Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
THREE-FOURTHS of the staff of the Brecon Memorial College are poets, one professor being also the brother of a poet, and the principal a member of the Gorsedd executive.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
Am Gymry Llundain. PELLEBYR BRYN.—Dyma bellebyr a dder- byniodd Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., ar ol ei etholiad, oddiwrth Mr. Bryn Roberts o'r Cyfandir Corbtolavions or majosity, Bryn." Mae'n debyg mai Congratulations on majority a ysgrifenodd, ac i'r clerc feddwl mai Cymraeg ydoedd, a gwneyd y goreu o hono. CROESAWU.—NOS Sul diweddaf rhoddodd eglwys y Tabernacl, King's Cross, drwy ei gweinidog, Elfed, groesaw cynes i Mr. Llewelyn Willams ar ei ddychweliad buddugoliaethus yn Mwrdeisdrefi Llanelli a Chaerfyrddin. Diolchodd yr A.S. newydd yn gynes iddynt am eu teimladau caredig. CYNGHERDD CENEDLAETHOL.—Un o'r pethau goreu yn rhaglen flynyddol Castle Street yw'r cyngherdd Cymreig a geir ar adeg Gwyl Dewi. Eleni bwriedir i'r cyfarfod fod mor boblogaidd ag erioed, a disgwylir i'r aelod anrhydeddus D. Lloyd George i lanw'r gadair ynddo yn ol ei arfer. Ond fe fydd "mynd" ar y tocynau eleni. CYFARFODYDD. Vn ychwanegol at gynull iadau i barotoi gogyfer ag agoriad y Senedd ceir dau gyfarfod pwysig yn ein mysg yr wythnos ddyfodol. Nos lau rhoddir cyngherdd arbenig yn Eglwys St. Padarn, Hornsey Road, a nos Sadwrn cynhelir eisteddfod leol yn nghapel y Tabernacl, King's Cross. YR ETHOLIAD A'R DIWYGIAD.—Dywedir fod brwdfrydedd yr etholiad yn Nghymru wedi gyru'r cyfarfodydd diwygiadol o'r naill du am rai wythnosau, ac mae'n amlwg mai galwadau'r etholiad rwystrodd amryw o'r siaradwyr a gwrandawyr, rhag bod yn y cyfarfod Undebol yn City Road yr wythnos o'r blaen. Wel, rhaid gweithio tros ragor nag un math o ddiwygiad y dyddiau hyn, heb son am ddiwygiad ynglyn a chadw'r cyhoeddiadau. YR ANWYDWST.—Ai'r etholiad hefyd sydd yn gyfrifol fod y fath lu o'r Cymry—a phawb o ran hynny—yn dioddef tan anwyd ? Roedd miloedd allan tan haner nos yr wythnosau diweddaf yn ardal Fleet Street yn gwylied y ffigyrau a gyhoeddid o bob rhan o'r deyrnas, ac ar ol y gwaeddi a'r aros nid rhyfedd fod cynnifer o'n cydwladwyr pybyr yn mron a methu siarad y dyddiau hyn. PARCH. JUSTIN EVANs.-Bydd yn chwith gan lawer o gyfeillion y pregethwr poblogaidd hwn glywed ei fod wedi colli ei briod foreu Sul diweddaf. Yr oedd Mrs. Evans yn wael ers tro, a'r wythnos ddiweddaf bu dan driniaeth lawfeddygol a gobeithid y buasai yn cael adferiad buan. Yn lie hynny gwaethygu wnaeth, a hedodd ei hysbryd siriol at yr Hwn a'i rhoes er mawr alar a cholled ei phriod tyner. Nodded y Nef fo trosto yn nydd ei drallod a'i hiraeth. BARRETT'S GROVE.—Caed cyngherdd rhagorol yn Barrett's Grove nos lau wythnos i'r diweddaf o dan lywyddiaeth Mr. W. Lloyd Owen. Gan mai hwn oedd y cwrdd te a'r cyngherdd blyn- yddol daeth llond y capel o ewyllyswyr da yr achos ynghyd a dyddorwyd hwn mewn araeth a chan gan dalentau disglaer. Y cerddorion oeddent Miss Agnes Parry, Miss Gwladys Roberts, Mr. Herbert Emlyn, a Mr. T. Amos Jones, ac adroddodd Llewelyn" ynei ddull deheuig arferol. Mae 60 mlynedd oddiar y cychwynwyd y cyrddau hyn, a daliant mewn llawn fri o hyd. KING'S CRoss.