Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH;\ YN YR HON…

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. I (Qan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD X. Y Llofft Fach" yn son am Eraill a Aethant Allan. Rhyngoch chwi a minau, yr oedd cymaint o synu i wel'd gwr y Ddoldir yn d'od at grefydd ag oedd i wel'd Sam Wmffras. Ac mi dd'wedaf i chwi beth arall: yr oedd yma lawer yn credu fod cael y blaenaf yn jwy o gael i'r achos na chael Sam, druan. Un o'r publicanod a'r pechaduriaid oedd Sam.-y wythien waela' o haenau cymdeithas—yn byw ac yn bod yn y dafarn, ac yn adnabyddedig fel pen-llerciwr y pentref-yn prysur wneud bedd iddo'i hun ar dir claddu'r plwy'. Yr oedd ffydd y mwyaf hyderus o'r saint yn ei lwyr droedigaeth, ac y buasai yn dal yn ddigon gwan i gyfiawnhau ei pherchenog i ameu ei bodolaeth a phe clywsid ei fod, fel y ci, wedi myn'd yn ol at ei "chwydfa," buasai y syndod yn llai y'mysg dosbarth neillduol yn yr eglwys nag ydoedd pan y ceid arwyddion hyd at sicrwydd ei fod yn drymp," ys d'wedai yr hen Dwmi Morgan. Barn y bobl hyn oedd mai Sam oedd y mwyaf lwcus yn y drafodaeth, ac nid hwy. Nid o'ent o'u lie yn yr ystyr bwysicaf; ond rhaid cyfadde' taw nid hono oedd yr ystyr y gosodent hwy fwyaf o bwys ami. Yr oedd gwr y Ddoldir, deallwcb, o "glas" gwahanol, o deip gwahanol, os nad yn wir o glai gwahanol. Cyfrifid ef yn rhyw haner gwr bon- heddig yn-y wlad. Tybid ei fod yn berchen ar ei fferm ei hun-yr oedd ganddo well cerbyd na neb y ffordd hono y'myn'd i'r dref ddydd Sadwrn, a llawer diwrnod arall-yt oedd ganddo ddau neu dri o fechgyn yn gwisgo botasau gloewon, a dwy neu dair o ferched ffwr'-a-hi, a gymerent y shein allan o hollferrhed y fro mewn ffasiwn a ffal-di-ral. Meddai ar ddull arbenig i ddallu pawb i'w ddiffygion, os oedd iddo ddiffyg- ion gwahanol i eiddo plant Adda'n gyffredin bid afyno, nidoeddond ychydigyngwybodam danynt y pryd hwnw. Ni siaradai a phawb yr un fath. Siar- adai a'i uwchradd yn isel a melfedaidd, a'i don yn awgrymu fod yn ddrwg ganddo yn ei galon ei fod wedi cael ei eni i'r un byd a hwy, ond yn wir mai nid ei fai ef oedd hyny, a phe buasai'r dewisiad ar ei law ef, yr aethai i Mawrth neu Sadwrn, cyn y gwnaethai'r fath gam a hwy. Ac yn y blaen. Siaradai a'i gydradd yn ffroenuchel a nawddogol, fel pe b'ai am argraffu ar eu meddyliau taw eu camgymeriad a'u hyfdra hwy oedd tybied eu bod yn perthyn i'r un "clas" ag e', a taw ei hynawsedd yntau oedd caniatau iddynt fod ar gystal telerau ag un oedd gym- aint uwchlaw iddynt. Ond siaradai a'i isradd fel un o honynt hwythau-galwai arnynt wrth eu henwau cyffredin, yn wyr ac yn wragedd, yn blant ac yn bobl- codai hwynt i fyny i'w gerbyd ar ei'ffordd i'r dref, ac ar ei ffordd adref; a'r unig dal a geisiai ganddynt oedd codi'r Haw at y pen o du'r dynion a'r cryts, a phlygu'r garrau o du'r gwragedd a'r crotesi. A gwae i unrhyw Fordecai na wnai hyny iddo pan basiai; yr oedd Haman yn barod i'w grogi bob dydd wed'yn. Ond dyma gwr y Ddoldir wedi d'od at gref- ydd Gwelwyd ef ar ei liniau yn y Llofft Fach, ochr-yn-ochr a gwas y Cyrnol, yn llefain am drugaredd A chafodd ei dderbyn fis yn gynt na gwas y Cyrnol, a Sam a Susan Yr oedd yn wrandawr cyson er's blynyddoedd, a chymaint ei 'stwr gyda'r achos fel nad oedd fawr o neb y tu allan yn gwybod llai nad oedd o'n aelod erioed, fel py tae; a mi glywais fod rhai wedi myn'd mor bell a haeru ei fod yn ddiacon Rhydd y ftaith yna cystal syniad i chwi am y gwr a dim alia' I dd'weyd. Nid wyf yn cofio i mi son am wraig y