Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig-XLI. Y Parch.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig-XLI. Y Parch. T. Cynonfardd Edwards, D.D. NID yn eu gwlad eu hunain ac o fewn terfynau Ynys Prydain yn unig y dringa Cymry i safleoedd uchel ac y cyrhaeddant enwogrwydd. I ba gongl bynnag o'r byd yr eir deuir o hyd i rywrai o feibion Gwalia yno, a cheir hwy yn dwyn anrhydedd i'r genedl y perthynant iddi, ac i enw y wlad a'u magodd. Cymry yr Unol Daleithau. Yn America y mae y nifer liosocaf o'r Cymry sydd ar wasgar. Gyrrwyd hwy yno gan amryw- iol achosion, rhai gan awydd gweld y byd, eraill gan angen a chaledi, eraill drachefn gan orthrwm a gormes politicaidd a chymdeithasol. Ond beth bynnag a'u gyrrodd i wlad y Gorllewin y maent wedi dal gafael yn eu nodweddion cenedl- aethol, wedi bod yn rhyfedd o ffyddlon i iaith a chred a chrefydd Cymru, ac wedi ennill iddynt eu hunain radd dda fel dinaswyr ac aelodauo Gymdeithas. Lie bynnag yr ymsefydlent codent yno addoldy Cymraeg, a mynnent gael eistedd- fod a chystadleuon mewn lien a chan. Mae ganddynt eu newyddiadur a'u cylchgronau Cymraeg, a deuant drosodd yn lluoedd bob haf i noddi sefydliadau anwyl eu cenedl. Priodol felly yw i un o honynt hwy gael lie yn oriel ein "Enwogion Cymreig," ac yr ydym yn sicr y cydnebydd pob Cymro Americanaidd nad ellid cael cynrychiolydd teilyngach iddynt na'r gwr adnabyddus a phoblogaidd yr anrhegwn ein darllenwyr gyda darlun a byr hanes o hono y waith hon. Dyddiau Boreol. Ganwyd Cynonfardd-oblegid felly yr adwaenir ef gan ei gydgenedl ymhob man-yn Glandwr, ger Abertawe, ar y 6ed o Ragfyr, 1848. Nis gwyddom pa faint o'i febyd a dreuliodd yn Nyffryn Tawe, ond yn lled gynnar beth bynnag symudwyd ef gan Ragluniaeth i Ddyffryn Cynon, a'i gysylltiadau boreuol a'r dyffryn pryd- ferth a rhamantus hwnnw a roisant ei enw iddo. Ym Merthyr Tydfil y derbyniodd y rhan fwyaf o'i addysg yn yr ysgol i'r hon yr oedd Mr. Evan Williams, M.A., yn Brif-athraw. Bu yn Athraw Cynorthwyol yn yr ysgol honno am dymhor, ac y mae yn ffaith ddyddorol mai ei olynydd yn y swydd ydoedd y diweddar Watcyn Wyn. Ryw- bryd yn yr adeg y soniwn am dani dechreuodd Mr. Edwards bregethu, a derbyniwyd ef yn fyfyriwr i Goleg Caerfyrddin. Ond cyn i'r tymhor arferol yn y coleg ddod i ben torrodd ei iechyd i lawr, a dadganodd y meddygon nad oedd obaith am barhad einioes yn hinsawdd Cymru. Drwy gydsyniad awdurdodau y coleg penderfynodd Ymfudo i America gyda'r bwriad o ymsefydlu yn y Talaethau os byddai y wlad yn cytuno ag ef. Ni bu raid iddo aros yno yn hir cyn cael adferiad llwyr. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth, ac ymroddodd i astudio areithyddiaeth. Vn 1878 cymerodd ofal yr eglwys yn Edwardsdale, heb fod ymhell o Scranton, yn Nyffryn y Wyoming, ac yno y mae wedi aros, oddigerth iddo fod am ddwy flynedd, o Mai, 1891, hyd Ebrill. 