Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

Nodiadau Golygyddol. AD=DREM AR YR ETHOLIAD. Erbyn hyn y mae yr etholiad drosodd, ac ar ol wythnosau o gyffro digyffelyb bron y mae'r tawelwch yn felus. Nid ar unwaith y dileir yr effeithiau a adawodd y cyffro ar gyrph a meddyliau lliaws mawr. Rhaid talu'r dreth am y brwdfrydedd, y pryder, y dadleu, a'r gwaeddi, a threth drom fydd hi hefyd i lawer. Ni fu odid bythefnos gyffelyb i'r ddiweddaf yn hanes y wlad ers bron ganrif o amser. Credid gan y rhan fwyaf yr effeithiai yr etholiad gyfnewidiad mawr yn Nhy y Cyffredin, ond prin y breudd- wydiodd neb y byddai y canlyniadau yr hyn ydynt. Beiddiodd ambell un awgrymu na ddychwelai y 'Ceidwadwyr yno yn llawer mwy na dau gant o rif, ond ystyrid y cyfryw yn ynfyd. Ond nid ydynt namyn rhyw gant a hanner. Bydd yn anhawdd adnabod y Ty pan gyferfydd. Yn ofer y chwilir am rai fu yn aelodau o honno, ac yn golofnau ynddo am ddegau o flynyddoedd. Eu lie nid edwyn ddim o honynt mwy. Pobl newyddion fydd ymhell dros hanner y rhai a eisteddant ynddo. Bydd chwech o leiaf o aelodau y Cyfringyngor di- weddaf yn absenol, a'r cyn-Brifweinidog yn eu plith. Ni fydd ar y fainc flaenaf ar yr ochr wrthwynebol neb o allu a dylanwad oddigerth Mr. Chamberlain a Syr Edward Clarke ac o'r braidd y meddant hwy ill dau, a Mr. Wyndham, hawl i fod ar y fainc flaenaf o gwbl gan eu bod allan o swydd pan newidiwyd yr awdurdod. Ond rhaid cael rhywun i eistedd yno, pe ond i guddio tipyn bach ar noethder y lie. Tra y mae'r etholiad hwn, a chymeryd golwg gyffredinol arno, y rhyfeddaf a fu yn y Deyrnas er 1832, y mae wedi bod yn rhyfeddach yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall. Am y tro cyntaf erioed yn ei hanes, nid oes cymaint ag un Ceidwadwr ymhlith ei chynrychiolwyr. Mae'r pedwar-ar-ddeg-ar-hugain a ddychwelwyd dros y tair-sir-ar-ddeg yn Rhyddfrydwyr. An- hawdd yw i neb o honom sylweddoli hyn. Yn 1885 y buom agosaf i fod yr un fath, ond yr oedd pedwar Ceidwadwr ym mhlith yr aelodau Cymreig y pryd hwnnw. Cymer beth amser i gynefino a'r syniad fod sir Fynwy heb yr un Morgan yn ei chynrychioli. Ni bu felly o'r blaen er yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Ac y mae y mwyafrifau yn gyfryw na fu erioed o'r blaen eu cyffelyb. Dim ond mewn tri lie, Maesyfed, Bwrdeisdrefi Fflint a Bwrdeisdrefi Maldwyn y mae'r mwyafrif o dan bum' cant, ac mewn un etholaeth arall yn unig y mae o dan fil. Yr ydym yn cofio amser pan yr edrychid ar fil o fwyafrif yn rhywbeth anghyffredin, ac os byddai ymgeisydd ddwy fil o flaen ei wrthwynebydd sonid am dano am fis- oedd. Ond y tro hwn nid yw dwy fil i ymffrostio ynddo o gwbl. Mewn deg o etholaethau mae'r mwyafrif Rhyddfrydol uwchlaw dwy fil, mewn chwech uwchlaw tair mil, ac mewn tair uwchlaw pedair mil. Nid yw cyfartaledd y mwyafrifau fawr iawn o dan dair mil yr un yn yr ethol- aethau lie y bu ymdrechfa. Cafodd un-ar-ddeg o aelodau fyned i- mewn yn ddiwrthwynebiad, a gwyddis i rai o honynt gael mwyafrif o bump a chwe' mil yn yr etholiad blaenorol. Beth fuasai eleni tybed gyda'r llanw Rhyddfrydol oedd mor anwrthwynebol ? Nis gellir llai nag ymholi. Beth sy'n cyfrif am yr oruchafiaeth bron anhygoel hon a gafodd y Rhyddfrydwyr yng Nghymru ? Prin, efallai, y ceir pawb i roddi yr unrhyw ateb. Ond ni feddwn ni y petrusder lleiaf i ddweyd mai pwnc Addysg a fu yr achos. Dyna y pwnc blaenaf ymhob man. Hwnnw a barodd i'r genedl gyffroi, a chodi megis cadarn gwedi gwin i'r ymdrechfa. Addysg Rydd o dan reol- aeth y cyhoedd ydoedd ar y faner yr hongiai yr etholwyr o dani. Er mor gryf y llanw yn erbyn gweithrediadau y Llywodraeth ddiweddar yn Neheubarth Affrica, ac yn erbyn Diffyn- dollaeth ymhob ffurf arni, prin y credwn y buasai yn ddigon cryf i ddiseddu hen aelodau parchus fel y Milwriad Wyndham-Quin a'r Cadben Pryce-Jones oni bae eu bod hwy wedi pleidleisio dros Ddeddf Addysg ac yn ei hamddiffyn. Efallai mai yn Neheubarth Mynwy y caed y prawf cryfaf o hyn. Os yw Cymru yn rhywbeth y mae yn Brotestanaidd. Ond ym Mynwy yr oedd y Milwriad Morgan y Protestant yn cefnogi Deddf Addysg, a'r Milwriad Ivor Herbert, y Pabydd, yn ei gwrthwynebu, ac am hynny y Pabydd a etholwyd gyda mwy na deu- ddeg cant o fwyafrif. Cadarnhawyd polisi y Cynghorau Sirol o wrthod gweinyddu y Ddeddf, a datganwyd yn y modd mwyaf pendant a di- floesgni y myn y genedl gyflawn reolaeth ar yr holl ysgolion a gynhelir drwy dreth a pherffaith gydraddoldeb crefyddol ynddynt. Er fod holl arweinwyr y genedl Gymreig yn cydweithio o dan y faner gydag egni, y mae'r oruchafiaeth hon wedi'r cwbl yn oruchafiaeth un gwr. I Mr. Lloyd-George y mae Rhydd- frydwyr Cymru yn ddyledus am eu bod wedi cario pobpeth o'u blaen. Efe a ffurfiodd y polisi cenedlaethol, efe a drefnodd y rhengau, ei ath- rylith a'i argyhoeddiad ef a ysbrydolodd y bobl i'r frwydr. Os bu rhywun o'r blaen yn amheu gallu a chymhwysder Mr. Lloyd-George i arwain yn llwyddianus nis gall neb amheu felly mwy. Ni bu Cymru mor gyfan er dyddiau Owen Glyndwr, ni fu ei gobaith mor gryf er dyddiau Llewelyn. Mae Gwynedd a Phowys, Dyfed, Morganwg a Gwent, wedi tyngu ffyddlondeb i'r tywysog o Arfon. Nid cynrychiolydd bwrdeis- drefi Arfon yw efe mwy, ond cadfridog ac arweinydd byddinoedd Cymru i sicrhau i'r genedl ryddid a chydraddoldeb gwladol a chrefyddol.

Notes of the Week.