Ddoldir; ac hwyrach fod hyny wedi peri i rai o honoch feddwl taw gwidman" oedd y dyn. Ond yr oedd yno wraig, a gwraig ragorol ydoedd. Hi oedd yr oreu o'r teulu o ddigon, ac yr oedd hi yn un o golofnau yr achos yma er cyn co' llawer. Dynes dawel, ddistaw, wylaidd oedd Mrs. Cradog-un o'r etholedig rywogaeth ag y mae yn rhaid i chwi ei gwel'd cyn gwybod am ei phresenoldeb. Hi oedd yr unig un o'r teulu oedd yn aelod cref- yddol yn y capel. Cyrchai'r plant i'r Eglwys Blwyfol yn y pentref ucha', He yr oeddynt yn rhyw fath o aelodau a deuai'r tad i wrando gyda'r fam. Yr oedd y ddau yn llawer o help i'r achos mewn arian, a disgwylid pethau mwy oddiwrthynt yn awr wedi i'r hen sgweiar ei hun dd'od i fewn. Yn ei funudau mwyaf clochaidd, arferai dd'weyd y byddai yn fantais fawr i'r achos ei gael ef. Llawenhai y bobl fod y fantais wedi cyraedd, a phroffwydent gapel newydd a Llofft Fach newydd ddiddyled cyn pen blwyddyn. Os felly, nid oedd yn fantais yn y byd i mi fod gwr y Ddoldir wedi dod i'r seiat, ac edrychwn y'mlaen gyda gradd o bryder. Mi glywais mai chwerthin am ei ben wnaeth y plant ar ol iddo fyn'd adref y noson hono. Yr oedd y newydd wedi cyraedd yno o'i flaen; a synwn i ddim yn awr nad oedd gwir yn yr hyn a glywais iddo yntau chwerthin c'uwch a hwythau. Daetbant yno i gyd i wel'd eu tad yn cael ei dderbyn ac er i rai o'r hen frodyr wneud lot o rigmarol o'u cwmpas, a mynu 'stwffio'r gwaethaf o honynt i'r set fawr," yr o'ent yn byhafio mor g'wilyddus ar hyd yr amser nes tynu sylw cyffredinol. Yr oedd gwel'd yr hen wr yn edrych mor llywaith o flaen y bwrdd cymundeb yn eu ticlo'n fwy na'r cwbl; ond yr oedd Mrs. Cradog a'i phen i lawr o'r dechreu i'r diwedd, a d'wedai y rhai oedd yn eistedd yn ei hymyl ei bod fel dynes wedi tori ei chalon. Yr oedd hyny yn beth rhyfedd hefyd, a'i gwr yn cael ei dderbyn yn aelod. Cymaint oedd balchder y bobl o gael Mr. Cradog fel y gwnaethant ef yn drysorydd yr eglwys cyn iddo gael ei draed dano y'mron, ac yn ddiacon y bwlch cynta' gaed. Yr oedd hyny ddwy flynedd cyn i Sam gael y dyrchaf- iad. Pasiai gryn lawer o arian drwy ddwylo'r try- sorydd y misoedd dilynol, oblegid yr oedd y frawdoliaeth wedi penderfynu casglu arian a'u 'storio'n y banc cyn dechreu adeiladu. A chyfrifent eu hunain yn od o lwcus i gael dyn abl" fel gwr y Ddoldir i ofalu am danynt a'u trosglwyddo i'r banc. Er nad oedd rhai o'r hen gonos eu hunain mor anghyfarwydd a'r ffordd i'r banc ag y carent i chwi dybio eu bod. Bob yn dipyn, dechreuodd gwres mawr y Diwygiad oeri, gwanhaodd y cyrddau mewn nifer, a daeth pethau yn ol i'w hen lefel. Trodd pwer yn ol o'r rhai a gariwyd i'r gyfeillach gan amryw ddylanwadau cariwyd hwy allan wed'yn o un i un yr un mor hawdd, a rhai yn haws. Nid wyf yn cofio ond am Robin Bach o blith y rhai a gariwyd a lynodd hyd y diwedd. Pa un ai o Dduw ai o ddynion y bu hyny, nis gwn. Hwyrach fod pob un o'r ddau; ond a d'we) d y goreu, nid oedd Robin ryw lawer o gownt. Ond fe lynodd pawb a ddaeth i fewn dan "gerdded ac wylo"; ac wedi i bethau dawelu, ni fu eu ffyddlonach erioed. Yr oedd Mr. Cradog mor ffyddion a neb o honynt, a'r hen saint yn ceisio dygymod oreu gallont a'r ffordd oedd ganddo i farchog- aeth dros eu penau mewn materion eglwysig. Ond o dipyn i beth, collwyd y dyn mawr o'r cyrddau. 