanw y bwlch a achoswyd drwy farwolaeth Mr. Hum- phreys-Owen. HYSBYSIR fod Mr. David Davies, Llandinam, wedi prynu yr Hotel Cambria, Aberystwyth, a'i fod yn bwriadu ei chyflwyno drosodd i'r Methodistiaid i fod yn Gartref y Coleg Unedig yr awydda y boneddwr hael ei weled yn cael ei sefydlu yn y dref honno. Fe gofir iddo dro yn ol gynnyg 12, coop. i'r pwrpas o uno Colegau y Bala a Threfecca. Bu polio yng Nghasnewydd y dydd o'r blaen, nid i ethol aelod Seneddol, ond i benderfynu beth wneid a'r betio yn yr heolydd. Yr oedd mwyafrif cryf o'r trefwyr dros i'r Cyngor fynnu deddf Seneddol i roddi terfyn ar yr arferiad ynfyd a niweidiol.

THE WELSH UNIVERSITY.

WELSH NONCONFORMISTS AND THE…

[No title]

Y LLOFFT FACH;" ,.