1893, yn gofalu am eglwys Ebenezer, Caerdydd. Pan y derbyniodd yr alwad i Gaerdydd ac yr ymsefydlodd yno, bwriadai ymgartrefu yng Nghymru, ond yr oedd mwy nag ugain mlynedd o fywyd Americanaidd wedi ei gynefino ef. a'i deulu ag arferion cym- deithasol y Gorllewin i'r fath raddau, ac apeliadau ei hen eglwys yn Edwardsdale ato mor daerion, fel y daeth i'r penderfyniad mai dychwelyd yno ydoedd ei ddyledswydd. Eglwys Edwardsdale yw yr eglwys gynulleidfaol Gymreig liosocaf a chryfaf yn yr Unol Dalaethau, er mai nid yr ardal honno yw y gryfaf mewn Cymry. Nid oes genym," ebe Cynonfardd ei hun, rywdro wrth son am y lie, "bobl gyfoethog, dim ond tyrfa o weithwyr darbodus a da." Fel Awdurdod ar Areithyddiaeth y mae y Parch. T. C. Edwards wedi ennill enwogrwydd yn yr America. Awgrymasom yn barod ei fod yn gynnar yn ei fywyd wedi cymeryd i fynu y gangen hon o efrydiaeth— cangen nad oes ond ychydig o Gymry wedi talu nemawr o sylw iddi. Yr ydym fel cenedl megis yn tybied fod ein dawn naturiol i siarad yn gyfryw na raid iddi wrth feithriniad. Ond cam- gymeriad dirfawr yw hynny, a gwelodd Cynon- fardd ef mewn pryd. Bu yn athraw am ddeng mlynedd yn y Wyoming Seminary, ac y mae wedi darlithio ar areithyddiaeth yn y rhan fwyaf o golegau y Talaethau a Chanada. Ac y mae ei gyfrol ar Ddarllen a Siarad y peth goreu yn ddiddadl sydd wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg ar y pwnc. Hyfrydwch pur yw gwrando arno yn darlithio, neu yn adrodd rhai o ddarnau y prif-feirdd, neu o'i gynyrchion poblogaidd ei hun. Fel Bardd. Fel bardd, y mae wedi ysgrifenu llawer o ddarnau tlws, ond rhagora mewn cyfansoddi darnau tarawiadol i'r areithfa, oherwydd gwyr yn dda beth yw'r prif angen yn y dosbarth yma o lenyddiaeth. Brithir ei gyfrol a hwynt, ac o dro i dro ceir ffrwyth ei astudiaeth yn y gwa- hanol gylchgronau Americanaidd, ac mae'rtrefn- wyr eisteddfodol ar hyd a lied Cymru bob amser yn rhoddi'r flaenoriaeth i'w ddarnau ef fel rhai i gystadlu arnynt, am y gwyddant eu bod y mwyaf addas i dynnu allan y cystadleuwyr goreu yn ogystal ag i ddyddori y gwrandawyr. Ond 0 Ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol y mae Cynonfardd wedi dod yn adnabyddus i'w gydgenedl ym Mhrydain. Ymgydnabyddodd a'r sefydliad yn fore, a bu yn gystadleuydd tra llwyddianus yn Eisteddfodau America am flyn- yddau. Ennillodd liaws o wobrwyon pwysig am draethodau a barddoniaeth, ac yn eu plith ddwy gadair-y naill yn Pittston yn 1873, a'r Hall yn Scranton yn 1875. Eto prin y buasai ei fuddugoliaethau llenyddol yn ei wneyd mor enwog ag ydyw. Fel arweinydd eisteddfod nid oes ei hafal heddyw yn fyw. Byth er y bu farw Mynyddog hyd nes y daeth Cynonfardd i'r ffrynt, yr oedd y gelfyddyd o arwain yn yr Hen Wyl genedlaethol ar goll. Byddai naill ai llais neu fedr ar ol ymron yn mhawb a gynygient ar y gwaith. Digrif fyddai gwrando ar ambell un yn bloeddio a'i holl nerth, a'r bobl yn y seddau pellaf yn methu deall dim a ddywedid. Ond y mae Cynonfardd yn cyfuno ynddo ei hun holl elfenau arweinydd llwyddianus ac erfeithiol. Medr wneyd ei hun nid yn unig yn glywadwy, ond yn hollol ddealladwy hefyd i bymtheng neu ugain mil o bobl heb yr ymdrech leiaf; yn wir, buom yn meddwl weithiau mai po fwyaf diymdrech y bo mai pellaf oil y cerdd ei lais, ac mai y peth hawddaf yn y byd yw siarad fel y clywo y rhai fo hanner milldir i ffwrdd, ac y mae ei fedr yn gwbl gyfartal i'w allu llefarol. Bydd ganddo fylchau i'w llanw pa mor faith bynnag fydd y rhaglen, a gwna hynny gyda hanesynau difyrus, ond i gyd yn y chwaeth oreu. Nid a odid flwyddyn heibio na elwir ef yr holl ffordd o Pensylvannia i arwain yn yr Hen Wyl, a pha bryd bynnag y bo yn absenol teimlir y gwagle yn boenus,