-Rhoddodd y Gymdeithas Ddiwylliadol gyngherdd arbenig nos Iau, Ion. 25am, er budd y bobl ieuainc nas gallant fynychu'r cynulliadau ar y Sadwrn. Daeth llond y neuadd o'r aelodau ynghyd, ac o dan lywyddiaeth Mr. Tudor Jones, Fulham, aed trwy raglen faith o ganu ac adrodd. Y prif gerddorion oeddent Misses Winnie Evans, Miss Lalla Thomas, Mr. Lloyd Davies, Mr. Rees, a Mr. Stanley Davies, ynghyd a Misses Winnie Mathias a Towena Thomas fel offerynwyr. Nos Sadwrn dilynol caed cwrdd siarad o dan reolaeth Mr. Cadwaladr Jones, a bu llu o'r bobl ieuainc yn dadblygu eu talentau i siarad mewn modd tra chymeradwy. GAIR I'R MASNACHWYR.—Dyma'r adeg i drefnu'r fasnach gogyfer a'r tymhor prysur sydd i ddod, ac os am gynorthwy rhai o'n hysbysebwyr ynglyn a;u gwahanol ganghenau byddwn yn ddiolchgar os cydnabyddant wasanaeth y WELSHMAN yn nygiad eu henwau ger bron. Os am adgyweirio neu brynu cerbydau addas i r fasnach laeth, nis gellir gwneyd yn well na mynd at Mr. Rootes, Kennington Oval, neu os am hanes masnachdai addas yn y West End a manau eraill ymoheber ar unwaith a Mri. Garvey and Gook, 19, Regent Street. CLAPHAM JUNCTION.—Ynglyn a Chymdeithas Ddiwylliadol y lie uchod cafwyd Etholiad Seneddol nos Fercher, 27ain cyfisol. Yr ym- geiswyr am y sedd oedd Mr. D. Edwards, Northcote Road (Ceidwadwr); Mr. R. L. Davies, Beauchamp Road (Rhyddfrydwr); a Mr. James Evans, Streatham (Sosialydd). Wedi i'r yrngeiswyr ddatgan eu barn ar bynciau y dydd, ac ar ol llawer o siarad, aethpwyd i'r etholiad, pryd y cafwyd mae y Sosialydd oedd yn llwyddianus gyda mwyafrif o un dros y Rhyddfrydwr. Cafwyd anerchiadau campus gan yr ymgeiswyr, a chafwyd cryn hwyl yn ystod yr etholiad. COEDEN NADOLIG.-Nos Wener, 29am cyfisol, cafwyd "Christmas Tree" blynyddol y plant yng Nghapel Clapham Junction. Yr oedd toraeth odea bara brith wedi eu darparu ar eu cyfer, ac ar ol y gwledda cafwyd cyfarfod adloniadol gan y plant, yn cynwys caneuon, adroddiadau, &c. Yr oedd y goeden Nadolig wedi ei gor- lwytho gan bob math a deganau, pa rai a ranwyd iddynt, ac os yw y gwir am gael ei ddweyd, hefyd i'r plant mewn oed Noson ddifyrus iawn gawsom, ac yr oedd y cwbl yn dangos y gwaith sydd wedi cael ei wneyd ymhlith y plant yn ystod y gauaf. Y mae chwiorydd ieuainc yr eglwys i'w canmol yn fawr am eu gwaith ynglyn a'r cyfarfod hwn, y rhai a weithiodd yn ddiflino i wneyd pob peth yn llwyddianus. DYDD GWYL DEWI.—Mae parotoadau helaeth ar droed gogyfer a dathlu coffa Nawdd Sant y Cymry eleni eto. Rywfodd neu gilydd y mae'r bobl yn dod yn fwy gwladgarol y naill flwyddyn ar ol y llall, a barnu oddiwrth nifer y ciniawau a roddir. Y flwyddyn hon mae Syr John Puleston i lywyddu yng Nghaerdydd, ac Arglwydd Faer Llundain i lywyddu yn yr 0 Holborn Restaurant. CINIAW.—Yn ychwanegol at roddi gwledd groesawiadol i'r tri gwleidyddwr Cymreig sydd yn dal swyddi yn y Weinyddiaeth, y mae Cymry Llundain yn mynd i groesawu amryw o'r newydd-ddyfodiaid." Y mae amryw o honynt yn haeddu ein canmoliaeth am y gwaith rhagorol a wnaed ganddynt. COFFADWRIAETH AM MRS. LEWIS, 39, MEDINA ROAD.—Dydd Mercher, lonawr lyeg, bu farw Mrs. Lewis, o'r lie uchod, yn 78 mlwydd oed. Merch Thomas Evans, Plas Bach, Tregaron, oedd Mrs. Lewis. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn 18, Long Acre, gyda Mrs Davies (Tre- garon). Ar ol marwolaeth ei mham priododd a Mr. Lewis, o'r Drefnewydd. Buont yn hynod o lwyddianus yn eu masnach. Claddwyd ein hen chwaer barchus yn Islington Cemetery,
Advertising
Advertising
Cite
Share
WYBROW & SON, 222, Coldharbour Lane, Loughborough Junction, S.W. INEXPENSIVE AND MODERN FUNERAL5 In Town or Country, at stated chargesl which in all cases are moderate. PRICE LIST ON APPLICATION. Distance a a object
Notes of the Week.
News
Cite
Share
