Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig-XL. Yr Athro…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig-XL. Yr Athro Edward Anwyl, M.A. MAE dinas Caerlleon Gawr ar fin y Ddyfrdwy wedi chwareu rhan bwysig ym mywyd Cymry drwy y canrifoedd. Brwydr Caer oedd y frwydr a wahanodd Gymry Gwalia a Chymry Ystrad CIwyd, ac i'w cadw ar wahan yr adeiladwyd y castell fu cyhyd yn bencadlys gorthrymwyr a gormeswyr ein cenedl. Mewn amserau diweddarach gwnaeth y ddinas lawer o iawn am ei chamwri at Gymru gynt. Cafodd ein lien a'n cerdd gynorthwyon effeithiol oddi- yno yn y ganrif ddiweddaf, a bydd enwau John Parry, Owain Alaw, Enoch Salisbury, ag eraill )n ddigon i gadw cofcynes am Gaerlleon yn y galon Gymreig. Ond yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y rhoes Caer ei rhodd benaf i Gymru drwy fagu a chychwyn ar ei yrfa yr Athro Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth. Meddyliodd y Sacsoniaid am i'r ddinas ar lan y Ddyfrdwy fod yn ffynonell o ddylanwad i ladd ein hiaith yn ogystal ag i orthrymu ein pobl. Bychan a dybient mai oddiyno y codai un o'r galluoedd cryfaf i amddiffyn yr iaith a'i bywhau, un o'r Cymry mwyaf Cymreig ei ysbryd, ei osgedd, a'i arferion o neb sydd yn fyw heddyw. Gan mai hen lane—na nid hen ychwaith—yw yr Athro, ni byddai yn deg dadguddio ei oedran. Y cwbl ddywedwn yw ei fod yn Ysgol loan Sant yng Nghaer yn 1875, ac iddo fynychu yr ysgol honno hyd 1878, pan y symudwyd ef i Ysgol y Brenhin, yn yr un ddinas. Treuliodd saith mlynedd yn yr ysgol honno, gan wneyd cynydd neillduol mewn gwybodaeth a gadael ei gydysgolheigion ymhell ar ol. Efe oe^d yr ail yn y deyrnas mewn Groeg a Gwyddoniaeth Naturiol yn Arholiad Lleol Prifysgol Caergrawnt yn 1881. Yn 1885 cawn ef Yn Rhydychain. Ennillodd ysgoloriaeth glasurol agored yng Ngholeg Oriel ar ei fynediad i mewn. Treuliodd y cwrs arferol 0 bedair blynedd yn Rhydychain, a graddiodd gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Clasuron, Athrawiaeth, a Hen Hanes. Ar ol graddio etholwyd ef yn Ysgolor o Goleg Mansfield, a bu yno am dair blynedd yn efrydu Duwinyddiaeth. Cariodd y prif wobrwyon yn y sefydliad hwnnw drachefn. Yr oedd erbyn hyn yn gymwys ar gyfer gwaith, ac er mantais amrhisiadwy i Gymru, ac er llawenydd mawr iddo ei hun a'i gyfeillion, pennodwyd ef yn athro mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth Gym- harol yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Ac yno y mae wedi aros, yn hyfforddi Cymry ieuainc yn iaith a lien eu cenedl hwy eu hunain, yn cyfoethogi ei wlad a chynyrchion ei ymchwil- iadau dyfal a'i ysgrifell fedrus, ac yn cymeryd rhan flaenllaw ym mhob symudiad fyddo yn dal perthynas ag addysg, ac a dyrchafiad y Cymro. Mae ers blynyddoedd yn aelod o Senedd y Coleg, ac yn Ddeon yr Adran Glasurol. Bryd bynag yr ysgrifenir hanes symudiadau addysgol Cymru yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechreu yr u^einfed bydd yn rhaid rhoddi lie amlwg i'r Athro Edward Anwyl. Ynglyn ag Addysg Ganolraddol, Uwchraddol, a Duwinyddol ein gwlad y mae ef wedi gweitho yn dd}fal ac egniol dros ben. Bu am flynyddoedd yn Is- gadeirydd ac yn Gadeirydd Gweithredol Bwrdd Canolog Addysg Ganolraddol, a chymerodd ran helaeth o'r drafferth a'r llafur i drefnu cwrs yr efrydiaeth