0 gyrddau'r wythnos i gychwyn, yna o'r Ysgol Sul, wed'yn o'r cwrdd bore' Sul, nes yn raddol na welid ef ond ar nos Suliau yn unig. Yr oedd Mrs. Cradog yn dal i dd'od o hyd, ond yr oedd pobl wedi myn'd i sylwi ami ei bod yn tori ac yn heneiddio'n fawr. Ymddangosai fel dynes a byd o lwyth ar ei meddwl, heb neb i'w gario ond ei hunan. Eto, 'doedd neb wedi breuddwydio am ddim tebyg i'r helyntion a ddilynasant. Ryw nos Lun, wedi i'r bobl fyn'd adre' o'r cwrdd gweddi, a thra yr oedd Phil, Llwyd, Hiws y scwl, yr hen Siors, a dau neu dri eraill, yn tynu mygyn yn y Llofft Fach cyn cychwyn, dyma'r drws yn cael ei agor, a phwy ddaeth i fewn ond Mrs. Cradog. O," meddai, yr un fath a phe byddai rhywun yn ei herlid-" 0, ewch i siarad a William heb golli amser-heno nesa' os gellwch—neu mi fydd yn rhy ddiweddar. Er mwyn yr eglwys -er ei fwyn ei hun—er mwyn Duw—mynwch gael gafael arno. Mae o'n myn'd ar ei ben i ddistryw er's Ilawer dydd. Gofynwch iddo b'le mae arian yr eglwys ac 0 byddwch yn dyner wrtho." Ac allan a hi i'r nos drachefn. Edrychodd y diaconiaid ar eu gilydd. Bu geiriau anniben y wraig yn agoriad llygaid i un neu ddau o honynt, y rhai oedd wedi clywed sibrydion yn y gwynt. Cymerasant y lleill i'w cyfrinach, a phenderfynasant i Phil Llwyd a'r hen Siors gymeryd y tarw gerfydd ei gyrn yn y Ddoldir y noson hono. Pan yr oeddynt yn parotoi i ymadael, dyma'r drws yn cael ei agor yr ail waith, ond dipyn yn fwy trwsgl na'r tro cyntaf: a Mr. Cradog ei hun yn camu i fewn. Wedi yfed yn drwm, a'r olwg wyllta' arno. Edrychai yntau yn debyg i un yn cael ei erlid, fel ei wraig o'i flaen. Cyn iddo gael ei wynt ato i dd'weyd gair B'le mae cyfrifon yr eglwys, Mr. Cradog, a dangosiadau'r banc am yr arian ?" ebe Phil Llzvyd, heb guro'r perthi. Treiodd y truan ym- sythu, a sefyll ar ei sodlau; ond nid oedd ganddo sawdl i'w hebgor, ac yn yr ymdrech bu agos iddo a syrthio'n ol dros y trothwy. Yr oedd y drws yn agored o hyd, a llithrodd Hiws y scwl o'r tu ol iddo i'w gau. Pwy hawl sydd genych chwi i ofyn y fath gwestiwn i mi ? Digon o hawl, a digon o reswm," ebe Phil, a'i wrychyn wedi codi erbyn hyn. Mae 'na bethau cas yn cael eu d'weyd am danoch, Mr/ Cradog, a 'dydi'ch cyflwr ch'i heno ddim yn help i ni eu hameu. Gwell i chwi ateb yn daliedd, b'le mae'r cyfrifon a'r dangosiadau ? 0, os taw felly mae b'le 'rydach ch'i'n meddwl bod nhw ? 'Dydw I ddim yn cario pethe' felly gen I." O'r gore' ebe Phil etc ni ddown gyda ch'i mor belled a'r Ddoldir ac os gellwch ch'i roi'r papyre i ni, pobpeth yn iawn." Yr oedd bellach wedi naw o'r gloch. Clywyd swn rhywun yn d'od i fyny'r star geryg oddiallan, fel dyn anghyfarwydd iddynt. Nid un, na dau. Yr oedd Hizn; y scwl wedi sefyll a'i gefn ar y drws, a phan glywodd y swn, fe'i hagorodd. Pwy ddaeth i fewn ond tri o blismyn, dau o'r dre a phlismon y pentre'. Gynted y gwelodd Mr. Cradog hwy, rhoddodd ysgrech ofnadwy, cymerodd lam, a neidiodd yn gorfforol drwy'r ffenestr i'r fynwent islaw. Nid oedd hyny yn gymaint o gamp ag a fuasech yn ei feddwl, oblegid yr oedd y ffram yn barod i fyn'd gyda'r help lleia'. Chwi gofiwch imi son am hyn o'r blaen. Yr oedd yno blismon arall yn derbyn y ffoadur pan ddisgynodd, a chafodd lety'r noson hono y'ngharchar y sir. Nid oedd wedi talu ond ychyd-ig bunoedd i'r banc; beth wnaeth a'r gweddill, ac a channoedd o arian pobl eraill, 'does neb yn gwybod. Am ysgrifenu enw rhywun heb ei ganiatad y daeth y plismyn ar ei ol. Benthycodd barchusrwydd a chrefydd yn glogyn dros ei ddrygioni. Nis gwn beth a ddaeth o hono ef, ond bu Mrs. Cradog farw yn y "madws." Go brin y credaf iddynt gwrdd yi ochr draw. Yr oeddwn wedi meddwl son am eraill a aethant allan ar ol d'od i fewn ar frig y Diwyg- iad. Ond mae cofio am wr y Ddoldir wedi ei ladd yn y plisgyn. (l'w barhaii).