have an Opposition made powerless by faction and distrust, and the only man who can unite them is Mr. Balfour. The qualities which made him a failure as Prime Minister are just the qualities most likely to make him successful in opposition. Anyhow, no one who takes interest in the proceedings in the House of Commons will grudge him his seat for the City however much they may have rejoiced at his defeat in Manchester. Welshmen for English Constituencies.—With the result of the election in Wales itself we deal in another column, but it may be interesting to some of our readers to know that a considerable number of our fellow-countrymen have been returned for constituencies outside their native land. Two, besides Mr. Timothy Davies, who captured the seat at Fulham, will sit for constituencies that are practically in London, Mr. Simon, the victor in Walthamstow, and Mr. Jenkins, the Labour member for Chatham. Mr. Jenkins is a Cardiff man, is an Alderman of that city, and two years ago filled the mayoral chair. In addition to these, there is Mr. Richard Bell, who hails from Merthyr, Mr. Hay Morgan, who hails from Breconshire, and Mr. Howell Davies, of Bristol. Mr. McLean, one of the two members for Bath, is in business at Cardiff. Among the defeated candidates there are at least three or four who have Welsh connections. There is Mr. Aneurin Williams, of garden city fame, who only just failed to win one of the divisions of Kent. He is an ardent Welshman, son of Edward Williams, of Middlesboro', grandson of Taliesin Williams, and great grandson of lolo Morganwg. A son of Lord Penrhyn was defeated in Northamptonshire, and Mr. Griffith-Boscawen, who lost his seat in Kent, is from the Vale of Maelor, where the family have an estate. His late father, Captain Griffith-Boscawen, was well known in Denbigh- shire as one who took very active part in all county affairs. Looking Forward.—The Court of Governors of the University of Wales is evidently looking forward to some changes in the administration of education in the country in the near future. At its meeting held a few days ago, the question of appointing a working head was put aside until the scheme for a Welsh Council of Education is made known. It will be remem- bered that a scheme had been agreed upon by the Welsh Parliamentary Party, and the Board of Education in Whitehall, but that the Board cancelled it for some reason or other, presumably because of the Welsh Revolt. No doubt another scheme will be drawn out very shortly, and it is thought it may cover not elementary education alone, but secondary and higher education as well. At "present the machinery for administering Welsh Education is far from satisfactory. Three different authorities are responsible for the three branches, and those authorities are quite independent of one another. What is needed is a broad thorough scheme dealing with the whole question, creating a council which will have power to control schools and colleges of every grade, arranging the courses of studies so that there will be no overlapping on the one hand, nor gulfs on the other. And if such a council were appointed great saving of expense might be effected. Had it been appointed long ago, the saving would have been much greater. Fewer examiners, fewer directors of education, fewer clerks and officers would have been needed. But it is not too late yet to improve matters very considerably, and it is to be hoped that the members for Wales will press forward the claims of their country for administrative reforms along with its claims for legislative amendment of the Educa- tion Act.