yn yr ysgolion. Mae yn aelod o YR ATHRO EDWARD ANWYL, M.A Senedd a Llys Llywodraethol Coleg Aber- ystwyth, o Senedd Prifysgol Cymru, ac o Bwyllgor Gweithiol Llys y Llywodraethwyr. Mae yn aelod or Bwrdd Duwinyddol ynglyn a'r Brifysgol, yn arholwr am y radd o B.D., ac ysgrifenydd Bwrdd yr Arholiadau. Ac nid ydym yn dweyd amgen nag a gydnabyddir yn gyfifredinol wrth grybwyll fod ei air a'i ddylanwad yn ymgynghoriadau y Bwrdd hwn yn ogyfuwch a'r eiddo neb pwy bynnag. Nid aelod mewn enw yw efe ar yr un o'r corfforiaethau pwysig hyn. Cymer ran ym mhob trafodaeth, a phrawf ef ei hun yn wastad yn wr o graffder a chynghor mewn achosion dyrus. Nid yn ami y ceir cyfuniad o'r ysgolhaig dwfn a'r trefnwr ymarferol yn yr un person fel a geir yn yr Athro Anwyl. Ond nid yw y gweithiwr difefl hwn yn cyfyngu ei hun i'r pethau a berthynant i'r Brif- ysgol a'r Colegau Cenedlaethol. Lie bynag y bo cynulliad Cymreig, a'i amcan i ddyrchafu Cymru neu hyrwyddo ei lien, boed Ysgol Haf, Eisteddfod Genediaethol, y Gymdeithas Hynaf- iaethol Gymreig, neu Gymdeithas y Cymmro- dorion, bydd ef yno gan nad pwy all fod yn absenol. Ac yn y cynulliadau hyn daw eangder a thrylwyredd ei wybodaeth i'r golwg. Mae mor gyfarwydd a llenyddiaeth Cymru yn y Canoloesau ag ydyw a chynyrchion eisteddfodau diweddaf. Medr egluro y Gododin a Gorchanau Maelerw gyda'r un rhwyddineb ag y medr roi detholion o awdlau Eben Fardd, neu grynodeb o draethodau arobryn Thomas Stephens o Ferthyr. Ac yn ychwanegol at hyn oil y mae Ei Waith Llenyddol yn aruthrol bron. Nis gwyddom faint o gyfrolau a gynwysai ei ysgrifeniadau pe y cesglid hwy oil ynghyd. Ceir hwy yn y Gwyddoniadur," y"Geninen,"y Traethodydd," "Archaeology Cambrensis," y "Cymmrodor," "Celtic Review," &c. Nid yw yr erthyglau hyn yn gyfyngedig i un gangen o wybodaeth yn unig, er mai ieith- yddiaeth a'r pynciau cysylltiedig yw y maes yr ymdroa yr Athro ynddo fwyaf. Gwnaeth wasanaeth mawr eisoes i ieithyddiaeth Gymreig, a disgwylir mwy oddiwrtho eto. Yr oedd yn un o'r rhai a bennodwyd i benderfynu yr orgraff Gymreig, ac y mae ei "Welsh Grammar" yn cael ei gydnabod yn waith safonol. Fel y mwyafrif o ieithyddwyr diweddar a yn ol at weithiau beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg ar bymthegfed ganrif am safonau yr iaith, ond nid yw yn glynu yn gaeth wrth eu ffurfiau a'u priod- ddulliau hwy. Mewn ysgrif a gyhoeddodd yn ddiweddar dywed:—" Mae i bob oes ei gram- madeg ymarferol ei hun, a'r gamp i lenor ydyw defnyddio yn ddidramgwydd rammadeg ei oes. Gallwn dysgu llawer ynghylch teithi ac anianawd yr iaith oddiwrth ein hen awduron godidog; ond ni thalai i ni wneuthur eu rheolau ieithyddol hwy, yn eu cyfanrwydd, yn rheolau i ni. Rhaid dilyn y traddodiad byw, gan gywiro hwnnw lie bo raid, drwy gymorth chwaeth fyw ac effro." Yr ydym wedi crybwyll yn barod am ysbryd Cymreig yr Athro. Magwyd ef ar aelwyd lie yr ystyrid teyrngarwch i'r genedl a'r iaith yn beth anrhydeddus. Cafodd feithriniad crefyddol mewn eglwys Gymraeg. Aeth i Rydychain mewn cyfnod pan oedd yr ysbryd Cymreig yn anarferol gryf yno, a daeth yn un o aelodau Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Nid rhyfedd felly ei fod yn gymaint o Gymro. Nis gallwn ddychmygu am dano yn amgen na Chymro brwydfrydig mewn unrhyw amgylchynfyd.